Ieuan Gwyllt, Ei Fywyd, Ei Lafur/Ei Fywyd (parhâd)

Ei Fywyd Ieuan Gwyllt, Ei Fywyd, Ei Lafur

gan John Eiddion Jones

Ei Lafur

PENNOD III.

EI FYWYD Y GWAITH—LIVERPOOL, ABERDAR, MERTHYR, LLANBERIS, A'R FRON.

"1852, Dec. 9. Went to Liverpool to edit 'Yr Amserau.' Wrote the first Leading Article' for that Paper Dec. 10th."

YMDDANGOSASAI Hysbysiad yn yr Amserau, fod eisieu un i fod yn îs—olygydd i gynnorthwyo y Parch. W. Rees (Dr. Rees yn awr), ac apeliodd Ieuan Gwyllt am y swydd a phenodwyd ef iddi, ac ar y dyddiad uchod aeth i Liverpool i ymgymeryd â'r gwaith. Wrth wneyd hyny yr oedd yn gadael lle o ymddiried, ac y mae yn debyg yn llawer mwy ennillgar, a rhagolygon o ddyrchafiad a chyfoeth. Wedi myned yno cafodd yn fuan fod holl gyfrifoldeb yr olygiaeth yn disgyn arno, ac nid ychydig oedd ei bryder yn ngwyneb hyny. Yn ystod ei gysylltiad â'r Amserau nid oedd ei gyflog ond bychan, ond yr oedd trwy hyny yn cael gwasanaethu ei wlad a'i genedl. Mae yn debyg nad oedd y cyfnewidiad yn yr olygiaeth yn wybyddus ymhlith y derbynwyr am amser, ac yr oedd hyny yn rhyw fantais iddo; oblegid cafodd le i roddi prawf i'r byd o'i allu fel golygydd i ryw raddau cyn i hyny ddyfod yn hysbys. Nid ydym yn gwybod beth oedd trefn pethau ynglŷn â'r Amserau pan aeth efe yno, ond ymhen amser wedi hyny yr ydym yn cael ei fod ef yn ysgrifenu y prif erthyglau bob wythnos, ynghyd ag edrych dros y gohebiaethau a chynnwys cyffredinol y papyr; tra yr oedd un o'r enw Mr. Manuel yn ysgrifenu y newyddion tramor, a chyfaill Ieuan Gwyllt—Mr. Eleazar Roberts, yn ysgrifenu y newyddion Seneddol a chyffredinol a nodiadau "Meddyliwr,"[1] y rhai a ddaethant mor hynod ac oeddynt mor alluog; a than law y gwŷr galluog hyn, nid yn unig yr oedd yr Amserau yn cadw ei dir, ond yn ychwanegu cryfder. Dywedai Ieuan Gwyllt yn nechreu 1854,[2] "Y mae yn dda genyf hysbysu i chwi fod llawer rhwng y 'Mysere' a myned i ffordd yr holl ddaear. Yr wythnos y daethum yma, hyny oedd 14 mis i heddyw, y nifer a argrefid oedd 1850; yr wythnos hon y nifer yw 3200. Nicolas o Rwssia, deallwch, nid Ieuan Gwyllt, sydd yn foddion i helaethu ei gylchrediad yn y mesur hwn. Nid oes gan I. Gwyllt, modd bynag, un achos i gwyno o herwydd y derbyniad a gafodd ar ei ymddangosiad o flaen y wlad; yn wir, y mae yn llawer mwy flattering nag y meddyliais y buasai. A dyweyd gair o wirionedd i chwi, yr oeddwn unwaith ar roddi y gorchwyl i fyny, o herwydd yr ofnwn, pan unwaith y gwybyddai y wlad fod Mr. Rees wedi ei adael, y byddai yn llawn bryd i'r Amserau hwylio i roddi ei 'gerdd yn ei gôd,' neu ynte gael rhyw Olygydd mwy galluog ac adnabyddus. Pan gaffom ein machine a'n llythyrenau newyddion, ychwanegir tua chwe' cholofn ato, a hyny am yr un bris. Yr wyf yn lled sicr, bellach, mai nid o fewn y flwyddyn hon y bydd efe marw, gyda bendith Rhagluniaeth." Wedi ymgymeryd â'r gwaith, a chael rhyw arwyddion fod iddo faes i lafurio ynddo, ymdaflodd â'i holl egni iddo. Cawn sylwi eto ar ei lafur fel Golygydd; ni raid i ni yma ond dyweyd fod cynnwys yr Amserau, tra dan ei olygiaeth ef, yn wir werthfawr, ac wedi sicrhâu iddo le mawr yn meddyliau mwyafrif ei ddarllenwyr fel un o alluoedd mawrion, o wybodaeth eang, o graffder neillduol, ac o gymhwysderau hollol deilwng i fod yn arweinydd meddyliau ei gydwladwyr mewn gwybodaeth, gwleidyddiaeth, a chrefydd.

Ond nid oedd y sefyllfa hon ychwaith heb ei rhwystrau a'i gwrthwynebiadau. Wrth gadw y drws yn agored i ryddid barn a llafar, yr oedd yn anmhosibl peidio tramgwyddo rhywrai; ond pan yr ydym yn gweled cyrff pwysig fel Cymdeithasfa y Methodistiaid Calfinaidd yn cymeryd sylw o'r Amserau, y mae yn dangos fod iddo safle o bwys a dylanwad yn y wlad. Yn Rhagfyr 1854, dadganodd Cymdeithasfa y Gogledd nad oedd cysylltiad rhyngddi ag ef. Gwelwch, wrth hysbysiad yn yr Amserau nesaf, fod y 'Corff' yn y Gogledd wedi ystyried yn ddyledswydd arno hysbysu i'r byd nad oes unrhyw gysylltiad rhyngddo ef a'r Amserau (nid yw yn ei enwi, wrth gwrs), ac nad yw mewn un modd yn gyfranog o'i olygiadau. Nid wyf fi yn gwybod fod neb wedi bod mor ffol a meddwl hyny erioed; yr wyf yn gwybod yn dda na feddyliais i erioed ddim yn agos at hyny; ac yn wir, byddai yn wir ddrwg genyf gael fy hun yn y cymeriad o organ y Corff, na than ei lywyddiaeth mewn un modd mewn politics gwladol na chrefyddol."[3] Yr wythnos ganlynol drachefn, yr ydym yn cael fod Syr Richard Bulkeley, yr Aelod Seneddol dros Sir Fôn, wedi galw sylw yr Ysgrifenydd Cartrefol at ryw ymadroddion a ymddangosasent yn yr Amserau, a chawn erthygl finiog ar y mater, dan y teitl, "Yr Amserau yn y Cyfringynghor."[4] Ymddengys fod yr Amserau yn dadleu yn gryf dros heddwch, ac yn dangos afresymoldeb a gwastraff rhyfel; a'r unig beth oedd yn bechadurus yn hyny, oedd fod tuedd ynddo, os buasai dynion yn cymeryd ei arwain ganddo, i attal dynion i fyned yn filwyr! Ond ni thybiodd y Llywodraeth yn werth gwneyd sylw o'r mater. Wedi hyny ceisiodd offeiriad Pabaidd yn Neheudir Cymru roddi cyfraith ar yr Amserau am libel trwy gamgyfieithu rhyw frawddegau; ond bu unioni y cyfieithiad yn foddion ar unwaith i'w ryddhâu, eithr nid heb gryn lawer o gostau. Dengys hyn oll fod yr Amserau yn meddu cryn ddylanwad, a bod rhywrai yn teimlo oddiwrth ei bwysau; a dyddorol yw sylwi pwy oedd y rhywrai hyny, a beth oedd achos eu tramgwydd. Drachefn ymddangosodd sylwadau ar glawr y Dysgedydd yn Mawrth 1856, ar yr "Hen Amserau" a'r "Amserau Newydd," ymha un y cyhuddid yr Amserau newydd o ymddwyn yn dra gwahanol i'r hen; a'r pechod y pryd hwnw oedd fod rhyw bethau yn cael ymddangos ynddo nad oeddynt yn foddhaol i ryw ddosbarth yn ngwersyll Annibyniaeth, ac o herwydd hyn bygythid bodolaeth yr Amserau druan. Yr oedd y Golygydd a'r Cyhoeddwr yn dyfod i mewn am ran yn y cerydd hwn, ac yn y rhifyn am Mawrth 5, 1856, ceir atebiad cyflawn gan bob un o'r ddau.

Parhâu i fyned ymlaen yr oedd yr Amserau, ac nid oedd llawer iawn o berygl tra yr oedd y Golygydd a'r Cyhoeddwr yn gallu cyd—dynu. Ond tua diwedd y flwyddyn 1856 dechreuodd teimlad anghysurus gymeryd lle yno, ac fel y gallesid dysgwyl, yr oedd hyny yn peri pryder dwys a digalondid i Ieuan Gwyllt. Nid yw o un budd na dyddordeb i ni fyned i olrhain y manylion yn yr helynt anghysurus hon; digon yw dyweyd mai yr achos o honi oedd fod llythyrau at y Golygydd yn cael eu cadw oddiwrtho heb yngan gair yn eu cylch, a llythyrau wedi iddo ef eu cymeradwyo yn cael eu gwrthod i mewn heb son gair wrtho ef. Mewn canlyniad rhoddodd rybudd o'i ymddiswyddiad. Dywed, Tachwedd 1856, "Yr wyf wedi rhoddi fy swydd fel Gol. yr Amserau i fyny; bydd pob cysylltiad rhyngof a'r Amserau yn tori gyda diwedd y mis hwn; ac nid oes genyf eto ddim ar y ddaear mewn golwg yn ei le. . . . . Y mae yn bur edifar genyf na fuaswn wedi ei adael er ys amser maith cyn hyn. Pa beth sydd ar fy nghyfer yn y dyfodol, ofer yw i mi geisio dyfalu. Y mae fy athroniaeth a'm crefydd neu yn hytrach fy niffyg o honynt—wedi fy ngadael i suddo yn bur isel rai prydiau y dyddiau diweddaf, i iselder ysbryd, i'r hyn y byddaf yn lled ddarostyngedig yn disgyn arnaf ac yn fy ngwasgu weithiau bron i'r graian. Yr wyf yn ysgrifenu y llythyr hwn, chwi a welwch, ddydd Mawrth. Nid wyf yn meddwl yr af yn agos i'r office heddyw, oni anfonir am danaf; ac yr wyf y fynyd hon wedi gweithio fy hun i sefyllfa meddwl na fedraf ysgrifenu dim yn rhagor." [5] Ymddengys, fodd bynag, fod ail drefniad wedi ei wneyd cyn i'r cysylltiad gael ei dori. Yn 1857 cawn ef yn ysgrifenu fel hyn: "Yma yr ydwyf, chwi a welwch; pa un bynag ai yma ai yn rhywle arall y dylwn fod sydd bwnc arall. Fy nghysylltiad â'r Amserau ydyw hyn,—Yr ydwyf yn ysgrifenu yr erthyglau arweiniol—ni bu ond dwy wythnos, yn wir, er ys ychwaneg na phum' mlynedd bellach, heb i mi wneuthur hyny—ac yn ychwanegol at hyny, yn awr er's tua thri mis, myfi sydd yn ysgrifenu y 'Newyddion Tramor' a 'Helyntion yr India;' ac yn ychwanegol at hyny un gyfres, neu un dosbarth o'n 'Henwogion.' Y dosbarth o'r rhai hyn sydd yn fy ngofal i ydyw—Gwleidyddwyr a Gwyddonwyr a Llenorion Cyffredinol; myfi, o ganlyniad, chwi a welwch, a ysgrifenodd ar Lord John a Lord Brougham. Mae y dosbarth arall yn ngofal Mr. Thomas Charles Edwards o'r Bala, ac yn cynnwys Duwinyddion (neu wŷr eglwysig) ac Athronyddion; efe a ysgrifenodd ar John Foster, ac sydd yn awr yn parotoi ar Dr. Chalmers. Y Doctor (Edwards) sydd wedi ein hannog yn y ffordd hon, ac y mae erthyglau y mab yn dyfod trwy ei law cyn dyfod i'r wasg; ond nid wyf yn deall ei fod yn ymyraeth dim yn y cyfansoddiad ymhellach na rhoddi ei veto ar rywbeth fyddo yn ddiffygiol mewn barn neu yn anghywir mewn syniad. Nid oes genyf ddim i'w wneyd â gohebiaethau, newyddion Cymreig, na hanesion cyffredinol, na Hysbysiadau y Papyr—dim oll; y mae y pethau hyn dan ofal Mr. Lewis (y Parch. Matthew Lewis, gynt o Fachynlleth, wedi hyny o Lewisham, wedi hyny o Dreffynnon), gweinidog yr Annibynwyr y pryd hwnw, a dyn o wybodaeth gyffredinol helaeth, a gradd lled dda o dalent, fel y gwelwch yn 'Rhydderch Prydderch.'"[6] Parhaodd cysylltiad Ieuan Gwyllt â'r Amserau hyd tua chanol Hydref 1858. Yr oedd Baner Cymru wedi ei chychwyn gan Mr. Gee yn Ninbych Mawrth 4, 1857, ond yr oedd yr Amserau yn dal ei dir, ac yn ychwanegu. Parhaodd hefyd am oddeutu blwyddyn wedi darfod cysylltiad Ieuan Gwyllt âg ef, oblegid unwyd ef â'r Faner, dan y teitl Baner ac Amserau Cymru, Hydref 5, 1859.[7]

