Ieuan Gwyllt, Ei Fywyd, Ei Lafur/Ei Athrylith

Ei Nodweddion Ieuan Gwyllt, Ei Fywyd, Ei Lafur

gan John Eiddion Jones

Ei Ddylanwad ar Gymru

PENNOD VI.

EI ATHRYLITH.

WRTH son am athrylith, y mae yn anhawdd iawn penderfynu beth feddylir wrth y gair. Os cymerwn ddarnodiad Carlyle, mai "gallu annherfynol i gymeryd trafferth" ydyw, yna yn ddiddadl yr oedd Ieuan Gwyllt yn un o'r dynion mwyaf ei athrylith a fagodd Cymru erioed. Yr oedd ei holl fywyd ef o'r dechreu i'r diwedd yn un llinell ddidor o drafferth a llafur caled i wneyd pob peth yr ymgymerai âg ef yn drwyadl a pherffaith; nid ymfoddlonai ar anfon dim o'i law, hyd y gallai efe, yn hannerog. Prin, fodd bynag, y tybiwn mai dyma yr hyn a feddylir yn gyffredin wrth athrylith. Hwyrach y cawn. ddarnodiad lled agos ganddo ef ei hun mewn beirniadaeth ar un o brif bregethwyr Cymru: "Yr oeddwn yn mawr hoffi ei ddull yn cymeryd un prif feddylddrych, a dim ond un, i'w ddwyn allan. Ar y cyfan, yr wyf yn ystyried ei fod yn un o'r ychydig hyny sydd yn dwyn capital o'u heiddo eu hunain i'r farchnadfa feddyliol—those few by whom the world's stock-in-trade of ideas is really augmented." [1] Dyma, mae yn debyg, yr hyn a feddylir wrth wreiddiolder; nid ailadrodd meddyliau wedi eu cael oddiwrth eraill, ond dwyn i'r golwg feddyliau newyddion, na ddaethant i feddwl neb arall yn flaenorol. Ac eto wrth gymeryd ystyr fel yma, ychydig ellir ddibynu arno fel safon. Mewn rhyw olwg, ychydig iawn sydd yn wreiddiol, yn ddynion o athrylith yn llawn ystyr y gair. Y mae rhyw ychydig yn tori tir newydd, yn darganfod veins newyddion i weithio arnynt, sydd yn dwyn cynnyrch cyfoethog, ond ychydig iawn yw nifer gwirioneddol y cyfryw. Y maent fel un yn darganfod planed newydd yn y gyfundrefn heulawg, neu elfen newydd mewn natur i'w dwyn at wasanaeth dyn, megys troi y steam yn allu i wneyd gwaith, gwneyd i'r gwefr (electricity) gario cenadwri, neu ei ddwyn yn lamp i oleuo. Darganfyddiadau newyddion ydynt sydd yn cyfoethogi'r byd. O'r tu arall, prin y mae yn debyg fod un dyn meddylgar yn darllen ac yn myfyrio drosto ei hun nad yw yn dyfod ar draws ambell i ddrychfeddwl bychan o'r newydd, na feddyliwyd am dano o'r blaen. Y mae y rhai hyn fel y personau sydd yn awr ac yn y man wedi perffeithio y steam engine, neu y telegraph, neu yr electric light—darganfyddiadau bychain nad ydynt yn creu chwyldroad mawr yn y byd, eto ydynt yn eu lle o wasanaeth mawr iddo, ac yn cyfoethogi llawer arno. Yn yr ystyr hon gellir dyweyd fod odid bob dyn meddylgar yn ddyn o athrylith—yn