Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil)/Hynt y Meddwyn. Chwant y Ddiod
← Hynt y Meddwyn. Cân yr aelodau | Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil) gan Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Hynt y Meddwyn. Galarnad Jane → |
RHAN VIII.
Troad y rhod. John, drwy hir a mynych arferiad yn dyfod yn gwbl
o dan lywodraeth y chwant, ac yn aberthu popeth i'w borthi.
Alaw— "Ynysoedd Gwyrddion Neifion."
Mae llawer boreuddydd yn gwawrio'n hyfrydol,
Heb gwmwl na niwlen yn huddo y nen;
A'r haul yn cyfodi yn ddisglair a siriol,
A'i wên ar ei enau yn loew a dilen,
Mae'r teithiwr yn cychwyn yn eofn i'w yrfa,
A'r gweithiwr i'w orchwyl a'i hyder yn llwyr
Ei fod i gael diwrnod cysurus a hindda,
O wawriad ei fore hyd fachlud ei hwyr.
Ond O! mor siomedig yn fynych yw'n gobaith,
A'n dwysaf ddisgwyliad am bethau a ddaw!
Tra eto mae'r haul heb gyrhaeddyd ei nawnwaith,
Arwyddion bygythiol a welir o draw:
Mae'r awel, oedd gynnau mor ddistaw a thyner,
Heb ddeilen drwy'r goedwig i'w gweld yn osgoi
Yn dechreu cynhyrfu--a'r nen, oedd mor ddisglair,
A duon gymylau yn awr yn ei thoi.
Mor lawn o obeithion oedd tymorboreuol
Y ddeuddyn cariadus a gweddus eu moes!
Pob peth a arwyddai hin deg a hyfrydol,
Ac awyr ddigwmwl drwy ystod eu hoes.
Ond Ow! mor wahanol yn awr yw'r olygfa!
Mor ddu a chynhyrfus a gwgus ei gwedd!
Mae'r awyr yn llawn o fygythiol arwyddion,
A dybryd argoelion dryghinoedd di hedd.
Mor ofer a siomgar yw dyn ar y goreu!
Yngwyneb temtasiwn mor wan yw ei nerth!
Mor beryglus yw llithro tra'n cellwair a chwareu
Ar ymyl y dibyn, a'i rediad mor serth.
Hyd embyd lith rigfa hen arwydd y Goron
Pa lu o enwogion a hyrddiwyd i lawr,
Oedd ddoe mor hyderus yn nerth eu hymroad.
I wrthladd temtasiwn-ond ple maent yn awr?
Wrth chwareu â'r tân mor beryglus yw llosgi,
Mor enbyd yw'r pla yn ystafell yr haint!
Wrth chwareu a'r dŵr mor beryglus yw boddi
A sud do i ddyfnder na wyddis ei faint?
Mor embyd ymhela â cholyn y wiber,
A chwareu'n gellweirus â chrafanc y llew,
Mor hawdd wrth ofera â'r ellyn yw clwyfo,
A chwympo tra'n dawnsio ar blymen o rew!
Ychydig feddyliodd ein John ar y Gylchwyl,
Wrth gym'ryd y cyntaf ddiferyn i'w fin,
Ei fod yn croesawu y brenin i'w breswyl,
A wnai ei fradychu i ddiwedd mor flin.
Ychydig feddyliodd y troe mor fradwrus
Ac agor y pyrth i elynion mor ewn,
Y rhai oeddynt beunydd fel gwaedgwn yn gwylio
Am adeg a chyfle i ruthro i mewn.