Ieuan Gwyllt, Ei Fywyd, Ei Lafur/Ei Lafur

Ei Fywyd (parhâd) Ieuan Gwyllt, Ei Fywyd, Ei Lafur

gan John Eiddion Jones

Ei Nodweddion

PENNOD IV.

EI LAFUR, FEL CERDDOR, LLENOR, A GWEINIDOG YR EFENGYL.

WRTH edrych dros ei hanes, gwelir fod y pum' mlynedd ar hugain olaf (o 1852—77) wedi bod yn dymmor o lafurio ar ran y cyhoedd—dyma'r dydd gwaith. Ac er nad ydoedd ond dydd byr mewn cymhariaeth, eto llafuriodd yn ddyfal a diflino ar hyd yr amser hwn, ac y mae yn debyg nad oes odid i neb wedi cael dychymyg clir am fawredd swm y gwaith a gyflawnwyd ganddo, heb son am ragoroldeb ei natur. Yn y bennod hon yr ydym yn bwriadu rhoddi golwg mor gryno ag y gallwn ar y llafur hwn, ynghyd a rhyw sylwadau ar ei natur. Manteisiol i hyn fydd edrych arno yn ei lafur fel CERDDOR, fel LLENOR, ac fel GWEINIDOG YR EFENGYL.

I. FEL CERDDOR. Wrth edrych ar ei lafur yn hyn, yr ydym yn cael dechreu gyda'r

1. Blodau Cerdd; cyhoeddiad misol cerddorol, gan John Roberts (Ieuan Gwyllt). 1852.

Dyma ei gyntafanedig a "dechreuad ei gryfder." Fel y sylwyd, yr oedd ychydig o dônau wedi eu hargraffu, ar ffurf pamphlets bychain wythplyg, yn Aberystwyth yn flaenorol, ond diammeu nad oedd hyny ond galw am ychwaneg o'r un peth. Yr oedd y dosbarthiadau cerddorol oedd wedi eu codi yma a thraw yn y cymydogaethau yn dangos fod eisieu rhyw gyfrwng i'w diwallu â cherddoriaeth, ac hefyd i fod yn llawlyfr i astudiaeth yn y gelfyddyd. Felly yr oedd yn amlwg y buasai rhywbeth i'r cyfeiriad hwn yn ddymunol, ond er hyny anturiaeth led bwysig oedd cyhoeddi llyfr felly; ond nid oedd efe yn amddifad o gryn dipyn o ffydd yn ei gynllun, yr hyn sydd yn elfen bwysig mewn llwyddiant. Ni chyhoeddwyd ond saith rhifyn—y tri neu'r pedwar cyntaf wedi eu hargraffu gan D. Jenkins, Heol Fawr, Aberystwyth, a'r gweddill yn Llanidloes yn argraffwasg J. Mendus Jones. Ni a ddyfynwn y rhagymadrodd yn gyflawn i ddangos amcan y llyfr, ac hefyd i ddangos fel y mae y cerddor ieuanc yn wynebu ar y "cyhoedd," am y tro cyntaf ar ei gyfrifoldeb ei hun. "Blodau Cerdd. At ieuenctyd yr Ysgol Sabbothol. Serchus Gyfeillion,—Mae yn llawen iawn genyf gael cyfarfod â chwi ar faes hyfryd CERDDORIAETH; ac, er mai casglu 'Blodau' yw ein gwaith, hyderwn y bydd y rhai hyny y fath ag y bydd eu harddwch, eu perarogl, a'u tynerwch yn tueddu i feithrin ynom hoffder at yr hyn sydd wir brydferth, i buro ein chwaeth, fel y byddo llygredigaethau ein gwlad yn rhy ffiaidd genym eu harfer, ac yn effeithio ar ein serchiadau nes eu gwneyd yn rhy dyner i lid na chenfigen nythu o'u mewn, ac yn rhy wresog i ddim ond cariad a thangnefedd i anadlu yn eu hawyrgylch. Mae yn ddiau fod gan gerddoriaeth ryw ddirgel swyn dros y natur ddynol; a pha ryfedd? onid iaith y teimlad ydyw? a gwyddom yn dda, pan lefara y teimlad, fod effaith ryfeddol yn sicr o gael ei gynnyrchu. Mae cerddoriaeth, gannoedd o weithiau cyn hyn, wedi toddi holl serchiadau y galon ddynol, a'u bwrw yn un tryblith i'w mould ei hun, pa beth bynag a fyddai hyny. Ar brydiau, a llawer rhy aml, ysywaeth, cymerai feddiant o holl deimladau y milwr; toddai ac arllwysai hwynt yn ddylif tanllyd yn llonaid ei fynwes, nes ei hyrddio yn un eirias frwd i safn magnel ei elyn, ar faes y gwaed. O dduwies odidog! camddefnydd anfad arnat oedd hyn; a rhyfedd na buasit wedi cymeryd dy aden a chanu yn iach am byth i fro marwolion, am dy dreisio i gyflawni y fath erchylldra. Yr oeddwn y fynyd hon yn myned i wneuthur adduned i ti yn enw dynoliaeth, na chawsit byth ond hyny y fath sarhâd, hyd nes y teflais fy llygaid tua Chyfandir Ewrop; yno gwelaf, er fy ngalar, ei bod yn rhy gynnar eto. Drachefn, a welwch chwi yr adyn draw? hawdd darllen yn y fflamiau acw sydd yn ymlachio allan drwy ei lygaid, fod ei galon yn berwi gan ddigofaint yn erbyn un o'i gyd-ddynion; mae yn rhuo yn gyffelyb i grombil Vesuvius, gan fygwth ymdori yn ddylif o ymddial arno; ond dacw Gerddoriaeth yn dyfod ymlaen, a thrwy beiriannau cywrain y llais, neu dànau tyner y delyn, neu ryw offeryn arall, wele hi yn dyhidlo ei gwin neithdaraidd i'w fynwes losgedig, ac yn tywallt allan ei galon mewn ffrydiau grisialaidd o ddagrau. Lle a balla i ni fyned ymhellach ar hyd y maes hwn yn bresennol; fe allai y cawn hamdden yn ol llaw. Rhwydd hynt i chwi nes y cyfarfyddom eto ar yr 'Aelwyd.'—IEUAN GWYLLT."

Dyma keynote ardderchog i oes o lafur cerddorol, onidê? Nid yr egwyddorwas sydd yma yn "treio ei law" yn grynedig, ond y meistr yn ymaflyd yn ei waith, ac yn teimlo fod ganddo ddigon o adnoddau wrth gefn i'w gario drwyddo. Cynnwysai pob rhifyn ddwy ran—y letter—press a'r Gerddoriaeth—y letter—press, o ddau i bedwar tu dalen ymhob rhifyn, a gynnwysai "ymddyddan" ar egwyddorion cerddoriaeth, dan y teitl "Yr Aelwyd," ymha rai yr ymdrinir â'r "Erwydd, Yr Allweddau, Gwahanol Leisiau, Gorlinellau, Gwahanol Seiniau, Athroniaeth Sain, Gwersi ar Leisio, Ymarferion mewn Lleisio, Effaith gwahanol Seiniau, Cyweirnodau, ac Amser." Y mae yr ymdriniaeth ar y materion hyn yn ddyddorol, er hyny yn athronyddol ac eglur iawn. Un dernyn arall geir ynddo, sef cyfieithiad o Dr. Mainzer's Music and Education, ar ddylanwad cerddoriaeth. Yn y rhanau cerddorol ceir darnau anghyffredin o chwaethus cyfaddas i ieuenctyd yr Ysgol Sabbothol. Y mae yma rai tonau cynnulleidfäol ag yr ydym yn eu cyfarfod drachefn yn y Llyfr Tonau Cynnulleidfäol, ond gyda rhyw gymaint o gyfnewidiadau mewn rhai o honynt; megys Hungerford (Rhif 220), Jerusalem (Rhif 40), Llangeitho (Att. 9), Darwell (Beverley, 138), Pisga (Ardudwy, Y. 68; Awdwr, I. Gwyllt). Mae y rhan fwyaf wedi eu cynghaneddu neu eu cyfaddasu ganddo ef ei hun, a chawn. gynghaneddiad gwych o'r hen alaw "Codiad yr Hedydd," ar eiriau ar yr "Adgyfodiad." Y mae llawer o'r geiriau hefyd wedi eu cyfansoddi ganddo ef ei hun; megys Genedigaeth y Messiah, Marwolaeth y Messiah, Duw yn y cnawd, Y Nefoedd, cyfieithiad o Emyn Genadol Heber, Moliant Iesu. Ymhlith y darnau mwyaf swynol, gallem nodi Luconia, Franconia, y Nefoedd, a Moliant Iesu. Y mae y rhai hyn yn neillduol o hapus; ac nid rhyw bethau ephemeral ydynt, ond darnau llawn o sylwedd. Y mae y casgliad hwn yn dangos ôl llafur mawr a chwaeth uchel, a gallu cryf iawn i gyfaddasu a chynghaneddu. Ceir yma ddernyn mwy anhawdd, "Gwynfa," wedi ei gyfaddasu ar eiriau Cymreig gan I. Gwyllt, allan o'r Seasons gan Haydn; ac yn y rhifyn olaf a ymddangosodd, cawn ddernyn ar "Ddydd y Farn," o waith Mr. J. A Lloyd, a anrhegwyd i'r Blodau Cerdd gan yr awdwr. Fel hyn yr oedd y ddarpariaeth a geid ymhob rhifyn am geiniog a dimai, er nad yn fawr o ran swm, eto yn rhagorol iawn o ran ei natur, a rhoddwyd i'r llyfr dderbyniad croesawgar. Ond ar ol myned i Liverpool ysgrifenwyd y canlynol, yr hyn, ni a dybiem, a argraffwyd yn arbenig fel rhagymadrodd, gyda thitle page:—"At dderbynwyr 'Blodau Cerdd.' Garedigion Hynaws,—Yr wyf yn dra diolchgar i chwi am y gefnogaeth a roddasoch i'm Misolyn bychan. Yr oeddwn yn tybied y gallaswn fyned ymlaen ar ol symud i'r dref fawr, boblogaidd, fyglyd hon, a darparu sypyn bychan o 'flodau' i chwi bob mis; ond buan iawn y cefais, er fy siomedigaeth, fod hyny yn annichonadwy. Y mae y gorchwylion lliosog a phwysig sydd wedi disgyn ar fy ysgwyddau fel prif olygydd yr Amserau, yn gosod gorfodaeth chwerw arnaf i roddi Blodau Cerdd i fyny ar hyn o bryd. Ond os daw i mi eto ychydig seibiant oddiwrth drafferthion y swyddogaeth flin hon, gellwch benderfynu yr ymafaelaf yn y cyfleusdra cyntaf i ail gychwyn fy hoff waith gyda'r cyhoeddiad bychan hwnw. Hyd hyny yr ydym yn ysgwyd llaw ac yn canu yn iach â'n gilydd. Eich gwasanaethwr a'ch cyfaill cywir, IEUAN GWYLLT. Liverpool, Ion. 8fed, 1853." Ysgrifenwyd hyn ymhen tua mis ar ol symud i Liverpool. Ond os oedd yn brofedigaeth chwerw i'r golygydd roddi heibio ei "hoff waith," gallem dybied hefyd fod cryn hiraeth ar ol y Blodau Cerdd ymhlith ei dderbynwyr, ac y gofynid yn fynych ar ei ọl. Ac yn Awst 16, 1854, cawn fod yr Hysbysiad canlynol wedi ymddangos yn yr Amserau:—" Blodau Cerdd. Garedigion hoff,——Yn nghanol rhyw gnwd tew o ddrain a dyrysni a phob rhyw anialwch a ymblethasant o gylch gwraidd y 'Blodau' yn ystod y flwyddyn ddiweddaf, bu agos iddynt anadlu eu perarogl diweddaf, nid i awyr wag, ond i galonau eu miloedd derbynwyr. Ond er fod ein gorchwylion yn aml ac yn drymion, rhag i'n cyfeillion llïosog, y rhai sydd yn parhâu i lefain ar ein hol, ddyfod yn y diwedd a'n syfrdanu, yr ydym yn penderfynu myned rhagom, os caniateir i ni fywyd ac iechyd, i orphen y gwaith. Dechreuasom, mae yn wir, gyda y plant ar y ffon isaf oll o'r ysgol; ond yr ydym yn bwriadu dwyn allan cyn gorphen rywbeth ag a fydd yn werth ceiniog a dimai o leiaf i unrhyw gerddor Cymreig yn ei gyflawn oedran. Cyhoeddir yr 8fed Rhifyn ar y cyntaf o Hydref nesaf, pris 11c. I'w gael gan Mr. E. Edwards, Queen Street, Aberystwyth, a chan holl lyfrwerthwyr y Dywysogaeth.—Yr eiddoch yn serchus, IEUAN GWYLLT." Gallasem dybied, oddiwrth fod yr Hysbysiad yn ymddangos mor agos i'r amser y bwriedid dwyn y cyhoeddiad allan, fod pob trefniadau wedi eu cwbl orphen, a bod y rhifyn bron yn y wasg. Ond nid ymddengys iddo byth ddyfod allan, ac nis cawsom afael ar unrhyw reswm am hyny. Felly ar y seithfed rhifyn yr arosodd; ond y mae y rhai a'i derbynient y pryd hwnw yn meddwl yn uchel o hono hyd y dydd hwn, ac erys yn gofgolofn ragorol o lafur a diwydrwydd ei gasglydd, a'i awydd mawr am gyfranu addysg gerddorol bur ac uchel i'w gydwladwyr. Yn ffurf y Blodau Cerdd, ceir hedyn y syniad a ymddangosodd yn fwy addfed yn nghyhoeddiad y Cerddor Cymreig. Ond diammeu i'r cyntaf wneyd ei waith yn ganmoladwy, a chynnorthwyo i barotoi y ffordd i bethau mwy.