wreiddiol. Bid sicr, nid yw y cwbl ond darganfod gwirioneddau sydd yn bod eisoes. Nid oes neb yn creu,—dim .ond un Creawdwr—ond fod meddyliau dynion yn ymchwilio ac yn dyfod o hyd i ddrychfeddyliau oedd heb gael eu dwyn i'r golwg o'r blaen. Ac felly, nid yw y gwahaniaeth rhwng dynion o athrylith nemawr fwy na gwahaniaeth graddau a thuedd, yn dibynu ar gryfder eu galluoedd meddyliol, a thueddfryd i fyned i gyfeiriad anhygyrch. Mae ambell i ddyn nad yw yn gallu ymfoddloni ar lwybrau cyffredin masnach a thrafnidiaeth; mae rhyw awydd ynddo i fyned o'r ffordd gyffredin i chwilio am lwybrau anhwygyrch. Gwell ganddo fyned i chwilio dirgelion canolbarth Affrica, lle na bu dyn gwareiddiedig o'i flaen. A da fod y cyfryw; felly y mae adnoddau y ddaear yn cael ei hagor i ddynolryw. Felly y mae hefyd yn myd y meddwl: y mae ambell un yn ymwthio dros derfynau myfyrdodau cyffredin, ac yn gallu weithiau agor y drws i diriogaethau newyddion, ac felly yr eangir terfynau ymchwiliadau y meddwl dynol, tra y mae eraill yn ymfoddloni ar ddiwyllio a thynu allan adnoddau y meusydd sydd eisoes wedi eu darganfod. Un o'r dosbarth olaf hwn ydoedd Ieuan Gwyllt. Nid oedd ynddo feddwl "gwyllt," ac anfoddlawn yn ymwthio i gyfeiriadau newydd nes dwyn drychfeddyliau i'r golwg a wnaethant chwyldroad yn y byd cerddorol yn gyffredinol; ond llafuriodd yn galed i chwilio i feusydd cerddorol yr oedd prif gerddorion yr oesoedd wedi bod yn gweithio arnynt, a dygodd i olwg cenedl y Cymry drysorau annhraethol werthfawr yr oedd. hyd yma wedi bod, i raddau helaeth, yn ddyeithr iddynt. Yr oedd ynddo feddwl oedd yn anfoddlawn i'r terfynau cyfyng yr oedd cerddorion Cymreig o'i flaen wedi llafurio ynddynt, ac ymeangodd i chwilio i lafur y cerddorion. mwyaf ymhob gwlad; ond nid aeth ymhellach na hyny. Y mae dychymyg ambell un mor anhawdd ei gadwyno, fel y myn grwydro mor gyflym, nes tori yn rhydd oddiwrth reolaeth barn a rheswm. Y mae meddwl felly, tra yn cael o hyd i berlau weithiau, yn agored iawn i redeg ar ol syniadau cyfeiliornus. Ond yr oedd ei ddychymyg ef, tra yn ddigon cryf i roi bywyd ac yni ynddo, yn gwbl ddarostyngedig i lywodraeth y sober sense, ac felly yn chwilio yn fwy araf, eto yn fanwl a thrwyadl, y maes y llafuriai ynddo. Dyma, ni a feddyliem, oedd nodwedd athrylith Ieuan Gwyllt:—meddwl llym, bywiog (dychymyg, os mynwch), yn cael ei lywodraethu gan farn bwyllog a rheswm cryf, ac yn gysylltiedig â theimlad dwfn ac ymroddiad diflino, yr hyn a'i gwnaeth yn feistr perffaith ar yr holl gangenau y troai ei feddwl atynt.

