Ieuan Gwyllt, Ei Fywyd, Ei Lafur/Ei Fywyd
← Rhagarweiniad | Ieuan Gwyllt, Ei Fywyd, Ei Lafur gan John Eiddion Jones |
Ei Fywyd (parhâd) → |
PENNOD II.
EI FYWYD—Y PAROTOAD—PENLLWYN AC ABERYSTWYTH.
John Roberts.
CLYWSOM ef yn dyweyd mewn Cyfarfod Misol wrth ymdrin â'r ordinhâd o Fedydd, ei bod yn arferiad yn Sir Aberteifi, amser yn ol, i ymddyddan â'r rhieni yn y society cyn bedyddio eu plentyn, i'r dyben o'u dwyn i ddeall ystyr yr ordinhâd, ac i deimlo eu rhwymedigaeth gyda golwg ar eu plant. Arferiad ragorol oedd hon, a diammeu ei bod wedi cael ei dilyn yn yr amgylchiad hwn. Dydd Iau oedd Ionawr 30, 1823, ond nis gallwn wybod pa un ai pregeth ai ynte society oedd yn y capel ar y pryd, digon tebygol mai yr olaf.
"1823, May 13th, Parents removed to Ty'nyffordd near Penllwyn."
"1829, May 13th, Parents removed to Pistyllgwyn."
Ysgrifenodd y Parch. Robert Roberts, Llundain (ei frawd) fel y canlyn:—"Y mae yn ddrwg genyf nas gallaf ar hyn o bryd roddi i chwi nemawr o ffeithiau eglur yn hanes boreu oes fy mrawd. Yr oedd naw mlynedd o wahaniaeth oedran yn peri ei fod ef yn ddyn ieuanc tra nad oeddwn i ond plentyn. Y mae rhai o'i gyfoedion wedi addaw cofnodi ychydig o'i hanes i mi. Nodaf i chwi rai, &c.
Ganwyd ef y 27ain o Ragfyr, 1822, mewn tŷ bychan a elwid Tanrhiwfelen, ar y bryn uwch ben Pwllcenawon (hen gartref Dr. Edwards o'r Bala). Clywais fy nhad yn dyweyd mai noswaith enbyd o rewynt ac eira oedd y noson y ganwyd ef; gwnaeth ei ymddangosiad yn y byd hwn dan grio; a pharhäodd, meddai fy mam, i grïo ddydd a nos am y flwyddyn gyntaf, oddieithr yn y capel, yr hyn oedd yn dra rhyfedd, os nad yn rhagarwydd o rywbeth. Yr oedd hyn yn gymhelliad neillduol i fy mam i'w gymeryd i'r capel mor fynych ag y gallai, ond ni chlywodd neb erioed ei lais. yn y capel nes iddo ddechreu ei arfer i ganu.
"Yn y flwyddyn 1823, symudodd ein rhieni i fyw i'gŵr Dyffryn Melindwr, o'r enw Ty'nyffordd, a phan oddeutu tair blwydd oed, cymerodd amgylchiad hynod le, a wnaeth argraff ddofn ar eu meddyliau gyda golwg ar John. Ar brydnawnddydd haf syrthiodd John dros y bont bren i'r afon, a bu yno yn hir cyn i lefain ei chwaer allu dwyn ymwared iddo (nid oedd hi ond pum' mlwydd oed); a phan gyfodwyd ef allan yr oedd yn ymddangos yn hollol farw, ond ar ol pedair neu bum' awr o gymhwyso gwres at ei gorff bychan, dadebrodd a dechreuodd anadlu. Credai fy rhieni o hyny allan fod gan Ragluniaeth Ddwyfol waith mawr i John i'w gyflawni, a'i fod yn anfarwol hyd nes y byddai'r gwaith hwnw ar ben. Bu mewn enbydrwydd am ei einioes amryw weithiau ar ol hyn.
"Pan yn bur ieuanc, rhwng saith ac wyth mlwydd oed, dechreuodd fyned i'r ysgol a gedwid y pryd hwnw yn Mhenllwyn gan Mr. Lewis Edwards, cefnder i'r Dr. Edwards. Clywais yr hen athraw yn dyweyd, er iddo fod yn cadw ysgol am faith flynyddoedd, na welodd neb yn dysgu mor gyflym â John Roberts. Nid oedd gan yr hen athraw, mae'n wir, ddim llawer i'w ddysgu i'r plant; Arithmetic (yn ol Walkingham) a'r Tutor's Guide; ond er mwyn tipyn o amrywiaeth, gosodai yr hen athraw y bechgyn goreu, yn enwedig y rhai y meddyliai eu rhieni eu dwyn i fyny yn offeiriaid, i ddysgu yr Eton Latin Grammar, yn Lladin ar eu cof. Yr oedd ei ragoriaeth mewn gallu ac ymroddiad i ddysgu yn ei wneyd yn wrthddrych erlidigaeth; a mynych y maeddwyd ef yn greulawn gan fechgyn hynach nag ef, yn unig am ei fod yn dysgu ei holl wersi ac felly yn ennill cymeradwyaeth yr athraw. Ynglŷn â hyn yr oedd ynddo neillduolrwydd arall,-ni wnai ymladd ar gyfrif yn y byd. Nid wyf yn ammeu na chafodd wedi hyny gyfleusdra i bentyru marwor tanllyd ar ben rhai o'i erlidwyr. Bu wedi hyny gydag un D. Griffith am ychydig amser yn dysgu Navigation; a chyda Mr. John Jones, Capel Dewi (Ceinewydd yn awr) yn dysgu Mensuration, ac yn olaf gyda Mr. John Evans, Aberystwyth, yn ymberffeithio yn y naill beth a'r llall." [3]
Cawn ychydig o hanes yr athraw hwn gan y Parch. Dr. Edwards o'r Bala yn ei "Adgofion" yn y Goleuad:—"Anfonwyd fi i ddysgu rhifyddiaeth at Mr. John Evans, Aberystwyth. Dyma un o'r dynion a wnaeth fwyaf o'i ôl fel athraw ar Sir Aberteifi, ac i ryw raddau ar Siroedd eraill. Ganwyd ef yn ardal Blaenplwyf, oddeutu pum' milldir o Aberystwyth. Pan yn ieuanc aeth ar ei draed yr holl ffordd i Lundain, gan feddwl y byddai ganddo bob mantais i ddysgu Saesoneg, ac i fyned ymlaen yn ddiddiwedd mewn gwybodaeth, ond iddo lwyddo i gyrhaedd y Brifddinas. Trodd hyn allan yn dda iddo mewn amser; ond bu yn dywyll iawn arno ar y cyntaf, a gorfu iddo ddyoddef caledi a barodd iddo hiraethu yn fynych am fara haidd a chawl cenin Blaenplwyf. Bu yn llafurio i gadw ei hun rhag marw o newyn, trwy fyned o dŷ i dŷ i werthu llyfrau bychain: ond ychydig a ennillodd y ffordd hono, a rhoddwyd terfyn ar yr ychydig hyny trwy ei gymeryd i fyny fel troseddwr, am ei fod yn ei anwybodaeth heb gydffurfio â gofynion y gyfraith; a dyna lle yr oedd y bachgen diniwed o Blaenplwyf yn gorfod sefyll o flaen yr Ustus yn un o lysoedd Llundain i gymeryd ei brawf. Ond gwelwyd yn fuan nad oedd wedi troseddu yn wirfoddol, a gollyngwyd ef yn rhydd. Wedi hyny daeth ei amgylchiadau yn hysbys i rai o'r Cymry yn Llundain, ac y mae un o honynt yn neillduol, o'r enw Mr. Davies, musician, yn haeddu uwch coffadwriaeth nag a ellir roddi iddo trwy gyfrwng yr erthyglau hyn. Bu efe yn lle tad i'r gŵr ieuanc o Blaenplwyf, a rhoddodd ef yn yr ysgol gyda Mr. Griffith Davies, yr hwn a ddaeth mor hysbys ar ol hyny, nid i Gymru yn unig, ond i rai o'r dynion blaenaf yn Lloegr fel un o'r rhifyddwyr goreu yn ei oes. Yr oedd Mr. Griffith Davies ei hun yn gwybod beth oedd