Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil)/Pont y Pair
← Hen Forgan a'i Wraig | Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil) gan Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Marw Cyfeilles → |
PONT Y PAIR.
Englynion a gant y bardd pan yn aros y cerbyd ar Bont y
Pair, Betws y Coed.
DIORFFWYS arllwys mae'r dyfrlli,—yn wir
Ni erys, ond berwi;
A myned rhwng y meini
I lawr, yn ei hawr, ceir hi.
Dydd na nos nid arosi—un mymryn,
Trem amrant ni chysgi;
Anniddig ai dan waeddi
Yn ddidor, "Môr, môr i mi."
A rhedeg yn rhuadwy,—a mawr drwst,
I'r môr draw, ceir Llugwy;
Pryd nad yw alluadwy
Cael Ieuan yn un man mwy!