Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil)/Gwledd Belsassar I—Gwawd y Babiloniaid

Gwledd Belsassar I—Swn byddin Cyrus Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil)

gan Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Gwledd Belsassar II—Boreu'r Wledd

Gwawd y Babiloniaid.

A'r Babiloniaid a gaid i'w gwawdio
Oddiar eu muriau, gan ddewr ymheuro;
Deisyf eu gwaethaf, a dwys fygythio;
A throi gwed'yn saethau i'w hergydio;
Yn fawr eu bost gan ymffrostio,—beunydd,
O'u henwog gaerydd; a'u didranc herio.

Ond ni wna gwawd dynion gwael
I'r Mediaid dewr ymadael;—
O'i dynn warchadle nid a,
Y ddinas nes meddianna.


Nodiadau

golygu