Anturiaf at ei orsedd fwyn

Ni fethodd gweddi daer erioed Anturiaf at ei orsedd fwyn

gan William Williams, Pantycelyn

Iesu, difyrrwch f'enaid drud
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

107[1] Ffyddlondeb Crist.
M. C.

1.ANTURIAF at ei orsedd fwyn
Dan eithaf tywyll nos;
Ac mi orffwysaf, doed a ddêl,
Ar haeddiant gwaed ei groes.

2.Mae ynddo drugareddau fil,
A chariad heb ddim trai,
A rhyw ffyddlondeb fel y môr
At ei gystuddiol rai.


3. Mi rof ffarwél i bob rhyw chwant-
Pob pleser is y nen;
Ac yr wy'n cymryd Iesu o'm bodd
Yn Briod ac yn Ben.

4. Ni welaf wrthrych mewn un man,
O'r ddaear las i'r ne',
A dâl ei garu tra fwyf byw,
Yn unig ond Efe.

William Williams, Pantycelyn

Ffynhonnell golygu

  1. Emyn rhif 107, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930