Yr oedd yn aelod eglwysig yn nghapel Rose Place, ond nid ydym yn deall fod dim mewn cysylltiad â'i aelodaeth eglwysig yn galw am sylw neillduol; yr hynodrwydd mwyaf, fe ddichon, oedd na fu dim neillduol pryd y gallesid dysgwyl hyny. Adnabyddid ef fel Golygydd yr Amserau, ond prin, gan lawer, y tybid fod hyny yn recommendation. Gwyddid hefyd ei fod yn gerddor o'r fath oreu, a dewiswyd ef unwaith i'r swydd o flaenor canu, yr hon swydd y bu ynddi am dymmor byr, ond aflwyddiannus hollol oedd y symudiad hwnw. Yr oedd ysgol i'r plant yn cael ei chynnal dan y capel, fodd bynag, a chafwyd ganddo ef ymuno â'i hen gyfaill "Meddyliwr" i lafurio gyda hono, a bu yn llafurus ac ymroddgar iawn. Crybwyllai Mr. E. Roberts wrthym am un tro neillduol pan nad oedd ond ei hunan i ddechreu yr ysgol, ond y daeth efe (Mr. Roberts) i mewn pan oedd yn dechreu gweddïo; a gweddi hynod oedd hono, gweddi a gofir yn rymus hyd heddyw gan y rhai a'i clywsant. Gwyddid hefyd, yn ddiammeu, fod awydd cryf yn ei feddwl ef am ddechreu pregethu, ond nid ymddengys iddo gael dim cefnogaeth yn hyn o beth gan y swyddogion na'r eglwys yn Rose Place. Er hyny, yn ystod yr adeg hon y dechreuodd bregethu, ond mewn dull afreolaidd. Yr oedd blaenor o'r enw Mr. Edward Morris yn ŵr o gryn ddylanwad yn Liverpool y pryd hwnw, ac efe oedd yn gofalu am y cyhoeddiadau; ac os byddai eisieu rhywrai i fyned i'r lleoedd bychain cylchynol, efe fyddai yn gofalu am hyny; mewn gair, yn ei law ef yr oedd yr holl management, a byddai efe yn anfon ambell un i leoedd felly i lenwi bylchau, ac arfer ei ddawn yn y modd goreu y gallai. Dyma'r ffordd y cafodd yntau gyfle i ddechreu, a dyma'r nodiad sydd ganddo yn y Bibl Teuluaidd,

"1856, June 15. Preached first sermon at Runcorn. Text, Ephes. ii. 12."

"Gwir iddo fod yn pregethu tipyn trwy oddefiad ac awdurdod Mr. Edward Morris, yr hwn oedd y pryd hyny yn archddiacon yn Lerpwl, a'r hwn a arferai anfon allan fechgyn ieuainc i bregethu heb ofyn caniatâd na Chyfarfod Misol na Chymanfa." [8] Gallwn ddychymygu i ryw raddau fel yr oedd ei galon ef yn llawenhâu wrth gael ymaflyd yn y gwaith y rhoddasai gymaint o'i fryd arno; ac er nad oedd yr hyn a eilw dynion yn rheolaidd, eto yr oedd yn cael "gosod ei law ar yr aradr," ac nid gŵr oedd efe i edrych o'r tu ol. Bu dros flwyddyn a chwarter ar ol hyn, ac yn pregethu yn lled fynych yn yr un modd; a dyma'r cwbl a ennillodd, tra yn Liverpool, yn y cyfeiriad yma. Da iawn genym gael cofnodi y sylw canlynol o eiddo Mr. David Evans, Caerdydd, yn y fan hon:—"Daeth i Gaerdydd ddydd Sadwrn, Gorph. 17eg, 1858, a phregethodd gyda ni yn nghapel Bethania, am 10 a 6 o'r gloch Sul y 18fed, pan y cafwyd y prawf mwyaf amlwg ei fod yn gyflawn o ddefnyddiau gweinidog cymhwys y testament newydd." [9] Ond nid oeddynt wedi gweled y prawf hwn yn Liverpool, ac yn unig trwy "oddefiad" a than gysgod Mr. E. Morris yr oedd yn cael cynnyg ar y gwaith. Yn nghanol deddfau, a gosodiadau, ac awdurdodau, y mae yn dda weithiau fod ambell un yn llywodraethu yn ol fel y myno efe ei hun; a phan y mae eglwys Dduw heb fod â'i llygaid yn ddigon agored, y mae yn debyg fod rhagluniaeth Duw yn goruwchlywodraethu hyn er cyrhaedd rhyw amcanion o'r eiddo ei hun.

Fel cerddor hefyd yr oedd yn parhâu i lafurio yn ddyfal yn ystod ei arosiad yn Liverpool. Un rhan o'i lafur gyda'r plant yn vestry y capel oedd eu dysgu i ganu. Ac yr ydym yn cael iddo fod yn dysgu egwyddorion cerddoriaeth yn y Cropper's Hall, lle, os nad ydym yn camgymeryd, y cynnelid Ysgol Sabbothol hefyd fel cangen o Rose Place a chapel Burlington Street. Dysgai ei ddosbarth yn ol cyfundrefn Waite, yr hon yn ddiddadl oedd yn fwy athronyddol gywir na chyfundrefn Hullah. Y pryd hwnw nid oedd ganddo fawr o feddwl o gyfundrefn y Tonic Solfa, oedd yn dechreu dyfod i sylw trwy ymdrechion y Parch. John Curwen; yr oedd yn meddwl mwy o'r Hen Nodiant. Bu hefyd yn rhoddi y gwersi cyntaf i'w gyfaill Mr. Eleazar Roberts (Meddyliwr), yr hwn ar ol hyny a gafodd fwy o oleuni trwy gyfundrefn y Tonic Solfa, ac a wnaeth gymaint er ei dwyn yn ymarferol yn Nghymru. Bu yn aelod am dymmor, os nid am yr holl amser y bu yn Liverpool, o'r Philharmonic Society, a thybiwn nad oedd hyny yn ffafriol iddo yn ngolwg rhyw ddosbarth. Ymroddai yn ddyfal i ddyfod yn gydnabyddus â cherddoriaeth ac â cherddorion, a theithiai yn fynych i Lundain a phrif drefydd y deyrnas i gyngherddau mawrion; yr hyn nid yn unig a fwynhâi ef ei hun, ond a ddesgrifiai yn ardderchog i ddarllenwyr yr Amserau dan y penawd "Tŷ Arthur Llwyd." Yn y modd yma, ni chai un cerddor o fri fod na byddai efe yn sicr o fod yn gwybod ei hanes, ac wedi gwrandaw arno neu arni. Dechreuodd ddyfod yn enwog hefyd fel Beirniad Cerddorol. Cawn ef yn feirniad y cyfansoddiadau cerddorol yn Eisteddfod Ffestiniog, 1854, lle yr oedd Mr. William Davies, Cae'rblaidd, yn fuddugol ar y Dôn Gynnulleidfaol, a Gwilym Gwent, y pryd hwnw yn ngweithiau y Blaenau, Sir Fynwy, yn ail. Efe oedd un o'r beirniaid yn Eisteddfod Llundain, 1855, lle yr oedd Mr. J. Ambrose Lloyd ac Owain Alaw yn gydfuddugol ar y Magnificat. Yr un flwyddyn cawn feirniadaeth faith a manwl ar Anthem Manchester, lle y bu Mr. J. A. Lloyd yn fuddugol. A'r un modd mewn llïaws o rai cyffelyb, fel yr ydoedd yn dyfod yn awdurdod fel Beirniad Cerddorol. Bu yn arweinydd Cymanfa Gerddorol Ddirwestol Gwent a Morganwg, am y tro cyntaf, yn y bedwaredd gylchwyl, Gorphenaf 19, 1858. Ar yr un pryd, yr oedd iddo lafur arall, yr oedd ar hyd y blynyddoedd yn llafurio yn ddyfal gydag ef, sef gwneyd casgliad o Donau Cynnulleidfaol. Yr oedd y wlad wedi dyfod i ddeall ei fod gyda'r gwaith hwn, ac yr oedd dysgwyliad mawr am dano. Ond yr oedd yn costio llafur dirfawr iddo ef. Nid oedd yn foddlawn heb chwilio yn drwyadl i drysorau cerddorol pob cenedl. Yn ei fyfyrgell o ddydd i ddydd am flynyddoedd, a'r rhan fynychaf yn hwyr y nos, dyna ei brif lafur, Yn y llythyr at y Parch. T. Levi yn 1857, ysgrifena, "Mae fy mhregethu yn aros yn yr un fan, a'r fan hono yn lled anfoddhaol; fy Llyfr yn prysuro i wneyd ei ymddangosiad, a bydd Hysbysiad am y dydd yn bur fuan yn yr Amserau." Yr oedd ei holl fryd am i'r llyfr hwn gynnwys y detholiad goreu, a "detholiad" ydoedd o swm anferth o gerddoriaeth grefyddol pob gwlad. Nid arbedai na thraul na thrafferth i'w wneyd y goreu oedd bosibl, ac nid oes neb a all amgyffred y llafur yr ymgymerodd âg ef i'r amcan hwnw.

