Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil)/Gwledd Belsassar I—y Llys

Gwledd Belsassar I—Babilon Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil)

gan Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Gwledd Belsassar I—Afon Euphrades

Y Llys.

Ar ael y fron araul, fry
Saif yr hoenlon syw freinlys:—
Wyneb haul, a'i wymp belydr,
A'i serena'n gan mal gwydr.
Aur telaid llawer talaeth
A bro, i'w euro a aeth.
Wrth ystlys y llys mae'r llon,
Grogedig, erddi gwyrddion.
A'u haeron draw ar irwydd
Sy'n chwarae, a'u blodau blydd
Ym min nos y mynwesant
Wlych y nen, a'i lochi wnant.
A phan y daw'r gu-wawr gain
I agor dôr y dwyrain,
Agorant eu brig araul,
A'u mynwes i wres yr haul.


Nodiadau

golygu