2. Darlith ar Gerddoriaeth.

Yr ydym yn crybwyll hon yn fwy helaeth yn y fan hon, am ei bod yn dyfod felly o ran amser, ac hefyd yr ymddengys ei bod wedi ei bwriadu i barotoi meddwl y wlad am ddiwygiad mewn cerddoriaeth, yn enwedig mewn cerddoriaeth gysegredig. Traddodwyd y ddarlith gyntaf, fel y gwelsom, tua dechreu 1854, yn nghapel Rose Place, Liverpool, a'r ail yr wythnos gyntaf yn Mawrth y flwyddyn hono. Nid ydym yn gallu cael allan a oedd wedi cyfansoddi un, dwy, neu ychwaneg o ddarlithiau ar y pwnc, ai ynte ei fod wedi meistroli y pwnc yn drwyadl, ac heb dynu allan ond rhyw sketch o lwybr iddo ei hun. Dygwyddasom, fodd bynag, daraw ar adroddiad lled gyflawn o'i chynnwys yn yr Amserau, fel y traddodwyd hi yn nghapel Hermon, Dowlais, a gwasanaetha i roddi syniad am dani; ac y mae dda genym roddi adroddiad hwn i mewn i fod "ar gof a chadw." Rhoddwn yn gyntaf yr Hysbysiad. "Dowlais. Traddodir darlith ar Gerddoriaeth yn nghapel Hermon, nos Fawrth, Awst 15fed, 1854, gan Mr. John Roberts (Ieuan Gwyllt), Golygydd yr Amserau. Cenir amryw donau eglurhäol yn ystod y ddarlith gan y Côr Dirwestol. Cymerir y gadair am hanner awr wedi saith o'r gloch, gan y Parch. D. Phillips, Maesteg. Tocynau,—Blaenseddau, swllt; Olseddau, chwe' cheiniog; i'w cael wrth y drysau. Nos Fawrth nesaf, cofier." Dyma yr adroddiad:— "Dowlais. Traddododd Mr. John Roberts (Ieuan Gwyllt) ddarlith ar Gerddoriaeth yn y lle hwn, nos Fawrth, wythnos i'r diweddaf. Y Parch. David Phillips, neu yn ol 'Cadwaladr' y 'General Phillips o'r Maesteg' yn y gadair.

'Nid llywio 'r gâd ofnadwy,
Ond hedd, heb na chledd na chlwy','

oedd ei orchwyl y noson hono. Cyflwynodd y darlithydd i'r gynnulleidfa lïosog, fel un yn meddu hyder y gwnai gyfiawnder â'r pwnc mewn llaw, ac yn hyn ni bu raid i ni oddef siomedigaeth. Gan fod yr ysgrifenydd wedi gorfod cymeryd ei genad o Ddowlais yn union wedi traddodiad y ddarlith, a'i fod yn ysgrifenu y nodiad hwn o honi yn y Palas Grisial, Sydenham Park, lle y mae pob mawredd ac ardderchogrwydd i foddhâu y llygaid, a phob melus seiniau i swyno y glust, fe allai y maddeuir iddo am roddi adroddiad byrach o honi nag a fuasai yn debyg o wneyd pe yn ei unigedd arferol gartref. Dechreuodd y darlithydd siarad am gerddoriaeth fel boneddiges deg, fel na feiddiai neb ond hurtyn neu ynte un o wŷr y gyfraith ofyn ei hoedran iddi; ond er fod ieuenctyd fel boreuddydd ar ei hael, a phob ystum yn arddangos hoywder, dywedodd fod lle cryf i gredu ei bod mewn tipyn o oedran serch hyny. Nad oedd ei hoed wedi lleihâu un gradd ar ei dylanwad, ond fod iaith y Bardd mor briodol yn awr a'r pryd hwnw,

'When Music, heavenly maid, was young,
While yet in early Greece she sung
The passions oft to hear her skill
Thronged around her magic cell.'

Y dyfyniad (deffiniad?) a roddodd o Gerddoriaeth oedd 'iaith y teimlad.' Geiriau oedd iaith y deall, ond corff ac enaid iaith y galon oedd sain. Dangosodd fod dyryswch dirfawr wedi dygwydd i iaith y pen, ond fod iaith y galon. mor effeithiol yn awr ag erioed. Wedi sylwi cryn amser fel hyn, daeth i sylwi ar Gerddoriaeth fel celfyddyd, a Cherddoriaeth fel rhan o'r addoliad Dwyfol. Annogai ieuenctyd i ymarfer â cherddoriaeth fel celfyddyd; gan y credai, er mai nid ei gwaith uniongyrchol hi oedd crefyddoli dynion, ei bod yn eu dwyn i sefyllfa fanteisiol i grefydd. Rhanodd gerddoriaeth gelfyddydol i ddau ddosbarth; hyny yw, dosbarth y mawr, a dosbarth y bychan. Sylwodd, er fod graddau i'w gweled yn fwy amlwg mewn arluniaeth nag mewn cerddoriaeth, eto eu bod mor wirioneddol yn yr olaf ag yn y flaenaf. Yn hono ceid golwg gyflawn ar y grisiau, o'r creadur dirmygedig sydd yn dwbio lliwiau i ddenu ynfydion i'r dafarn, hyd y bardd-arlunydd sydd yn sefyll yn ogoneddus ar ben y rhes. Yr oedd y cerddor medrus yn gallu dosbarthu cyfansoddiadau cerddorol fel yr oedd yr arlunydd yn medru rhestru arluniau. Brenin y gerddoriaeth gelfyddydol oedd Handel, a bai mawr cyfansoddwyr celfyddydol Cymru a Lloegr yn yr oes hon, oedd diffyg unoliaeth, yn yr hyn yr oedd Handel yn rhagori cymaint. Wedi i'r Côr Dirwestol ganu yr Hallelujah Chorus fel engraifft o gerddoriaeth gelfyddydol o'r dosbarth uchaf, aeth y darlithydd ymlaen i sylwi ar gerddoriaeth y cysegr. Ymgymerodd â'r gorchwyl o ddangos y berthynas sydd rhwng y celfau breiniol â chrefydd. Ystyriwn y rhan hon o'r ddarlith yn wir alluog. Carem pe b'ai holl ieuenctyd y Dywysogaeth yn clywed y sylwadau a wnaed ar y cysylltiad a ddylai hanfodi rhwng celfyddyd a chrefydd Mab Duw. Canwyd amryw donau syml er dangos pa fath, yn ol ei farn ef, a ddylai caniadaeth y cysegr fod. Heb ymostwng i wenieithio mewn un modd, dywedwn na chlywsom ni erioed gymaint o gyfiawnder yn cael ei wneyd â phennillion nefolaidd yr hen Williams, Pantycelyn, a'r tro hwn. Yr oedd y gerddoriaeth y tro hwn, fel y dylai fod bob amser, yn egluro syniadau y bardd, fel yr oedd un pennill yn ein suo i ryw berlewyg sanctaidd, tra yr oedd un arall yn gwefreiddio ein holl enaid, gan osod holl gylch naturiaeth yn fflam. Beïai yr arferiad o gyfyngu y ganiadaeth i ryw dwr dewisol ac etholedig. Mynai y dylai yr holl gynnulleidfa ymuno i foli Duw, ac felly y dylid arferyd tonau ag y gellid dysgwyl i'r gynnulleidfa eu dysgu. Hefyd, gwasgai y priodoldeb o arferyd tonau syml, diaddurn, a rhydd oddiwrth bob rhodres a chelfyddyd. Camp celfyddyd oedd cuddio ei hun, ac nid oedd ganddo ef un gwrthwynebiad i gelfyddyd yn ngwasanaeth y cysegr, ond nid mor bell ag i hudo y canwr i hanner addoli y gelf, yn lle bod yn channel i arllwys ei foliant i Dduw. Yr oedd y tonau a ganwyd o wahanol gyfnodau. Rhoddai barch mawr i donau y Diwygiad Protestanaidd, a dywedai mai hwy oedd y cynllun goreu ellid gael. Fel engreifftiau o'r Anthem, cyfeiriai yr efrydydd at weithiau Farrant ac eraill, a gyfansoddasant tua thri chan' mlynedd yn ol. Cafodd cyfansoddwyr diweddar y Saeson, megys Jarman, White a T. Clark driniaeth arw iawn ganddo. Mynai fod y rhai hyn wedi darostwng yn fawr yr alwedigaeth sanctaidd. Canwyd darnau o'u gwaith hwy ac eraill fel engreifftiau o gerddoriaeth wael, yr hyn a wnai y gwych i ymddangos yn ddeng gwell, a'r gwael ddeng waith gwaelach, o herwydd y cyferbyniad. Ni ddylai ieuenctyd Cymru fod yn llonydd heb gael gan Mr. Roberts gyhoeddi ei ddarlith mewn rhyw ffurf. Diau y gwna rhai llefydd sicrhâu ei wasanaeth ef yn bersonol, ond gwnai ei hymddangosiad mewn argraff gyrhaedd corff y genedl. Pe llwyddid yn hyn, y mae genym hyder y rhoddid cyfeiriad newydd i dalent y wlad, ac y chwelid anghydfod mewn llawer man.—W. M."[1] Byddai yn ei ddarlith weithiau hefyd yn trin ar y pwnc, pa fath Hymnau oedd yn briodol i'r cysegr:—

