Ieuan Gwyllt, Ei Fywyd, Ei Lafur/Ei Ddylanwad ar Gymru

Ei Athrylith Ieuan Gwyllt, Ei Fywyd, Ei Lafur

gan John Eiddion Jones

PENNOD VII.

OL EI DDYLANWAD AR GYMRU.

Y MAE yn llawn ddigon buan eto, hefyd, i ni allu barnu yn gyflawn pa faint o argraff Ieuan Gwyllt ar ei oes sydd yn debyg o fod yn arosol, ac i ba raddau yr estyn dylanwad ei lafur i'r oesoedd dyfodol. Eto, yr ydym yn teimlo tuedd gref i geisio olrhain mor bell ag y gallwn, yn y bennod olaf hon, yr arwyddion sydd i'w cael nad yw y llafur mawr a gyflawnwyd ganddo ef ddim yn debyg o ddiflanu yn ei effeithiau. Ac i'n meddwl ni, y mae y mater hwn yn meddu llawn mwy o ddyddordeb na dim o'n hymchwiliad mewn cysylltiad âg ef; oblegid er fod ein hedmygedd yn ddirfawr o hono cyn i ni ddechreu ymaflyd yn y gwaith o olrhain hanes ei fywyd a sylwi ar ei nodweddion, y mae yr edmygedd hwnw wedi cynnyddu yn anghyffredin, po fwyaf y daethom i wybod am dano, ac y myfyriasom arno; ac yn awr yr hyn sydd yn llenwi ein mynwes â boddhâd, ydyw yr ystyriaeth fod y fath lafur gwerthfawr yn debyg o ddwyn ffrwyth lawer, ïe, llawer mwy yn y dyfodol nag a welwyd eto. Cyfodwyd cofgolofn brydferth ar ei fedd, a theimlem na bu neb erioed yn fwy teilwng o honi; ac y mae genym seiliau cryfion dros gredu, er nad yw yr ysgoloriaeth wedi cael ei chymeryd i fyny fel y buasid yn dysgwyl, fod ei goffadwriaeth yn anwyl gan filoedd lawer o'n cydwladwyr; eto, mwy na'r cwbl genym ni, yw fod y Llyfr Tonau Cynnulleidfaol a'r ddau Gerddor, y Llyfr Hymnau, a Swn y Jubili, yn aros yn gofgolofnau llawer rhagorach, na phe gallesid cael y marmor prydferthaf, wedi ei oreuro âg aur pur, i'w roddi ar ei fedd; a mwy na'r cwbl drachefn, ydyw fod ei gymeriad pur, a'i lafur ymroddedig dros rinwedd a chrefydd, wedi gadael argraff annileadwy ar feddwl a chymeriad cenedl y Cymry.

