Iesu, difyrrwch f'enaid drud

Anturiaf at ei orsedd fwyn Iesu, difyrrwch f'enaid drud

gan William Williams, Pantycelyn

Fy meiau trymion, luoedd maith
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

108[1]Ymddifyrru yn yr Iesu.
M. C.

1.IESU, difyrrwch f'enaid drud
Yw edrych ar dy wedd;
Ac mae llythrennau d'enw pur
Yn fywyd ac yn hedd.

2. A than dy adain dawel bur
Yr wy'n dymuno byw,
Heb ymbleseru fyth mewn dim
Ond cariad at fy Nuw.

3. Melysach nag yw'r diliau mêl
Yw munud o'th fwynhau;
Ac nid oes gennyf bleser sydd
Ond hynny yn parhau.

4. O! cau fy llygaid rhag im weld
Pleserau gwag y byd,
Ac imi ŵyro byth oddi ar
Dy lwybrau gwerthfawr drud.

5. 'D oes gennyf ond dy allu mawr
I'm nerthu i fynd ymlaen;
Dy iechydwriaeth yw fy ngrym
A'm concwest i, a'm cân.

William Williams, Pantycelyn

Ffynhonnell

golygu
  1. Emyn rhif 108, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930