Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil)/Gorffwys yn y Nef

Galar yr unig Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil)

gan Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Golwg ar Ganan

GORFFWYS YN Y NEF.

MAE'n hyfryd meddwl ambell dro,
Wrth deithio anial le,
Ar ol ein holl flinderau dwys,
Cawn orffwys yn y ne'.

Pan ar ddiffygio gan y daith,
A ludded maith y lle,
Mor hoff yw gwybod-wedi hyn
Cawn orffwys yn y ne'.

Nol teimlo archoll llawer saeth,
A phrofedigaeth gref,
A dioddef gwres y dydd a'i bwys,
Cawn orffwys yn y nef.

Mae'n gysur meddwl, pan fo'n dod
Len dros ei wyddfod Ef,
Yn cynnal ei dragwyddol bwys,
Cawn orffwys yn y nef.


Er colli ein cyfeillion hoff
Yn yr lorddonen gref,
Mae'n felus meddwl—eto 'nghyd
Cawn gwrddyd yn y nef.

Cymhwyser ni drwy'r Ysbryd Glân,
A'i rasol ddoniau Ef,
Nes delom, fel t'wysenau llawn,
Yn addfed iawn i'r nef.


Nodiadau

golygu