Ar ymddangosiad y Blodau Cerdd, daeth i'r golwg fod rhyw allu newydd yn y byd cerddorol Cymreig wedi dechreu gweithredu, ond trwy gyfrwng Yr Amserau, a'r ddarlith ar Gerddoriaeth, daeth Cymru oll i wybod fod y gallu hwnw yn gyfryw nas gellid ei ddiystyru, ac y byddai raid iddi deimlo oddiwrtho. Ond cyhoeddiad y Llyfr Tonau Cynnulleidfaol a ddangosodd fod ganddo neges arbenig at Gymru, ac a barodd iddi deimlo drwy ei holl gyrion ei fod yn llefaru wrthi "fel un âg awdurdod ganddo ; nid awdurdod meistr ar ei waith yn unig, ond awdurdod un wedi ei anfon oddiwrth Frenin teyrnas nefoedd, gyda chenadwri mewn perthynas i foliant ei Gysegr Ef. Sylwasom yn flaenorol fod y wlad wedi addfedu i raddau i'r diwygiad yn y canu cynnulleidfäol, ac fod y llyfr, pan ymddangosodd, yn cyfateb i'r anghen am dano. Ond y mae ffaith bwysig arall i'w dyweyd, sydd yn dangos neillduolrwydd y Llyfr Tônau hwn. Cyhoeddodd eraill lyfrau tônau tua'r un adeg, neu ychydig yn flaenorol. Sylwasom fod Mr. J. A. Lloyd wedi cyhoeddi llyfr tônau yn 1843, a'r Parch. J. Mills y Cerddor Eglwysig ar ol hyny. Mewn blynyddoedd diweddarach, ymddangosodd amryw gasgliadau, un gan Mr. J. D. Jones, Ruthin, y Swn Addoli gan Mr. D. Richards, Cerddor y Cysegr gan y Parch. E. Stephen, ac amryw eraill; ond ni ddaeth un o'r cyfryw i nemawr sylw na bri. Ond pan ymddangosodd y Llyfr Tonau Cynnulleidfaol, ymledodd fel tân, nid yn unig drwy wersyll y Methodistiaid Calfinaidd, ond hefyd ymhlith yr holl enwadau drwy Gymru, fel am ychydig amser nad oedd ond efe, o'r bron, yn cael unrhyw sylw. Ar ol hyny ymddangosodd Casgliadau gan y gwahanol enwadau, megys y Llyfr Tonau ac Emynau, gan Stephen a Jones; Aberth Moliant, gan J. A. Lloyd; Llwybrau Moliant (Bedyddwyr), gan y Parch. L. Jones, Treherbert, D. Lewis a Gwilym Gwent; Llyfr Tônau i'r Wesleyaid, dan olygiaeth J. D. Jones, ac amryw gasgliadau yn yr Eglwys Sefydledig. Wrth gymharu y rhai hyn â'r rhai blaenorol hyd yn nod gan yr un awdwyr, yr ydym yn canfod argraff y cyfnewidiad a ddygwyd i mewn gan Ieuan Gwyllt yn annileadwy arnynt. Pa un bynag a dybir fod y casgliadau diweddarach yn rhagorach nag un Ieuan Gwyllt ai peidio, fe erys y cyfnewidiad amlwg yn nodwedd y llyfrau tônau yn ffaith hanesyddol anwadadwy, a phrofa fod ymddangosiad y Llyfr Tonau Cynnulleidfaol wedi nodi allan ddechreuad cyfnod newydd yn hanes y canu cynnulleidfaol gyda phob enwad yn Nghymru. Ceisiodd eraill gyfarfod â'r anghen, ond methasant; daeth Ieuan Gwyllt â'i lyfr allan, a chydnabyddwyd ef yn fuan fel safon gan holl Gymru i gyd. Diflanodd llawer o'r hen dônau a genid yn flaenorol; ond bid sicr, nis gellid dysgwyl i gyfnewidiad mor drwyadl gymeryd lle mor fuan, heb fod rhywrai yn teimlo hiraeth ar ol yr hen gyfnod, ac nid yw Ieuan Gwyllt wedi bod yn ei fedd ddwy flynedd cyn i nifer o'r hen dônau ddyfod allan eto i oleuni dydd, fel pe buasent wedi teimlo nas gallasent anturio tra yr ydoedd efe yn fyw, ond gydag iddo fyned o'r golwg, teimlent awydd i wybod pa dderbyniad a gaent. Ond nid rhaid bod yn brophwyd i wybod y canlyniad: bu farw Ieuan Gwyllt, mae yn wir, ond nid cyn i lewyrch y deunaw mlynedd diweddaf o'i oes ei gwneyd yn ormod o ddydd i ddylluanod fel Lingham, a'r cyffelyb, allu byw yn hir ynddo; ac os rhoddir prawf arnynt mewn ambell i fan, yma ac acw, ni bydd hyny ond moddion mwy effeithiol i'w claddu yn ddyfnach nag erioed. Y mae cynnulleidfaoedd Cymru byth er 1859 wedi ymddyrchafu ac ymburo gyda golwg ar foliant Cysegr Duw. Y mae y rhan bwysig hon o'r gwasanaeth wedi ei godi yn nês i'w le priodol, ac wedi cael llawer mwy o sylw, a'i ddwyn ymlaen yn fwy gweddus o flwyddyn i flwyddyn, fel nad oes berygl mwy iddo syrthio yn ol i'r un cyflwr ag yr oedd ynddo o'r blaen. Pwnc mawr ydyw symud gwlad gyfan, ond wedi ei symud, yn enwedig os bydd yn symud ar egwyddorion gwirioneddol a phur, nid mewn un dydd nac un nos y gellir ei thynu yn ol. Addefwn yn rhwydd nad yw mawl y cysegr eto yn agos yr hyn y dylai fod, a'i fod yn myned ymhell i'r ochr gyferbyniol yn awr, wrth yr hyn a fu, sef marweidd—dra a diffyg ysbryd; ond y mae diwygiad mawr wedi cymeryd lle, a diwygiad pwysig, yr hwn nis gellir ei alw yn ol, ac y mae pob arwyddion y caiff ei ddwyn ymlaen hefyd, gyda bendith y Nefoedd, hyd at fwy o berffeithrwydd.

