I'r Aifft ac yn Ol/Y Llong a'i Phreswylwyr

Parotoade I'r Aifft ac yn Ol

gan D Rhagfyr Jones

Rhagor am y Criw a'r Swyddogion

PENOD II

Y LLONG A'I PHRESWYLWYR.

 HWYRACH yr hoffech wybod am y tŷ yr o'wn yn byw ynddo'r pythefnos nesa', a'r dynion oedd yno'n byw hefo mi.

Nid yw mesuriad y llong genyf wrth law, tae fater am hyny; ond yr oedd yn llai na llong deithwyr, ac yn fwy na llong bysgota. Ymddangose'n fwy yn y doc nag ar ganol y dwr, ond yr oedd o faintioli mwy na'r cyffredin o'r dosbarth y perthyne iddo. Yr oedd golwg anghynes arni pan yn cael ei llwytho, a llwch glo dros ei gwyneb i gyd. Ofnwn taw golwg anghynes fydde arnaf fine hefyd os taw dyna oedd ei chyflwr i fod hyd ddiwedd y daith. Pan es i gysgu'r noson gynta', yr oedd can ddued a'r glöyn; pan ddeffröes y bore' cynta', yr oedd can wyned a'r carlwm. Ni weles erioed drawsffurfiad mor fawr mewn amser mor fyr, oddigerth ar gyflwr ambell i ddyn.

Heblaw'r dec isa', yr hwn a ymestyne o'r naill ben i'r llall o honi, yr oedd iddi dri dec ucha',—un o'r tu blaen, un o'r tu ol, ac un yn y canol. O dan y dec blaen yr oedd ystafelloedd y criw a'r tanwyr, lle y bwytaent ac yr yfent, a'r lle hefyd y cysgent,—trindod o ddyledswydde ag oedd yn gofyn cymwysdere neillduol i'w cyflawni yn y fan hono. O dan y dec canol yr oedd cabane'r peirianwyr, dri o honynt; a dyma'r lle gore ar y llong i fyn'd drwy rai dyledswydde cynil yn gysurus (megis eillio, er engraff), am mai dyma lle teimlid ei hysgogiade leia' o bobman. O dan y dec ol yr oedd ystafelloedd y cadben, y ddau brif swyddog, a'r 'stiward. Dyma hefyd lle'r oedd f'ystafell ine, a'r prif gaban lle'r eisteddem i fwyta. Ar y dec canol yr oedd ystafell breifat arall, lle bydde'r cadben a'r swyddogion yn marcio taith y llestr wrth y siart. Mewn cysylltiad â hon yr oedd ystafell yr olwyn. Yr olwyn sy'n llywodraethu ysgogiade'r llestr, ac yr oedd ei gofal ar bedwar o ddynion, y rhai a gymerent ddwyawr bob un i'w throi. Uwchben y darn yma drachefn yr oedd y bont, yr hon a gyraedde o ochr i ochr ar draws y llestr yn ei man lletaf. Ar y bont y bydde'r gwyliedydd yn cerdded yn ol a blaen dros ei orie gwylio; ac un o'm prif ddifyrion oedd bod gydag e' am awr ar noson dywell, pan fydde'r môr yn arw a'r llong yn siglo. O'r dec canol i'r dec ol yr oedd pont arall yn rhedeg gyda hyd y llestr, yr hon a arbede ini fyn'd i'r dec isa' pan fydde arnom eisie croesi o'r naill i'r llall.

Ar y dec isa' yr oedd y goginfa, y fynedfa i'r peiriandy odditanodd, a'r agorfeydd i'r seleri lle cedwid y cargo. Yr wyf y'meddwl imi dd'we'yd eisoes taw llwyth o lo oedd genym y'myn'd allan, ac at y wybodeth yna yr wyf yn ychwanegu taw llwyth o wynwyn a hade cotwm oedd genym yn dychwelyd. Yr oedd y glo i lawr yn y seleri o'r golwg, ond yr oedd y wynwyn yn ffetaneidie uchel ar dop yr agorfeydd y sonies am danynt, ac yn cyraedd i fyny hyd at yr ail bont a rede gyda hyd y llestr. Nid yw'r swyddogion a'r criw y'malio fawr am lwyth o'r natur yma, am ei fod yn 'chwanegu at risg y llong ar dywydd garw.

Heb imi fyn'd ar ol y manylion, dyna i chwi ryw syniad am adeiladeth y caban coed y bum yn byw ynddo am y pythefnos nesa'. Bellach at ei breswylwyr.