dyfod i fyny drwy anhawsderau. . . . . Yn ysgol Mr. Griffith Davies cafodd John Evans yr unig beth a ewyllysiai, a gwnaeth y defnydd goreu o'r cyfleusdra. Yna meddyliodd am ddychwelyd i Gymru, i wneuthur hyny o les a allai i'w gydwladwyr. Bu mewn mwy nag un man yn Sir Drefaldwyn-os nad wyf yn camgofio, un o honynt oedd Llanidloes yn ceisio sefydlu ysgol. Ac yn ddiweddaf oll symudodd i Aberystwyth. Yn raddol iawn y llwyddodd yno, er mai efe, os nad wyf yn camsynied yn fawr, oedd y rhifyddwr goreu yn Nghymru yn y dyddiau hyny tu hwnt i bob cymhariaeth. Y mae rhyw allu gan ffug, oblegid os bydd un yn gwneyd digon o ffugymddangosiad, y mae yn bur sicr o lwyddo—hyny ydyw, am ryw gymaint o amser. Ac o'r tu arall, y mae dyn gwir fawr o dan gryn anfantais, am nas gall ymostwng i ffugio. Felly am John Evans, nid oedd yn proffesu dim nad oedd yn ei wybod, ac yr oedd yn gwybod mwy nag oedd yn ei broffesu, ac yn ei wybod yn drwyadl. Pe buasai wedi myned i Cambridge yn ieuanc, buasai yn sicr o fod yn uchaf yn rhestr y wranglers, ac fe allai yn senior wrangler. Nid wyf yn gwybod i ba raddau, wedi i mi fod gydag ef, yr oedd yn parhâu i gynnyddu yn gyfatebol i gynnydd yr oes mewn gwybodaeth; ond mi dybiwn nad oedd dim yn yr amser hwnw yn dywyll iddo o'r hyn a ystyrid ar y pryd yn perthyn i gorff cyfan o rifyddiaeth ac anianyddiaeth. Wrth ddywedyd hyn, ni ddymunwn arwyddo fod pwys mawr yn fy marn, ond yn traethu hyny o farn sydd genyf; ac eto pan y mae dyn yn derbyn atebion goleu gan ei athraw i bob cwestiwn a ofynir ganddo mewn unrhyw gangen o wybodaeth, y mae yn anhawdd iddo beidio barnu fod yr athraw hwnw yn deall yr hyn y mae yn ei ddysgu. Yr oedd genyf fantais i holi, gan fy mod yn llettŷa gyda ef yr holl amser y bum yn ei ysgol. Yr unig beth a welaf erbyn hyn yn ddiffygiol ynddo oedd ei hoffder at iaith chwyddedig Bonnycastle, yr hyn oedd yn tarddu, mi dybygaf, o'r diffyg o addysg glasurol; oblegid yr wyf wedi sylwi am athronwyr, eu bod fel rheol yn tueddu at chwyddiaeth, ac yn ymwrthod â iaith syml, os na fyddant, fel Syr John Herschell a Whewell, wedi eu trwytho yn dda mewn addysg glasurol. Ond pa fodd bynag am yr iaith, yr oedd y mater bob amser yn eglur iddo, ac nid ymfoddlonai ar ddeall yr hyn a ddywedid gan yr awdwr, ond mynai olrhain ei ymresymiadau hyd at eu gwreiddiau. Ac heblaw ei fod ef ei hun yn hyddysg ynddynt, yr oedd ganddo ddawn neillduol i greu ysbryd chwilio, a chariad at wybodaeth, yn yr ysgoleigion. Arferir yr un gair Cymraeg am un yn dysgu eraill, ac yn dysgu ei hun: ond y mae yma ddau beth gwahanol, yn gofyn cymhwysderau gwahanol, y rhai nid ydynt bob amser yn cydgyfarfod. Ond yr oedd efe yn meddu gallu i ddysgu yn y ddau ystyr; ac yr wyf yn cofio yn dda ei fod wedi creu y fath frwdfrydedd ynof, fel yr oedd ffigyrau yn ymrithio o flaen fy meddwl pa le bynag yr awn." [4]
Ymddengys fod ysgol Mr. Evans wedi ennill cymeradwy aeth uchel gan y Dirprwywyr a wnaethant ymchwiliad i addysg Cymru yn y flwyddyn 1848, ac a fuont mor hynod yn eu llwyddiant i ganfod ei diffygion, heb gael ond ychydig o'i rhinweddau.
Yn yr ysgolion hyn cafodd John Roberts fanteision i ymgydnabyddu âg amryw ganghenau gwybodaeth, a daeth i gyffyrddiad â dynion oedd yn meddu gallu neillduol i godi awydd am wybodaeth; ac ymddengys ei fod ef ei hun yn meddu ar ysbryd ymroddedig i wneyd y defnydd goreu o'r holl fanteision a ddaeth i'w ran. Cawn ddangos, yn ol llaw, fod ei feddwl ef wedi ei lenwi âg awydd i gasglu gwybodaeth.
Chwe' blwydd a hanner oed ydoedd pan symudodd ei rieni o Dy'nyffordd i'r Pistillgwyn, ymhellach i fyny yn nyffryn y Melindwr. Cedwid Ysgol Sabbothol y pryd hwnw ar gylch ar hyd ffermydd y dyffryn hwnw, ac i hono y byddai John yn arfer myned; ac wedi iddo ddysgu darllen, ceid ef mewn dosbarth gyda rhai mewn oed. Yr oedd yn meddu serch cryf at yr Ysgol Sabbothol.
Byddai yn hoff o dreulio ei amser chwareu yn y coed a gylchynent ei gartref. Yr oedd wedi dysgu ysgrifenu yn dda pan yn bur ieuanc. Sylwyd fod ei fam yn gantores dda, a'i dad hefyd yn gryn dipyn o ganwr, a'i fod wedi bod yn ddechreuwr canu, a thipyn o ysbryd prydyddu ynddo. Dywedir fod John yn hoff o fod ar ei ben ei hunan yn fwy na chyda'r plant eraill yn chwareu. Yr oedd o ysbryd bywiog a chwareus hefyd, ac ymhyfrydai mewn bywyd 'gwyllt" ar hyd y coed, a phan y cai gareg neu ddarn o bapyr, ysgrifenai arno ryw rigwm o farddoniaeth neu dôn. Mae hanes am dano ar un adeg yn ceisio dynwared y tylwyth teg, er difyrwch iddo ei hunan, y plant eraill, a'r cymydogion a elent heibio. Ceir ei fod yn ceisio cyfansoddi pennillion yn foreu iawn, a'i fod hefyd yn deall rhyw gymaint ar egwyddorion cerddoriaeth o ddeuddeg i bymtheg oed; ac yn ol pob tebyg, y llyfr cyntaf ar hyny a gafodd i'w gyfarwyddo oedd llyfr W. Owen o Sir Fôn. Yr ydym yn cael hefyd fod amryw y dyddiau hyny yn myned oddiamgylch i ddysgu ysgolion canu. Crybwyllir am un o'r enw "Dafydd Siencyn y Borth," fel y cyntaf yn gwneyd hyny yn Penllwyn, ac wedi hyny un arall o'r enw Thomas Jenkins—dyn gwledig. Bu mewn dosbarth a addysgid gan Mr. James Mills, a chawn hefyd iddo fod yn mynychu ysgol ganu gan Mr. Richard Mills "droion, yn benaf yn nghapel Sion, ond yr oedd ef y pryd hwnw braidd yn fwy nag y mynai Mills iddo fod." [5]"Yr wyf yn ei gofio yn arwain côr cyn bod yn bymtheg oed, y dôn a'r gair o'i waith ei hun. Dyma'r gair:
"O'r bedd cyfodai 'n Harglwydd cu
Y trydydd dydd;
Gorchfygodd, maeddodd uffern ddu,
O Edom daeth yn rhydd:
Agorodd ffordd i Salem lân,
Rhodd fodd i'r mudan seinio cân
Hyd oesoedd rif y tywod mân,
Tragwyddol fawl byth iddo fydd.'