Ond teimlasai er ys blynyddoedd fod yn anghenrheidiol lefeinio meddwl y wlad i fod yn addfed i'r cyfryw ddiwygiad, ac ymdrechai wneyd hyny trwy ei feirniadaethau a'i ysgrifau yn yr Amserau. I'r un amcan hefyd parotôdd ddarlith ar Gerddoriaeth, ond yn benaf cerddoriaeth y cysegr, a bwriadai geisio cael côr i ganu yn ystod y ddarlith i'w illustratio,—i ganu yn gyntaf donau o'r hen ddull arferedig, y rhai gwaelion, ac wedi hyny donau da ac ardderchog, er mwyn dangos eu rhagoriaeth. Traddodwyd y ddarlith hon yn gyntaf yn nghapel Rose Place yn Liverpool, ond methasom gael o hyd i'r dyddiad; tebyg ei fod tua diwedd 1853 neu ddechreu 1854. Ar ei awdurdod ef ei hun cawn grybwylliad am yr ail waith (Chwefror 1854), "Yr wyf fi i draddodi fy ail ddarlith ar Gerddoriaeth yr wythnos gyntaf yn Mawrth." Un tro pan yn traddodi y ddarlith hon yn nghapel Pall Mall, y Parch. J. Hughes (Dr. Hughes yn awr) yn y gadair, a phan y cenid y dôn "Pen Calfaria" fel esiampl o'r tonau gwaelion, ar y geiriau, "Gwaed y groes sy'n codi i fyny," &c., aeth y gynnulleidfa i ddyblu a threblu gyda hwyl, nes tynu y cadeirydd hefyd gyda hwynt. Fel y gallesid dysgwyl, yr oedd hyn yn taflu dyryswch mawr ar ffordd y darlithydd. Bu tro cyffelyb hefyd yn nghapel Hermon, Dowlais, a dichon fod yno rai yn procio'r tân, nes gyru yr hen wragedd i'r hwyl, a'r darlithydd nis gallai fod mewn tymher dda dan y cyfryw amgylchiadau. Un o'r pethau fyddai yn ei anfoddhâu ef fwyaf o'r cwbl fyddai clywed tonau gwael ac anghyfaddas yn cael eu canu ar eiriau cysegredig. Un tro yr oedd efe a Meddyliwr gyda'u gilydd yn nghapel Burlington Street yn gwrando y Parch. Henry Rees yn pregethu ac yn gweinyddu ordinhâd Swper yr Arglwydd, ac ar y Sacrament rhoddodd Mr. Rees yr emyn, "O deffro'n foreu, f'enaid gwan," &c., a chanwyd arni y dôn ddiddym hono "Lingham." Ai Mr. Rees ymlaen, "Caf yma yfed cariad pur," &c.; "Yma dymunwn dreulio'm hoes," &c.; ac yr oedd y fath dôn salw ar y fath eiriau bendigedig yn disgyn fel dwfr oer ar gnawd Ieuan Gwyllt nes yr oedd bron a methu ymgynnwys yn y seat—iddo ef yr oedd yn annyoddefol. Bu yn traddodi y ddarlith mewn amrywiol fanau ar hyd Cymru, ac yn ceisio argyhoeddi meddyliau y genedl i geisio tonau gwell na'r math hwnw. Er hyny nid llwyddiannus oedd yn ei draddodiad fel darlithydd mwy nag fel pregethwr. Adroddwyd wrthym iddo ddyfod unwaith, pan yn swyddfa yr Amserau, i Bethesda, Arfon, i draddodi dwy ddarlith ar Gerddoriaeth. Y noson gyntaf yr oedd dysgwyliad mawr am dano, a'r lle yn llawn o wrandäwyr, ond yr ail noson nid oedd ond ychydig iawn yn bresennol. Diammeu fod hyn yn achos o ddigalondid mawr iddo ef ei hun, ond ymroddodd i orchfygu y rhwystrau yn hyn, a daeth yn siaradwr da a dymunol, er nad fe allai yn hyawdl. Yr oedd hyn yn un o'r llïaws esiamplau yn ei fywyd ef o'i allu anghyffredin i wynebu anhawsderau, a chael yr oruchafiaeth arnynt.

Ond gadawer i ni ofyn, O ba le y mae yr ysgrifau grymus yn yr Amserau, a'r beirniadaethau galluog mewn Eisteddfodau, a'r dylanwad hwnw oedd eisoes yn dechreu creu chwyldroad cerddorol yn y wlad, yn dyfod? A oes dim modd i ni gael cipolwg arno yn ei fywyd cartrefol? Cawn ei fod yn llettŷa yn 1854 yn 19 Netherfield Road, Everton—cymydogaeth a hoffai yn fawr, er ei bod ymhell oddiwrth y swyddfa (tua milldir a hanner); ddiwedd y flwyddyn hono yn 85 St. Anne's Street, ac yn 1856 yn 97 St. Anne's Street; ac yr oedd swyddfa yr Amserau yn 15 St. Anne's Street. Yn ei fyfyrgell y byddai efe yn ddyfal. "Arferwn alw heibio iddo ymron bob dydd wrth fyned i'r office; llawer ymgom a gaem ar bolitics, crefydd, canu, &c., ac yna ymwahanem bob un at ei waith. Ysgrifenem lawer, lawer iawn, iawn am flynyddau, yn enwedig ar adeg y rhyfel yn y Crimea. Yr oeddem ill dau yn condemnio y rhyfel hwnw, ond yr oedd efe yn fwy pwyllog a chymedrol na mi, a minnau yn or-eithafol."[10] A chawn y desgrifiad yn fwy dyddorol eto ganddo ef ei hunan,[11]—"Y mae creadur eiddil, llwyd, pengrych, gyda dau bâr o lygaid, a llen o bapyr o'i flaen, ysgrifell ddur yn ei law, ac ychydig o dân yn cogran yn yr aelwyd, yn ysgrifenu rhyw stwff â'i holl egni; ac felly y mae yn treulio ei oes, y naill ddydd ar ol y llall, heb wneyd dim ond darllen ac ysgrifenu o'r boreu hyd yr hwyr, a hyny, yn wir, nes y byddo yn hwyr iawn yn y cyffredin. Y mae yn treulio llawer o'i ddyddiau felly heb weled na dyn na dynes ond yr ychydig sydd yn y tŷ, a llifeiriant a wêl ambell waith trwy y ffenestr ar yr heol. Oddigerth fod concert neu rehearsal yn y Philharmonic Hall, rhywun hynod yn darlithio mewn rhyw gwr o'r dref, neu rywbeth yn nghapel Rose Place, ni bydd nemawr byth yn myned allan, oddigerth iddo fyned am bump neu chwe' milldir i'r wlad—y pancake country yma, chwedl Jones Kilsby—bore ddydd Mercher, neu filldir neu ddwy yn hwyr y dydd, yn y cyfnos, er rhoddi cyfleusdra i'r awel i drefnu ychydig ar ei ymenydd penblethedig. (Ond O! y fath wahaniaeth sydd rhwng y wlad hon a gwlad Cymru! Yma nid oes na bryn uchelgrib, na chraig ysgythrog, na nant risialaidd, na meddylddrych, na dim. Y cwbl yn un gwastadedd.) Y mae yn cael myned a dyfod y ffordd y gwelo yn dda, ar y pryd y gwelo yn ddymunol, heb neb yn gofalu yn ei gylch; ac heb ond prin ddwsin yn nhref Liverpool yn gwybod fod unrhyw hogyn a eilw ei hun yn Ieuan Gwyllt yn preswylio mewn un gell o'i mewn. Y mae ei fod yn Olygydd papyr newydd yn ei wneyd yn anathema yn ngolwg pob penog Methodist uniongred. Y mae yn anmhosibl, chwi wyddoch, fod un dyn duwiol yn treulio ei holl amser gyda pheth mor wael a phapyr newydd. Y mae ei fod yn Fethodist yn ei wneyd yn wrthodedig gan lenorion Annibynol y dref. Cafodd y fraint o weddio yn gyhoeddus yn y capel unwaith wedi dyfod yma. Er fod ganddo ddau neu dri o gyfeillion yn y lle, ei gyfeillion penaf ydyw y brodyr gwrol sydd yn chwerthin am ei ben drwy y dydd oddiar y silff acw, ac yn barod, ar yr amnaid leiaf, i ddadgan eu barn ar unrhyw bwnc a roddo ger eu bron. Acw y mae y duwiol Matthew Henry, Chalmers, R. Hall, John Foster, Coleridge, Isaac Taylor, McCosh, Dr. Owen, Humboldt, Dove, Neander, Lamartine, Rogers, Macaulay, Syr J. Stephen, Gilfillan's Arnold, De Quincey, Addison, Syr W. Hamilton, Browne, Stewart, Reid, Locke, Butler, Shakespeare, Milton. Pw, pw! I ba beth yr af ymlaen fel hyn Digon yw dyweyd mai yn fy nghell yr ydwyf, mai dyma fy nghwmni, ac nad oes braidd neb yn gweled ond rhyw metamorphoses o honof ar golofnau yr Amserau." Dyma fywyd dedwydd! I un o'i fath ef, oni b'ai am ychydig o "wibed meirw" oedd yn anhwyluso rhyw gymaint ar ei gwpan, braidd na thybiem mai dyma un o'r cyfnodau mwyaf dedwydd yn ei fywyd. Yn Mehefin, 1853, bu yn fuddugol ar draethawd ar "Addysg y rhyw Fenywaidd," yn nghylchwyl lenyddol Dinorwic, a chanmolid y traethawd yn fawr gan y beirniad—Eben Fardd. Yr ail oedd Mr. R. J. Derfel. Ymddangosodd erthygl o'i eiddo hefyd yn Hogg's Instructor tua'r adeg hon. Yn 1855 ysgrifenodd amryw lythyrau i'r Oenig, dan yr enw Siôn Llwyd, Pentre Sais. Ac yn y Traethodydd am 1857 ymddangosodd erthygl o'i eiddo ar Mendelssohn. Ond er mai mewn unigrwydd dystaw yr oedd yn treulio y rhan fwyaf o'i amser, yr oedd yn sylwi yn fanwl ar bob symudiadau oedd yn cymeryd lle o'i amgylch yn Liverpool, yn gystal ag yn y byd mawr, ac yr oedd yn mesur a phwyso yn ddyfal bob cerddor, llenor, bardd neu bregethwr y caffai gyfleusdra i wrando arno, ac yr oedd ei feirniadaeth arnynt yn dangos craffder mawr, a meddwl treiddgar. Nis gallwn yma ddyfynu o'i lythyrau, ond hyderwn yr argreffir cryn lawer o honynt, am y byddant, nid yn unig yn wir alluog ond hefyd yn ddyddorol ac adeiladol. Ceir engraifft deilwng yn y "Dyfyniadau o lythyr at Gyfaill" yn yr Oenig, Cyf. II., tu dal. 108. Yr oedd ganddo syniadau uchel am y weinidogaeth a'r hyn oedd yn deilwng o honi, a chondemniai yn ddiarbed bob peth israddol. Cymerer y canlynol fel esiampl,* "Nid wyf yn meddwl y gall neb fod yn teimlo yn fwy gwrthwynebol i ryw sing—song o bregethu na thraethu na myfi. Y mae dull a phregethu y corff mawr o'r Saeson yma yn peri i mi golli pob amynedd wrth eu gwrando. O ddifrif, pa ryfedd fod corff y bobl y dyddiau hyn yn Lloegr yn ymddyeithrio oddiwrth yr hyn a elwir yn grefydd, ac a bregethir fel efengyl Byddai yn rhaid wrth wyrthiau i'w hattal. Y mae llawer iawn gormod o gorachod meddyliol yn llenwi pulpudau Cymru hefyd, dynion eiddil, cysglyd, dioglyd, y rhai ni allant, ac nad oes yn eu bryd i gyflawni dim uwch na bod yn ostyngedig i'r 'galluoedd sydd'—bod mor dduwiol-ymddangosiadol ag y mae modd—a phatchio i fyny nifer o ymadroddion pregethurol ar lun pregeth—a dysgu rhyw dôn na chlywir ei chyffelyb, ïe yn wir, na oddefir ei chyffelyb mewn unrhyw gymdeithas ag y byddo common sense a chanddo ryw lywodraeth arni." Wrth feddwl am fod yn bregethwr ei hunan, dymunai fod yn bregethwr da, nid yn "common jack," chwedl yntau. "Ond ni fu erioed yn boblogaidd yn Liverpool—y select few yn unig oedd yn ei edmygu. Yn wir, cafodd laweroedd o wrthwynebiad oddiwrth rai nad oeddent deilwng i ddattod carai ei esgidiau. Er mai wedi myned oddiyma y cyrhaeddodd boblogrwydd, yma, yn yr hen ystafell dlodaidd yr olwg arni yn St. Anne Street—mewn unigedd hen—lancyddol, y gosododd y sylfaen."[12]

"1858, Oct. 21. Removed to Aberdare to edit 'Y Gwladgarwr.'"

