Ni feddaf ar y ddaear fawr
← Ni all angylion pur y nef | Ni feddaf ar y ddaear fawr gan William Williams, Pantycelyn |
Ni fethodd gweddi daer erioed → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
105[1] Iesu'r Trysor Pennaf.
M. C.
1.NI feddaf ar y ddaear fawr,
Ni feddaf yn y ne',
Neb ag a bery'n annwyl im,
Yn unig ond Efe.
2.Mae ynddo'i Hunan drysor mwy
Nag sy'n yr India lawn;
Fe brynodd imi fwy na'r byd
Ar groesbren un prynhawn.
3.Fe brynodd imi euraid wisg,
Trwy ddioddef marwol glwy';
A'i angau Ef a guddia 'ngwarth
I dragwyddoldeb mwy.
4.O! na allwn rodio er ei glod,
Ac iddo bellach fyw,
A phob anadliad fynd i maes
I ganmol gras fy Nuw.
William Williams, Pantycelyn
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 105, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930