"Yr wyf yn cofio un arall ar yr Ysgol Sabbothol:—
"Mawl i'r Iesu fo 'n dragwyddol
Am yr Ysgol rad Sabbothol,
A'i manteision llawnion llon;
Ar ei bwrdd cawn hyfryd luniaeth,
Melus wleddoedd iachawdwriaeth,
Rhodd Duw Ion i ni yw hon:
Llwyddo wnelo drwy'r holl wledydd,
Miloedd eto ddelo 'n ufudd,
Fel y seinier peraidd glodydd
I Dduw Jacob ein Gwaredydd,
Drwy bob parth o'r byd o'r bron.'
"Nid wyf yn cofio rhyw lawer o'i farddoniaeth, ond gwn iddo wneyd llawer pan nad oedd ond hogyn. Gwnaeth farwnad i Elizabeth, merch Job Silvanus.[6] Cafodd hon ei hargraffu. Cyfansoddodd gân i minnau yn erbyn yr arferiad o garu yn y nos. Nis gwn pa bryd na pha fodd y daeth i fod yn alluog i ganu tôn, ond gallaf feddwl nad oedd uwchlaw tair ar ddeg oed. Yr amgylchiad a ddaeth âg ef i'r golwg gyntaf oedd-fod ychydig o'r cyfeillion ar ddiwedd yr ysgol yn Blaen Dyffryn (Melindwr) yn ceisio canu rhyw dôn, ac yn methu gwneyd dim o honi yn lân; daeth yntau ymlaen, a chanodd hi rhag y blaen. 'Wel,' ebai John Pritchard, Ty'nypwll, 'mae John yn ddigon trech na ni i gyd,' a rhoddwyd y goreu iddo o hyny allan."[7]
Wrth gychwyn Cerddor y Tonic Solffa, ysgrifenai Ieuan Gwyllt ei hun fel hyn:-"Gwyddom yn dda beth yw yr ysfa blentynaidd am weled rhywbeth o'n heiddo mewn argraff; ac yr ydym yn cofio pa fodd y dychlamai y gwaed yn ein gwythienau pan yn agor y cylchgrawn misol a gynnwysai ein Tôn gyntaf, pryd nad oeddym ond pymtheg oed."[8] Dengys hyn ei fod wedi cyrhaedd safle a ystyrid yn uchel yn bur foreu, a'i fod wedi gwneyd defnydd mawr o'i fanteision, ac yn cyflym ymddadblygu. "Yr wyf yn
cofio am dano yn d'od adre' o'r ysgol un prydnawn, ac yn dangos Tôn newydd i mi o'r enw "Victoria," at wasanaeth
yr achos dirwestol. Gallaf feddwl nad oedd ddim dros 13 oed y pryd hwnw."[9] Ond y mae yn eglur fod yr egwyddorion ddaethant i'r golwg mor amlwg mewn amser diweddarach yn dechreu ymysgwyd yn awr, ac hwyrach yn rhyw ragarwyddo beth fyddai yn y dyfodol. Yr oedd y bachgen chwareus ar hyd y coed eisoes yn ysgrifenydd da, yn gryn dipyn o fardd, ac yn gerddor lled drwyadl, oblegid mynai ddeall pob peth yn drwyadl. Dywedir wrthym fod rhan o'r coed oedd yn ymyl ei gartref yn cael ei alw "y gwyllt," ond pa un ai oddiwrth hyny, ynte am ei fod yn hoffi crwydro ar wahan i'r plant eraill, y galwyd ef yn "Ieuan Gwyllt," nid oes sicrwydd. Ond y mae yn ddiddadl ei fod wedi mabwysiadu yr enw yn ieuanc iawn,—gan ei fod yn fardd a cherddor, yr oedd yn rhaid cael ffugenw, wrth gwrs, ac yr oedd ar y cyntaf yn fwy cyflawn—sef Ieuan Gwyllt Gelltydd Melindur. Paham y mabwysiadodd yr enw Ieuan yn lle Ioan nid ydym yn cael esboniad—yr un gwreiddyn ac ystyr sydd i'r ddau. Ond ceir arwyddion hefyd fod y talentau hyn i gael eu defnyddio i ryw bwrpas. "Bum yn meddwl lawer gwaith, gyda golwg ar ei Lyfr Tonau, ei fod wedi meddwl pan yn ifanc iawn am wneyd y fath lyfr, neu ynte iddo gael tuedd i ymbarotoi ar ei gyfer, a hyny heb yn wybod iddo ei hun; oblegid yr wyf yn cofio, a hyny flynyddau cyn iddo ymadael o Pistyllgwyn, iddo fynu cael llyfr mawr o bapyr gwỳn wedi ei rwymo, ac heb ei linellu, fel y gallai wneyd hyny fel y byddai am- gylchiadau yn galw. Yr enw oedd arno oedd Yr Eos, a chasgliad ydoedd o hen Donau Cynnulleidfaol, a'r rhai hyny wedi eu notio yn wahanol i ddull y dyddiau hyny, sef mewn Banig ac Adfanig, fel y gwnaeth yn ei lyfr. Beth oedd yn ei gymhell, nis gwn. Byddai yn dda genyf gael golwg ar yr hen Eos yn awr.
Yr oeddwn yn gofyn iddo, 'Pa le yr wyt yn cael yr hen donau yma, dywed?' 'O, rhai ymhob man: o glywed fy nhad yn eu canu, dyna fel yr wyf yn cael mwyaf o honynt.' Ai am Napoleon y dywedir mai mewn magnel a chleddyf yr ymhyfrydai pan yn blentyn Fel hyny y byddaf yn meddwl am dano yntau,-prif waith ei oes oedd diwygio Cerddoriaeth y cysegr a dwyn allan y Llyfr Tonau, a meddyliaf iddo weled y meddylddrych pan yn blentyn."[10]
Yr oedd, yn ddiammeu, hadau pethau mawrion yn dechreu egino ynddo yn foreu iawn. Yr oedd o dymher neillduol hynaws a charedig, yn hynod felly; ond pan dybiai fod rhywbeth heb fod yn ei le, nis gallai oddef hyny; yr oedd am gael pob peth yn gywir fel y dylai fod. Yr oedd awydd cryf ynddo at ddysgu, a mantais fawr iddo yn hyny oedd fod ganddo gof da. "Yr oedd ganddo gof cryf iawn," meddai Mr. Absalom Prys. Yr oedd hefyd yn benderfynol iawn. 'Amlygodd benderfyniad meddwl, hyny yw, penderfyniad i orchfygu pob peth. Er esiampl, yr wyf yn ei gofio yn notio Tôn i mi, ac .wrth ysgrifenu ei henw yr oedd y pin yn gommedd gweithio fodd yn y byd. 'Ysgrifeni di ddim â hwna,' meddwn wrtho. 'Mi wnaf iddo wneyd, pe b'ai e'n skewer,' meddai yntau, a gwneyd gadd e' hefyd."[10] Ni oddefai i ddim sefyll ar ei ffordd i gyrhaedd ei amcan, os byddai yn credu ei fod yn un teilwng.