Cawn ychydig o hanes yr achos o'r symudiad hwn gan y Parch. D. Saunders:[13]—"Tybiwyd yno (yn Aberdâr) yn dymunol i sefydlu newyddiadur o'r enw Gwladgarwr, ac amlygwyd dymuniad, os oedd hyny yn bosibl, i sicrhâu gwasanaeth eu cyfaill Mr. Roberts fel golygydd y cyfryw newyddiadur. Llwyddwyd i'w gael, a bu yn byw yn Aberdâr am dair neu bedair blynedd, yn ystod yr hwn amser y bu yn gymydog iddo ef (Mr. Saunders) trwy gyfanneddu yn nhŷ diacon a chyfaill goreu iddo, sydd erbyn hyn wedi myned ato i'r wlad hono lle cenir 'Cân Moses a chân yr Oen.' Pan ddaeth i Aberdâr, nid oedd ganddo ond tocyn aelodaeth fel aelod cyffredin o'r Cyfundeb Methodistaidd; ni thybiodd y Cyfarfod Misol ei fod yn ddim amgen nag aelod cyffredin.[14] Yn y lle olaf a enwyd (Aberdâr), cyfarfyddodd â chyfeillion caredig a hynaws—cyfeillion yn gallu cydymdeimlo âg ef; a thrwy ychydig ddylanwad â'r Cyfarfod Misol, dechreuwyd hwylio ei gamrau, nes o'r diwedd y derbyniodd ganiatâd i bregethu yn rheolaidd, a chyn hir cafodd ei ordeinio i gyflawn waith y weinidogaeth." Llettŷai dros yr holl amser y bu yn Aberdâr cyn ac wedi priodi yn nhŷ Mr. William Morgan (Y Bardd). Y mae yma ychydig gamgymeriad gyda golwg ar yr amser y bu yn byw yn Aberdâr,—llai o bythefnos na blwyddyn y bu yno, fel y cawn sylwi yn fanylach eto. Ond blwyddyn bwysig oedd hon iddo yn ei dygwyddiadau. Nid ymddengys fod ei gysylltiad â'r Gwladgarwr yn un dedwydd—nid oedd cynnwys cyffredinol y papyr yn gyfryw ag a gymeradwyai; gollyngid i mewn iddo bethau rhy isel eu chwaeth, er mwyn boddio y llïaws, yr hyn oedd yn flinder i'w ysbryd ef, fel y penderfynodd roddi yr olygiaeth i fyny, a gwnaeth felly.

Fel y sylwyd, yn Aberdâr y dechreuodd bregethu. Cyfarfyddasai â'r Parch. D. Saunders yn Liverpool pan yn swyddfa yr Amserau, a chawn grybwylliad am dano yn un o'i lythyrau, dyddiedig Tachwedd 18fed, 1856; ond nis gwyddom yn sicr ai dyma adeg y cyfarfyddiad cyntaf. A pheth rhyfedd yw cyfarfyddiad dynion â'u gilydd. Y maent yn debyg i'r darnau o gorcyn yn nofio ar wyneb y dwfr; weithiau gwelir hwy yn troi o amgylch eu gilydd am gryn amser cyn dyfod at eu gilydd, fel pe mewn "blys ac ofn," ond o'r diwedd yn ymollwng at eu gilydd; bryd arall y mae y ddau fel pe yn adnabod eu gilydd trwy reddf, ac yn llithro yn naturiol at eu gilydd ar eu hymddangosiad cyntaf. Felly meddyliau, weithiau byddant yn hir cyn adnabod eu gilydd, bryd arall bydd fel pe b'ai rhyw affinity naturiol yn eu tynu ynghyd. Gallem dybied mai felly y bu gyda Mr. Saunders ac Ieuan Gwyllt. "Y tro cyntaf y daethant i gyffyrddiad â'u gilydd ydoedd yn Lerpwl, lle yr oedd Ieuan Gwyllt, er nad oedd ond dyn ieuanc, yn olygydd ar yr Amserau. Dechreuodd rhyngddynt y pryd hwnw gyfeillach a barhâodd hyd ddydd ei farwolaeth; ac hefyd, yn bellach na hyny, yr oedd rhyngddynt gyfeillgarwch na ddarfyddai byth." [15] Wedi dyfod i Aberdâr yr oedd yn aelod o'r eglwys yr oedd Mr. Saunders yn weinidog arni. Ac yr oedd rhai eraill yn Sir Forganwg wedi canfod ynddo ddefnyddiau "gweinidog cymhwys y testament newydd" eisoes, er mai mewn ffordd "afreolaidd" yr oedd yn gweithio; ac yr oedd yn awr wedi disgyn i gylch oedd yn gallu gwerthfawrogi a chydymdeimlo; ac nid hir y bu pethau cyn gael eu gosod yn eu lle, fel y dylasent fod ymhell cyn hyny. Yr oedd yr awyrgylch yma yn bur wahanol i Liverpool; yno nid oedd ond ychydig gyfeillion—y select few, yn ei adnabod; yn awr yr oedd y cylch yn ëangach o lawer, a'u dylanwad yn gryfach. Dechreuodd felly yn rheolaidd, yn ol trefn y Methodistiaid yn Sir Forganwg y pryd hyny, a chymeradwywyd ef gan y Cyfarfod Misol. Mae Aberdâr a Sir Forganwg yn haeddu clod am hyn; nis gwelodd Aberystwyth a Sir Aberteifi y defnyddiau—nis dadguddiwyd i "ddoethion a deallus" tref Liverpool—ond cafodd Sir Forganwg y fraint o ddywedyd "Duw yn rhwydd" wrtho, ac agor y drws i "ŵr mawr yn Israel" ddyfod i'r golwg, ac i gylch mawr ei ddefnyddioldeb.

Dygwyddiad pwysig arall yr adeg hon oedd ei briodas.

"1859, Jan. 4. Married to Jane Richards at Jewin Crescent Chapel, the Rev. O. Thomas officiating."

Un o Aberystwyth oedd hi, ac yr oedd wedi dyfod i gydnabyddiaeth â hi yn ystod ei arosiad yno. Gallasai ambell un dybied ei fod wedi gwneyd camgymeriad mawr yn ei ddewisiad ei bod hi yn meddu gormod o'r un tueddiadau ag ef ei hunan. Tybir yn gyffredin i ddyn reserved, dystaw, tueddol i fod yn ymneillduedig, mai cael gwraig gymdeithasgar, nwyfus, a gwyneb-agored fuasai oren; tra o'r ochr arall, i ddyn tymherog a hedegog, y buasai gwraig dawel a hunanfeddiannol yn well. Gall fod gwirionedd yn hyn mewn llaws o amgylchiadau. Ond tybiwn fod Mr. Roberts wedi cael gwraig o'r dosbarth cyntaf. Dichon y gallasai un wahanol fod yn fwy o gymhorth mewn rhyw ychydig o bethau; ond buasai gwaith mawr ei fywyd ef wedi cael ei rwystro i raddau helaeth, os nad ei lwyr ddyrysu. Ond er fod ei serchiadau yn gryfion, eto y mae yn ddiammheu genym mai nid ar amcan y gwnaeth efe ei ddewisiad, ond ei fod wedi ystyried yn dda cyn cymeryd cam mor bwysig. Un reserved (neillduol felly), dawel, ddystaw, eto yn meddu synwyr cryf a gallu neillduol, ni a feddyliem, i gydymdeimlo âg ef yn ei amcanion a'i ymdrechion, ac ar yr un pryd yn gallu llwyr ofalu am bob peth amgylchiadol, fel ag i adael ei feddwl ef yn rhydd at ei waith ei hun. Mewn gair, yr ydym yn gallu gweled yn awr ei bod mor neillduol gymhwys iddo ef, fel nas gallwn lai na chredu nad rhagluniaeth Duw a'i darparodd i fod yn "ymgeledd gymhwys iddo," a'i fod wedi gofyn am gyfarwyddyd y Nefoedd yn y dewisiad o honi.[16]

Yr adeg hon hefyd daeth y dygwyddiad hir—ddysgwyliedig oddiamgylch, sef ymddangosiad y Llyfr Tonau Cynnulleidfäol.

"1859, April. Llyfr Tonau Cynnulleidfäol was published."

