Ni fethodd gweddi daer erioed

Ni feddaf ar y ddaear fawr Ni fethodd gweddi daer erioed

gan William Williams, Pantycelyn

Anturiaf at ei orsedd fwyn
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

106[1] Ffyddlondeb Crist.
M. C.

1.NI fethodd gweddi daer erioed
A chyrraedd hyd y nef;
Ac mewn cyfyngder, f'enaid, rhed
Yn union ato Ef.

2.Ac nid oes gyfaill mewn un man,
Cyffelyb iddo'n bod,
Pe baem yn chwilio'r ddaear faith,
A holl derfynau'r rhod.

3.Ym mhob rhyw ddoniau mae E'n fawr;
Anfeidrol yw ei rym,
Ac nid oes pwysau ar ei ras,
Na'i haeddiant dwyfol ddim.

4.Mae ei ffyddlondeb fel y môr,
Heb fesur, a heb drai;
A'i drugareddau hyfryd sy'n
Dragywydd yn parhau.

William Williams, Pantycelyn

Ffynhonnell golygu

  1. Emyn rhif 106, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930