Yn ieuanc iawn, tua phymtheg neu un ar bymtheg oed, feddyliem, os nad yn ieuengach na hyny, cawn ei hanes yn cadw ysgol ddyddiol yn y Goginan; ond yr oedd yn rhy ieuanc i allu cael awdurdod ar y plant, felly byddai ei dad yn ei ganlyn, ac mewn un gongl yn dilyn ei waith o wneyd neu drwsio gograu, tra byddai John yn dysgu y plant. Bu yn cadw ysgol felly hefyd, meddir, yn y Tynant a Thanrhiwfelen, a'i dad yn ei ganlyn. Ymddengys y byddai yn cadw ysgol am dymmor, ac yna yn myned am dymmor i'r ysgol ei hunan â'r arian a ennillasai. Dengys hyn ei ymroddiad llwyr i gasglu gwybodaeth. "Yr wyf yn tybied iddo fod yn cadw ysgol ddyddiol ar hyd y gymydogaeth yma am ddwy neu dair blynedd, ond nid gyda llwyddiant mawr: nid rhyw allu mawr oedd ganddo i ddysgu eraill; yr oedd yn well am ysgrifenu ei feddwl nag am ei ddyweyd y pryd hyny[11] Bu hefyd "yn cadw ysgol ganu ar hyd y cymydogaethau yma."[11] Felly nid oedd am gadw ei wybodaeth iddo ei hunan, ond am ei throi i fod yn ddefnyddiol a manteisiol i eraill. Rhaid fod rhyw awydd angerddol ynddo, pan yr ymgymerai mor ieuanc â'r cyfrifoldeb o ddysgu eraill, ar adeg yr oedd yn rhaid iddo gael cynnorthwy ei dad i gadw trefn; ac y mae coffadwriaeth yr hen ŵr yn deilwng o barch, am iddo gydsynio â'i blentyn a'i gynnorthwyo fel hyn. Y mae yn amlwg ei fod yn meddwl rhywbeth o'i fab, ac yn rhoddi pob cefnogaeth a chynnorthwy iddo yn ei awydd am wybodaeth. Pa feddyliau, tybed, allent fod yn rhedeg drwy ei feddwl tra yn cyweirio ei ograu, ac yn gwylio ymdrechion ieuangaidd ei blentyn yn cyfranu gwybodaeth? Diammeu nad allai gŵr o'i graffder ef ddim gwylio ysgogiadau meddwl ei blentyn heb edrych drwyddynt ymlaen ymhellach na'r presennol.
Yr adeg yr oedd efe gartref, yr oedd gwaith mŵn plwm y Goginan yn "myned," a meddyliodd y gallasai yntau dreio ei law, pa beth a allasai wneyd fel mwnwr, ond buan y gwelodd nas gallai ddygymmod â hyny. Un stem y gweithiodd o dan y ddaear, a dyna ddywedodd ar ol dyfod allan, "nad äi yn dragywydd yn chwaneg o dan y ddaear."* Ond ennillodd un hanner coron yn y gwaith hwnw, a dyna'r cwbl. O ran hyny, beth bynag yr ymaflai ynddo, ni byddai yn foddlawn heb ei wneyd yn iawn ac yn drwyadl, ac er myned i lawr dan y ddaear, [12] gofalodd tra y bu yno am wneyd gwerth hanner coron. Os dysgu yn yr ysgol, mynai feistroli ei wersi; os astudio cerddoriaeth, mynai ddeall ei hegwyddorion; neu "pa beth bynag yr ymaflai ei law ynddo i'w wneuthur, efe â'i gwnai a'i holl egni," ac nid yn unig hyny, ond nis rhoddai ef i fyny heb ei orchfygu yn drwyadl.
"Gyda golwg ar ei waith yn ymgymeryd â chrefydd a dyfod yn gyflawn aelod, nid wyf yn cofio am ei ddyfodiad, na pha oedran oedd pan y daeth. Yr wyf yn sicr fy mod i wedi myned i'r cymundeb o'i flaen, a hyny pan oeddwn yn ddwy ar bymtheg oed; ond yr oeddwn i agos i ddwy flynedd yn hŷn nag ef, felly gallasai efe ddyfod yn ieuangach na mi. Nid wyf yn meddwl iddo gymeryd fawr o ran mewn pethau cyhoeddus, megys gweddio ac areithio-oddieithr mewn canu-cyn iddo ymadael â'r gymydogaeth hon."[13]
Dyma'r camrau cyntaf yn y parotoad ar gyfer gwaith bywyd. Nid ydym wedi gallu cael allan pa bryd, na thrwy ba foddion y dysgodd ysgrifenu Cymraeg yn gywir. Gwelsom fod Mr. John Davies wedi bod yn cadw ysgol ramadegol, ond gallai hyny fod cyn ei ddyddiau ef, neu o leiaf cyn ei fod o oedran myned iddi; er hyny dichon iddo fod ei hunan mewn cyffyrddiad mynych â'r gŵr galluog hwnw, neu ei fod wedi derbyn addysg yn anuniongyrchol oddiwrtho drwy y rhai fu yn yr ysgol hono, yn gystal ag addysg yr Ysgol Sabbothol a chartref. Fodd bynag, yr ydym yn gweled ei fod eisoes wedi cyrhaedd "gradd dda," mewn dysgeidiaeth, ac fod awydd mawr wedi ei greu ynddo am wybodaeth, a'i fod yn gwneyd defnydd o bob mantais yn ei gyrhaedd i gael gafael arni. Hefyd yr oedd yn fardd o gryn allu, ac yn awdurdod lled uchel yn ei gymydogaeth fel cerddor. Y mae y maes yn newid bellach, eto yn parhâu i fod yn rhagbarotöawl, ond y mae yr hyn sydd eisoes wedi d'od i'r golwg yn dangos rhagarwyddion gobeithiol iawn, ac nid annhebyg y gofynid, "Beth fydd y bachgen hwn?"
"1842, Oct. Went to Messrs. Griffiths and Roberts, Druggists, Aberystwyth."
Yr oedd, yn amlwg, bellach, mai trwy ei ymenydd a'i bin y tueddai John Roberts i feddwl byw, a dymunol oedd cael lle iddo i gychwyn yn y cyfeiriad hwnw. Nid peth hawdd ydyw hyny i fachgen yn ei amgylchiadau ef. Cafodd le gyda y Meistri Griffith a Roberts, Druggists, nid fel egwyddorwas, ond fel math o ysgrifenydd a negeseuydd. Deallwn fod Mr. Griffith yn bregethwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, ond nid oedd John Roberts yn llettŷa yn ei dŷ, eithr mewn tŷ arall yn y dref. Yn awr yr ydym yn ei gael yn ŵr ieuanc heb gyrhaedd ei ugain oed, yn troi ei gefn ar gartref, i beidio dychwelyd mwy yn arosol, ac yn wynebu y byd mawr llydan am ei fywioliaeth. Bu gyda'r Meistri Griffith a Roberts am oddeutu blwyddyn a deng mis. Yn y sefyllfa hon yr oedd yn profi ei hunan yn ffyddlawn, ac yn ddyfal yn ei ymdrechion i ddiwyllio ei hun. Tra yr ydoedd yma y bu farw ei dad, Mawrth 20, 1844. Yn 1844 yr oedd yr ysgol a gedwid yn Skinner's Street wedi myned heb athraw, gan fod Mr. Robert Thomas (yn awr y Parch. R. Thomas o Garston) yn ymadael i fyned i Athrofa Trefecca. Gwnaeth John Roberts gais am y lle, a phenodwyd ef yn athraw, yr hyn a ddengys ei fod wedi ennill cymaint a hyny o ymddiried y pwyllgor, wrth edrych arno yn ei sefylla flaenorol. Ond teimlai y pwyllgor mai doeth fuasai iddo fyned am fis i'r Ysgol Normalaidd yn Borough Road yn Llundain, fel y gallai wybod rhywbeth am gynllun yr Ysgolion Brytanaidd, a chario yr ysgol ymlaen yn Aberystwyth ar y cynllun hwnw. Felly cawn y nodiad canlynol yn y Bibl Teuluaidd:—
"1844, July. Entered the Normal College, Boro' Road, London."
Yn y cyfamser yr oedd Mr. Thomas Lloyd, yn awr o Liverpool, yn dygwydd bod yn rhydd, ac ymgymerodd efe â gofal yr ysgol hyd nes y deuai John Roberts yn ol o'r Ysgol Normalaidd. A dyma gyfleusdra iddo yntau gael agor ei lygaid ar Lundain a'i rhyfeddodau. Ond y mae ffyrdd Rhagluniaeth yn ddyeithr iawn: mis ydoedd yr amser y bwriedid iddo fod yno ar y cyntaf—ond yn ystod ei arosiad yn Llundain cafodd y frech wèn mewn ffurf enbyd iawn; bu "heb obaith bron cael byw," a gadawodd ei hol yn ddwfn arno am ei oes. Ond nid ar ei gorff allanol yn unig y cafodd argraff. Wrth ystyried y waredigaeth ryfedd hon, a chofio hefyd iddo gael ei waredu megys o safn angeu yn ei fabandod, efe a gredodd fod gan yr Arglwydd ryw waith iddo i'w wneyd drosto ar y ddaear, a bod yn rhaid iddo gyflawni hwnw. Yr oedd argraff fel hyn ar feddwl ystyriol fel yr eiddo ef, yn ddiammeu, yn peri iddo benderfynu ymaflyd yn fwy difrifol mewn crefydd nag erioed o'r blaen. Rhwng yr oediad a barodd yr afiechyd hwn, a dichon hefyd ei fod wedi gweled wedi myned i Lundain fod yn anghenrheidiol cael mwy o amser yno nag a fwriedid ar y cyntaf, ac iddo lwyddo i gael gan y pwyllgor yn Aberystwyth i gydsynio â hyny;—rhwng pob peth, nid yw yn ymddangos iddo adael yr Ysgol Normalaidd hyd ddechreu y flwyddyn ganlynol, ac felly yr ysgrifenodd yn y Bibl:—
1845, March. Opened British School at Aberystwyth."
