Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil)/Gwledd Belsassar II—araith mam y brenin

Gwledd Belsassar II—ymofyn dehonglwyr Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil)

gan Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Gwledd Belsassar II—Tawelwch ennyd

Araith Mam y Brenin.

Yn hyn y daw'r frenhines—i'r golwg,
Yn gain ei mwnwg, a gwen ei mynwes,
Mor urdden, a gwên gynnes—ar ei min,
I roi i'r Brenin ryw eurber hanes.


"O eirian Lyw, bydd fyw fyth,
Drwy gofus oes dragyfyth;
Na ddalier dy feddyliau
Yn gaethion, drwy goelion gau;
Ffoed dy wae, y mae gwr mâd
Yn y deyrnas a'u dirnad;

"Yr hwn sy'n deall rhiniau,—a'u diben,
Yn debyg i'r duwiau:
Drwy nodi dirwyniadau
Yr hyn y sydd ar neshau
Oedd ef ddeonglydd hyfad
Breuddwydion dyfnion dy dad.
Fel mellten, drwy'r nen, i'w nol,
Gyrrer rhedegwyr, gwrol;
Er dim prysured yma
Y gŵr doeth—er drwg—er da."


Nodiadau

golygu