Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil)/Gwledd Belsassar I—Babilon

Ymadawiad Goronwy Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil)

gan Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Gwledd Belsassar I—y Llys

GWLEDD BELSASSAR.

1.

Babilon.

HANBYCH, dref hoenwych, ar finion—ffrydiau
Euphrades bereiddlon,
Ei mur a'i dorau mawrion,
Ei thyrroedd a'i llysoedd llon.

Neud yw, o Seithdlws daear,—y flaenaf,
Oluniant digymar;
A hardd y sa'r dduwies wâr,
Orsynnawl, yn miro Sinar.

Hyd yr heolydd daw yr awelon
Ag iraidd arogl o'i gerddi aeron.
Ei brig-gauedig gedrwydd gysgodion
A oera iâs wyniawl twymwres hinon.
A'i hydrwyadl Bedryon, O mor wych;
Ei llwyni llonwych, a'i llynnau llawnion.

Hen ac ieuanc, mewn gorfywiog awydd,
Ar hyd ei helaeth, hyfryd heolydd,
Draw eu gwelir, yn gwau drwy eu gilydd,
Yn anibennawl fyrddiynau, beunydd.
Trwyddi brwd sibrwd y sydd—fal môr—ferw,
A'i uchel lanw yn golchi'i lennydd.

Ei chan dôr, hwyr a boreu, —rygnawg
Rugl eu henwawg bybyr golynnau,
Uwch eu twrf na rhoch tyrfau—yn dyar,
Neu ruad anwar môr a'i donnau.


Nodiadau

golygu