Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil)/Coroni Iesu
← Y Cyfaill goreu | Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil) gan Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Moliannu'r Oen → |
CORONI IESU YN BEN.[1]
DYRCHAFER enw Iesu cu,
Gan seintiau is y nen;
A holl aneirif luoedd nef,
Coronwch Ef yn ben.
Angylion glân sy'n gwylio'n gylch
Oddeutu'r orsedd wen;
Gosgorddion ei lywodraeth gref,
Coronwch Ef yn ben.
3 Hardd lu'r merthyri, sydd uwchlaw
Erlyniaeth, braw, na sen,
 llafar glod ac uchel lef,
Coronwch Ef yn Ben.
4 Yr holl broffwydi'n awr sy'n gweld
Y Meichiau mawr heb len,
A'i apostolion yn gyd-lef,
Coronwch Ef yn Ben.
5 Pob perchen anadl, ym mhob man,
Dan gwmpas haul y nen,
Ar fôr a thir, mewn gwlad a thref,
Coronwch Ef yn Ben.
6 Yn uchaf oll bo enw'r Hwn
Fu farw ar y pren;
Drwy'r ddaear faith, ac yn y nef,
Coronwch Ef yn Ben.
Nodiadau
golygu- ↑ Cyfieithiad o All Hail the Power of Jesus' Name gan Edward Perronet