"Wedi bod yn gweithio yn galed (dros chwe' blynedd, fel y dywedodd wrthym), yn chwilio llyfrau goreu y wlad hon a gwledydd eraill am y tonau goreu a mwyaf priodol, gohebu â llawer o'r prif gerddorion, yn gofyn eu cyfarwyddyd a'u cynnorthwy, heblaw cyfansoddi a chynganeddu, trefnu a chaboli llawer ei hunan, ac fel pe buasai y Nefoedd wedi rhagdrefnu, daeth y Llyfr Tonau allan yn ei iawn bryd."[17] Yn Liverpool y cyflawnodd bron y cwbl o'r llafur hwn, ac yr oedd y llyfr yn y wasg pan y symudodd i Aberdâr. "Trwy garedigrwydd rhai cyfeillion yno,[18] llwyddodd i gael cynnorthwy i ddwyn allan yr argraffiad cyntaf o'r llyfr tonau hwn. Y mae yn debyg na ddychymygodd y buasai yn dyfod mor boblogaidd; ac eto meddai gryn lawer o ffydd ynddo, fel yr anturiodd ystrydebu yr argraffiad cyntaf hwnw, gan brophwydo y buasai y wlad rywbryd yn agor ei llygaid i weled ei ragoriaethau, ac i wneyd defnydd o hono. Cyrhaeddodd y llyfr ei ail argraffiad; ond aeth yr argraffiad cyntaf a'r ail i dalu traul yr ystrydebu, heb ddwyn dim elw i'r sawl oedd wedi llafurio i'w ddwyn allan."[19] Cawn gyfle eto i sylwi yn fwy manwl ar neillduolion y llyfr. Cyrhaeddodd yn fuan gylchrediad helaeth. Yn Medi, 1861, cawn hysbysiad am y nawfed a'r ddegfed fil; yn Chwefror, 1862, hysbysiad am yr 1leg a'r 12fed fil; ac yn Ngorphenaf, 1863, am yr 16 a'r 17eg fil! "Nid oes eisieu crybwyll bron i'r llyfr anmhrisiadwy hwn gael y derbyniad mwyaf gwresog gan bob cynnulleidfa yn ddiwahaniaeth a ganai yn Gymraeg. Mewn ystyr gerddorol, yn ddiau, dyma'r ergyd mwyaf llwyddiannus yn yr oes hon, yr hyn a brawf fod gan ein hawdwr lygad eryraidd i ganfod beth oedd eisieu, a digon o wroldeb i gario allan ei ddrychfeddwl yn yr amser ac i'r fantais oreu."[17] Yr oedd cyhoeddiad y llyfr hwn yn gyfnod pwysig yn hanes Ieuan Gwyllt. Cynnaliwyd Cymanfa o ganu cynnulleidfäol yn Aberdâr, Ionawr 10fed, 1859, dan arweiniad Mr. Roberts, ac efe ei hun oedd wedi dethol y Tonau a'r Emynau. Yr oedd y Llyfr Tonau heb ddyfod allan eto, ond yr oedd mor bell ymlaen fel y gallai Mr. Roberts gael y gerddoriaeth yn gystal a'r geiriau ar y programmes, ac yn rhoddi mantais iddo yntau roddi prawf ar gynnwys y llyfr. Gwneid y cantorion i fyny o gorau Undeb Cerddorol Dirwestol Gwent a Morganwg, a bydd genym sylw arni mewn lle arall. A dygwyddiad hapus oedd ei ddyfodiad i Aberdâr yr adeg hon; disgynodd i blith cyfeillion mynwesol, a allent gydymdeimlo âg ef, a cherddorion oeddynt yn ddigon addfed i gymeryd i fyny ei ysbryd, fel y cafodd yn nghapel Bethania gryn fantais i roddi prawf ar ei ideal ef o ganu cynnulleidfäol. "Yr ydym yn ei gofio yn dda yn arwain y canu yn yr ysgol gân yn y capel uchod, ac yn gosod i lawr yno yr hadau a dyfasant wedi hyny yn brenau ffrwythlawn trwy Gymru i gyd. Yno yr oedd y diweddar Mr. Joseph Hughes (Joseph y saer), un o'r dechreuwyr canu goreu, mwyaf gofalus, sicr a soniarus a glywsom erioed, yn pitchio y tonau. Mr. Daniel Griffiths, un o'r cerddorion mwyaf ymarferol a choethedig a fedd y wlad; a'r prif ddysgyblwr a chynghorwr, y pryd hwnw ac yw eto, yn y lle ar bynciau yn dwyn cysylltiad â cherddoriaeth y cysegr. Mr. William Morgan—(William), neu y Bardd, fel yr arferai Mr. Roberts ei alw. William fyddai, ac sydd eto yn darllen a deongli y pennillion; ac yr oedd mor gelfydd, ac eto mor naturiol gyda y gwaith hwn, fel yr ymhyfrydai Ieuan ei glywed bob amser yn gwneyd hyn, yn hytrach na'u darllen ei hunan. Tua'r amser hyn hefyd y daeth Mr. D. Rosser, un o'r lleiswyr mwyaf melfedaidd, i'r lle o Dowlais, fel y syrthiodd yr arweinyddiaeth gyhoeddus yn y man i'w ddwylaw ef. Mr. Edward Williams hefyd (Edward Defynog), un o'r darllenwyr cerddoriaeth mwyaf cyflym a chywir y pryd hwnw. Efe oedd arweinydd y tenor yno; yn sêt y tenor yr oedd Mr. Silas Evans (Cynon), yn awr o Abertawe; Mr. W. Griffith, a symudodd wedi hyny i Australia; Mr. W. Roberts (sydd yn y graian er ys blynyddoedd), ac ysgrifenydd y nodiadau hyn. Pedwar tua'r un oedran yn orhoff o ganu, ac ynddynt awydd angerddol i ddeall cerddoriaeth, a dyfod yn gerddorion. Yr oeddynt â'u llygaid a'u clustiau yn llydan agored i dderbyn gwersi ac awgrymiadau Mr. Roberts, ac yfasant eu dysgeidiaeth fel yfed dwfr. Yr oedd mor bur, mor fresh, a'i ddullwedd yn ei chyfranu mor hynaws, mor sobr ac ennillgar. I ddwylaw y personau hyn ac eraill, o bosibl, nas gallwn eu dwyn i gof y fynyd hon, y syrthiodd y gwaith boddhâus o ddarllen a chanu oddiar y proof sheets, y tonau cyntaf, mesur 10au, yn y Llyfr Tonau Cynnulleidfäol. Yr ydym yn cofio fel pe buasai ddoe, yr effaith a gafodd yr hen donau: "Clod," "Warsaw," "Coburg" ac "Erfyniad" arnom; ac fel y gwenai yntau (gwên nad oes yn bosibl ei darlunio, pan y caffai ei foddhâu) wrth arwain a chanu bass. Yr oedd yr ychydig gantorion a enwyd, ag eithrio, fe allai, y pedwar ieuengaf o honynt, yn gallu deongli a mwynhâu y gerddoriaeth buraf y pryd hwnw. Mor gyflym hefyd y cymerodd y gynnulleidfa hon (Bethania) i fyny arddull y tonau syml ond mawreddog hyn, ac eu llanwyd gan eu hysbryd. Ond, wrth gwrs, yr oedd cael presennoldeb y fath gerddor i egluro a chynghori yn fantais anghyffredin at hyny. A rhaid i ni sylwi yn y fan hon mai nid ychydig oedd y gwasanaeth a wnaeth y gynnulleidfa hon, ynghyd ag ychydig o gynnulleidfäoedd eraill o chwaeth uchel, tuag at ddwyn y gwaith i sylw, ac i gael ei werthfawrogi. A theg yw dyweyd fod canu cynnulleidfäol Bethania bob amser yn ei foddhâu; a hoffai siarad am dano hyd ei ddyddiau olaf."[20]

Yn mis Mai y flwyddyn hon (1859), ymddangosodd y rhifyn cyntaf o Delyn y Plant, cyhoeddiad misol bychan ceiniog i'r plant, o dan olygiad y Parch. Thomas Levi ac Ieuan Gwyllt, yr hwn a barhâodd i ddyfod allan hyd Rhagfyr, 1861, pryd y rhoddodd i fyny ar ymddangosiad Trysorfa y Plant, dan nawdd ac yn eiddo i Gyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd. Rhyw hanner dwsin o ysgrifau oedd y cwbl a ysgrifenodd Ieuan Gwyllt i'r cyhoeddiad bychan hwn, heblaw darparu bron yr oll o'r Tonau a ymddangosodd ynddo.

Mae ôl llaw Rhagluniaeth i'w gweled yn amlwg yn ei arweiniad i Aberdâr. Cyn gadael Liverpool, yr oedd wedi cyttuno i fyned i un o'r swyddfeydd uchaf yno; ond cymerodd ail feddwl, ac ymryddhäodd, am ei fod yn tybied na buasai yn gallu cael chwareu teg i bregethu yr efengyl. Wedi dyfod i Aberdâr, cafodd ei hun yn nghanol cyfeillion ac edmygwyr, a bellach y mae meusydd yn ymagor yn ëang o'i flaen ac ar bob llaw, ac yntau yn ymdaflu â'i holl enaid i wasanaethu ei wlad a'i genedl yn y cylchoedd a ddymunai ac y gallai fod yn ddefnyddiol ynddynt. Mewn rhyw ystyriaethau, gellid dyweyd mai dyma'r adeg y dechreuodd fyw i bwrpas. Awyddai weithio, ond nis caniateid ef, Morganwg a agorodd y drws yn ehelaeth iddo.

"1859, Oct. 7th. Removed to Merthyr Tydfil to take charge of Panttywyll Chapel."

"Yr oedd y gair da oedd i Mr. Roberts yn Aberdâr wedi creu awydd cryf arnom yn y lle tywyll hwn i'w gymhell i fyw a llafurio fel Bugail yn ein mysg. Ni chawsom siomedigaeth."[21] Dyma fel yr ysgrifenai Mr. W. Morris, un o ddiaconiaid y lle. Yr oedd bellach yn ei elfen ei hun, ac ymroddodd "o lwyrfryd calon" i gyflawni ei waith yn y gwahanol gylchoedd, ac yr oedd yn gymeradwy iawn. Yr oedd "arogl esmwyth" ar ei holl lafur gyda'r plant a'r rhai mewn oedran yn y cyfarfodydd eglwysig a'r cyfarfodydd darllen, a gwerthfawrogid Mrs. Roberts hefyd yn ei llafur yn eu plith. Dangosodd efe ei fod yn gwbl anhunanol a diariangar yn eu mysg, o herwydd pan fyddai yn gwasanaethu mewn lleoedd eraill, ni fynai dderbyn dim am yr amser hwnw gan y brodyr yn y Pant-tywyll. [22]

Yn Sir Forganwg yr oedd wedi syrthio ymhlith cyfeil!ion a brodyr oeddynt yn gallu adnabod ei werth, a rhoddi pob lle iddo. Fel y sylwasom, rhoddwyd lle rhwydd iddo i bregethu, ac yn 1861 dewiswyd ef gan y Cyfarfod Misol· i'w ordeinio i gyflawn waith y weinidogaeth. Yr oedd hyn yn groes i'r rheol—neu yn hytrach, yn ei achos ef, yn eithriad uwchlaw y rheol—oblegid y rheol ydoedd, fod i un bregethu am bum' mlynedd cyn cael ei ordeinio, ond nid oedd prin ddwy flynedd er pan gydnabyddasid ef yn rheolaidd. Cymerodd yr ordeiniad le yn Nghymdeithasfa Castellnewydd Emlyn.

"1861, Awst 7, Ordeiniwyd yn Nghymdeithasfa Castellnewydd."

Yr oedd eithriad arall hefyd yn y Gymdeithasfa hono, mewn cysylltiad â dewisiad un i'w ordeinio trwy ffordd a alwyd ar ol hyny yn y Deheudir wrth yr enw, "drws Arthur." Yn nghofnodau y Gymdeithasfa cawn fel y canlyn:—"Dydd Mercher y 7fed, yn Nghyfarfod y Pregethwyr (am hanner awr wedi 8 o'r gloch yn y bore), ymddyddanwyd â'r brodyr a benodwyd i'w neillduo at waith cyflawn y weinidogaeth. Cyfarfod yr Ordeiniad am 9 o'r gloch. Enwau y brodyr a neillduwyd yw,—William Evans, Sir Benfro; David Wales, Daniel Williams, Thomas Davies, Thomas Thomas, Philip J. Walters, a T. James, M.A., Sir Gaerfyrddin; John Roberts a Thomas John, Sir Forganwg; Thomas Davies a Thomas Edwards, Sir Fynwy; David Williams ac Elias Jenkins, Sir Frycheiniog. Dechreuwyd trwy weddi gan y Parch. H. Powell, America. Darllenwyd y rhanau arferol o'r Gair a gweddiwyd gan y Parch. O. Thomas, Llundain. Ymholwyd o barth rheoleidd—dra dewisiad y brodyr gan y Cadeirydd (y Parch. T. Edwards, Penllwyn), ac atebwyd yn gadarnhäol gan Mr. J. Havard, Meidrim. Traethwyd ar Natur Eglwys gan y Parch. D. C. Davies, M.A., Llundain. Gofynwyd y Cwestiynau gan y Parch. L. Edwards, M.A., Bala. Rhoddwyd y Cynghor gan y Parch. E. Matthews, Eweny. Dybenwyd trwy weddi gan y Parch. W. Lewis, Cassia."[23] Wedi cael ei gadw yn hir cyn dechreu, ar ol cychwyn, esgynodd Ieuan Gwyllt yn gyflym i'w safle deilwng fel Gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd.

