Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil)/Gwledd Belsassar II—Dychryn y Llys
← Gwledd Belsassar II—Y Llaw ar y pared | Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil) gan Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Gwledd Belsassar II—Dychryn Belsassar → |
Dychryn y Llys.
O! a'r newid wnai'r neuadd,
Sigla, dygrynna pob gradd.
Traidd trwy eigion y fron frau
Waedd ddwys yr arglwyddesau.
Dacw gerflun Bel uchelwawr
O'i le yn cwympo i lawr.
Llewyga gwawl y llugyrn,
Deryw eu chwai belydr chwyrn
Oll, ond rhyw wyrdd-der teryll;—
Llewyn yw, 'n lleueru'n hyll,
I ddangos gweddau ingawl
Ac erchyll, rhwng gwyll a gwawl.
Aeth fferdod drwy'u haelodau,
Fel caethion mewn cyffion cau.