Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil)/Trysorau yr Iawn
← Angau yn ymyl | Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil) gan Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Croesi yr Iorddonen → |
TRYSORAU YR IAWN.
TRYSORAU mor glir ni welwn yn wir,
I randir yr India, pe'r awn;
Pur aur o Peru, cyffelyb nid yw
I heddwch fy Nuw yn yr Iawn.
Caed person mor lawn o gyfoeth a dawn,
A dalodd yn gyflawn y gwerth;
Trwy'r ddyfais fawr hon gwneir Seion yn llen,
Fe wisg ei angylion â nerth.
Dim trysor nis ceir mewn perlau nac aur,
Er chwilio hyd derfyn ein dydd,
A bwysa ei hedd tu yma i'r bedd,
Heb goffa'r llawenydd a fydd.