Yr oedd y gwaith yn awr yn pentyru ar ei ddwylaw o bob cyfeiriad. Yn Mawrth, 1861, dechreuodd y Cerddor Cymreig ymddangos, yr hwn a gyhoeddai yn hollol ar ei gyfrifoldeb ei hun am y pedair blynedd cyntaf. Y flwyddyn hon hefyd, dechreuodd Undebau Canu Cynnulleidfäol godi eu penau mewn llawer o ranau o'r wlad, a gelwid arno yn fynych iddynt, ac i ddarlithio neu bregethu. Yn Mehefin 29ain, 1861, cawn ef yn tystio[24]:—"Hwyrach na chredwch fi, ond y gwirionedd plaen a dilen ydyw, cydrhwng fy nyledswyddau gweinidogaethol yma ac mewn manau eraill, yr Undeb Canu Cynnulleidfäol yma ac mewn dosbarthiadau eraill, y cyfarfodydd llenyddol a'r mân Eisteddfodau, ynghyd ag ysgrifenu yr oll o'r Cerddor—fel yr wyf wedi gorfod, er pan y cychwynodd yr wyf yn mwy na hanner lladd fy hun gan waith." Yn nechreu haf 1862, cawn ef ar daith gerddorol yn Meirionydd a Lleyn, ac ysgrifena[25]:— "Y mae y pryder a'r prysurdeb mewn cysylltiad â'n Cymdeithasfa yn Merthyr,—beirniadu dros 300 o wahanol gyfansoddiadau mewn rhyddiaeth, barddoniaeth, cerddoriaeth, &c., at Eisteddfodau y Pasg—wyth nos oddicartref ar daith trwy ran o Sir Frycheiniog—ac yn uniongyrchol ar ol hyny, yr oedd yn rhaid i mi gychwyn i'r daith hon, y mae yr holl bethau hyn, trwy ddilyn eu gilydd mor agos, wedi fy ngadael heb nemawr ddim amser i mi fy hunan." Dengys hyn i ni ei fod yn llafurio yn galed, ac yn cael llonaid ei ddwylaw o waith. Yn nechreu y flwyddyn hon hefyd yr ydym yn ei gael yn brysur gyda chyfieithu ei Lyfr Tonau i'r Tonic Sol-ffa,—cyfundrefn ag yr oedd efe bellach wedi dyfod i adnabod ei buddioldeb, ac yn ei defnyddio i ddysgu elfenau cerddoriaeth i'r plant. Yn 1863 cawn ef ar daith gerddorol drwy Sir Gaerfyrddin, ac un arall drwy Sir Fôn, ar wahoddiad cynhes y Cyfarfod Misol; ac yn niwedd y flwyddyn hon fe basiodd arholiad am y Dystysgrif Elfenol a'r Dystysgrif Intermediate yn y Tonic Sol-ffa. Yr arholydd ydoedd ei hen ddysgybl a'i gyfaill Mr. E. Roberts, Liverpool, ac ymddangosodd ei enw wedi pasio yn y Cerddor Cymreig, Ionawr 1864. Yn y flwyddyn 1864, ymddangosodd ei Lyfr Tonau yn y Tonic Sol-ffa, ac yr ydym yn cael hysbysiad am draethawd ar Gerddoriaeth dan yr enw Aberth Moliant, ond nis gwyddom a ddaeth y traethawd hwn byth allan o'r wasg. Y mae yn awr, hefyd, yn dechreu cael y gwaith o arholi efrydwyr am Dystysgrifau yn y Tonic Sol-ffa, ac ymddengys enwau y rhai a basiwyd ganddo yn y Cerddor Cymreig o fis i fis, am flynyddoedd, ac nid oedd neb yn Nghymru, mae yn debyg, wedi arholi cynifer o ddysgyblion âg ef. Fel hyn, yr oedd yn ymroddi o ddifrif i weithio, ac nid arbedai ei hunan yn y gwaith.

Teimlai ef a Mrs. Roberts nad oedd tref fyglyd Merthyr yn lle cysurus i fyw ynddi, a theimlai awydd symud, er nad oedd dim mewn un modd yn anghysurus yn y cysylltiad rhyngddo ef â'r achos yn y Pant-tywyll. Cafodd alwad o Ddowlais (1865—o eglwys Hermon, mae'n debyg), ac yr oedd efe yn hoff iawn o gyfeillion Dowlais; ond teimlai Mrs. Roberts y buasai Dowlais yn llawn mwy anghysurus i fyw ynddo na Merthyr, ac os oedd modd iddynt fyw yn Merthyr ac iddo weinidogaethu yn Nowlais, yr oedd yn foddlawn. Ond ni theimlai efe y byddai hyny yn iawn, ac nid oedd ei ogwyddiad yn gryf iawn am fyned yno. Tua'r un adeg daeth galwad arall o Lanymddyfri; ac yr oedd y lle hwnw, ymysg pethau eraill, yn nês i'w hen gartref, ac yr oeddynt ill dau wedi cyttuno i gydsynio â'r cais. Un boreu, ar frecwast, gofynai Mrs. Roberts iddo a ydoedd wedi ateb cyfeillion Llanymddyfri. "Nac wyf, yn wir," meddai; "rhaid i mi wneyd heddyw, a dylaswn fod wedi gwneyd yn gynt." Cyn hir daeth y post i mewn, a chydag ef lythyr, yr hwn, wedi ei ddarllen, y galwai sylw Mrs. Roberts ato. "Welwch chwi, Jane, dyma beth digon rhyfedd;" a darllenai y llythyr iddi, yr hwn a gynnwysai alwad oddiwrth eglwys Capel Coch, Llanberis. Yr oedd hyn yn newid y cwestiwn, a dywedai wrth Mrs. Roberts ei fod yn meddwl nad anfonai atebiad i Lanymddyfri y dydd hwnw. Pan ofynai hi pa le oedd Llanberis, dywedai, "Y lle prydferth hwnw yn Sir Gaernarfon yr oeddych chwi yn tybied y dymunech fyw ynddo." Fel gŵr doeth, gwnaeth ymholiad manwl ac ymgynghoriad ynghylch y lle; ac wedi ystyriaeth briodol, penderfynodd roddi atebiad cadarnhäol i gais yr eglwys yn y Capel Coch, a gwnaeth hyny. "Ar ei ymadawiad o Pant-tywyll i fyned i Lanberis, gwnaethpwyd tysteb iddo, nid er ei anfon ymaith, fel y dywedir fod rhai yn gwneyd, eithr oddiar wir barch iddo."[26]

"1865, August 29th. Removed to Llanberis to take charge of the church at Capel Coch."

Nid oes unrhyw reswm neillduol i'w roddi paham y meddyliodd yr eglwys hon am alw Ieuan Gwyllt yn weinidog iddynt, ond eu bod ar y pryd wedi cael ar eu meddyliau alw am un i'w bugeilio, ac wedi bod yn edrych o'u hamgylch am un cymhwys, ac fe ddichon, trwy ryw gyfrwng neu gilydd, wedi dyfod i ddeall ei fod ef yn agored i symud. Trwy rywbeth digon anesboniadwy, yr oedd yntau yn meddu tuedd gref i ddyfod i'r Gogledd; ac yr oedd hyny yn beth rhyfedd, oblegid yr oedd y nifer mwyaf o lawer o'i gyfeillion a'i gydnabod yn y Deheudir. Trwy gydgyfarfyddiad y ddau beth hyn, aeth yn briodas rhyngddo ef ac eglwys y Capel Coch, a thybiwn mai priodas ddedwydd iawn a fu am yr adeg y parhäodd, er fe ddichon nad heb ryw ofidiau, mwy na phob priodas arall. Wedi myned yno, efe a ymroddodd yn ddifrifol i gyflawni holl waith y weinidogaeth yn ffyddlawn, a gwnaeth hyny. Cawn sylwi mewn lle arall arno yn ei lafur fel Gweinidog a Bugail, ac felly nid oes eisieu i ni ymhelaethu yma, ymhellach na dyweyd y cofir am dano gydag anwyldeb mawr gan yr eglwys yn y Capel Coch, ac y teimlir parch o'r dyfnaf i'w goffadwriaeth o herwydd ei lafur dyfal yn eu plith. Yr anfantais fwyaf yr oedd yn llafurio dani i fod yn effeithiol ydoedd swm ei lafur mewn cylchoedd eraill, yr hyn ni leihäodd, eithr yn hytrach a gynnyddodd wedi ei symudiad i Lanberis.

Yn y Gymanfa Gyffredinol yn Abertawe yn 1864, etholwyd ef yn aelod o Bwyllgor Llyfr Hymnau y Methodistiaid Calfinaidd; eithr y mae yn debyg mai wedi ei ddyfod i Lanberis y daeth pwysau y gwaith mewn cysylltiad â'r Llyfr Hymnau hwnw yn helaeth iawn arno ef, fel y cawn sylwi eto. Teithiai lawer iawn, yn enwedig gyda cherddoriaeth, ac yn ngwanwyn 1866 cychwynwyd, yn benaf trwy ei lafur ef, Undeb Cerddorol Dirwestwyr Eryri—rhywbeth ar yr un cynllun ag Undeb Cerddorol Dirwestol Gwent a Morganwg; a dygwyddodd i ni fod yn bresennol mewn dau o'r rehearsals ar gyfer y Gymanfa yr haf hwnw, pryd yr elai efe i ymweled â'r corau, ac i'w parotoi ar gyfer y Gymanfa. Rhoes yr undeb hwn symbyliad pwysig i ganu corawl a chynnulleidfäol yn Arfon, ac y mae yn debyg nad oedd Arfon erioed wedi clywed cystal a chàn goethed canu ag a gafwyd trwy yr Undeb hwn. Efe fu yn arwain yn yr holl gymanfäoedd ond un, a chostiai lafur mawr iddo ef i fyned o amgylch gyda'r rehearsals. Y flwyddyn ganlynol cychwynwyd Undeb cyffelyb yn Sir Feirionydd, dan yr enw Undeb Cerddorol Dirwestwyr Ardudwy, a chynnaliwyd y gylchwyl gyntaf yn yr haf 1868, ymha un yr oedd efe yn arweinydd, yn gystal a'r un ddilynol. Yn 1869 cychwynwyd Cerddor y Tonic Sol-ffa ar ei ben ei hun, ac yr oedd ganddo bellach ddau Gerddor i ofalu am dano bob mis.

Cafodd dderbyniad cynhes yn Sir Gaernarfon gan ei frodyr ymhob cylch; yr oedd ei safle a'i ddylanwad fel eerddor yn rhoddi hawl iddo i le blaenllaw, a chafodd hyny yn ddirwystr, ac ymdaflodd yntau â'i holl galon i weithio gyda holl symudiadau ei Sir fabwysiedig, yn gerddorol, yn foesol, yn wladol ac yn grefyddol.

Yr oedd tymmor ei arosiad yn Llanberis yn dymmor o gynnydd mawr ar y lle, ac aeth y Capel Coch yn fuan yn rhy fychan, a phenderfynwyd adeiladu capel helaeth arall mewn rhan o'r lle yr oedd adeiladu yn myned ymlaen yn gyflym. Gwnaed y capel yn bur helaeth, yn dangos tipyn o ffydd, a chraffder i weled i'r dyfodol; agorwyd ef dan yr enw Gorphwysfa yn 1867, ac erbyn hyn y mae wedi myned yn rhy fychan.

Wedi bod yn cynnal "pwys y dydd a'r gwres" fel hyn am tua phedair blynedd, a theimlo fod y gwaith llenyddol a cherddorol yn ormod iddo allu gwneyd cyfiawnder â bugeiliaeth eglwysig, penderfynodd o'r diwedd roddi gofal eglwys y Capel Coch i fyny, a gwnaeth hyny yn nechreu y gwanwyn, 1869. Prynodd brydles am ugain mlynedd ar y Fron ger Caernarfon, ac yr oedd wedi bwriadu ac wedi trefnu i dalu ymweliad âg America am chwe' mis, cyn dechreu ymsefydlu yn ei gartref newydd.

"1869. Symudodd i'r Fron ger Caernarfon."

