Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil)/Golwg ar Ganan

Gorffwys yn y Nef Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil)

gan Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Glan Geirionydd

GOLWG AR Y GANAN FRY.

RWY'N sefyll ar dymhestlog lan
Yr hen Iorddonen ddu,
Gan syllu'n ddwys mewn hiraeth clau,
Ar fryniau'r Ganan fry.

'Rwy'n tybio gwelaf eiliw gwan
O'i glannau bythol wyrdd,
Lle'r hongia sypiau grawnwin pur
Ar goed anfarwol fyrdd.

O ardal hyfryd lle ni ddaw
Na gofid byth nac âeth,
Lle ffrydia perffaith wynfyd pur,
Fel llifo fêl a llaeth.

Ac yno y mwynheir heb nos,
Un aufachludol ddydd,
Heb haul na lloer, ond Duw ei hun
Ei disglair Haul a fydd.

Awelon peraidd balmaidd, byw,
Sy'n treiddio'r ardal trwy:
Angeu a phechod, ing a phoen,
O'i mewn ni theimlir mwy.


Nodiadau

golygu