Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil)/Na wrthod fi

Croesi yr Iorddonen Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil)

gan Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Tad wrth y Llyw

NA WRTHOD FI.

AT un a wrendy weddi'r gwan,
'Rwyf yn dyrchafu 'nghri;
Ym mhob cyfyngder, ing, a phoen,
O Dduw na wrthod fi.

Er mor anheilwng o fwynhau
Dy bresenoldeb di,
A haeddu 'mwrw o ger dy fron,
O Dduw na wrthod fi.

Pan fo'm cydnabod is y nen,
Yn cefnu arna'i 'n rhi,
A châr a chyfaill yn pellhau,
O Dduw na wrthod fi.


Er mwyn dy grôg a'th angau drud
Ar fynydd Caliari,
A'th ddwys eiriolaeth yn y nef,
O Dduw na wrthod fi.

Pan yn wynebu ymchwydd
Iorddonen ddofn ei lli,

A theithio'n unig trwy y glyn,
O Dduw na wrthod fi.
A phan y deui yr ail waith,
Mewn mawredd, parch, a bri,
I farnu'r byw a'r marw ynghyd,
O Dduw na wrthod fi.


Nodiadau

golygu