Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil)/Gwledd Belsassar II—Dychryn Belsassar

Gwledd Belsassar II—Dychryn y Llys Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil)

gan Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Gwledd Belsassar II—ymofyn dehonglwyr

Dychryn Belsassar.

Dyheu mae mynwes euog—Belsassar,
Fel arth udgar, anwar, newynog.
Mae braw y Llaw alluog—yn berwi
Trwy ei wythi ei waed toreithiog.

Dafnau o annwn sydd yn defnynnu
Acw i'w enaid euog, ac yn cynnu;
Mewn llewyg drathost mae'n llygadrythu
Ar yr ysgrifen sydd yn serenu
Rhag ei wyneb, ac yn daroganu
Rhes o wythawl ddamweiniau er saethu
Tân i enaid y brwnt, a'i enynnu.
Gan boen a gloes mae'r gwyneb yn glasu,
Dan ymwylltiaw, a'r llygaid yn melltu.
Cyhyr y bochau sydd yn creby chu,
A'r dannedd ifori yn rhydynu.
Mal dyn ar foddi, yn 'screch ymdrechu,
Diflin y mae ei freichiau'n ymdaflu.
Mae llinynau llym y llwynau'n llamu
Gan ddychryn, a glîn mewn glîn yn glynu.

Braw'r canlyniad sy'n irad fraenaru,
Fel fflamawg eirf miniawg yn ymwânu,
Ei ddiriaid enaid, gan ei ddirdynnu.
Ys garw uched y mae yn ysgrechu,
"Deuwch weithion, dywysogion sywgu,
Symudwch y rhin sy i'm dychrynu;
A ddaw o fil ddim un i ddyfalu
Ystyr yr ysgrifen, a'i ddilennu?
Ond dwed golygon trymion yn tremu,
Uwch un ymadrodd, nad y'ch yn medru."
Yna mae'n gwaeddi, a'i lais yn crynnu,
Yn grôch ac erchyll,—"Gyrrwch i gyrchu
Y doethion a'r dewinion i dynnu
Yr hug a wahardd i'r drygau oerddu,
Odid a lunia, gael eu dadlennu.
Aci y rhai y ceir rhu—anynawd
Fy nhlawd gydwybawd i yn adebu."


Nodiadau

golygu