Iesu, llawnder mawr y Nefoedd

Iesu ei Hunan yw fy mywyd Iesu, llawnder mawr y Nefoedd

gan William Williams, Pantycelyn

Iesu, Ti yw ffynnon bywyd

202[1] Iesu, llawnder mawr y Nefoedd
87. 87. D.

1 IESU, llawnder mawr y nefoedd,
Gwrando lef un eiddil gwan,
Sydd yn gorwedd wrth dy orsedd,
Ac yn codi'i lef i'r lan;
Mae 'ngelynion heb rifedi
Yn fy nghuro o bob tu,
Ac nid oes a all fy achub
Is y nefoedd ond Tydi.

2 Yn dy haeddiant 'r wyf yn gyfiawn,
Yn d'oleuni gwela'i'n glir,
Yn dy wisgoedd dwyfol disglair,
Bydda'i'n ogoneddus bur;
Yn dy iechydwriaeth gyflawn,
Er mor egwan wyf yn awr,
Ceir fy ngweled, ryw ddiwrnod,
Yn disgleirio fel y wawr.

3 Dwed y gair, fy addfwyn Iesu,
Yna f'enaid lawenha-

Gair o addewid caf fy mhuro
O bob pechod, o bob pla;
Gwrendy f'enaid, mewn distawrwydd,
Ar dy adlais distaw main,
Ac fe neidia o orfoledd
Pryd y clyw dy nefol sain.

4 Mae dy lais yn rhoi distawrwydd
Ar holl ddwndwr gwag y byd,
Yn gostegu pob rhyw derfysg
Fago nwydau croes ynghyd;
Y mae'r gwynt yn troi i'r deau,
Ac mae'r hin yn dawel iawn
Pan fo Duw'n cyhoeddi heddwch,
Er mor arw fu'r prynhawn.

—William Williams, Pantycelyn


Ffynhonnell

golygu
  1. Emyn rhif 202, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930