"Carai ef yn fawr gael Llyfr Emynau newydd. Nid oes genym un yn deilwng o'r enw. Fe allai y gallai pob enwad crefyddol yn Nghymru ddangos rhyw ddau neu dri o lyfrau hymnau ; ond anturiwn ddyweyd nad oedd un o honynt yn deilwng o'r enw, nid oedd gan un enwad le i daflu careg at y llall yn y mater hwn . Yr oedd pob un o'r llyfrau yma yn ormod o faint, ac yn cynnwys lluoedd o hymnau anaddas i'w canu mewn addoliad. Yn ol ei farn ef, buasai llyfr hymnau gwerth swllt yn ddigon mawr i gynnwys detholiad digon eang i'w harferyd mewn addoliad."[2] Bu yn traddodi darlith ar Gerddoriaeth fel hyn yma a thraw am flynyddau, a phan yn gwneyd teithiau cerddorol tua 1862 a 1863 mewn ambell i fan, rhoddid cyfle iddo wneyd hyny. A diammeu fod y ddarlith, neu y darlithiau hyn, wedi gwneyd eu rhan tuag at godi chwaeth y wlad, ac yn wir, agor llygaid y bobl i weled fod dau ddosbarth yn bod, a bod tonau syml a phriodol at wasanaeth cysegr Duw yn gyrhaeddadwy. Yn Chwefror, 1864, cawn hysbysiad fel y canlyn ar ddalenau y Cerddor Cymreig: " Aberth Moliant ; sef Traethawd ar Gerddoriaeth y Cysegr. Gan Ieuan Gwyllt. Bydd y gweithiau hyn yn y wasg yn ddioed. Pob Gohebiaethau, Archebion, &c., i'w hanfon fel hyn:—Rev. John Roberts (Ieuan Gwyllt), Merthyr Tydvil." Tybiwn mai cynnwys y darlithiau oedd yn gynnwysedig yn y Traethawd hwn, ond nis gwyddom a wnaeth byth ei ymddangosiad; os darfu, methasom gael gafael arno. Yr oedd y syniadau ar y pwnc hwn yn ffrwyth astudiaeth fanwl a thrwyadl am lawer o flynyddoedd, ac yn ddiammeu yn dadlenu yn gywir egwyddorion mawr a hanfodol caniadaeth grefyddol. Tybiwn hefyd ei fod yn cadw mewn golwg, nid un enwad, er ei fod ef yn adnabod y Methodistiaid yn well nag un enwad arall, ond yr oedd ei lygad ar y genedl yn gyffredinol, a'i awydd am ddyrchafu moliant y Goruchaf ymhlith pob enwad fel eu gilydd.

3. Llyfr Tonau Cynnulleidfäol. Gan Ieuan Gwyllt. Wrexham: R. Hughes and Son.

Y mae y rhagymadrodd i'r llyfr wedi ei ddyddio "Aberdâr, Ebrill 30ain, 1859." Dygwyd argraffiad allan yn y Tonic Sol-ffa, ac y mae y rhagymadrodd hwnw wedi ei ddyddio "Merthyr Tydfil, Ebrill 1863." Cyhoeddwyd hefyd Ychwanegiad, ac y mae y rhagymadrodd iddo wedi ei ddyddio "Fron, Ion. laf, 1870." Argraffwyd yr argraffiad neu ddau gyntaf yn Llundain gan Haddon & Co., ond y mae pob argraffiad ar ol hyny wedi ei ddwyn allan gan Hughes a'i Fab, Gwrecsam. Daeth allan hefyd argraffiad mewn score i'r harmonium neu yr organ, dyddiedig "Fron, Caernarfon, Ebrill 1876," yn yr hwn y mae trefn y tonau wedi eu newid; hyny yw, y Llyfr, yr Attodiad, a'r Ychwanegiad wedi eu hûno yn un llyfr. Cafodd y Llyfr Tonau hwn dderbyniad croesawgar, a chylchrediad helaethach nag un llyfr o'r fath a gyhoeddwyd erioed o'i flaen, nac un ychwaith, hyd yma, sydd wedi dyfod ar ei ol. Profa hyny, dybygem, ei fod wedi ymddangos mewn adeg yr oedd anghen am dano, a'i fod i raddau helaeth yn cyfateb i'r anghen hwnw. Y mae yn debyg mai hwn a ystyriai Mr. Roberts ei hun yn brif waith ei oes, o herwydd ystyriai berffeithio moliant cysegr Duw yn uwch amcan nag un arall. Ymddengys nad oedd nemawr o drefn ar ganiadaeth grefyddol yn Nghymru hyd ddygiad allan Psalmydd Edmund Prys tua'r flwyddyn 1620, yr hwn a gynnwysai nifer o donau syml, o ba rai y ceir esiamplau yn y Llyfr Tonau: Glasynys, Y. 26; a'r hen dôn ardderchog St. Mary, Rhif 92. Ar ol hyn nid oes genym nemawr o hanes cerddoriaeth grefyddol yn Nghymru am dros ganrif. Bu cyhoeddiad emynau Williams, Pantycelyn, yn ddechreuad cyfnod newydd hollol mewn caniadaeth yn Nghymru, yn gystal ag yn gynnorthwy i wneyd y Diwygiad Methodistaidd yn fwy grymus a pharhäol. Yr oedd Williams, yn wir, yn cyfansoddi ei emynau o bwrpas i'w canu; ac yr ydym yn gweled ei fod wrth eu hargraffu nid yn unig yn rhoddi nodwedd yr emyn, megys Galarus, Gorfoleddus, &c., ond hefyd yn nodi tôn briodol i'w chanu ar bob emyn. Yr oedd Mrs. Williams hefyd yn gantores dda, ac weithiau byddai yn myned gyda Williams ar ei daith, ac yn canu cryn lawer gydag ef yn y manau y llettŷent. Cawn fod y tonau a nodir uwch ben yr emynau wedi eu cymeryd gan mwyaf o gasgliad Rippon; ac wrth droi atynt yn y casgliad hwnw, yr ydym yn cael, mae yn debyg, y tonau ar ba rai y byddai Williams ei hun a'i wraig yn eu canu, ac y dysgid y bobl i'w canu. O hyny allan yr oedd y canu yn rhan bwysig o wasanaeth crefydd, ond nid oedd y tonau oll o nodwedd ragorol; a dygwyd ar ol hyny lifeiriant mawr o'r tonau oedd mewn bri ar y pryd ymhlith y Saeson—y tonau ysgafn, dienaid, a diathrylith a fuont yn gymaint o anmhariaeth i ganiadaeth grefyddol. Oddiar y cof a'r glust yn benaf y cenid hwy, ac nid oedd gwybodaeth o egwyddorion cerddoriaeth ond prin iawn yn y wlad; yn wir, nid yw yn ymddangos fod gan y Cymro uniaith y pryd hwnw ddim manteision i ddysgu. Y cyntaf, mae'n ymddangos, a anturiodd i'r maes hwn oedd Owen Williams o'r Tŷhir, Sir Fon, yr hwn a gyhoeddodd lyfr yn cynnwys cyfieithiad o draethawd Charles Dibdin, a Rheolau Cerddoriaeth Eglwysig; a chyhoeddodd ddau lyfr tonau—y cyntaf dan y teitl Cenaniah, y tonau wedi eu trefnu i ddau lais, yn 1816, a'r Brenhinol Ganiadau Sion yn 1817, yn cynnwys cryn lawer o donau Cymreig, yn gystal a rhai eraill. Ceir esiamplau. o'r rhai Cymreig yn yr Ychwanegiad: Capel Cynon, Y. 20; Môn, Y. 18; Llannor, 73; Llanrhaiadr, 73a; Trefdraeth, 74; ac Edeyrn, 77. Yn nesaf cawn gyhoeddiad y Seraph gan Ieuan Glan Geirionydd, a thua'r un adeg cyhoeddodd W. Owen, Drefnewydd, y Caniedydd Crefyddol; a'r flwyddyn hono y cyhoeddodd y Parch. J. Mills ei Ramadeg Cerddoriaeth. Yn 1840 ymddangosodd y Caniadau Sion gan Mr. Richard Mills, ac yr oedd yntau ei hun yn myned cryn lawer o amgylch i ddysgu cerddoriaeth a thonau cynnulleidfäol. Yr oedd hyn yn ddiwygiad mawr ar yr hyn a fu, a daeth gwybodaeth elfenol o egwyddorion cerddoriaeth yn llawer mwy cyffredin. Yn 1843 cyhoeddodd Mr. J. Ambrose Lloyd lyfr tonau, ac wedi hyny y Parch. J. Mills y Cerddor Eglwysig, yr hwn ar amryw ystyriaethau, fe ddichon, oedd yn welliant ar Ganiadau Sion, er na ddaeth i gymaint o fri nac i arferiad mor gyffredinol. Cyhoeddwyd hefyd amryw gasgliadau eraill, ond nad oedd ynddynt ddim neillduol yn dangos mynediad ymlaen.[3] Yn awr teimlai Mr. Roberts, tra yr oedd yr ymdrechion blaenorol wedi gwneyd lles er diwygio caniadaeth grefyddol, ac ymddangosiad rhai o honynt wedi nodi cyfnodau arbenig yn nghynnydd y gangen hon o wasanaeth y cysegr, fod eto bellach le i fyned ymlaen, ac eisieu casgliad rhagorach o gryn lawer nag oedd eisoes ar y maes. Yr oedd y cynnydd oedd wedi cymeryd lle mewn egwyddorion ac ymarferiad o gerddoriaeth gorawl yn gystal a chynnulleidfäol, wedi creu anghen am gyfnod newydd yn hyn; ac yr oedd llafur y rhai oedd wedi bod eisoes yn gweithio, yn gystal a'i ymdrechion ef ei hun yn y Blodau Cerdd, ei ddarlith, a'i feirniadaethau galluog, wedi parotoi y ffordd ato. Hwyrach y gellid gofyn, Beth oedd y prif ddiffygion oedd erbyn hyn yn y casgliadau blaenorol? Sylwasom o'r blaen fod dosbarth o donau gwylltion, gwaelion, a dienaid wedi cael lle mawr yn ein gwlad, ac wedi llygru caniadaeth grefyddol; ac yr ydoedd eto heb ymburo digon oddiwrth hyny. Ychydig, mewn cymhariaeth, a geid o donau gwir dda a sylweddol. Yr oedd cryn nifer o donau cyffredin mewn arferiad, heb nemawr o amrywiaeth ynddynt, na nemawr o feddwl yn eu cyfansoddiad; y cwbl a ellid ddyweyd am danynt oedd eu bod yn rhwydd i'w canu. Ac yr oedd hefyd ddosbarth yn aros o rai tlodaidd a disylwedd, nad oedd dim ynddynt ond tuedd i gynhyrfu tipyn ar y traed, a rhyw wylltineb oedd fel math o stimulant yn cynhyrfu dychymyg afiachus. Ac yr oedd cynghaneddiad y tonau rywbeth yn debyg i'r tonau eu hunain. Bid sicr, yr oedd yn well o gryn dipyn na'r pethau anfedrus a gwallus oedd wedi bod unwaith mewn arferiad, eto yr oedd ymhell o gyrhaedd safon uchel. Nid oedd yn glir oddiwrth gynnwys llawer o wallau; a bai cymaint, a hyny oedd nad oedd meddwl yn cael ond ychydig o le yn y lleisiau. Mewn gair, wedi cael alaw, y pwnc oedd cael lleisiau arno fyddent yn canu yn rhwydd, ac yn seinio yn lled beraidd—nid fod y lleisiau yn gweithio allan y meddylddrych oedd yn yr alaw, ac yn ei gryfhâu. Cawn esiampl deg o hyn yn adolygiad Ieuan Gwyllt ar y Cerddor Eglwysig.[4] Tra y rhoddir i'r llyfr ganmoliaeth uchel, eto dywedir fod brychau pwysig yn ei anurddo. Yr oedd mydryddiaeth amryw o hen donau yn wallus, megys Abernant yn cael ei rhoddi yn yr amser triphlyg yn lle yr amser cyffredin; hefyd rhoddid y merched i ganu y cyfalaw (Tenore); ac wrth sylwi ar y cynghaneddiad, y mae yn dyweyd fod yn rhaid gadael mympwy a myned at y gyfraith; a cheid yn y dôn Priscilla 5au dilynol gymaint a phedair ar ddeg o weithiau! Buasai yn anghredadwy bron yn y dyddiau hyn i dybied fod yn bosibl i gerddorion mor enwog yn eu dydd syrthio i'r fath amryfuseddau. Dengys hyn, fodd bynag, nad oedd y cerddorion hyn, er mor uchel, wedi astudio cerddoriaeth yn drwyadl. Yr oeddynt, yn ddiammeu, lawer uwchlaw eu hoes, ac felly yn gallu bod yn foddion i wneyd dirfawr les; ond nid oedd fodd i'w gwaith barhâu, o herwydd nad oedd wedi ei sylfaenu ar yr egwyddorion dyfnaf.[5] A dyma lle yr oedd cuddiad cryfder Ieuan Gwyllt,—yr oedd ynddo enaid cerddorol ac athronyddol, a thrwy lafur ac ymroddiad digymhar yr oedd wedi meistroli ei hegwyddorion yn llwyr; o ganlyniad, nis gallai lai na theimlo y diffygion oedd yn bod, a theimlo awydd cryf i'w wneyd i fyny; a ffrwyth ei lafur yw y Llyfr Tonau. Dadleuai efe fod tôn gynnulleidfäol i gynnwys rhywbeth llawer uwch na nodau wedi eu gosod gyda'u gilydd fel y gellid eu canu yn lled rwydd. Yr oedd yr alaw i fod, tra yn syml (simple, nid simpil, fel y clywsom ef yn dyweyd ar ei ddarlith), eto yn llawn o feddwl; a'r lleisiau eraill drachefn yn dwyn yr un ddelw (fel y gwahanol liwiau yn y darlun yn gwneyd i fyny un meddylddrych), fel ag i fod yn gyfrwng trosglwyddiad syniadau a theimladau uchaf ysbryd dyn mewn addoliad ger bron Duw. Ac felly yn ddiammeu y dylai fod. Y mae i ni dad yn y cnawd sydd wedi canu cryn lawer o donau crefyddol yn ei ddydd, ac er na fedrai egwyddorion cerddoriaeth, eto yr oedd ganddo ddull o'r eiddo ei hun i farnu tôn. Dywedai fod rhyw naws (gair yn tarddu, o bosibl, o'r gair Groeg νους—nous) grefyddol―rhywbeth oedd yn helpu i'r dyn addoli wrth ei chanu; tra yr oedd tôn wael yn amddifad o'r rhywbeth hwnw. Y naws hwn ydyw enaid a hanfod tôn gynnulleidfäol; a phan y byddo'r lleisiau yn cyfranogi o'r un naws, byddant yn foddion i ddyfnhâu y teimlad. Dywedai gweinidog amser yn ol nad aeth neb erioed i hwyl addoli wrth ganu bass. Lle na byddo y lleisiau ond wedi eu gosod i lawr er mwyn cynghanedd, y mae hyny yn lled anhawdd; ond pan y byddont yn cyfranogi o'r naws hwn, y mae yn bosibl addoli gyda hwynt yn gystal ag wrth ganu yr alaw. Ac mewn canlyniad teimlai Ieuan Gwyllt fod yn rhaid i'r dôn fod yn rhydd oddiwrth bob peth a dynai oddiwrth y naws hwn, megys y lleisiau yn ateb i'w gilydd, ac ailadroddiadau o'r geiriau ar ganol y meddwl. Diammeu ei fod wedi cymeryd safon uchel a chywir wrth ba un i farnu tonau, a'i fod wedi cael gafael ar yr egwyddorion oedd i lywodraethu ffurf y wisg, o'r hyn y mae y dôn yn gynnwysedig.