Yn gyffelyb yr ydoedd gyda golwg ar y Cerddor Cymreig a Cherddor y Tonic Solfa. Daethant yn eu hadeg, ac yn gymhwys i lenwi yr anghen. Agorwyd maes newydd, uwch a gwell, o flaen cerddorion Cymru, a rhoddwyd cymhelliad cryf i ymddyrchafiad; "i fyny" ddaeth yn arwyddair yn y byd cerddorol, ac yr oedd y dylanwad grymus a gafodd y cynhyrfiad hwn uwchlaw desgrifiad. Cododd tô o gyfansoddwyr oeddynt yn ymroddi i waith mwy perffaith, ac uwch eu chwaeth nag a gafwyd yn flaenorol. A siarad yn gyffredinol, daeth yr efrydwyr i feddu syniadau uwch am feusydd ardderchog cerddoriaeth, a daeth y côrau i ymarfer â bwyd cryf a rhagorol; ac yn awr, wrth i ni edrych yn ol, yr ydym yn gweled fod yr ugain mlynedd diweddaf wedi bod yn gyfnod o fynediad ymlaen ymhlith cerddorion Cymru na welwyd ei gyffelyb. Mae ambell i ddyn ar ol ei oes, ac fel plwm wrth ei godreu; mor bell ag y mae ei ddylanwad ef yn cyrhaedd, y mae yn ei chadw yn yr un fan; mae ambell un arall yn gweithio ar gyfer y dyfodol, ac o flaen ei oes, ac yn marw cyn gweled ei lafur wedi dyfod i gael ei werthfawrogi; ond nid un o'r ddau ddosbarth yma oedd Ieuan Gwyllt, ond dyn yn ei oes, ac iddi, yn cario yr oes gydag ef ymlaen; ac er iddo farw yn nghanol ei lafur a'i weithgarwch, yr oedd wedi cael Cymru gerddorol i dir llawer uwch nag y cafodd hi ynddo, ac yn edrych ymlaen yn awyddus tuag i fyny.