Dim ond un Cymro oedd ar y bwrdd heblaw fy hunan, a than y bwrdd y bydde hwnw gan amla', oblegid peirianydd ydoedd. Safe'n drydydd yn y dosbarth. Hon oedd ei fordeth gynta', ac yr oedd yn wrthrych cyfleus iawn i'r bechgyn erill hogi eu tafode arno. Cymere arno wybod y cwbl ond sut i siarad Cymraeg, a mi ges allan cyn diwedd y daith taw siarad Cymraeg oedd y peth gore' all'sai wneud. Pan aethom allan, yr oedd mwy o wynt, a nwy, a chalch ynddo na dim arall; erbyn ini gyredd Môr y Canoldir, yr oedd ei ddillad lawer rhy fach iddo.

Brodor o Ogledd Lloegr oedd y prif beirianwr, a'r mwyaf anodd ei ddeall yn siarad o neb a glywes erioed. Heblaw fod ei dafodieth yn

—————————————

—————————————

flêr, a'i lais yn debyg i ffliwt wedi cael anwyd, yr oedd ganddo dric annymunol o siarad yn ei wddf, yr hyn a'i gwnai'n boenus i wrando arno. D'wedais “Ië” wrtho ganweth pan ddylaswn dd'we'yd “Nage,” a “Do” pan ddylaswn dd'we'yd “Naddo;” eto mi gredaf fy mod yn llai cyfrifol am hyny nag am lawer o bethe.

Bachgen o'r un gym'dogeth oedd yr ail beirianwr, a chân ar ei wefus drwy'r dydd. Gwydde am holl ganeuon y dawnsdai, am holl ffraethebion y chwareudai, ac am holl 'streuon y clybie. Clywes ef yn canu mewn cyngherdde droion yn Alecsandria, ac yr oedd yn debycach o gael encôr na neb. Yr oedd ei lais yn uwch na llais pawb, a'i chwerthiniad i'w glywed mewn cystadleueth a'r elfene. Bu'n help i godi f'ysbryd i sgoroedd o weithie, pan y bygythie fyn'd yn is na f'esgidie.

O dan y rhai hyn ceid y tanwyr,—y dosbarth isa'u moese ar y llestr. Cy'd ag y bu'r llong yn Alecsandria, ni wnaeth y llabystied hyn ond meddwi, ymladd â'r heddgeidwed, a threulio nosweithie dan glo. Mi weles un o honynt yn taro'r prif swyddog yn ei fedd'dod, ac yn cael ei osod mewn gefyne am hynny. Bu'n gorwedd ar y dec am orie'n rhwym wrth un o'r ategbyst, yn engraff truenus o “dwyll pechod.” Codasant eu harian i gyd cyn cychwyn ar y fordaith adre', a gwariasant bob dime goch ar wirod, a myglys, a dirwyon; ac erbyn i'r llong gyredd Lloegr, nid oedd ganddynt ffyrling ar eu helw, na hatling i ymgroesi.

Adwaenid y saer y'naturiol iawn wrth yr enw Chips. Brodor o Norwe oedd efe, ac yn ddyn trigen oed. Un o garitors y llong oedd y saer. Yr wyf yn cofio ei fod yn gwneud rhywbeth i'w hystlys ar ddiwrnod pur frochus, pan y llithrodd tòu o gryn faintioli drosodd, gan ei daro yn ei wyneb nes syrthio o hono'n fflechtan ar y dec. Tybiwyd am foment ei fod wedi ei ladd neu ei foddi; a phan ddaeth ato'i hun, y peth cynta' dd'wedodd oedd ei fod wedi llyncu llon'd ei safn o hoelion!

"Gwell iti lyncu'r mwrthwl eto, Chips," ebe'r ail beirianwr.

Mae'n debyg fod yr hoelion ganddo yn ei safn, yn ol arfer seiri, pan ddaeth y dòn, a chan na welwyd yr un o honynt wed'yn, nid gwaith anodd oedd credu iddynt oll fyn'd i lawr ei gorn gwddf. Byth ar ol hynny, 'doedd dim a yrai Chips allan o'i bwyll yn waeth na gofyn iddo wrth basio am fenthyg yehydig hoelion. Tebycach fyddech o gael y morthwyl at eich pen, oni phrysurech eich camre.

D'wedais fod gofal yr olwyn ar bedwar o ddynion, y rhai a gymerent ddwyawr bob un i'w throi. Llanc o Gernyw oedd un, ac ymddangose mor anystwyth ei symudiade a phe buase wedi bod yn labro hyd y funud hono. Cydwladwr i Chips oedd y llall, yr hwn oedd y'ngafel y declein. Am y ddau arall, mae genyf chwedl i'w hadrodd, os deil eich amynedd heb fethu.