Bellach rhaid i ni ddyfod at y Llyfr. Y mae y Rhaglith, mae yn debyg, yn un o'r darnau mwyaf galluog ar ganiadaeth grefyddol a ymddangosodd erioed yn yr iaith Gymraeg. Sylwa, er fod ymdrechion lawer wedi cael eu gwneyd i ddiwygio ein caniadaeth grefyddol, ei fod eto yn parhâu yn ddiffygiol iawn; ac olrheinia y diffyg hwn i'w brif ffynnonell, sef diffyg ystyriaeth ar ran yr eglwysi, ac yn enwedig gweinidogion a swyddogion tŷ Dduw, o "bwysigrwydd a lle y rhan odidog hon o wasanaeth yr Arglwydd; a dengys y lle uchel a ddylai fod i ganiadaeth y cysegr, a'r budd a ddeilliai o'i gael yn ei le priodol. Rhydd eglurhâd ar ei amcan yn y Casgliad, sef cael casgliad o'r tonau goreu a fedd y byd, a'r rhwystrau a'i cyfarfyddodd yn y gwaith; anhawsder y gwaith o gynghaneddu tonau yn briodol, a'r meusydd y bu yn lloffa ynddynt. Wedi egluro trefn y llyfr, rhydd awgrymiadau pwysig i 1. Ein Gweinidogion a'n Pregethwyr. 2. Ein Diaconiaid Eglwysig. 3. Ein Blaenoriaid Canu. 4. Corff y Gynnulleidfa. Gallem feddwl mai un o'r pethau mwyaf effeithiol i godi dynion i synied yn deilwng am fawl cysegr Duw fuasai darllen ac astudio yn ofalus y Rhaglith hon. Y mae darllen y Mynegai mesurawl yn ein taro ar unwaith ei fod yn dangos ôl llafur dirfawr yn ei barotöad, ac ymdrech egnïol i roddi i'r darllenydd wybodaeth gyflawn am darddiad ac amseriad pob tôn. Y mae wedi eu rhanu yn dri dosbarth, yn ol y corfanau; sef y corfan talgrwn neu ddyrchafedig (Iambic), y corfan Rywiog neu ddisgynedig (Trochaic), a'r corfan crych—ddisgynedig (Anapæstic); a dechreua ymhob un o'r dosbarthiadau hyn gyda'r pennillion sydd yn cynnwys y llinellau hwyaf, gan ddisgyn oddiyno hyd y byraf. Y mae y rhaniad hwn yn meddu rhyw synwyr ac athroniaeth, ac nid taflu pethau ar draws eu gilydd heb ystyr; ac ar bob mesur dechreua gyda'r tonau yn y cywair mwyaf, gan ddiweddu gyda'r rhai yn y cywair lleiaf. Yn y golofn gyntaf ceir rhif y dôn, yn yr ail ei henw, y drydedd ei chywair (mwyaf neu leiaf), yn y bedwaredd ei nodwedd—colofn a ddylai gael astudiaeth fanwl oddiar law pob dechreuwr canu yn enwedig; yna yr awdwr, mor bell ag y medrodd gael allan; ac yn olaf y cynghaneddwr, o'r rhai y mae y rhan fwyaf wedi eu haddrefnu, neu eu ffurfio o gwbl yn newydd, gan y Casglydd. Rhydd y daflen hon fantais i ni weled y ffynnonellau o ba rai y gwnaeth y casgliad. Ac wrth gymharu y bummed golofn yn yr argraffiad diweddaf (1876) â'r cyntaf (1859), yr ydym yn gweled fod cryn gyfnewidiad wedi bod arni, sydd yn dangos ymchwiliad helaeth i olrhain y tonau i'w tarddiad cyntaf; ac y mae yn debyg na wnaed un casgliad Cymreig erioed lle y ceir gwybodaeth mor drwyadl ar y mater hwn ag sydd i'w gael yma. Dengys dwy neu dair o esiamplau ei lafur yn hyn. Yn 1859 rhoddir Machynlleth a Warsaw fel alawon Seisonig, ond yn 1876 yr oedd wedi cael allan mai An. oedd yr awdwr. Yn 1859 ceir Lancaster fel alaw Seisonig, ond erbyn 1876 yr oedd wedi deall mai alaw Ellmynig ydoedd. Priodolir Matthias i Luther yn 1859, ond erbyn 1876 y mae wedi olrhain ymhellach, a chael mai hen alaw ydoedd, hynach na Luther. Yr oedd wedi cael allan erbyn 1876 awdwyr amryw o'r hen donau Cymreig; ac am yr hen dôn St. Mary, a godwyd yn 1859 o Playford (1671), erbyn 1876 yr oedd wedi cael o hyd iddi yn Psalmydd Edmund Prys (1620), yr hyn a roddai le cryf dros ddyweyd mai hen dôn Gymreig ydoedd; ac ychydig cyn ei farwolaeth ymddangosodd llythyr o'i eiddo yn y Musical Times yn dadleu mai hen dôn Gymreig ydoedd. Cynnwysa y llyfr oll 323 o donau (heb gyfrif y rhai sydd i lawr ddwywaith), ac o'r rhai hyn y mae o donau tramor (y mwyafrif yn Ellmynaidd), 142; o donau Seisonig, Ysgotaidd, ac Americanaidd, 61; o hen donau Cymreig, 76; o waith awduron Cymreig diweddar, 23 (o ba rai y mae 11 o waith Mr. J. A. Lloyd); ac o waith Ieuan Gwyllt ei hun, 21. Y mae corff mawr y tonau felly o blith y tonau a genid yn y Diwygiad Protestanaidd yn yr Almaen, yn Geneva, yn Ysgotland, a Lloegr. Yma yr oedd y casglydd yn cael y tonau oedd yn dyfod i fyny â'i syniad uchel ef fel yn cynnwys "symlrwydd, eangder, meddylddrych, urddas, a chrefyddoldeb neu ddefosiwn." Yr wrthddadl benaf, fe ddichon, yn erbyn hyn ydyw ei fod yn cynnwys gormod o'r elfen Allmaenaidd, ac nas gall hyny ymaflyd yn nghalon y Cymry, ac felly fod y canu yn myned yn sych a difywyd. Fe ddichon i'r casglydd ei hun deimlo ei fod, yn y llyfr fel yr oedd ar y cyntaf, wedi esgeuluso gormod ar yr elfen Gymreig, oblegid yn yr Ychwanegiad y mae wedi dwyn i mewn gryn lawer yn ychwaneg o honynt. Ar yr un pryd, tra yn addef yn rhwydd. fod yr hen donau Cymreig yn dḍa, ac na fynem eu colli, eto byddai cyfyngu yn gwbl i'r rhai hyn yn ffolineb o'r mwyaf. Yr un yw crefydd ymhob gwlad, ac y mae ei theimladau yn lled gyffelyb ymhob dyn o ba genedl bynag y byddo; ac y mae yr amrywiaeth sydd yn y casgliad hwn yn nodedig o fanteisiol i gyfarfod âg amrywiaeth y teimladau hyny. Ac y mae yn ddiddadl ei fod y casgliad mwyaf cyflawn o'r tonan goreu a fedd yr eglwys drwy y byd a ymddangosodd erioed yn Nghymru, ac hwyrach mewn un wlad arall. Mae y cynghaneddiad arnynt oll yn glasurol, yn gryf, a mawreddog — hwyrach i raddau yn lled stiff, ac yn gofyn tipyn o ymdrech i'w feistroli; ond er hyny y mae yn dda—yn nodedig felly. Y mae cynghaneddiad rhai o'r hen donau Cymreig yn neillduol o hapus. Mae rhai beirniaid yn gallu canfod gwallau wrth gwrs (a'r un modd y gallent yn y cyfansoddwyr goreu); ond nid gwallau o ddiofalwch ac amryfusedd ydynt, ond wedi eu defnyddio i gyrhaedd amcan neillduol, ac nis gall nemawr ddim fod yn well astudiaeth i gyfansoddwyr na chynghaneddiad y llyfr hwn, a'r defnydd a wneir o'r "troseddau." Ceir esiampl dda o'r defnydd o 5au dilynol ar y sill acenol yn y dôn St. Bride, rhif 124, a'r un peth ar y sill ddiacen yn y dôn Llantrisant, rhif 154. Gyda golwg ar yr Alawon Cymreig, cwynir gan rai ei fod wedi talfyru a thorfynyglu gormod arnynt, pan y mae wedi gadael allan ailadroddiadau a llithreni, a'i fod yn fynych wedi newid tonau. Yn y mater olaf hwn, yr oedd yn ddiddadl wedi gwneyd pob ymdrech i gael gafael arnynt yn y ffurf fwyaf gwreiddiol; am y lleill, mater o chwaeth ydoedd, yr ydoedd yn rhaid newid ychydig arnynt i ddyfod i fyny â'i safon ef, neu eu gadael allan, yr hyn ni fuasai yn ddymunol, ac nid ydym eto wedi gweled neb wedi dyrchafu gymaint yn uwch nag ef mewn chwaeth, fel ag i fod yn uwch awdurdod. Fel rheol, fel arall y mae y rhai mwyaf gwybodus, a mwyaf pur eu chwaeth, yw y rhai parotaf i edmygu yr hyn a wnaeth efe. Y mae hyn yn ddiddadl, fod y rhan fwyaf, os nad yr oll o'r Alawon Cymreig a geir yma, i'w cael mewn llawer ardderchocach diwyg, ac mewn agwedd fwy mawreddog, nag eu gwelwyd erioed o'r blaen. Am ei donau ef ei hun, y mae rhai o honynt yn hynod o dda, ac wedi cael derbyniad croesawgar, ac y mae eraill o honynt ag y mae eu gogoniant heb gael ei weled eto. Nid yw ei alawon ef ei hun, mwy na'i gynghaneddion, yn cynnwys llawer o naturioldeb; yn hyn, fe ddichon, y mae eu prif ddiffyg, ond er hyny y maent yn gryfion a mawreddog, ac yn llawn o feddwl a theimlad. Y mae Moab ar emyn doddedig Ieuan Glan Geirionydd yn engraifft o lwyddiant cyflawn a pherffaith, lle yr oedd llawer wedi methu. Nid oes odid yn yr holl lyfr un dôn fwy llawn ac ardderchog na Liverpool. Mae Aberafon yn esiampl deg a hollol lwyddiannus o'r swynol a'r prydferth. Ac fel yr oedd efe yn ofalus gyda phob manylion, yr oedd ei ddewisiad o enwau ei donau, naill ai yn dal cysylltiad â'i fywyd ef ei hun, neu âg amgylchiadau y pennillion mwyaf neillduol arnynt. Yn y rhai cyntaf cawn Penllwyn, Melindwr, Rheidiol, Aberystwyth, Liverpool, Mount St., Everton, Tydfil, Padarn, ac fe allai Aberhonddu. Yn yr ail ddosbarth cawn Ymostyngiad, Esther, Dolwar, a Moab. I'r meddylgar y mae hyn yn awgrymiadol. Yn ddiweddar, yr oedd gweinidog lled ieuanc yn cadw society yn ei eglwys, a phryd nad oedd dim llawer neillduol gan neb, dechreuodd eu holi beth oedd yr emyn a ganwyd ar ddechreu y cyfarfod—atebwyd ef mai "Anturiaf ato yn hyderus, &c." Yna dechreuodd holi, pwy gyfansoddodd yr Emyn? A. Griffiths. Pwy oedd hono? Emynyddes ardderchog yn Sir Drefaldwyn yn y ganrif o'r blaen. Pa dôn a ganwyd ar yr Emyn? Esther. Paham y galwyd y dôn yn Esther? Am fod cyfeiriad yn y geiriau at Esther yn myned at Ahasferus. A oes rhyw neillduolrwydd yn perthyn i Esther ragor tonau yn gyffredin? Oes, y mae wedi ei chyfaddasu at bennillion A. Griffiths, y rhai ydynt yn fynych sill yn ormod. A oes tôn arall yn y llyfr felly? Oes, Dolwar. Paham y galwyd hi felly? Oddiwrth enw cartref awdures yr Emyn. Ac felly ymlaen, cafwyd society nodedig o flasus, trwy ddechreu yn y ffordd yma, a myned at ystyr y pennillion, society ag y bu son am dani am wythnosau. Yr oedd y casgliad pan y daeth allan gyntaf yn cael ei gydnabod yn fuan fel y goreu, ac y mae yn aros hyd yn hyn heb gymhar iddo. Mae ynddo rai tonau, mae yn wir, lled anhawdd, ac wedi eu bwriadu i gynnulleidfäoedd lled ddiwylliedig, fel y dengys nodiad yn y rhaglith; ac y mae hyn yn ei wneyd yn fwnglawdd cyfoethog, y gall pob cynnulleidfa yn Nghymru gael digon o le i ymgyfoethogi drwyddo. Yn wir, y diffyg mawr ydyw, diffyg gwneyd defnydd priodol o hono, a threiddio i mewn i enaid ei gynnwys; y mae ein cynnulleidfaoedd yn ymfoddloni ar ryw nifer fechan fechan o honynt, a'r rhai hyny yn cael eu canu mewn dull marwaidd a difywyd nes sychu i fyny eu hysbryd. "Marwaidd" a ddywedasom, ïe, llawer mwy araf a marwaidd nag y dychymygodd y Casglydd am iddynt gael eu canu; ac yr ydym wedi sylw ar un ffaith nodedig sydd yn dangos can lleied o sylw sydd yn cael ei dalu i'r llyfr heblaw edrych yn unig ar y nodau. Y mae y Casglydd wedi cymeryd tri amser, sef y modd arafaf 2, y modd cyflymaf, a'r amser triphlyg, ac yn ddiddadl yr oedd yn bwriadu hyn i ddangos mewn modd cyffredinol gyflymder y tonau. Yn lle hyny, cenir Verona, Dusseldorf, Dismission, &c., mewn modd cyflym iawn; tonau bendigedig pe cenid hwynt yn araf a mawreddog. O'r tu arall, cenir Meirionydd, St. John, Talybont, ac yn enwedig yr hen Dorcas, yn araf a llusgedig, tra y maent wedi eu rhoddi i lawr yn y modd cyflymaf, ac felly yn ddiammeu y dylent fod. Nid ydym yn gwybod am ddim o fewn y llyfr, yn dangos mor drwyadl yr oedd y Casglydd wedi astudio ansawdd y tonau, a'r dull goreu i'w canu, na'r rhaniad hwn o ran yr amser, ac nid ydym yn gwybod am ddim sydd mor amlwg ac eto mor hollol guddiedig oddiwrth gantorion ein gwlad. Y mae y casgliad gwir ardderchog hwn, nid yn unig yn gofgolofn oesawl o lafur dirfawr y Casglydd ymroddgar, ond hefyd yn drysorfa genedlaethol, yn waith sydd, eisoes, ac am ei fod yn seiliedig ar egwyddorion uchaf cerddoriaeth, yn debyg o aros yn hir yn safon i farnu tonau cynnulleidfäol wrtho. Ceir yma donau ar bob mesur y mae dim o werth wedi ei gyfansoddi arno, ac y mae nifer y tonau yn cyfateb yn lled agos i nifer yr emynau o werth sydd arnynt yn yr iaith. Gwaith mawr oes y Casglydd oedd ei wneyd, ac nid oes o fewn ei ddalenau, nodyn nac arwydd, na gair, nad yw yn dangos ôl myfyrdod ac ymchwiliad manwl. Costiodd lawer iddo ef, ond wedi ei gael y mae wedi dyfod yn eiddo y genedl, yn llyfr y gallwn heb betrusder ymffrostio ynddo, a'i osod ochr yn ochr âg unrhyw gasgliad gan unrhyw genedl dan y nefoedd. Nid pawb sydd yn gallu anrhegu eu gwlad a'u cenedl â gwaith fel hyn, ond gallodd y llafurus Ieuan Gwyllt wneyd hyny.

