Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil)/Croesi yr Iorddonen

Trysorau yr Iawn Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil)

gan Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Na wrthod fi

CROESI YR IORDDONEN.[1]

ENAID cu! mae dyfroedd oerion
Yr Iorddonen ddu gerllaw;
Eto, gwel! mae'r ddinas sanctaidd
Ar y lan yr ochr draw:
Yno mae dy hen gyfeillion
Wedi dianc uwch bob clwy',
Yn dy aros, er cael cyfran
O'u dedwyddwch hyfryd hwy.

Paid ag ofni, berr yw'r fordaith,
Ac mae'r Archoffeiriad cu
Yn dy aros yn y dyfroedd
Er dy ddwyn i'r ddinas fry;

Clyw seraffaidd seiniau'n 'hedfan,
Draw o frodir Seion fryn;
Gwel ei heuraidd byrth yn agor
Drwy y niwl sy'n toi y glyn.

Ffarwel fyd, a ffarwel deithio
Yn yr anial dyrus mwy;
Ffarwel gnawd, a ffarwel lygredd,
Ffarwel boen, a phob rhyw glwy;
Mae'r tywyllwch yn gwasgaru,
A'r goleuni yn cryfhau;
'N awr 'rwy'n gweld y pur drigfannau,
'Hed, fy enaid, i'w mwynhau.


Nodiadau

golygu
  1. Cyfieithiad o Dark river of death, that is flowing gan James Edmeston