Agorid yr ysgol yn awr fel Ysgol Frytanaidd, ond o herwydd rhyw bethau, nid hir yr arosodd yn y sefyllfa hono. Er ei fod wedi cael mantais rhyw ychydig o amser yn y Boro' Road, digon tebyg iddo weled yn fuan nad oedd wedi cael y "ddawn" i addysgu plant; a gwir ydoedd hyny. Nid llawer mwy llwyddiannus ydoedd y tro hwn nag a fu o'r blaen gyda'i dad yn ardal Penllwyn, os cymaint. Yr oedd efe ei hun yn hoff o blant ar hyd ei oes, a chanddo syniad uchel am bwysigrwydd gofalu am danynt, a gwnaeth ei ran yn helaeth gyda golwg arnynt mewn cylchoedd eraill; ac nid oes dadl nad oedd yn ymdrechu yn ffyddlawn i gyfranu iddynt bethau sylweddol; eto yr oedd rhy fychan o'r deniadol ynddo i allu llwyddo i'w haddysgu, nac i gael dylanwad cryf arnynt. Eto y mae yn ddiammeu ei fod wedi cael bendith fawr iddo ei hun trwy yr ymdrechion hyn gyda'r plant. Tua naw mis y bu yn cadw ysgol.
"1845, Dec. Went to Messrs. Hughes and Roberts, Solicitors, Aberystwyth."
Cafodd le fel ysgrifenydd yn swyddfa Meistri Hughes & Roberts. Yr oedd un o'r ddau bartner (Mr. Hughes, os nad ydym yn camgymeryd) yn preswylio yn Mhenllwyn, a dichon mai trwy ryw gydnabyddiaeth felly y cafodd fynediad i mewn i'r swyddfa. Gallem dybied ei fod, bellach, wedi dyfod yn nês i'w elfen yn y swyddfa hon, a phrofodd ei hun yn ffyddlawn ymhob peth, fel yr ydym yn ei gael cyn pen hir amser wedi dyfod yn brif ysgrifenydd yn y swyddfa, ac arno ef yr oedd gofal trefnu y cases erbyn y llysoedd cyfreithiol, a byddai felly yn mynychu y llysoedd chwarterol a'r brawdlysoedd yn Aberteifi. Dengys hyn ei fod wedi astudio y gyfraith yn dda, ac wedi cymhwyso ei hun yn y lle yr oedd ynddo, nes ennill ymddiriedaeth llawn ei feistri. Bu hefyd amryw weithiau yn gyfieithydd y brawdlys, os nad, yn wir, efe fyddai bob amser os byddai yn bresennol. Yr hyn a wnai yn awr, fel pan yn blentyn, efe a'i gwnai yn drwyadl: nid ymfoddlonai ar hanner gwaith, ond mynai gael pob peth yn y modd mwyaf perffaith oedd yn bosibl. Gallwn yn hawdd ddychymygu ei weled yn ennill iddo ei hun le fel cyfieithydd y llys. Tybiwn weled achos yno ymha un yr oedd ganddo ef fel prif ysgrifenydd y Meistri Hughes & Roberts ran, a bod y cyfieithydd, fel y byddant yn bur fynych, yn cyfieithu yn lled chwith neu yn gyfeiliornus, a dychymygwn ei glywed ef yn ymyraeth ar unwaith, gan ddywedyd, "That's not right." Nis gallai oddef i ddim fod o'i le, a naturiol iawn fyddai i ni dybied y gwaith yn cael ei daflu mewn canlyniad arno ef, a gwnai ef mor berffaith ag y byddai modd. Ennillodd ffafr ei feistriaid yn gymaint fel nad oeddynt yn foddlon mewn modd yn y byd iddo ymadael pan yn myned i Liverpool yn 1852, a chynnygient iddo ei wneyd yn bartner yn hytrach na’i golli, a thystiolaethent wrth eraill y buasai yn well ganddynt na llawer o arian beidio ei golli.
Yr oedd cyfnod ei arosiad yn Aberystwyth yn bwysig yn ei oes ef, nid yn unig am ei fod yn cynnwys tymmor o'r mwyaf pwysig yn oes dyn (o 20 hyd 30 oed), ond hefyd o herwydd y cyfleusderau a'r manteision y daeth efe i gyffyrddiad â hwynt, a'r defnydd a wnaeth efe o honynt er cymhwyso ei hun at waith mawr ei oes. Yr ydym wedi sylwi eisoes ei fod wedi cyrhaedd safle uchel fel cerddor cyn ymadael o Benllwyn. Yn Aberystwyth yr oedd lle iddo fod yn ei elfen gyda hyn, a chawn ei fod yn fuan wedi ymdaflu yn hollol i'r symudiad yno. Cedwid dosbarthiadau cerddorol yno ac yn y cymydogaethau cylchynol, ymha rai yr oedd Mr. Edward Edwards (Pencerdd Ceredigion) yn cymeryd rhan flaenllaw, ac yr oedd John Roberts yn un o'i gynnorthwywyr mwyaf aiddgar a ffyddlawn. Dywedir iddo brynu copi full score o'r Messiah (Handel) cyn ei fod prin yn alluog i dalu am dano; ac wedi ei gael, diammeu nad ymfoddloni ar ei ddarllen yn unig a wnaeth efe, ond ei astudio yn drwyadl, yn ei gynganeddion yn gystal a'i symudiadau. Argraffwyd tonau syml a da i fod at wasanaeth y cerddorion i ddiwygio y canu cynnulleidfaol, yn gyffelyb i'r dull y gwnaeth efe wedi hyny yn y Blodau Cerdd. Yr oedd yno fath o Undeb Cerddorol i ddysgu elfenau cerddoriaeth, a deuai Mr. Richard Mills i ymweled â hwy yn achlysurol. Yr adeg hon daeth canu corawl a chynnulleidfaol Aberystwyth yn destun sylw cyffredinol. Byddai y diweddar Mr. J. Ambrose Lloyd yn talu ymweliad mynych âg Aberystwyth, ac yn gwneyd amcan i fod yno ar y Sabboth, fel y gallai fwynhâu y gerddoriaeth ragorol oedd yno, a chaent hwythau hefyd fwynhâu ei gymdeithas a'i gyfarwyddiadau ef, a chai yntau glywed ei anthemau yn cael eu canu yno yn y dull goreu oedd i'w gael yn Nghymru. Pan ydoedd efe gydag Owain Alaw yn beirniadu canu corawl mewn Eisteddfod yr adeg hon, sylwai yr olaf fod y corau yn canu yn dda iawn, a bod diwygiad mawr wedi cymeryd lle yn ddiweddar. "Ond a glywsoch chwi ganu Aberystwyth?" meddai Mr. Lloyd; "yno y mae y canu goreu yn Nghymru y dyddiau hyn." Nid oedd John Roberts yn meddu llais da ar y cyntaf, ond daeth trwy ymarferiad yn fwynaidd a melodaidd. Llais bass ydoedd, ond heb fod yn neillduol o gryf. Yn y cylch hwn yn Aberystwyth yr oedd yn cael mantais ragorol i ddyfod yn gydnabyddus â cherddoriaeth mewn cylch eang, ac yr oedd ei ymroddiad yn peri iddo wneuthur y defnydd goreu o'r manteision hyn, a thrwy hyny yr oedd y chwaeth oedd mor naturiol bur ynddo ef yn cael ei meithrin a'i dysgyblu. Yr oedd ei ymroddiad gyda'r dosbarthiadau cerddorol hefyd yn rhoddi mantais iddo ddysgyblu ei "glust" gerddorol, gan mai nid canu â'r genau yn unig a wnai efe, ond gwrandaw â'i glust ar yr un pryd, nes bod ganddo "synwyr wedi ymarfer" i ddosbarthu y drwg a'r da, y cydsain a'r anghydsain, y cywir a'r anghywir. Yr oedd cerddoriaeth yn ei ysbryd ef yn ddiammeu o'r dechreuad, ac yr oedd ei dalent at hyny wedi dyfod i'r golwg yn ieuanc iawn; ond yr oedd y cylch yr oedd ynddo yn bresennol o'r fath fwyaf manteisiol i eangu ei wybodaeth gerddorol a phuro ei chwaeth. Yr oedd yn ymberffeithio yn yr ymarferiad yn gystal ag yn yr athrawiaeth. Ond nid iddo ei hun yn unig yr oedd yn llafurio; awyddai am arwain ei gydwladwyr at y ffynnonellau pur a dyrchafedig yr oedd efe ei hun yn cael cymaint o fwynhâd ynddynt. Mewn canlyniad anturiodd i'r wasg yn 1852, trwy gyhoeddi y Blodau Cerdd yn rhifynau misol ceiniog a dimai, hyd nes y symudodd i Liverpool. Cawn fantais i sylwi yn fwy manwl ar y cyhoeddiad hwn eto. Dyma, mae yn ymddangos, ei ymgais cyntaf, ond nis gallwn wybod pa mor bell y llwyddwyd i fod yn ddigolled ynddo. "Yr oedd yn bartners yn yr anturiaeth hon Ieuan Gwyllt, Mr. J. Jones (Ifon), Mr. E. Edwards, a Mr. W. Julian, y diweddaf yn drysorydd a dosbarthwr."[14]