Y mae yn debyg nas gellir dyweyd am ei lafur fel llenor a phregethwr iddo osod argraff neillduol o'r eiddo ei hun, fydd yn barhaol, hyny yw, yn barhaol fel yn nodweddiadol o hono ef. Diammeu iddo, fel Golygydd yr Amserau yn enwedig, lywio'r llong gyda medrusrwydd a gallu, ac iddo egluro egwyddorion gwleidyddiaeth a moesoldeb gyda'r fath rym nes bod o gynnorthwy mawr iddynt gael eu lle ymhlith y genedl, ac nad anghofir ei lafur tra y byddo darllenwyr yr Amserau yn fyw. Ond yn y cysylltiad hwn, un yn llafurio ymhlith llïaws ydoedd, ac er iddo lafurio yn llawn mor helaeth a grymus a neb, eto wedi i'r genedlaeth hon fyned heibio, prin y tybiwn y bydd cof am dano fel Golygydd yr Amserau. Erys ei argraff, a'r egwyddorion a bleidiodd, yn ddiddadl, ond nid yn arbenigol mewn cysylltiad âg ef. A'r un modd am ei lafur fel pregethwr, un ymhlith lliaws oedd yma; ac er mai dyma, o bosibl, ei uchelgais penaf, eto y cwbl a erys mewn cysylltiad â'i enw ef yn arbenig fydd, ei fod yn weinidog yr efengyl. Nid hawdd yw rhagweled y dyfodol, a gallwn fethu yn hynyma; ond mor bell ag y gallwn farnu, pan gyfarfyddir âg enw Ieuan Gwyllt ymhen rhai oesoedd eto, darlunir ef felCerddor o enwogrwydd mawr, oedd yn weinidog yr efengyl, ac yn llenor o radd uchel. Mewn cerddoriaeth yr erys ei argraff ddyfnaf, ac yn nodweddiadol o hono ei hun. Mewn cerddoriaeth Gymreig yr oedd yn ddyn cyfnod,' ac erys y cyfnod hwnw, mae'n debyg, mewn cysylltiad â'i enw ef tra pery Cymry, Cymro a Chymraeg—tra y byddo mawl Duw yn dyrchafu yn ein gwlad. Wrth gwrs, nis gellir priodoli yr holl ysgogiad i un dyn; yr oedd eraill wedi llafurio, ac yr oedd eu llafur wedi bod yn fendithiol i barotoi y ffordd, ac nid yw yn briodol anghofio hyny; ond pan y daeth "cyflawnder yr amser," ynddo ef y caed "yr awr a'r dyn" yn cydgyfarfod, a bydd enwau Ieuan Gwyllt a'r flwyddyn 1859 wedi eu marcio mewn llythyrenau cochion yn hanes cerddoriaeth Cymru.

Mae gwahaniaeth rhwng enwogion ac enwogion yn yr argraff a adawant ar eu hol. Mae ambell i ddyn enwog yn gwneyd llawer o ddaioni yn ei ddydd, ond wedi iddo farw y mae ei ddylanwad yn darfod. Mae un arall, nid yn unig yn gwneyd daioni yn ei oes, ond yn rhoddi cychwyniad i ddylanwad fydd yn ymledu ac yn cynnyddu wrth fyned ymlaen, ac y teimlir oddiwrtho am oesoedd. Mae y cyntaf fel cawod o wlaw yn ireiddio y ddaear am dymmor, ond y mae tywyniad yr haul ar ei hol yn peri i'w hargraff fyned o'r golwg; a'r diweddaf fel y ffynnon risialaidd sydd yn taflu allan ddwfr pur fydd yn ymwasgaru ar hyd y dyffryn, ac yn gwasgaru bendith ar bob llaw. Un o'r dosbarth diweddaf oedd Ieuan Gwyllt, ac nid oes debyg y bydd i ddylanwad ei ymdrechion ddarfod, ond ymledu a chynnyddu, a chynnyrchu yr un ysbryd yn meddyliau llawer eraill, nes treiglo ymlaen felly am oesoedd, fel y gellir dyweyd fod yr ysbryd oedd ynddo ef eto yn aros, yn aros yn fyw yn Nghymru, ac yn debyg o fyned yn gryfach gryfach.

