Iesu ei Hunan yw fy mywyd
← Y mae Un, uwchlaw pawb eraill | Iesu ei Hunan yw fy mywyd gan William Williams, Pantycelyn |
Iesu, llawnder mawr y Nefoedd → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
201[1] Trysorau'r Groes
88. 87. D.
201
1 IESU ei Hunan yw fy mywyd—
Iesu'n marw ar y groes,
Y trysorau mwyaf feddaf
Yw ei chwerw angau loes;
Gwacter annherfynol ydyw
Meddu daear, da, na dyn;
Colled ennill popeth arall,
Oni enillir Di dy Hun.
2 Dyma ddyfnder o drysorau,
Dyma ryw anfeidrol rodd,
Dyma wrthrych ges o'r diwedd
Ag sy'n hollol wrth fy modd;
Nid oes syched arnaf mwyach
Am drysorau gwag y byd;
Popeth gwerthfawr a drysorwyd
Yn fy Mhrynwr mawr ynghyd.
3 Mi orffwysa' f'enaid bellach
Ar yr annherfynol stôr,
Ac mi ganaf yn y dymestl
Ar y graig sydd yn y môr;
Dyna'r man na feiddia Satan,
Uffern ddofon fawr, na'r bedd,
Er eu dyfais faith, a'u rhuad,
Fyth derfysgu dim o'm hedd.
William Williams, Pantycelyn
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 201, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930