4. Y Cerddor Cymreig: Cylchgrawn misol at wasanaeth Cerddoriaeth ymysg cenedl y Cymry. Cyhoeddedig dan nawdd prif Gerddorion, Corau, ac Undebau Cerddorol y genedl. Dan olygiad y Parch. John Roberts (Ieuan Gwyllt). Y gyfrol gyntaf a'r ail—o Mawrth, 1861, hyd Rhagfyr, 1864,—46 o rifynau. Merthyr Tydfil: Cyhoeddwyd gan J. Roberts. Argraffwyd gan I. Clarke, Rhuthyn. Cuf. III—XI., 18651873. Rhif 47—154, Gwrecsam: Argraffedig a Chyhoeddedig gan Hughes a'i Fab.

Cerddor y Tonic Sol-ffa: Cylchgrawn misol, at wasanaeth dosbarthiadau y Tonic Sol-ffa. Dan olygiad y Parch. J. Roberts (Ieuan Gwyllt). Cyf. I—VI., 72 o rifynau, 1869—1874. Wrexham, Argraffedig a Chyhoeddedig gan Hughes & Son.

Gwelsom fod y syniad am gyhoeddiad misol cerddorol yn Gymraeg wedi ei gychwyn yn rhagorol, ond ar raddeg fechan, yn y Blodau Cerdd, a hwnw mae yn debyg oedd yr ymdrech cyntaf erioed o'r fath a wnaed yn Nghymru. Wedi gorfod rhoddi hwnw i fyny ar ol myned i Liverpool, ac er dysgwyl am gyfle i'w ail gychwyn, ni ddaeth yr adeg gyfleus hyd fis Mawrth, 1861, pryd y cychwynwyd un ar ffurf helaethach yn y Cerddor Cymreig. Cyhoeddwyd y ddwy gyfrol gyntaf (4 blynedd), fel y gwelir, gan Ieuan Gwyllt ei hun yn Merthyr Tydfil, ac argreffid ef gan I. Clarke, Rhuthyn. Ond yr oedd hyn yn gryn anfantais. Nid yn unig y mae y drafferth i gyhoeddwr private yn anferth, ond hefyd, nis gall fod mor lwyddiannus am nad ydyw yn llinell gyffredin masnach. Oddieithr y buasai digon o waith i gyhoeddwr yn Nghymru heb wneyd dim arall, y mae yn well i'r cyhoeddwr a'r argraffydd yn y cyffredin fod yr un. Ond lled anhawdd, yn fynych, yw taraw ar argraffydd digon anturiaethus, a digon o ysbryd masnach i wthio peth fel hyn ymlaen. Ac mewn amgylchiad fel un y Cerddor, yr oedd y cylch yn fwy cyfyngedig, oblegid yr argreffid cerddoriaeth ynddo, ac nid pob un allasai wneyd hyny, yn enwedig yn ddestlus. Yr oedd y ddwy gyfrol gyntaf, fodd bynag, yn eithaf credit i wasg I. Clarke. Er hyny, ffortunus oedd y symudiad i Wrexham, oblegid yr oedd swyddfa Mri. Hughes a'i Fab yn meddu cysylltiadau ëang trwy Gymru oll, ac yn dwyn ymlaen fasnach led helaeth â bron bob cymydogaeth ynddi, fel nad oedd neb mewn cystal mantais i wneyd iddo dalu. Diammeu hefyd fod cychwyn yn y cyfeiriad cerddorol wedi bod o fantais hefyd i'r swyddfa ei hun, oblegid ymagorodd i ddyfod yn raddol yn fasnach ëang. Ond yr oedd y Cerddor Cymreig yn costio llafur dirfawr i'r Golygydd, oblegid cawn ef yn Mehefin, 1861, yn tystio ei fod yn ysgrifenu y cwbl o'r Cerddor ei hun.[6] Ac yr oedd ei gynnwys yn wirioneddol werthfawr.[7] "Os darllenir rhifynau y tair blynedd cyntaf—enwid y tair blynedd cyntaf am eu bod yn well na rhifynau y bedwaredd a'r bummed flwyddyn, nid oblegid unrhyw balldod ar ran Mr. Roberts ei hun, ond o herwydd y diffyg cefnogaeth a roddid iddo gan y genedl ynglŷn â pharotoi defnyddiau uchelryw cyffelyb i'r rhai a nodweddai y tair blynedd cyntaf—rhaid addef eu bod o ran eu teilyngdod a'u gwerthfawredd yn deilwng o gael eu cymharu âg unrhyw ysgrifau ar gerddoriaeth a gyhoeddwyd erioed yn yr iaith Saesoneg. Yn wir, nid oedd y pryd hyny yr un cyhoeddiad misol yn yr iaith hono yn cynnwys sylwadau mor werthfawr ar gerddoriaeth yn gyffredinol ag a geid yn y Cerddor Cymreig. Ni wyddai ef (Mr. Saunders) am ddim byd ond y Musical Times, ac nid oedd y cyhoeddiad hwnw yn deilwng o gael ei gymharu â rhifynau y Cerddor Cymreig am y tair blynedd cyntaf o'i fodolaeth. Cwbl gredai ef ddarfod i'r nodiadau cerddorol a ysgrifenodd y diweddar Mr. Roberts fod yn foddion i godi safon ein cerddorion yn Nghymru. Os nad oedd efe yn camsynied, yr oedd o'i amgylch y diwrnod hwnw lawer o blant ac ŵyrion i'r diweddar Ieuan Gwyllt, ac nid oedd yn eu plith yr un cerddor na chyfaddefai mai Mr. Roberts fu yn foddion i ddwyn Cymru i'w safle gerddorol bresennol. Cychwynodd y Cerddor Cymreig, a pharhaodd i'w gyhoeddi am wyth mlynedd,[8] gan wario llawer o bunnoedd am ei gyhoeddi, trwy nad oedd y cylchrediad yn ddigon i gyfarfod y draul. Ysgrifenodd agos i'r oll o'r rhifynau ei hun, ac ni chafodd y nesaf peth i ddim am y llafur mawr a gyflawnodd yn yr ystyr yma." Rhydd cipolwg ar gynnwys cyfrolau y Cerddor ryw syniad i ni am ei werth. Cawn dair erthygl i ddechreu ar hanes cerddoriaeth, ac wyth eraill ar Gerddoriaeth Hebreaidd; ond nid yw y rhai hyn ond cychwyn y pwnc, er hyny nid aethpwyd ymhellach. Ar gynghanedd y mae yma 19 o erthyglau gwir feistrolgar, yn myned i mewn at athroniaeth ac egwyddorion y pwnc. Ar gyfansoddiant 4 erthygl, y Trawsgyweiriadau 10, ar Fynegiant 5, Caniadaeth Grefyddol 5, a Chaniadaeth Gyffredinol 5; ac y mae y rhai hyn yn ffrwyth astudiaeth fanwl a thrwyadl. Y flwyddyn gyntaf, ysgrifenodd Mr. Eleazar Roberts, Liverpool, 12 o erthyglau ar y Tonic Sol-ffa, y rhai a gyhoeddwyd wedi hyny dan y teitl Llawlyfr Caniadaeth, ac nid ymddangosodd dim eglurhâd gwell ar y gyfundrefn yn yr iaith Saesoneg. Ceir 3 erthygl ar Egwyddorion Cerddoriaeth, a 15 eraill fel Llawlyfr i Gerddoriaeth yn rhagorol iawn, a 12 o rai yn ymdrin ar Y Côr a'i Ddysgyblaeth. Un o'r pethau gwerthfawrocaf a mwyaf trylwyr ynddo ydoedd y 46 erthyglau "Geiriadur y Cerddor," sydd yn cyrhaedd o'r dechreu hyd y nawfed gyfrol, ond nid yw wedi myned ymhellach ymlaen ar y wyddor na'r gair "Caneuon." Mewn Bywgraffyddiaeth ceir 66 o erthyglau, o ba rai y cawn nodiadau helaeth ar Mozart a Handel, a chrybwylliadau byrion am liaws o rai eraill. Ac heblaw hyn ceir golwg gryno a chyflawn ar holl brif symudiadau cerddorol yr adeg, yn cynnwys adolygiad ar Eisteddfodau, Cylchwyliau Cerddorol, hanes Cymanfäoedd Cerddorol Gwent a Morganwg, Eryri ac Ardudwy, Llythyrau Arthur Llwyd, hanes Teithiau Cerddorol y Golygydd, ynghyd a'i nodiadau gwerthfawr ynddynt, llythyrau o Lundain, a chronicl o ddygwyddiadau cerddorol bob mis. Ymddangosai Beirniadaethau lawer iawn ynddo, ac yr oedd ei feirniadaethau ef yn llawn o addysg. Dyddorol ac addysgiadol iawn ydyw darllen "Ystafell yr Hen Alawon," a llawer o oleuni a gafwyd ynddi ar gwestiynau o darddiad ac awduriaeth alawon. Ond hwyrach mai y prif gymhellydd i lafur oedd "Bwrdd y Golygydd," a "Chongl yr Efrydydd Ieuanc," lle y rhoddai y Golygydd atebion i gwestiynau—cyfarwyddiadau a chynghorion—tasg i'r cyfansoddwyr ieuainc, ac adolygiad ar eu cynnyrchion. Yn hon deuai i'r golwg ei allu neillduol ef i adnabod teilyngdod cyfansoddwyr ieuainc, i'w calonogi a'u cyfarwyddo, nes tyfu o honynt yn raddol i gymeryd eu lle fel cyfansoddwyr o alluoedd. Teimlai pob un ei fod yn ei gael ef yn gyfaill iddo, ac yn gyfarwyddwr, a thad, ac nid oes wybod nifer ei "blant" yn yr ystyr yma, y rhai a adnabyddai bob un yn dda, ac yr ennynai ynddynt yr awydd cryfaf am ragori. Gallem enwi heddyw, rai y gwelwyd eu henwau yn cychwyn gyda'r nodiadau "Bwrdd y Golygydd," ac yn ennill mwyfwy o gymeradwyaeth, nes y gwelid eu cynnyrchion yn dechreu cael eu cyhoeddi ar ddalenau y Cerddor, ac sydd i'w henwi erbyn hyn ymhlith prif gyfansoddwyr Cymru. Dyma, fe ddichon, ei ragoriaeth penaf ef fel Golygydd, gallu i fagu a meithrin yr ieuainc. Ceid hefyd yn yr adolygiadau ar lyfrau, feirniadaeth deg, gonest, a diduedd, a hollol chwaethus ar y llyfrau a gyhoeddid o bryd i bryd. Ac os dymunid cael crynhoad byr, ond cyflawn a rhagorol, o hanes cerddoriaeth a'r prif ddygwyddiadau yn y byd cerddorol, bob blwyddyn y bu y Cerddor fyw, ceir ef yn y Rhagymadrodd digymhar, a wneid ar ddiwedd pob blwyddyn i'w roddi ar ddechreu pob cyfrol. Fel hyn, pa ddefnyddiau rhagorach a ellid ddyfeisio? Mae yn wir fod y tair blynedd cyntaf yn rhagori, fel y dywedai Mr. Saunders, a'i fod yn y blynyddoedd diweddaf yn trin mwy ar symudiadau cerddorol y dydd; er hyny, erbyn cael yr un gyfrol ar ddeg hyn at eu gilydd (10 cyfrol ond 13 mlynedd, y mae 2 flynedd bob un yn y ddwy gyfrol gyntaf), y maent yn cynnwys crynodeb o wybodaeth gerddorol sydd yn anmhrisiadwy. Os oes diffyg i'w deimlo, dyma ydyw, fod y medi wedi dechreu mewn gormod o feusydd mor ëang, ac nad oes yr un o honynt wedi ei orphen. Ond rhydd hyn agoriad llygad i'r efrydydd ar bob un o honynt; daw i feddu rhyw syniad am ëangder diderfyn cerddoriaeth, a chyfyd awydd ynddo i wybod mwy. Ac y mae yn debyg fod y diffyg hwn yn anocheladwy mewn cylchgrawn o'r maint, ac yn dyfod allan yn fisol. Ond am ei werth, dyma dystiolaeth un o'i ohebwyr yn 1866, pan sonid am ei helaethu a chodi ei bris er cael mwy o le. "Yn wir, pe costiai 6c. y mis, gwyddom y byddai raid i lawer o gerddorion ieuainc ei gael. Y mae amryw bethau yn peri hyny. Yn un peth, y mae yn rhoddi mwy o eglurhâd ar bynciau tywyllaf cerddoriaeth nag un llyfr arall y gwyddom am dano mewn un o'r ddwy iaith. Hefyd y mae yn rhatach o lawer na dim a fedd y Saeson, ac felly yn llawer hawddach i blant gweithwyr ei gyrhaeddyd. Os cymer yr ychwanegiad le, bydd wedi hyny le i wers bob mis yn y Llawlyfr; ac felly, gallwn ddysgwyl cael eglurhâd ein hathraw ar y penau sydd eisoes wedi eu nodi, sef Melodedd, Cynghanedd, Cyfosodiant (Counterpoint), Ffurfiau Celfyddydol, Cerddoriaeth Leisiol ac Offerynol. Mae yr ieuenctyd am fyned ymlaen, ar ol unwaith gael gafael; ac nid oes achos i neb o honynt gywilyddio os hwn yw yr unig lyfr ar elfenau cerddoriaeth ag sydd yn eu meddiant; oblegid y mae yn cynnwys mwy o wybodaeth am gerddoriaeth a'i hegwyddorion nag a geir mewn un llyfr arall cyffelyb iddo. Yr ydym am dalu pob parch dyladwy i bawb; ond tua'r A B C y buasai llawer llanc o Gymro hyd y dydd hwn, oni buasai i'r Cerddor ei dywys yn ei flaen."[9] Rhoddid dernyn o gerddoriaeth hefyd ymhob rhifyn, oedd ynddo ei hun yn fwy o werth na phris y Cerddor, ac nad allesid ei gael yn un man arall am y pris hwnw. Cymerasom ychydig drafferth i gyfrif y darnau yn y Cerddor Cymreig, a chawsom yn yr Hen Nodiant 43 o ddarnau clasurol o waith rhai o'r prif gyfansoddwyr, o ba rai y mae y geiriau ar 27 wedi eu trefnu gan y Golygydd—64 o ddarnau o waith awdwyr Cymreig—14 o Anthemau Cymreig—6 o Alawon, gan mwyaf yn Gymreig, a 4 Tôn Gynnulleidfäol. Heblaw hyn, y mae yn y Tonic Sol-ffa 19 o ddarnau clasurol (12 a'r geiriau gan y Gol.)—10 o waith awduron Cymreig, a 15 o Alawon,—oll ond un wedi eu trefnu gan y Golygydd, a geiriau amryw o honynt o'i waith ef. Dyma felly 185 o ddarnau cerddorol, a thua 100 o honynt o waith awdwyr Cymreig diweddar. Ymhlith y darnau clasurol, y mae nifer mawr o esiamplau o weithiau prif gerddorion y byd. O'r awdwyr Cymreig diweddar, cawn enwau O. Alaw, J. A. Lloyd, Cyndeyrn, Gwilym Gwent, Eos Llechid, E. Stephen, Tydfylyn, Eos Rhondda, a Brinley Richards,oeddynt fwy neu lai yn adnabyddus fel cerddorion o'r blaen; a D. Jones, D. Lewis, Ylltyr Eryri, J. Thomas, Blaenanerch, Alaw Ddu, Joseph Parry, Orwig Wyllt, R. Stephen, Isalaw, D. Emlyn Evans, W. H. Owen (mab O. Alaw), R. Mills, Wrexham, a J. Henry Roberts, oll, os nad ydym yn camgymeryd, a ddygwyd i sylw Cymru drwy y Cerddor Cymreig am y tro cyntaf. Y gwirionedd yw, nid gormod, ni a dybiem, yw dyweyd fod y Cerddor wedi creu dosbarth newydd o gyfansoddwyr a beirniaid cerddorol, y rhai y gall Cymru fod yn falch o honynt. A'r un modd y gellir dyweyd am y cyfansoddiadau; yr oedd y chwaeth uchel a phur oedd yn rhedeg drwyddynt oll yn foddion i greu cyfnod newydd yn nghaniadaeth Cymru. Trwy ddwyn cyfansoddiadau o'r natur yma mor gyfleus a chyrhaeddadwy i gorau ein gwlad, yn raddol fe ymlidiwyd ymaith y sothach oedd yn cael eu harfer yn flaenorol, ac fe roddodd corau Cymru gamrau breision ymlaen mewn ychydig amser, ac fe ddyrchafwyd eu chwaeth mor drwyadl, fel pe dygwyddai i unrhyw gôr yn awr ganu darnau gwaelion a diwerth, yr elai yn destun gwawd a syndod gan yr holl wlad. Os bu y Llyfr Tonau Cynnulleidfäol yn foddion i greu cynhyrfiad mewn caniadaeth grefydd ol drwy Gymru oll, nid llai grymus fu y cynhyrfiad a roddodd ymddangosiad y Cerddor Cymreig mewn caniadaeth gyffredinol. Yr oedd hwn mewn rhyw ystyr yn ddyfnach, oblegid yr oedd yn gyffelyb i fel pe buasai cyfnewidiad yn cymeryd lle yn nghyfundrefn addysg y wlad, yr hwn fuasai yn effeithio ar holl gangenau gwybodaeth. Felly ceir Ieuan Gwyllt yma, yn ei ëangder, megys yn cyffwrdd ei law â gwahanol gangenau cerddoriaeth, a thrwy allu anorchfygol ei enaid nerthol, yn peri i holl wersyll cerddoriaeth Gymreig deimlo grym ei ddylanwad.