Hwyrach y gallwn nodi rhyw ychydig o argraffiadau y mae wedi eu gadael yn ddwfn ar Gerddoriaeth Cymru, ac sydd hefyd yn debyg o barhâu. Un ydyw y dylai pob cyfansoddiad cerddorol fod yn gelfyddydol berffaith. Credai y dylai pob cyfansoddwr cerddorol fod yn deall yr egwyddorion yn drylwyr, ac ni allai oddef brychau a meflau. Rhaid cael y cyfansoddiad yn gywir, onidê nis gellid peidio ei gondemnio ganddo ef, ac erbyn hyn tybiwn y rhaid i gerddorion Cymru yn lled gyffredinol gael yr un peth. Bellach, nid gwiw i bob un fydd yn gallu ysgrifenu ychydig o nodau cerddorol dybied ei hun yn gyfansoddwr; rhaid iddo allu profi yn ei waith ei fod yn dilyn y "deddfau a'r barnedigaethau," ac yn llwybro ymlaen yn drefnus a chywir, onidê fe syrth ei waith i'r llawr. A thra y sonir am adgyfodi hen dônau a chyfansoddiadau, nid yw yn bosibl i'r rhai hyny gael derbyniad yn awr yn y wisg garpiog ac annhrefnus yr ymddangosent gynt y mae yn rhaid eu had—drefnu a'u codi i fyny â'r safon, onidê nid ystyrir hwynt yn werth sylw. Ieuan Gwyllt a ddygodd hyn i mewn i gerddoriaeth Cymru, ac y mae y dylanwad yn dyfnhâu o hyd.

Argraff arall ydyw, mai trosglwyddo drychfeddyliau yw amcan cyfansoddiad cerddorol, ac mai yn ol y drychfeddyliau hyny y mae i'w farnu. Nid digon fod un llais yn lled dda, y mae yn rhaid i'r holl leisiau fod yn cydweithio i argraffu yr un drychfeddwl. Ni thalai ehediadau dibwynt a dienaid iddo ef, a dysgodd gerddorion Cymru i wybod mai iaith ydyw cerddoriaeth, ac mai baldordd ydyw iaith heb feddwl a synwyr iddi. Gall peth felly wneyd y tro i ddifyru babanod, ond y mae mwyafrif cantorion Cymru erbyn hyn wedi dyfod yn ormod o wŷr i gael eu hud—ddenu gan drydar o'r fath hwnw. Rhaid cael synwyr, rhaid cael meddwl, rhaid cael ystyr bellach, ac i Ieuan Gwyllt, yn benaf, y gallwn olrhain yr addysg sydd wedi cynnyrchu y ffrwyth yma.

Trydydd argraff ydyw, mai amcan cerddoriaeth yw gwasanaethu i burdeb a rhinwedd, ac mai cam â hi a darostyngiad arni yw ei dwyn yn gaeth dan unrhyw iau arall. Hwyrach nad yw ein gwlad wedi dyfod i deimlo hyn mor ddwfn a thrwyadl eto ag y byddai yn ddymunol, ond y mae gwahaniaeth dirfawr i'w weled rhwng yr hyn sydd yn awr a'r hyn ydoedd ugain a deng mlynedd ar hugain yn ol. Ymdrechodd Ieuan Gwyllt dros hyn yn ddyfal a diflino a sefydlog ar hyd ei oes. Gwelwyd eraill yn meddu rhyw gymaint o'r pur a'r chwaethus, ond cymysgid ef â chymaint o'r isel a'r di—chwaeth, fel y teimlid nas gellid ymddiried yn eu sefydlogrwydd. Ond glynodd ef yn gywir a difwlch wrth y da a'r rhinweddol; ni wyrodd ar dde nac aswy, ac y mae ôl ei lafur i'w weled yn amlwg, ac fe fydd felly am oesau eto.