Nodwedd ei feddwl a ddywedasom oedd hyn, ac yn ei feddwl yr oedd ei fawredd. Meddwl yn ymwneyd â meddyliau oedd ganddo; elai drwy y phenomena, yr allanol, at y meddyliau; nid oedd y cwbl iddo ef ond gwisg i'r meddyliau; a'r cwestiwn a godai yn fynych oedd, a oedd y wisg yn gymhwys i ddadguddio'r meddyliau, fel ag i beidio gwneyd cam â hwynt? A meddwl wedi ei lefeinio o'r dechreuad âg egwyddorion pur yr efengyl oedd ei feddwl ef, ac felly yn rhyfela â'r llygredig a'r dichwaeth pan y deuai i gyfarfyddiad âg ef; ac nid yn unig hyny, yr oedd ei feddwl yn ymaflyd mor lwyr, ac yn caru mor fawr y drychfeddyliau pur a da, fel yr ymdrechai ymdrech oes i gael gwisgoedd gweddus iddynt, mewn cerddoriaeth, barddoniaeth, gwleidyddiaeth a moesoldeb. Deddfau, egwyddorion, a meddylddrychau, gyda'r rhai hyn yr oedd ei feddwl ef yn cartrefu. Nid nifer o seiniau hyfryd oedd cerddoriaeth iddo ef, ond iaith meddyliau a theimladau; yr oedd pynciau gwleidyddol nid yn fympwyon plaid, ond yn egwyddorion yr oedd yn rhaid iddynt gael lle; ac yr oedd yr efengyl yn ddadguddiad o egwyddorion mawr y nefoedd. Felly yr oedd yn athronydd yn ngwir ystyr y gair, ac yr oedd ei athroniaeth ef yn sylfaenedig ar egwyddorion tragywyddol. Mewn gair, dyma athroniaeth llafur ei oes; nid cymhwyso y gyfundrefn at amgylchiadau, ond dwyn i'r golwg egwyddorion mawr a sefydlog, a hawlio eu lle priodol iddynt. Nid beth a wnai y tro, ac a fyddai yn debyg o fyned yn boblogaidd, oedd safon ei weithrediadau, ond beth oedd yn iawn, beth oedd yn sylfaenedig ar yr egwyddorion cedyrn a dyfnaf. Yr oedd yn rhaid i'r byd ddyfod i'w le yn ol yr egwyddorion hyny. Ac y mae dyn, wrth ddilyn egwyddorion fel hyn, yn dyfod i wrthdarawiad â llawer o bethau cyferbyniol sydd yn bod, ae yn myned ar draws teimladau lawer sydd yn cymeryd eu rheoli i raddau gan yr hyn fydd gymeradwy; felly y ceir fod ei fywyd yntau hefyd. Nid ydym yn ddigon pell oddiwrtho eto o ran amser, i allu ffurfio syniad cyflawn am ei "faintioli," fel y dywedir. Yn un peth, y mae cymaint o bethau amgylchiadol eto yn aros yn meddyliau pawb o honom mewn cysylltiad âg ef, fel nad ydym yn gallu eu dattod yn ddigon llwyr i sylwi arno ef ei hun. Heblaw hyny, y mae cymaint o'i gyfoedion eto yn fyw, ac yn rhy agos atom i ni allu eu barnu hwy, ac mewn canlyniad ni allwn farnu yn hollol ei alluoedd ef o'i gymharu â hwynt. A chymeryd i mewn bob ystyriaeth, yr ydym yn tybied y gellir dyweyd mai efe oedd y cerddor mwyaf a welodd Cymru o'r dechreuad hyd ei amser ef. Am y rheswm a nodir uchod, nid ydym yn cymeryd y rhai sydd yn fyw yn bresennol i'r cyfrif. Nid ydoedd, yn ddiammeu, yn gymaint cyfansoddwr a Mr. J. Ambrose Lloyd, yr hwn, y mae yn debyg, oedd y goreu yn ei ddydd ac o'i flaen. Tybiem fod mwy nag un o'r hen gerddorion yn meddu athrylith i gyfansoddi llawn cryfach nag Ieuan Gwyllt. Ond y mae yn rhaid i ni edrych yn eangach na hyn. Er nad oedd yn neillduol fel cyfansoddwr cerddorol, yr oedd yn meddu barn, a chwaeth, a chlust gerddorol o'r radd uchaf, ac yn adnabyddus hollol o holl deithi cerddoriaeth, fel erbyn i ni ddyfod â'r cwbl at eu gilydd, yr ydym yn cael ei fod y mwyaf fel cerddor a fagodd Cymru, o gryn lawer. Nid mewn uchder yr oedd yn fwy, ond mewn dyfnder ac eangder. Fel llenor drachefn, gwelir yr un nodwedd; nid rhyw dŵr uchel yn codi hyd y nefoedd, ond un eang, yn dwyn ei drysorau o bob man i'w wasanaethu. Ac yn ei gylchoedd gwahanol fel pregethwr, er na chodid ef i blith gwŷr mawr y pulpud, eto, a chymeryd ei holl ddefnyddioldeb i'r cyfrif, ceir fod seren o'r dosbarth cyntaf wedi machludo yn ei farwolaeth ef, a'i fod yn "dywysog a gŵr mawr yn Israel." Cyfuniad oedd ynddo ef o allu meddyliol cryf, barn addfed, chwaeth bur, a nerth ewyllys anghyffredin o gryf, yr hyn a'i gwnaeth yn ddyn mawr cyflawn, nid un mawr mewn rhyw un peth neillduol.

Nodiadau golygu

  1. Mewn llythyr at y Parch. T. Levi.