Nis gellir rhoddi yr un safle i Gerddor y Tonic Sol-ffa â'r Cerddor Cymreig. Wedi i'r Golygydd ddyfod i adnabod y gyfundrefn hono, efe a roddodd ei holl ddylanwad o'i phlaid, a chredai ynddi fel y moddion mwyaf effeithiol i ddysgu elfenau cerddoriaeth, yn enwedig i blant. Buan y teimlodd fod yn rhaid rhoddi lle i'r gyfundrefn hon yn y Cerddor, ond yr oedd yn anhawdd iawn, gan fod y terfynau mor gyfyng. Ceisiodd am rai blynyddoedd wneyd y goreu ellid, ond o'r diwedd anturiwyd cyhoeddi Cerddor i'r Tonic Sol-ffa ar ei ben ei hun. Ac yma eto y mae dylanwad anghyffredin y dyn a'r cerddor yn dyfod i'r golwg. Os mai Mr. E. Roberts, Liverpool, gafodd roddi y cychwyn i'r symudiad Tonic Solffa—yddol yn Nghymru, a bod y symudiad i ryw raddau yn gylymedig wrth y swyddfa yn Llundain, eto buasai wedi newynu oni buasai i Ieuan Gwyllt daenu ei aden drosto, a darparu ymborth iddo. Ymledodd y symudiad gyda chyflymdra anghyffredin tua'r blynyddoedd 1861—66, ac yr oedd yn anghenrheidiol cael cerddoriaeth i'r genedl newydd" oedd yn cael eu geni i'w chanu; ac yr oedd o bwys mawr o ba nodwedd y byddai y gerddoriaeth hono. Ceid arwyddion fod rhyw ddosbarth heb fod o'r chwaeth uchaf yn barod i ddyfod i'r maes; ond o drugaredd Rhagluniaeth, trwy gyfrwng y Cerddor Cymreig, cafodd Ieuan Gwyllt dywys y symudiad at y da, a'r pur, a'r chwaethus, fel na chafodd y dosbarth arall le i roddi troed i lawr. Fel yr oedd y symudiad yn ymledu a chryfhâu, daeth yn anghenrheidiol iddo gael cyfrwng cymundeb, a dyna yn benaf a gawn Cerddor y Tonic Sol-ffa, ond y mae yn y blynyddoedd olaf yn ymddyrchafu i ddechreu gafael yn yr egwyddorion. Mae y darnau cerddorol a ymddangosent ynddo hefyd yn fwy syml—yn gyfaddas i alluoedd y dosbarthiadau, a'r amrywiaeth oedd ynddynt. Ond yn hyn yr oedd y Golygydd mewn anhawsder, fel y clywsom ef yn tystio. Gwaherddid ef gan yr "awdurdodau" i gyhoeddi yn y Cerddor yn Gymraeg ddim oedd wedi ymddangos eisoes yn y Tonic Solfa Reporter, ac yr oedd erbyn hyny swm anferth o gerddoriaeth, a'r gerddoriaeth y buasai un yn fwyaf tueddol o droi ati, eisoes wedi ymddangos yn hwnw. Cafodd faes lled newydd, fodd bynag, mewn cerddoriaeth Americanaidd, ac yr oedd nifer o gyfansoddwyr ieuainc Cymreig yn dechreu cynnyddu i allu cyfansoddi darnau at wasanaeth y dosbarthiadau; ac o'r ddau ddosbarth yma, gan mwyaf, y mae cerddoriaeth y Cerddor wedi ei gyfansoddi. Ymysg y cyfansoddwyr ieuainc a ddygir i'r golwg, cawn enwau D. Jenkins, H. Davies, Garth, O. Owens, E. Cynffig Davies, Treforfab, Alaw Llyfnwy, Alaw Afan, a lliaws eraill, y rhai ydynt blant Cerddor y Tonic Sol-ffa. Ac yr oedd y golofn "At ein Gohebwyr," a "Chongl y Cyfansoddwyr leuainc," yn cael eu dwyn ymlaen yn fuddiol yn y Cerddor yma. Yn y darnau Americanaidd ceir rhanau syml, o waith Phillip Phillips ac eraill cyffelyb, yn fynych wedi eu cynghaneddu gan y Golygydd; a cheir pedwar dernyn bychan lled syml ond prydferth, gyda'r geiriau, ar gerddoriaeth o'i waith ef ei hun, sef "Iesu sy'n teyrnasu,' a'r "Gwynfydau," "Ar ben mae'r dydd," a "Paham ai myfi fydd y cyntaf?" Erbyn y blynyddoedd olaf o'r Cerddor hwn, yr oedd y llafur gyda'r dosbarthiadau Tonic Sol-ffa wedi myned heibio i raddau helaeth. Yn niwedd 1873 ysgrifena y Golygydd yn ei ragymadrodd, "Yn plethu dwylaw ynghyd ac yn hepian, gallem dybied, y mae Cymru wedi bod yn ystod y flwyddyn. Hyny ydyw, mewn cymhariaeth." Canlyniad naturiol hyn oedd i gylchrediad Cerddor y Tonic Sol-ffa ddarfod, ac iddo farw. Ond nid cyn ei fod wedi cael rhoddi nerth a symbyliad i symudiad a wnaeth gantorion Cymru nid yn unig yn lleiswyr ond yn ddarllenwyr, fel nad oes odid neb yn awr yn anturio cyhoeddi na chân na chanig heb ofalu am ei chael yn y Tonic Sol-ffa mewn rhyw ffurf neu gilydd; ac o'r ddau, haws yw gwneyd heb yr Hen Nodiant nag heb y Tonic Sol-ffa. Ofnwn mai ychydig o lafur gydag egwyddorion sydd yn awr, ond y plant yn dysgu darllen y naill oddiwrth y llall; a diammeu fod eisieu rhyw ysgogiad newydd i ddysgu elfenau y wybodaeth hon. Da iawn, ar yr un pryd, fu cael y Cerddor yn ei ddydd, ac yr oedd purdeb ei chwaeth yn cynnyrchu chwaeth gyffelyb yn yr ieuenctyd; ac nis gellir prisio gwerth hynyma. A daeth llafur y Golygydd mewn cyfieithu a chyfansoddi barddoniaeth ganadwy i'r golwg yn fwy nag erioed, ac ar y cyfan gallwn ddyweyd fod y darnau yn y Cerddor wedi eu trefnu a'u cyfieithu yn dda ragorol. Y mae yma faes toreithiog i'w roi yn nwylaw ein plant a'n pobl ieuainc; a gallwn deimlo yn ddedwydd wrth wneyd hyny fod pob nodyn a llinell ynddo o duedd i'w dyrchafu a'u gwellhâu.