Yn olaf, mai y gwasanaeth uchaf ac ardderchocaf y gall cerddoriaeth fod ynddo, yw bod yn gyfrwng addoliad i'r Duw Goruchaf, mewn ffurf syml a choethedig. Y mae y dylanwad a gafodd Ieuan Gwyllt er dyrchafu caniadaeth y cysegr i'r safon uchel hon yn annirnadwy bron. O'r blaen, i raddau gormodol, boddlonid os ceid yr addolwyr i dipyn o "hwyl," fel pe mai amcan penaf canu mawl oedd tyneru yr addolwyr. Syniad newydd, ond syniad a ddaeth gyda grym anwrthwynebol dros Gymru, oedd mai addoli Duw ydyw yr amcan penaf, ac mai cyfrwng i drosglwyddo hwnw yn y dull rhagoraf yw canu mawl. Y mae y syniad hwn wedi gafael yn Nghymru, ac yn ymledu yn barhâus yn ei ddylanwad. Gweithio allan yr egwyddorion hyn i fod yn sefydlog yn ysbryd cerddorion Cymru ydoedd amcan mawr oes Ieuan Gwyllt, a chafodd fyw i'w gweled wedi eu planu ac yn dechreu dwyn ffrwyth. "Y mae y cantorion," meddai (yn 1876), "mewn amryw o leoedd wedi codi bellach i'r ideal o beth ddylai canu cynnulleidfaol fod! Yr oedd ei ddull o lefaru y geiriau uchod yn brawf o'i foddlonrwydd. Y tâl goreu y gall unrhyw ddiwygiwr ei gael yw teimlo a sylweddoli fod ei ymdrechion yn cael eu gwerthfawrogi." [1] Am ei fod yn gorfforiad mor ardderchog o'r egwyddorion hyn, y mae y Llyfr Tonau Cynnulleidfaol yn sefyll mor uchel, ac yn debyg o barhâu felly. Yn hyn y gadawodd ymhell ar ol y casgliadau blaenorol, ac o'r diffyg y buont hwy feirw; a pha faint bynag o gyfnewidiad a ddichon ddyfod yn anghenrheidiol yn y dyfodol, fe erys y cyfangorff o hono, yn gorphwys ar sylfeini ansigledig. Fel hyn cafodd Ieuan Gwyllt roddi cychwyniad i gyfnod newydd sylweddol yn hanes cerddoriaeth Cymru, cyfnod o fyned ymlaen, a chyfnod y pery ei ôl yn annileadwy. "Darfu i'r hen Ficer Pritchard o Lanymddyfri, gychwyn cyfnod newydd yn Nghymru, pan y cyhoeddodd ei lyfr Canwyll y Cymry; ac felly hefyd y gwnaeth Williams, Pantycelyn, gyda'i Emynyddiaeth; a chan Charles o'r Bala gyda'i Eiriadur a'i Hyfforddwr; Peter Williams gyda'i Esboniad, a Charles hefyd trwy sefydlu Ysgolion Sabbothol. Gellid gyda phriodoldeb restru Ieuan Gwyllt gyda'r enwogion hyny, fel un a ddechreuodd gyfnod newydd mewn cysylltiad â Cherddoriaeth yn Nghymru. Bydd ei enw yn gysylltiedig â'r cyfnod hwnw tra bydd Cymru mewn bod." [2] Hollol wir. "Cewri oedd ar y ddaear yn y dyddiau hyny," ac yr oedd Ieuan Gwyllt o'r un hiliogaeth —o feibion Anac. Y mae ei fywyd a'i lafur bellach, nid yn gwneyd i fyny hanes personol yn unig, ond yn ffurfio rhan o hanes cenedl y Cymry, ac mewn ystyr gerddorol wedi ei gwneyd yr hyn ydyw, ac mor bell ag y mae'r presennol yn sylfaen y dyfodol,—yr hyn a fydd.