Ond nid oedd cerddoriaeth ond un rhan o faes ei lafur. Darllenai lawer, ac ymdrechai yn ddyfal i gyfoethogi ei feddwl â gwybodaeth gyffredinol. "Yr oedd yn llafurwr mawr mewn llenyddiaeth—yn llafurwr dibaid."[15] Un tro, pan wedi dyfod i Aberaeron i'r llys, galwodd yn nhŷ ei gyfaill Mr. Absalom Prys, yr hwn oedd yn byw yno y pryd hwnw, a gofynodd iddo ddyfod gydag ef i roddi tro, gan ei fod yn teimlo braidd yn swrth a chysglyd; a dywedai "iddo gael llyfr newydd y noswaith cyn hyny, ac iddo fod ar ei draed hyd bedwar o'r gloch y boreu yn ei ddarllen. 'Beth ydych gwell?' meddwn wrtho; nid oes bosibl eich bod yn cofio fawr o hono ar ol darllen cymaint.' 'Ydwyf,' meddai; "gallwn ddyweyd i chwi yn awr bob mater, a phob peth neillduol o'i fewn;' ac yr oedd yn llyfr o faintioli pur fawr."[16] Nid peth anghyffredin iddo ef oedd colli ei gysgu i ddarllen yr adeg hon nac wedi hyny; yn hytrach yr oedd yn fwy o arferiad ganddo; a'r peth a ddarllenai, nid ei ddarllen yn unig y byddai, ond ei astudio yn drwyadl, nes ei ddeall a'i gwbl feddiannu, ac yr oedd ei gof rhagorol yn peri ei fod yn gallu cadw yn ddiogel yr hyn oll a feddiannai felly. Hwyrach y gallai fod yn gwestiwn a oedd ganddo ef, neu a oes gan rywun, gof rhagorach na'r cyffredindichon fod rhyw gymaint o wahaniaeth naturiol yn hyny; ond y mae llawn cymaint, os nad mwy, yn dibynu ar allu y dyn i gymeryd trafferth i gwbl feistroli yr hyn fydd ganddo mewn llaw. Ac yr oedd hyn yn neillduol ynddo ef: mynai feistroli yn drwyadl yr hyn yr ymgymerai âg ef; a'r peth y mae dyn wedi ei gael "â swm mawr o drafferth felly, y mae yn bur debyg o'i sicrhâu yn eiddo iddo byth wed'yn. Fodd bynag, dyma fel yr ydoedd efe; nid arbedai ei hun nes gorchfygu. Ac y mae un felly hefyd, yn y cyffredin, mewn amser yn dyhysbyddu llawer o lyfrau; yn araf, mae yn wir, ond wrthi yn barhâus, fel y camel yn y ddammeg. Gwariai lawer i brynu llyfrau, a diammeu hefyd iddo yn Aberystwyth gael cyfleusderau i helaethu cylch ei wybodaeth yn eangach nag y gallai ei boced fforddio i brynu.
Yr oedd dynion grymus yn perthyn i eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn Aberystwyth yr adeg hono. Heblaw y Parch. Edward Jones, yr hwn hwyrach nad oedd ynddo ei hun mor neillduol, yr oedd Mr. John Evans yr athraw, Mr. John James, Mr. Matthews, Mr. Richard Jones a Mr. David Phillip. Cedwid yno ddosbarth Biblaidd bob boreu Sabboth ar ol yr oedfa, a byddai dadleuon, fel y gellid dysgwyl, yn fynych yn codi ynddo, pa rai a gynnyrchent ymroddiad mawr i ddarllen ac ysbryd zelog. Yr oedd rhai o honynt yn darllen llyfrau oedd yn trin yn helaeth ar ryddid ac iawnderau dyn fel y cyfryw, ac yn ystod y dadleuon hyny deuai i'r golwg fod gan John Roberts syniadau eang iawn ar y materion, yr hyn nid oedd yn gymeradwyaeth uchel iddo yn meddyliau rhai dynion oeddynt yn tybied fod pwysigrwydd mawr mewn ymostwng yn barod a dirwgnach i'r awdurdodau sydd, ac ammheuid ef nad ydoedd yn hollol iach yn y ffydd, gyda golwg yn enwedig ar ddysgyblaeth eglwysig. "Un tro yn y cyfarfod hwn, daeth y pwnc o ddysgyblaeth eglwysig o dan sylw ac yn destun dadl. Yn y ddadl daeth yn amlwg fod gan John Roberts syniadau lled eang, a braidd yn ddyeithr, ar y mater, yr hyn a greodd fesur helaeth o ddrwgdybiaeth ynghylch iachusrwydd ei olygiadau; ac i un wedi amlygu tuedd am fyned i'r weinidogaeth, a'i achos fel ymgeisydd wedi bod ger bron a'i gymeradwyo gan yr eglwys,—yr oedd hyn iddo ef yn bwysig iawn. Un o'r cyfarfodydd eglwysig cyntaf ar ol i J. R. amlygu y syniadau y cyfeiriwyd atynt, daeth y Parch. Evan Evans, Aberffrwd, yno dros y Cyfarfod Misol i'w holi gyda golwg ar iddo fyned yn bregethwr. Daeth yntau drwy yr arholiad yn hollol foddhaol ar y cwestiynau a ofynid, a meddyliwyd fod pob peth yn esmwyth iddo gael pasio. Ond cyn terfynu cododd un o'r blaenoriaid, sef Mr. John Evans, i ddyweyd y dymunai efe, cyn gofyn arwydd gan yr eglwys, glywed J. R. yn dyweyd ei olygiadau ar ddysgyblaeth eglwysig, ac amlygodd yr hyn yr oedd wedi clywed J. R. yn dadleu o'i blaid un o'r Sabbothau blaenorol yn y cyfarfod y cyfeiriwyd ato. Dywedodd yntau ei olygiadau megys yn y cyfarfod o'r blaen; a chan eu bod yn gyfryw a ystyrid ac a ystyrir eto yn gwbl wrthwynebol i reolau y Cyffes Ffydd, aeth y cais i'w ollwng i'r weinidogaeth y tro hwn yn fethiant hollol." [17]
Gweddus yw crybwyll hefyd, iddo y pryd hwn gael cynnygion teg i fyned at enwadau eraill a phregethu; ond na, yr oedd efe yn ormod o'r "true blue" i gael ei ddenu felly. Gweled Ieuan Gwyllt wedi troi yn Eglwyswr neu Annibynwr! Nid diffyg parch i'r enwadau hyny sydd yn peri i ni ddyweyd fod hyny yn anmhosibl; yr oedd yn anghydweddol â chyfansoddiad ei feddwl ef; nid troi y byddai efe, ond myned ymlaen yn benderfynol i orchfygu pob anhawsderau. Nid y plisgyn o arferiad a magwraeth oedd yn ei gysylltu ef â Methodistiaeth, ond egwyddorion a "gredid yn ddiammeu" ganddo; a gorweddai y rhai hyny yn rhy ddyfnion i'r holl gamdriniaeth a gafodd oddiar law Methodistiaid beri iddo roddi i fyny ei Fethodistiaeth.
