Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil)/Gwledd Belsassar II—Y Llaw ar y pared
← Gwledd Belsassar II—Araith Belsassar teulu | Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil) gan Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Gwledd Belsassar II—Dychryn y Llys → |
Llaw ar y Pared.
"Y Brenin!!" eb ar unwaith,
Yr holl lu mewn teryll iaith.
"Yna chwi, cynheliwch ef."
"Draw! hwnt draw ar y pared!
Rhyw law yn chwyfiaw ar led."
Ar y wal draw, e welir
Ger gwên y canhwyllbren hir,
Ryw ddigorff ddelw anelwig,
Deneu, gul, heb gnawd neu gig.
O mor drwm, ar y mur draw,
A llesgaidd y mae'n llusgaw;
Ac â bys, fel fflamawg bin,
Llysg eiriau, a llws gerwin.