Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil)/Gwledd Belsassar I—Swn byddin Cyrus

Gwledd Belsassar I—Llais y proffwyd Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil)

gan Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Gwledd Belsassar I—Gwawd y Babiloniaid

Swn byddin Cyrus.

Bloedd uchel drwy Fabel fawr
Twrf terfysg trafod dirfawr:
"Gwelir gâlon mewn golwg
Drwy'r glyn draw—argoelion drwg

Y Mediaid yn haid ddi-hedd,
A Chyrus wych i'w harwedd,
I'r ddinas sy'n rhwydd neshau,
Ceuwch diriwch y dorau."
Dyna'u hoer—drwst yn hwyr droi,
A rhwnc—lusg eu barrau'n cloi.
Wele'r gethin fyddin fawr
Yn nesu'n llu aneisawr,
A'u llumanau'n gwau i'r gwynt,
Ac ornaidd olwg arnynt.
Milein feirch a chamelod,
Yn dyrrau ar dyrrau'n dod;
A phâr anadl eu ffroenau
Rhyw lwyd niwl, ar led yn hau.
Is carnau'u rhwysg cryna'r âr,
Dros enwog frodir Sinar.
Deuant, gwersyllant ger serth
Furiau Babilon fawr-werth.


Nodiadau

golygu