Ymddengys ei fod, yn ystod ei arosiad yn Aberystwyth, yn graddol ddyfod i sylw fel cerddor a llenor. Ar ymddangosiad cyntaf Gramadeg Cerddoriaeth, gan y Parch. J. Mills, bu mewn dadl â'r awdwr ynghylch rhai pethau oedd yn wallus ynddo. [18] Yr ydym hyd yn hyn wedi methu dyfod o hyd i'r ddadl hono, na pha bethau oedd testun y ddadl; ond yn y trydydd rhifyn o'r Blodau Cerdd, wrth sylwi ar drefn y lleisiau—sef yr Isalaw (Bass) yn isaf, y Cyfalaw (Tenor) yn ail, yr Adalaw (Alto) yn drydydd, a'r Uchalaw (Treble) yn uchaf—dywed, "Mae yn ofidus genyf na allwn gydweled â Mr. Glan Alarch am athroniaeth y mater hwn, ond iawn i bob dyn ei farn." Yr hen arferiad ydoedd rhoddi yr Isalaw yn isaf; y prif lais, yr hwn a elwid Tenor, ac a genid gan yr holl gynnulleidfa, yn nesaf ato; yr Alto yn drydydd; a'r Treble, fel y gelwid ef, yn uchaf; ond diammeu fod Ieuan Gwyllt yn iawn yn hyn am "athroniaeth y pwnc." Yr oedd hefyd yn ennill safle fel beirniad cerddorol, ac yn gwneyd ei feirniadaeth yn llawn o addysg. "Mae yn gofus genyf iddo ysgrifenu beirniadaeth gerddorol i ni yn Mhenllwyn unwaith mewn holwyddoreg, yr hwn ddull yr oedd yn dra hoff o hono. Yr oedd ganddo feddwl mawr o holwyddori, fel y moddion mwyaf effeithiol i ddysgu eraill drwyddo." [19] Yn ystod ei holidays byddai yn teithio i ranau o Gymru, a bu ef a'i gyfaill Mr. Julian yn Nghymdeithasfa y Bala, wedi cyrhaedd yno ar eu traed. Cawn ei hanes hefyd gyda Mr. Julian yn Merthyr pan oeddid yn agor y Neuadd Ddirwestol; ac wedi deall fod yno ddau gerddor o Aberystwyth, nid oedd dim a wnai y tro ond eu galw i ganu, a chanodd y ddau un o'r darnau a ymddangosodd wedi hyny yn y Blodau Cerdd, yn ddau lais; a chanasant, meddir wrthym, yn y gallery nes swyno yr holl gynnulleidfa. Ar ol hyny yr oedd lliaws o gyfeillion cerddorol yn ymwthio at y ddau gerddor ieuainc, a buant gyda hwynt am oriau yn eu llettŷ. Un o honynt oedd y Parch. Thomas Levi. Dyma ei gyfarfyddiad cyntaf a Mr. Levi, a dechreuodd cyfeillgarwch rhyngddynt a barhaodd yn gynhes hyd y diwedd.
Wrth ymweled âg Aberaeron i fod yn bresennol yn y llys gwladol hefyd, byddent hwythau yn cael cyfleusdra i ddyfod i'w adnabod. "Yn Aberaeron y clywais ef yn rhoddi yr anerchiad cyntaf a glywais ganddo erioed, a hyny ar yr Ysgol Sabbothol. Ei fater oedd y gallu sydd gan wirioneddau y Bibl i gydio gafael yn y meddwl dynol. Cymerodd gymhariaeth o'r bach yn cydio yn y pysgodyn; gallai y pysgodyn lwyddo trwy blucio i dori y line, ond yr oedd y bach yn aros ac yn cadw ei afael er hyny, Felly am hen adnodau y Bibl: fe allai y gall dyn ieuanc lwyddo i dori y line, megys, yn ei anystyriaeth a'i anghof o honynt am amser, ond yna y mae hi er hyny, ac yna y bydd hi byth hefyd. Yr wyf yn cofio fod 'myn'd' da ar y sylwadau y tro hwnw." [20]
Ond er ei fod yn llafurio yn galed, ac yn dyfod i sylw yn raddol a sicr, eto rhaid addef fod rhyw bethau oedd yn peri cryn anfantais iddo. Yr oedd rhywbeth yn reserved ynddo, ac heb fod yn hawdd agosâu ato. Nid oedd ei ddawn siarad yn rhwydd, nid oedd yn ddeniadol yn hyny, ac yr oedd ei zel am fod pob peth yn ei le yn wastad yn rhoddi agwedd a barai i rai dybied ei fod yn gecrus. Adroddai cyfaill cywir wrthym y byddai yn ofni bron weled neb yn dyfod i'w fasnachdŷ pan y byddai efe yno, am y byddai yn sicr yr elai yn ddadl boeth rhyngddynt ar rywbeth neu gilydd cyn pen ychydig fynydau. I rai oedd yn ei adnabod yn dda mewn blynyddoedd diweddarach, dichon nad yw hyny yn hollol anghredadwy; fod y reservedness, a'r eiddigedd dros yr hyn oedd wir a phur oedd ynddo, cyn i erwinder gael ei refinio gan brofiad blynyddoedd diweddarach, yn gwisgo gwedd oedd yn taraw yn annymunol ar y rhai oedd heb fod yn ei adnabod yn drwyadl. A thybiem fod hyn yn taflu rhyw oleuni ar y gwrthwynebiad a gafodd i fyned i bregethu. Y mae ambell un mor "ddymunol " yn ei holl ymddygiadau nes yw yn ennill ffafr pawb, a phawb yn ei bleidio, pan nad oes yn y person ei hunan ddim neillduolrwydd ymhellach na'i ddymunoldeb; ond y mae ambell un arall, hwyrach yn llawn o alluoedd, wedi ei dori gan natur allan o honi ei hun, nas gall yn ei fyw gael ond ychydig i gredu y gall wneyd rhywbeth; y mae rhyw erwindeb o'i amgylch sydd yn peri i'r mwyafrif ei gamgymeryd a chilio draw. Dichon fod hyn mewn rhan yn natur y dyn ei hun, ac mewn rhan yn codi oddiar anfanteision boreu oes. I'r dosbarth hwn yr oedd Ieuan Gwyllt yn perthyn. Gwelsom fod ysbryd dadleuol yn lled gryf yn yr hen Evan Rhobert ei dad, ac o bosibl ei fod yntau wedi etifeddu peth o'r un natur, ac yr oedd wedi gweithio ymlaen drwy anfanteision o'r dechreuad. Costiodd yr hyn a ennillodd lafur caled iddo ef, ac nis gallai lwyddo i gyrhaedd un gris ond trwy orchfygu; ac nid rhyfedd os oedd yn dwyn gydag ef, yn ei wedd gymdeithasol, dipyn o ôl y frwydr. Ond heb ei adnabod yr oeddid y pryd hwnw. Pe deallasai y rhai a "dybid eu bod yn golofnau" ei lafur caled i gasglu gwybodaeth, ei fod yn cymdeithasu cymaint â'r meddyliau pur a dyrchafedig ymhob cangen, ei awydd angerddol am fod yn ddefnyddiol, a'i gymhwysderau (nad oeddynt eto ond mewn rhan yn weledig) i wneyd daioni mewn gwahanol gylchoedd, rhoddasid iddo "ddeheulaw cymdeithas," ac nid ei gadw yn ol.
