Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil)/Moliannu'r Oen

Coroni Iesu Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil)

gan Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Angau yn ymyl

MOLIANNU YR OEN.[1]

CYDUNWN â'r angylion fry,
Ein tannau yn gytûn;
Deng mil o filoedd yw eu cân,
Er hyn nid yw ond un.

2 Os ydyw'r Oen fu farw yn sail
Eu holl ganiadau hwy,
Mae'n haeddu, am farw drosom ni,
Ein mawl fil miloedd mwy.

3 Ac Ef yn unig biau'r mawl,
Drwy ddwyfol hawl ddi-lyth,
A chlod uwchlaw a allwn ni
Ei roddi iddo byth.


Nodiadau

golygu
  1. Cyfieithiad o Come, Let Us Join Our Cheerful Songs gan Isaac Watts