Palasdŷ bychan prydferth anghyffredin, yn llygad yr haul, ar ael bryn tua dwy filldir o Gaernarfon i'r de—orllewin, ydyw y Fron. Nid yw ymhell o gulfor y Menai, ond fod y bryn bychan sydd wrth ei gefn cydrhyngddo a hi: ond esgyn i ben hwnw, ceir golygfa ëang ar y môr, y Menai a Môn. O flaen y palasdŷ hwn, tua'r dehau, y mae mynyddoedd ardderchog yr Eryri, gyda'r Wyddfa megys brenin arnynt, yn gorwedd fel panorama; ar y dde gwelir cyrion cymydogaeth boblogaidd Talysarn; ar gyfer y mae Rhostryfan a'r Waenfawr; ac ar yr aswy y mae Llanberis a Llanddeiniolen. Y mae safle y Fron, ynghyd a'r golyg feydd prydferth a geir o hono, yn ei wneyd yn nodedig o ddymunol, mewn lle tawel a heddychol, eto yn sefyll uwch ben, neu o flaen byd poblogaidd a phrysur. Prin y gallai dyn ddymuno paradwys fwy hapus ar y ddaear. Hwyrach mai yr unig anfantais ynddo ydoedd ei fod yn bell o bob railway station; ond y mae yn anmhosibl o'r bron gael. mangre heddychol y dyddiau hyn heb fyned i bellder felly. Yma y treuliodd Ieuan Gwyllt yr wyth mlynedd olaf o'i fywyd, yn nghwmni Mrs. Roberts, ac yn mwynhâu ystranciau y "ci du," o'r hwn yr oedd yn bur hoff. Wedi bod ar daith galed yn y Deheudir, neu un o Siroedd y Gogledd, yma y dychwelai i dawelwch i orphwys; ac yma mewn llonyddwch yr ysgrifenai lawer iawn. Bron na theimlwn yn falch ei fod wedi cael treulio nawnddydd ei fywyd llafurus mewn lle mor brydferth a dedwydd.

Ond nid yw y melus i'w gael heb y chwerw, ac nid yw pethau dedwyddaf y byd i'w cael heb brofedigaethau. Wedi symud i'r Fron, a threfnu pethau yno, cyfeiriai ei feddwl tua gwlad y Gorllewin, ac yr oedd dysgwyliad mawr am dano yno. Cymerodd ei bassage o Liverpool, aeth i daith Sabbothol ar ei ffordd tuag yno, ffarweliodd â Mrs. Roberts am chwe' mis; ond, "nid fy meddyliau i yw eich meddyliau chwi." Daeth o'i gyhoeddiad Sabbothol i dŷ Mr. W. Griffith, Stryd y Llyn, Caernarfon, nos Sabboth, i fod yn barod i gychwyn gyda'r train boreu drannoeth, ond yno teimlodd yn wael iawn; a dydd Llun, yn lle cychwyn i'r America, bu raid troi yn ol mewn cerbyd i'r Fron. Cafwyd fod yr afiechyd yn ymosodiad peryglus o'r pleurisy, ac am dymmor ofnai bron gael byw. Dadganai wrth Mrs. Roberts ei fod wedi meddwl cael byw gyda hi am ugain mlynedd yn y Fron, ond yr ymddangosai nad hyny oedd ewyllys ei Dad nefol; er hyny ymostyngai yn dawel i'w ewyllys. Ni phryderai ddim am ei gyflwr ei hunan, ond teimlai wrth feddwl gadael ei waith ar ei ganol, a'i gadael hithau yn unig; ond os oedd ei Arglwydd yn galw am dano, yr oedd yn berffaith foddlawn i ufuddhâu. Fodd bynag, yr oedd yn deall arwyddion ei afiechyd yn dda; ac erbyn un boreu yr oedd yn gallu dyweyd wrth y meddyg ei fod yn troi ar wella, a dyna fu y canlyniad. Ond wedi cael ei ddyrysu fel hyn gan Ragluniaeth i dalu ei ymweliad âg America, rhoddwyd y bwriad hwnw o'r neilldu yn hollol ac am byth.

Wedi gwella yn araf, ac ar ol maith wendid, dechreuodd ymaflyd drachefn yn ei waith. Parhaodd i olygu y Cerddor Cymreig hyd ddiwedd 1873, a Cherddor y Tonic Sol-ffa hyd ddiwedd 1874—yr adegau y rhoddwyd hwynt i fyny o ddiffyg cefnogaeth. Ar gais Pwyllgor y Goleuad, ymgymerodd â golygiaeth y papyr hwnw o Gorphenaf 1, 1871, hyd Ebrill 30, 1872, a llafuriodd yn galed, yn galed iawn. Ysgrifenai bob wythnos y nodiadau wythnosol, ac yn fynych ddwy, ac weithiau tair o ysgrifau golygyddol, heblaw golygu y gohebiaethau, ac ysgrifenu weithiau ar ryw faterion eraill iddo. Llafuriai o ddechreu 1871 hyd ei farwolaeth gyda Chyfarfodydd Ysgolion Dosbarth Caernarfon, y rhai a gynnelid bob dau fis, a chymerai drafferth fawr i barotoi ar gyfer y cyfryw. Yn 1874 yr oedd Mri. Moody a Sankey yn Ysgotland a Liverpool, ac aeth i'r manau hyny amryw weithiau i wrando arnynt a chymdeithasu â hwynt, a llanwyd ei ysbryd yn helaeth iawn o ysbryd y diwygiad hwnw; a gwelid ei ôl yn amlwg yn ei weinidogaeth a'i ymdrechion gyda'r canu cynnulleidfäol, mewn dwyseidd—dra a difrifoldeb. Gellid meddwl fod ei holl fryd ar gael dynion i brofi pethau mawr yr efengyl. Yn niwedd 1874, a 1875–76, yr oedd wrthi yn ddyfal yn cyfieithu emynau Mr. Sankey—Swn y Juwbili, a dysgwyliai i'r cynnulleidfäoedd eu mabwysiadu a'u canu gyda difrifoldeb; ac nid eu canu yn ddiystyr, yn yr hyn ni chafodd ei ddymuniad ond i raddau bychan. Llafuriai lawer gyda chymanfäoedd canu cynnulleidfäol, ac efe fyddai yn arwain ynddynt bron ymhob rhan o'r wlad. "Teimlem fod ei gymdeithas a'i gyfarfodydd yn foddion o ras i ni bob amser. Cafodd gymanfäoedd nodedig o hapus yn 1876 drwy yr holl wlad o'r bron, ac adroddai wrthym gyda blas ac hwyl nefolaidd am y dylanwad yr oedd y canu wedi ei gael arno.[27] Yr oedd yr addfedrwydd hwn yn ei ysbryd fel pe yn ei barotoi yn ei flynyddoedd diweddaf ar gyfer yr hyn oedd i ddyfod. Dywedai un tro wrth Mrs. Roberts ei fod yn meddwl, pe cawsai ddeng mlynedd yn ychwaneg o oes, y buasai wedi gorphen ei gynlluniau; "ond," meddai, "y mae llawer yn y dyddiau hyn yn cael eu tori i lawr ar ganol eu gwaith." Ac yr oedd felly fel pe buasai yn dysgwyl i'r alwad ddyfod, ac yn foddlawn os hyny oedd ewyllys Duw. Yr oedd y Fron yn gartref cysurus iawn, ond teimlai fod y lle yn fawr, ac yn rhoddi mwy nag a ddymunai o gyfrifoldeb ar ysgwyddau Mrs. Roberts i fod ynddo ei hunan; ac yr oedd yn cadw ei lygad yn agored i edrych a allai gael lle bychan cysurus i'w gosod ynddo. "A fuasech chwi yn hoffi myned i'r Deheudir eto?" meddai Mrs. Roberts wrtho un diwrnod. "Na, nid wyf yn meddwl myned o Arfon byth mwy i fyw," oedd ei atebiad. Yr oedd wedi ymgartrefu yn hollol gyda'i frodyr yn Arfon, ac yn cael fod y rhan hono o'r wlad yn fanteisiol a chyfleus iddo. Ychydig wythnosau cyn ei farwolaeth ysgrifenodd erthygl ragorol i'r Traethodydd ar "Fywyd ac Anllygredigaeth; a dywedai mewn llythyr at y Golygydd ei fod yn bwriadu dilyn ymlaen mewn ysgrif neu ddwy arall. Yr oedd ei feddwl yn ymwthio tuag angeu a'r bedd a'r pethau olaf. Yn niwedd mis Ebrill, 1877, bu ar daith drwy ranau o Sir Forganwg, a diweddai mewn cymanfa gerddorol yn nghapel y Cwm, Llansamlet, yr 2il o Fai. "Cafodd ganu bendigedig yno, yn enwedig ar yr hen anthem, 'Y cyfiawn drig yn y nef.' Collodd yr arweinydd arno ei hun, ac fe waeddodd allan, 'Braidd nad oes arnaf chwant bod yno.'"[28] Yr oedd wedi trefnu i fod gartref y Sabboth, Mai 6ed, cyn cychwyn i daith arall yn y Deheudir,; a mynwyd ganddo bregethu yn nghapel bychan Penygraig, lle yr hoffid ef yn fawr, ac y llafuriai yn ddyfal gyda hwynt, er nad oedd unrhyw gysylltiad bugeiliol rhyngddo ef a hwynt. Pregethodd ar y testun, "Y gelyn ddiweddaf a ddinystrir yw yr angeu;" ac yr oedd rhywbeth rhyfedd yn y bregeth hono. Nos drannoeth, nos Lun, yr oedd yno society, wedi ei rhoddi er mwyn ei gael ef yn bresennol, ac yn y society hono ymddyddenid am fater y bregeth; ac aed i son am hen grefyddwyr oeddynt wedi myned i'r nefoedd, a gwnaed hyny gyda chryn dipyn o flas, fel y dywedodd efe, "Yn wir, braidd nad wyf y fynyd hon yn teimlo hiraeth am gael bod gyda hwynt." Dydd Mawrth yr oedd pob peth yn barod, ac yntau wedi ymwisgo i fyned at y train i gychwyn i'w daith, ond am ei fod wedi cael anwyd trwm, perswadiwyd ef i aros hyd ddydd Mercher; ond erbyn y diwrnod hwnw yr oedd congestion of the lungs wedi ymaflyd ynddo, ac mewn cysylltiad â hyny congestion of the brain, fel yr aeth waethwaeth. Yn ei glefyd ymddyrysai, ond yn arwain y canu neu yn pregethu y ceid fod ei feddwl o hyd; a nos Lun, Mai 14, 1877, am 9 o'r gloch yn yr hwyr, ehedodd ei ysbryd at ei Waredwr, lle y cenir "Cân Moses a chân yr Oen."

Fel hyn y gorphenodd y llafurus Ieuan Gwyllt ei yrfa, yn nghanol ei waith. Tarawodd y newydd am ei farwolaeth fel taranfollt ar Gymru oll. Trannoeth yr oedd ffair yn Nghaernarfon, ac ni welwyd ffair gyffelyb yr oedd y newydd wedi difrifoli meddyliau pawb, a thestun yr holl siarad oedd am dano ef. Ac yr oedd bylchau lawer wedi eu rhwygo yn wag yn ei farwolaeth. Dysgwylid ef i Liverpool i'r Gymanfa Gyffredinol yr wythnos hono, ond yn lle hyny y bedd a barotoid iddo. Yr oedd cymanfäoedd canu cynnulleidfäol, a Chymanfa Ysgol Sabbothol yn dysgwyl am dano mewn amrywiol barthau y wlad, ond gadawodd y cwbl ar alwad ei Arglwydd i ymuno â "chymanfa a chynnulleidfa y rhai cyntafanedig."