Dichon na fyddem yn gwneyd cyfiawnder âg ef heb grybwyll y canlynol. "Fe chwythodd awel go gref o chwantau ieuenctyd arno ef pan o gwmpas deunaw oed, ond cafodd gymhorth i ffoi oddiwrthynt. Y rhyw deg a lygaddynodd dipyn arno, a hyny cyn myned i Aberystwyth, ac wedi myned yno bu yr un anffawd iddo, fel yr addefai wrthyf ei fod wedi cydio mor fast ynddo nes oedd yn rhwystr mawr iddo gyda'i efrydiau. Ar ol dyfod yn rhydd o afaelion y rhyw deg ymaflodd Miss arall ynddo, sef Miss Barddoniaeth. Clywais ef yn cwyno yn dost ar y Miss yma, a dywedai ei fod yn meddwl y byddai yn rhaid iddo ysgrifenu llythyr ysgar iddi, onidê ni chai hamdden i wasanaethu neb na dim ond hi, ac felly y gwnaeth i raddau helaeth. Gallaf feddwl iddo wneyd yr un penderfyniad a'r Apostol Paul, Ni'm dygir i yn gaeth gan ddim.' A gallwn feddwl mai dyma un o hanfodion ei lwyddiant, sef ei benderfyniad i orchfygu pawb a phobpeth."[21] Nid oedd dim yn bechadurus yn hyn; cadwodd ei hun yn bur ac yn anrhydeddus bob amser. Ond gallasai ambell un dybied, hwyrach, fod gŵr o'i fath ef yn amddifad o deimladau tyneraf y ddynoliaeth. Yn hollol fel arall yr oedd ef—o dan y wisg allanol yn meddu y teimladau dyfnaf a phuraf, ac yr ydym wedi cofnodi y ffaith uchod i'r dyben o ddangos hyny.
Y mae olwyn Rhagluniaeth bellach yn rhoddi tro eto, ond y mae efe wedi cael ei barotoi yn dda trwy ei arosiad yn Aberystwyth. Trwy gylch ei ddarlleniad yr oedd ei wybodaeth wedi eangu, yr oedd wedi ei berffeithio lawer fel cerddor, ac yr oedd wedi dyfod i adnabod y byd yn lled helaeth. Er bod cael ei luddias i bregethu yn brofedigaeth chwerw, eto y mae yn ddiammeu fod hyny wedi bod yn oruchwyliaeth yn llaw gras i ddyfnhâu ei brofiad crefyddol ef ei hun. Yr oedd y rhwystr oddiallan yn troi sylw un o'i dueddfryd ef yn fwy iddo ei hunan.
Nodiadau
golygu- ↑ Y mae y dates hyn wedi eu cymeryd o Fibl teuluaidd yn meddiant ei weddw Mrs. Roberts, ac yn llawysgrif Ieuan Gwyllt ei hun. Gwell genym eu rhoddi yn Saesoneg, fel yr ysgrifenodd efe hwynt.
- ↑ Yn Hydref, 1879, cawsom weled y lle. Saif Tanrhiwfelen ar y ffordd sydd yn arwain o Aberystwyth at Bont y Gŵr Drwg, oddeutu hanner milldir yn nês i'r diweddaf na chapel Sion. Y mae y tŷ bychan sydd yn dwyn yr enw Tanrhiwfelen yn awr yn fwy newydd, ac nid oes yn aros o'r hen dŷ y ganwyd Ieuan Gwyllt ynddo ond adfeilion o'r muriau pridd. Os hysbyswyd ni yn iawn, hen weithdy i John Davies y saer ydoedd wedi ei droi yn dŷ i Evan Rhobert a Bet, ar ol eu priodas.
- ↑ O lawysgrif y Parch. Robert Roberts, Llundain, wedi dechreu, mewn black lead, ysgrifenu Cofiant i'w frawd, ond bu farw cyn gallu gwneyd ychwaneg na hyn.
- ↑ O "Fy Adgofion," gan y Parch. Dr. Edwards, Bala, yn y Goleuad, Medi 11, 1875.
- ↑ Llythyr oddiwrth Mr. Absalom Prys, Penllwyn, at y Parch. R. Roberts, Llundain.
- ↑ Cynnwysai, heblaw pennillion, un englyn os nad ychwaneg, ac yr oedd mewn englyn y llinell "Defod yw myn'd i'r dufedd," yr hon a gondemnid gan barson y plwyf mewn ymddyddan, am y tybiai efe mai anghenrheidrwydd, ac nid defod, oedd yn peri i'r bobl fyned i'r bedd.O enau y Parch. J. Williams, Llandrillo.
- ↑ Llythyr Mr. Absalom Prys at y Parch. R. Roberts.
- ↑ Cerddor Tonic Solffa, rhif. I. tu dal. 3. Trwy ddiwydrwydd Mr. Absalom Prys y mae y dôn hon wedi ei chael, yr hon a ymddangosodd yn yr Athraw am fis Tachwedd, 1839-cyhoeddiad misol a gyhoeddid yn Llanidloes, dan olygiaeth y Parch. Humphrey Gwalchmai, ac y mae yn dda genym ei rhoddi i mewn yma. Dywedir fod Mr. J. Ambrose Lloyd wedi cyfansoddi y dôn "Wyddgrug," M. 8 7 3, yn 13 oed. Y mae y dôn hon, "Hafilah," o waith I. Gwyllt, yn dri llais a'r prif lais yn y canol, yn ol y dull arferol y pryd hwnw
- ↑ Llythyr Mr. Absalom Prys. Mae Mr. Prys, yn ddiddadl, yn camgymeryd gyda'r oedran. Galwyd y dôn ar yr enw "Victoria," yn ol pob tebyg, oddiwrth enw ein grasusaf Frenines, yr hon a esgynodd i'r orsedd Mehefin 21, 1837, pan oedd Ieuan Gwyllt yn 14 oed. Nid oedd Dirwest ychwaith wedi dyfod yn gyffredinol hyd yr un flwyddyn, a chawn hanes y Parch. D. Charles, B. A., ar daith ddirwestol trwy y Deheubarth gyda'r Parch. Henry Rees. Cychwynasant o Gymdeithasfa Aberystwyth, ac yr oeddynt yn Penllwyn Ebrill 7, 1837, pryd yr arwyddodd 13 yr ardystiad. Gwel y Drysorfa am 1837, tu dal. 189. Felly yr oedd Ieuan Gwyllt dros 14 oed.
- ↑ 10.0 10.1 Llythyr Mr Absalom Prys
- ↑ 11.0 11.1 Llythyr Mr Absalom Prys
- ↑ Llythyr Mr. Absalom Prys at yr Ysgrifenydd.
- ↑ Llythyr Mr. A. Prys at y Parch, R. Roberts.
- ↑ Tystiolaeth y cyfeillion hyn.
- ↑ Tystiolaeth Mr. Julian, Aberystwyth.
- ↑ Llythyr Mr. Absalom Prys at y Parch. R. Roberts.
- ↑ Cawsom gryn anhawsder i gael gwybod yr hanes hwn yn fanwl, ac anfonasom y Cofiant i gael ei gywiro gan gyfeillion Aberystwyth drwy law y Parch. J. Williams, ac y mae y dernyn uchod wedi ei ysgrifenu ganddynt hwy.
- ↑ Wedi ysgrifenu yr uchod, cawsom o hyd i'r argraffiad cyntaf o'r Gramadeg Cerddoriaeth, 1838. Os ar ei ymddangosiad y bu'r ddadl, yr oedd hyny cyn iddo ądael Penllwyn.
- ↑ Llythyr Mr. Absalom Prys at y Parch. R. Roberts.
- ↑ Llythyr Mr. Absalom Prys at y Parch. R. Roberts.
- ↑ Llythyr Mr. Absalom Prys at y Parch. R. Roberts.