Clywsom son amryw weithiau wedi ei farwolaeth, am ethol un i lenwi ei le yn y cylch yr oedd ynddo! Nid myned i esgidiau neb arall a ddarfu Ieuan Gwyllt, ond cerfio lle iddo ei hun, ac yr oedd yn rhy fawr yn y lle hwnw i neb allu ei lenwi ar ei ol. Un Ieuan Gwyllt a gafodd Cymru, ac a gaiff. Pan bu farw Williams, Pantycelyn, ni etholwyd neb i gyfansoddi emynau ar ei ol; a phan fu farw Charles o'r Bala, nis gwelwyd yn dda ethol neb i "gymeryd ei esgobaeth ef;" a'r un modd nis gellir gyda Ieuan Gwyllt. Cèrir y gwaith a ddechreuwyd ganddo ymlaen gan wahanol ddoniau, ac mewn gwahanol ddulliau, a chredwn yr ä ymlaen gan gynnyddu fwyfwy. Gadawodd fwlch, nad allasai ei lenwi ond ef ei hun. Er hyny, gorphenodd ei waith. Tra yr ymddengys i ni fod cymaint wedi ei adael ar ei hanner, ac y tueddir ni i ofyn, Pa beth fuasai y rhai hyn oll wedi eu gorphen? Eto, aeth efe hyd at y pen, cyflawnodd ei oruchwyliaeth, ac y mae yr hyn sydd yn weddill i'w wneyd er dyrchafu cenedl y Cymry, i'w wneyd gan arall neu eraill. Rhodd yr Arglwydd i Gymru ydoedd efe yn ddiddadl, yn cael ei rhoddi yn ei hadeg, ac i gyflawni yr amcan mewn golwg. Ac y mae gan Gymru achos mawr i ddiolch a moliannu Duw am dani. Pe gellid tybied y posiblrwydd o gyfuniad y fath dalentau a dylanwad ag oedd ynddo ef, yn gysylltiedig â chymeriad sigledig neu chwaeth lygredig, y fath alanasdra moesol dychrynllyd fuasai hyny. Ond o drugaredd, rhodd nefol ydoedd, mewn cnawd, mae yn wir, ac felly yn ddarostyngedig i wendidau y ddynoliaeth, ond mor bur a rhinweddol, fel y mae ei ddylanwad yn perarogli yn iachus trwy bob congl o Gymru heddyw. Cafodd Cymru ei bendithio ynddo yn ei oes, ac erys enw Ieuan Gwyllt yn fendith ac yn berarogl o'r hyn sydd bur, a rhinweddol, a sanctaidd, tra pery Cymru yn "Wlad y Gân."

Gorphwys bellach, anwyl Ieuan, mewn tangnefedd heddychol yn mynwent dawel a phrydferth Caeathraw. Treuliaist ddiwrnod o lafur caled, caled iawn, a gwnaethost waith mawr, a theilwng ydyw i ti gael gorphwys yn dawel. Ond nid anghofiwn di, gadewaist dy argraff yn rhy ddofn ar ein calonau, ein meddyliau a'n cymeriadau, iddi byth gael ei dileu. Tra y gorphwysa dy ran farwol yna, a'th ysbryd yn ngwlad y mawl tragywyddol, aiff dy waith. ymlaen, ymlaen o hyd i wneyd daioni. Y mae dy lafur wedi ei gydwau âg egwyddorion dyfnaf teyrnas yr Arglwydd Iesu Grist, ac y mae sicrwydd llwyddiant hono yn sicrhâu nad aiff dy "lafur yn ofer yn yr Arglwydd." Mawr, mawr, MAWR ddiolch i ti, am yr hyn oll a wnaethost, a mawr ddiolch i'n Duw ni am dy gyfodi yn ein plith. Ac yn awr, dros enyd fechan, rhaid i ni ddyweyd ffarwel! O na, ni'th anghofiwn di, y mae ein hysbryd of hyd yn ymaflyd ynot, ac yn cymdeithasu â thydi, a'n calon, yn wir, yn hiraethu am danat. Ffarwel ar hyn o bryd, ond "ni gawn gwrdd tu draw i'r afon," ac ymbleseru gyda'r egwyddorion mawrion y llafuriaist drostynt yma. Ond tra y parhao crefydd Cymru, erys yn annileadwy argraff ac enw "Ieuan Gwyllt, Gelltydd Melindur."

Y DIWEDD.





P. M. EVANS AND SON, ARGRAFFWYR, TREFFYNNON.


Nodiadau

golygu
  1. Ysgrif gan Alaw Ddu yn y Cylchgrawn, Ionawr 1878, tu dal. 8.
  2. Y Parch. D. Saunders yn ei anerchiad yn Nghaeathraw.