Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil)/Gwledd Belsassar II—Tawelwch ennyd
← Gwledd Belsassar II—araith mam y brenin | Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil) gan Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Gwledd Belsassar II—Dehongliad Daniel → |
Tawelwch ennyd.
Tawelu, llonyddu'n awr,
I raddau, mae cythruddwawr
Belsassar, a Iliniaru
Mae ei wedd lem, a'i drem dru.
Yn ei olwg ef eilwaith
Sedda anesmwythdra maith.
Gwibio rhwng ofn a gobaith
Y ceir ei feddyliau caith.
Mae'n eofn—eto'n ofni
Y Llaw dân, a'i hamcan hi.
Mae'n awchus—eto'n rhusaw;—
Mae'n ddyrys, rhwng brys a braw.
Am y ddôr yn agoryd
Edrych, mewn hirnych, o hyd.