Claddwyd ef yn mynwent brydferth Caeathraw y dydd Sadwrn canlynol, Mai 19eg. Darllenwyd a gweddiwyd, a dywedwyd ychydig eiriau cyn cychwyn gan y Parch. D. Rowlands, M.A., Bangor. Yna ffurfiwyd yn orymdaith. Yn gyntaf, cerbyd y meddyg, Dr. M. Davies, Caernarfon; wedi hyny y pregethwyr bob yn dri, yna y diaconiaid bob yn dri, ac ar ol hyny y cantorion bob yn bedwar; yna yr elorgerbyd, y galargerbyd, yn cynnwys Mrs. Roberts, y Parch. R. Roberts, Llundain, a Mrs. Pugh, eu chwaer, a cherbydau eraill, o ba rai yr oedd lliaws mawr. Araf deithiodd yr orymdaith o'r Fron drwy Gaernarfon hyd Gaeathraw, a'r cantorion yn canu emynau oedd wedi eu hargraffu at yr achlysur. Y tônau a'r emynau a ganwyd oeddynt Gwladys, emyn 894; Moab, emyn 851; Liverpool, emyn 852; a Lausanne ar yr emyn 731. Wedi cyrhaedd Caeathraw nid oedd o un dyben meddwl myned i'r capel, gan na chynnwysai chwarter y dyrfa fawr oedd yn bresennol; felly, wedi rhoddi y corff yn y bedd, cymerwyd yr arweiniad gan y Parch. D. Morris, Bwlan. Darllenwyd a gweddiwyd gan y Parch. R. Ellis, Ysgoldŷ, yna anerchwyd y dyrfa gan y Parchn. D. Saunders, Abertawe; D. Davies, Abermaw; Rees Jones, Felinheli; G. Jones, Tre'rgarth; J. Lewis, Caerfyrddin; a James Donne, Llangefni, yr hwn hefyd a ddiweddodd trwy weddi. Nis gwelsom fwy o ddwysder a theimlad mewn un gladdedigaeth erioed, ac yr oedd llïosogrwydd y dyrfa yn dangos mai nid un cyffredin oedd yn cael ei roi yn y bedd. Yr oedd y diwrnod yn anfanteisiol iawn; er hyny yr oedd o leiaf o driugain i ddeg a thriugain o weinidogion yn bresennol, a thyrfa fawr o ddiaconiaid a cherddorion—rhai o honynt wedi dyfod o bell ffordd, megys Dr. J. Parry (Pencerdd America), Aberystwyth; W. Julian, Aberystwyth; J. Spencer Curwen, Llundain; D. Jenkins, Mus. Bac., Aberystwyth; J. Thomas, Blaenanerch; J. H. Roberts (Pencerdd Gwynedd), Caernarfon; ac O. Griffith (Eryr Eryri), Waenfawr. Cafodd gladdedigaeth tywysog, ac yr oedd yn dywysog mewn gwirionedd. Pregethodd y Parch J. Lewis, Caerfyrddin, bregeth angladdol iddo yn nghapel Engedi, Caernarfon, y dydd canlynol, sef y Sabboth, am 2 o'r gloch, ac yn nghapel Penygraig am 6 o'r gloch yn yr hwyr.

Wedi ei golli, a'i golli mor sydyn, ymddangosai Cymru oll wedi ei tharaw â syndod, ac fel pe yn awyddus i ddangos ei pharch i'w goffadwriaeth. Cyfansoddwyd Requiem goffadwriaethol iddo gan y Dr. Parry, Aberystwyth, ar eiriau o waith Mynyddog, yr hon a ddaeth yn boblogaidd iawn. Cyfansoddwyd un arall hefyd gan Mr. W. T. Rees (Alaw Ddu), a thrydedd gan Mr. J. H. Roberts (Pencerdd Gwynedd). Tybid fod teimlad y wlad yn addfed i wneyd rhyw goffadwriaeth o barch i'w enw, mewn math o ysgoloriaeth gerddorol. Cymerodd y Parch. D. Saunders y gwaith mewn llaw, ac wedi llawer iawn o drafferth, ac ysgrifenu cannoedd o lythyrau, o'r diwedd penodwyd pwyllgor cyffredinol, un i'r Gogledd ac un i'r Deheudir. O herwydd nad oedd bron neb ond Methodistiaid wedi ateb cwestiynau Mr. Saunders, gwelwyd yn oreu ei gwneyd yn enwadol i'r Methodistiaid. Ond rywfodd, wedi penodiad y pwyllgorau nid oes nemawr ddim wedi cael ei wneyd. Nid ein lle ni yma yw myned i wneyd esgusawd, ond yn hytrach cofnodi ffeithiau; er hyny ni a gredwn ei bod yn ffaith fod teimlad. dwfn yn mynwesau cannoedd a miloedd yn Nghymru o barch i goffadwriaeth Ieuan Gwyllt, eto ar yr un pryd mai ychydig sydd wedi cael ei wneyd gyda'r ysgoloriaeth hon. Mae rhyw ddrwg yn rhywle, ond rhaid cydnabod fod Mr. Saunders wedi llafurio dros fesur i'w rhoddi ar dir i gychwyn.

Yn nechreu haf y flwyddyn hon (1879) penderfynodd Mrs. Roberts, gweddw Ieuan Gwyllt, godi cofadail ar ei fedd. Gwnaed hyny yn ddystaw, a didwrw, a bu agos i'r amgylchiad fyned heibio heb i'r cyhoedd wybod am dano. Pan ddeallwyd, fodd bynag, yr hyn oedd yn cael ei wneyd, gan nad oedd cyfeillion Ieuan Gwyllt wedi cael rhan yn y feddgolofn, dymunwyd am gael cyfarfod cyhoeddus i'w dadorchuddio, ac â hyn cydsyniodd Mrs. Roberts. Cafwyd y cyfarfod hwn ddydd Gwener, Mehefin 6ed. Yr oedd emynau wedi eu hargraffu, a nifer mawr iawn o gantorion a chyfeillion o lawer o fanau wedi dyfod ynghyd, a bernid fod yno tua dwy fil o bobl yn bresennol. Llywyddwyd gan Lewis Lewis, Ysw., Quellyn, Caernarfon, ac wedi anerchiad rhagymadroddawl byr, galwodd ar Miss Keeling, Juvenal Street, Liverpool (cyfnither i Mrs. Roberts wedi dyfod yno i'w chynnrychioli), yr hon a ddaeth ymlaen. ac a ddadorchuddiodd y golofn. Yr oedd y corau dan arweiniad y Dr. Parry, Aberystwyth, a chanwyd y dôn Ardudwy (I. Gwyllt), Emyn 742; anthem, "Par i mi wybod dy ffyrdd," (D. Harries. Trefniad I. Gwyllt); Liverpool (I. Gwyllt), Emyn 852; Esther (I. Gwyllt), Emyn 902; Requiem (Dr. Parry); Moab (I. Gwyllt), Emyn 851; a'r Hen 50ain. Anerchwyd y dyrfa gan y Parchn. J. Lewis, Caerfyrddin; T. Gwynedd Roberts, Rhostryfan; D. Saunders, Abertawe; ac Evan Jones, Caernarfon+Mr. Roberts a Mr. Jones fel cynnrychiolwyr wedi eu penodi gan Gyfarfod Misol Arfon. Yr oedd y cyfarfod yn llïosog, yr anerchiadau yn rhagorol, ond y canu yn gymedrol. Y mae y golofn wedi ei gwneyd o wenithfaen coch Aberdeen, ac yn un droedfedd ar bymtheg o uchder, ac yn ymddangos yn golofn ardderchog fydd am oesoedd yn addurn i fedd Ieuan Gwyllt. Ar yr ochr nesaf at y llwybr y mae y canlynol wedi ei gerfio a'i oreuro,

ER COF AM

Y PARCH . JOHN ROBERTS

(IEUAN GWYLLT),

YR HWN A FU FARW MAI 14, 1877,

YN 54 MLWYDD OED.

"Y gelyn diweddaf a ddinystrir yw yr angeu."—1 Cor. xv. 25.

"A chanu y maent gân Moses a chân yr Oen."—Dad. xv. 5.


This monument was erected by his affectionate Widow.

Nodiadau golygu

  1. Llythyr oddiwrth Mr. E. Roberts.
  2. Mewn llythyr cyfrinachol at y Parch. T. Levi
  3. Llythyr at y Parch. T. Levi.
  4. Ionawr 3, 1855.
  5. Llythyr at y Parch. T. Levi.
  6. Llythyr at y Parch. T. Levi.
  7. Mae y dyddiad mewn cysylltiad â'r Faner ar awdurdod Mr. Gee.
  8. Anerchiad y Parch. D. Saunders yn nghyfarfod dadorchuddiad y Feddgolofn yn Nghaeathraw, Mehefin 6, 1879.
  9. Mewn llythyr at yr Ysgrifenydd.
  10. Llythyr Mr. E. Roberts.
  11. Mewn llythyr at y Parch. T. Levi; nis gallwn gael y dyddiad, tebygol mai tua 1855.
  12. Llythyr Mr. E. Roberts.
  13. Anerchiad yn Caeathraw, o'r adroddiad yn y Genedl Gymreig. Y mae yr ymadroddion sydd wedi eu gadael allan wedi eu cofnodi o'r blaen.
  14. Cawsom y cofnod canlynol o Gyfarfod Misol Liverpool oddiwrth Mr. J. Griffiths, Egremont. "Fraser Street, Hydref 6, 1858:—Crybwyllwyd fod Mr. J. Roberts (diweddar Olygydd yr Amserau) yn myned i fyw i Aberdâr, a'i fod ef yn dymuno cael papyr oddiyma yn hysbysu y tir y mae yn sefyll arno—Penderfynwyd, Fod Mri. Rees a Hughes i ysgrifenu at y cyfeillion yn Aberdâr yn ol cais Mr. Roberts."
  15. Anerchiad y Parch. D. Saunders yn Nghaeathraw.
  16. Yn haf y flwyddyn hon yr oedd yn beirniadu mewn cystadleuaeth yn Ysgoldy, Sir Gaernarfon, a daeth Mrs. Roberts gydag ef, a llettŷent yn nhŷ Mr. W. Jones, Clwtybont. Aent oddiyno i gyfeiriad Llanberis, ac o ochr Dinorwig gwelent y dyffryn prydferth, a Llanberis yn gorwedd o'u blaen. "Dacw le prydferth!" meddai efe; "yn y fan acw y buaswn yn dymuno byw oni fuasech chwi?" meddai wrth Mrs. Roberts. "Buaswn, 'rwy'n meddwl," oedd ei hatebiad hi. Ni feddylient y pryd hwnw fod y dymuniad hwn i gael ei gwblhâu chwe' blynedd yn ddiweddarach.
  17. 17.0 17.1 Alaw Ddu mewn erthygl ar Ieuan Gwyllt, Ionawr 1878.
  18. A rhai brodyr o Aberystwyth
  19. Anerchiad y Parch. D. Saunders
  20. Alaw Ddu yn y Cylchgrawn, Ionawr, 1878.
  21. Mewn llythyr at yr Ysgrifenydd
  22. Rhagfyr 30ain, 1861, bu farw mam Ieuan Gwyllt yn Mhenllwyn, yn 67 oed.
  23. O'r Drysorfa, Hydref, 1861.
  24. Mewn llythyr at Mr. E. Roberts, Liverpool.
  25. Mewn llythyr at Mr. E. Roberts, Liverpool.
  26. Llythyr Mr. W. Morris.
  27. Alaw Ddu mewn ysgrif yn y Cylchgrawn, Ionawr 1878.
  28. Alaw Ddu yn y Cylchgrawn, Ionawr, 1878.