Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil)/Gwledd Belsassar II—ymofyn dehonglwyr

Gwledd Belsassar II—Dychryn Belsassar Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil)

gan Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Gwledd Belsassar II—araith mam y brenin

Ymofyn dehonglwyr.

Acw yn hedeg y gwelir cenhadwyr
Drwy bob congli ymofyn deonglwyr.
Ar wib rhedant, y doethion a'r brudwyr,
I'r Llys rhieddawg, a'r holl seryddwyr.
Saif draw, ger y LLAW, yr holl wŷr—yn fud,
Oll yn astud i ddarllen ei hystyr:

Tremiant a syllant yn syn; ac yna
Datganant mewn dychryn,
"Bys Duw, mae'n hyspys yw hyn:—
Rhyw hael-ddysg uwch marwol-ddyn."

A'u geiriau, mal eirf gerwin—trywanant
Trwy enaid y brenin.
Ac uthrol ei ysgethrin
LLafar bloesg, a'i lafur blin.


Nodiadau

golygu