5. Swn y Juwbili: neu Ganiadau y Diwygiad, gan y Parch. John Roberts (Ieuan Gwyllt). Wrexham: Cyhoeddedig gan Hughes and Son.

Sylwasom o'r blaen fod Mr. Roberts wedi bod yn llafurio cryn dipyn yn y maes Americanaidd yn Ngherddor y Tonic Sol—ffa, ond yr oedd y rhai hyny wedi eu darparu yn benaf i ddosbarthiadau y Tonic Sol-ffa. Bu ei ddyfodiad i gyffyrddiad â Mri. Moody a Sankey, a'r cynhyrfiad grymus oedd yn cydfyned â'u gweinidogaeth hwy, a'r cydymdeimlad oedd yn Nghymru a'r diwygiad, yn foddion i danio ei ysbryd ef ei hun, ac i godi ynddo awydd am gyfranu rhywbeth i gynnorthwyo y symudiad hwn i gael argraff ar genedl y Cymry. Gyda chaniatâd Mr. Sankey, ymgymerodd â dwyn y tonau a genid ganddo mewn gwisg Gymreig. Daeth y rhan gyntaf allan yn lled fuan, 32pp., 3 ceiniog, ond cymerodd y rhanau eraill fwy o amser; ac erbyn Rhagfyr 15, 1876, yr oedd y chwe' rhan yn barod i ddyfod allan yn gyflawn, i gael eu cyhoeddi gyda'u gilydd. Yn ei ragymadrodd dywed, "Nid oes neb a deimla yn fwy na mi oddiwrth y diffygion lawer a ganfyddir yn y tu dalenau canlynol; ac eto y mae genyf le i gredu fod Duw wedi rhoddi ei fendith ar fy llafur hwn, er mor anmherffaith ydyw. Mae yn dda genyf weled arwyddion fod lle a natur y caniadau hyn yn cael eu deall yn well nag yr oeddynt. Yn lle bod y plant—a neb ond y plant—yn eu rantio gyda chyflymder afresymol, heb ddim geiriau ond sillau y Sol-ffa, y mae llaws y cynnulleidfäoedd bellach, mewn llawer o leoedd yn eu dysgu, ac yn eu canu gydag ystyriaeth a theimlad." Dengys y rhan gyntaf yn enwedig gryn dipyn o ôl brys, ac yn herwydd hyny anystwythder yn nghyfaddasiad y geiriau at y Gerddoriaeth. Dysgwylid llawer am gael "Iesu o Nazareth,"—ond nid hapus fu y cyfieithiad; yn wir, nid ydym eto wedi gweled un llwyddiannus gan neb. Ond er fod ychydig, mewn cymhariaeth, o esiamplau o fethiant, yn y rhan fwyaf o lawer y mae wedi bod yn llwyddiannus iawn. Y mae y gyntaf yn y llyfr, "Daliwch Afael," yn nodedig o hapus; ac mewn llawer iawn o honynt y mae wedi gallu ymwthio i'r dôn a'r geiriau, nes y teimlir fod rhyw eneiniad prydferth arnynt yn y Gymraeg, yn llawn cymaint a'r Saesoneg; er esiampl, "Cofia Fi," "Y Meichiau," "Mae'r Iesu'n galw'n awr," "Fe ddarpar yr Iôr," &c.; pe nodem yr oll, elem dros ben pob terfynau. Yr oedd y cyfieithydd ei hun wedi ei lenwi yn hynod o ysbryd y diwygiad, a'i galon yn llosgi ynddo, ac y mae yr ysbryd hwnw i'w weled a'i deimlo yn y llyfr hwn. Mae yn ddiammeu fod Mr. Roberts yn gweled yn yr Emynau hyn rywbeth yn cyfarfod â gwedd ar yr efengyl, ac ar brofiadau dynion yn ei gwyneb, nad oedd i'w gael yn hollol yn yr Hymnau Cymreig, ac y teimlai fod anghen am dano. Ond ni chyrhaeddodd yr amcan. Fel y crybwylla ef ei hun, cymerwyd hwynt fel caneuon i blant i'w rantio heb ystyriaeth, ac er fod rhai cynnulleidfäoedd yma ac acw wedi ceisio ymaflyd ynddynt o ddifrif, eto i raddau bychan iawn y gwnaed hyny, ac ni chafodd corff ein cynnulleidfäoedd ddim gafael gwirioneddol ar eu hysbryd Dichon nad oedd y diwygiad wedi gafael yn ddigon dwfn yn ein gwlad, ac yr oedd eisieu hefyd ryw Sankey, neu ddynion o gyffelyb allu ac ysbryd, i arwain ein cynnulleidfäoedd i'w trysorau. Hyd yn hyn y maent yn gorwedd yn glöedig, ond dichon fod "adgyfodiad gwell" i ddyfod iddynt yn y dyfodol, ac y bydd ein cenedl yn cael llwyr feddiannu y gymunrodd olaf hon o eiddo. Ieuan Gwyllt iddynt. Neu fe ddichon y cyfyd rhywun arall, i allu gweithio ar y wythen hon mewn ffordd arall, fel ag i allu cyrhaedd calon ac ysbryd crefyddol y genedl yn fwy llwyr drwyddi. Ond yn ddiddadl y mae yma gyfoeth i'w gael—ac y mae yn gorwedd yn y llyfr hwn drysorau o'r fath werthfawrocaf, ag yr oedd efe ei hun wedi cael meddiant o'u hysbryd, ond sydd hyd yn hyn yn guddiedig oddiwrth ein cynnulleidfäoedd.

6. Pa fodd i sylwi ar Gynghanedd, gydag ymarferion mewn Dadansoddiadau. Wedi eu hysgrifenu o'r newydd gan John Curwen (Pencerdd Dyrwent). Cyfieithiwyd i'r Gymraeg gan John Roberts (Ieuan Gwyllt). London: Tonic Solfa Agency, 8 Warwick Lane, E. C. Pris 2 swllt.

Ymarferion Cyfosodiad mewn Cyfansoddiant Cerddorol Elfenol, gan John Curwen. Cyfieithiwyd gan John Roberts (Ieuan Gwyllt). London: Tonic Solfa Agency. Rhan A., pris 6ch. Rhan B., pris swllt. Hwyrach mai yr ail ydoedd y cyntaf o ran amser, oblegid cawn nodiad yn Ngherddor y Tonic Sol-ffa am Medi 1871, fod y gwaith ar gael ei orphen, tra yr oedd y cyntaf yn cael ei gyfieithu tua'r un amser ag yr ydoedd Mr. E. Roberts, Liverpool, yn cyfieithu Y Gyfres Safonol, dyddiad Rhagymadrodd pa un ydyw Ebrill 1875. Er mwyn egluro amcan yr ail, ni a ddyfynwn o'r nodiad hwnw y canlyn. "Yr enw a roddir gan Mr. Curwen ar y gwaith yn gyflawn yn Saesoneg ydyw—The Common-Places of Music. Y mae yn cynnwys amryw Ranau, y rhai a ddynodir fel hyn: A, Traethodyn ar Seinyddiaeth Gerddorol (heb ddyfod o'r wasg)—B, C, D, E, Ymarferion Cyfosodiad ac Egluriadau. O'r rhai hyn y mae Ba C wedi dyfod allan. Y llythyrenau a ddynodant y Rhanau hyn yn Gymraeg ydyw A a B. Y mae D ac E heb eu gorphen.—F, G, H, Testynlyfr i Gynghanedd a Ffurfiau Cerddorol. Mae y rhai hyn allan yn Saesoneg; ond ni fwriedir eu cyhoeddi yn Gymraeg, gan nad yw y gerddoriaeth ond yr un peth. Dealla ein darllenwyr nad oes ond yr "Ymarferion Cyfosodiad" yn unig yn Gymraeg; hyny yw, y mae y cyfarwyddiadau a'r hyfforddiadau i gyd yn Gymraeg, ond nid yw y Gerddoriaeth—yr Ymarferion a'r Engreifftiau, i'w cael ond yn Saesoneg. Mae y rhanau diweddaf hyn yn cynnwys dros 500 o du dalenau o gerddoriaeth fel engreifftiau yn egluro y cyfarwyddiadau a'r sylwadau a wneir yn yr Ymarferion.. . Gwelir ar unwaith fod hwn nid yn unig y gwaith pwysicaf a ddygwyd allan mewn cysylltiad â'r Tonic Sol-ffa, ond y mae yn un o'r gweithiau cerddorol pwysicaf a ddygwyd allan erioed ar Gynghanedd a Chyfansoddiant yn yr iaith Saesoneg. Ac y mae, nid yn un o'r rhai pwysicaf, ond y pwysicaf oll, a ddygwyd allan ar y pynciau hyn erioed. yn yr iaith Gymraeg. Bydd yn drysor anmhrisiadwy i'r efrydydd cerddorol sydd yn ewyllysio deall cynghanedd a dyfod yn gyfansoddwr; a chan fod yr engreifftiau i gyd wedi eu hargraffu yn y ddau nodiant, bydd yn gaffaeliad o'r fath fwyaf gwerthfawr i'r rhai sydd heb ymarfer â'r Nodiant Newydd. Hyderwn y bydd cannoedd o'n pobl ieuainc yn ymgymeryd âg ef, ac nid yn unig yn ei ddarllen, ond yn ei astudio yn fanwl, ac yn gweithio ei holl ymarferion gyda'r gofal mwyaf. Ymfoddlona llawer iawn, ac yn enwedig gyda cherddoriaeth, ar wybodaeth gyffredinol, fras, heb fyned drwy unrhyw beth yn fanwl ac yn drylwyr. Bydd astudio y llyfr hwn yn debyg iawn o wneyd cantorion trylwyr; a bydd hyny o fendith bwysig i gerddoriaeth yn ein gwlad." Dyma ganmoliaeth uchel, yn enwedig oddiwrtho ef, oedd mor ofalus am ddyweyd y gwir,—i lyfr Mr. Curwen. Am y llyfr arall, cyfieithiad ydyw o lyfr Mr. Curwen, How to observe Harmony, a chynnwysa arweiniad i mewn i astudiaeth cynghanedd,—felly hwn yw y cyntaf o ran trefn, a'r llall yn arwain ymhellach i mewn. Amcenid y rhai hyn i fod yn foddion i arwain cerddorion ieuainc ymlaen. Wedi cael y ddwy dystysgrif gyntaf, nid oedd gan y Cymro fantais i gynnyddu mewn gwybodaeth o egwyddorion cynghanedd a chyfansoddiad, ond yn awr cyflenwid y diffyg hwnw. Mae y cyfieithiad wrth gwrs yn gywir ac eglur, ac yn llawn cystal â'r gwreiddiol. Yr oedd Mr. E. Roberts ac yntau wedi cyttuno i'r naill edrych dros proofs y llall, a thystiai Mr. Roberts wrthym ei fod wedi ei daraw gan fanyldeb Ieuan Gwyllt, na chaffai y pethau lleiaf ddianc ei sylw. Cawn ychydig wahaniaeth barn ymhlith y ddau ŵr enwog am yr ymadroddion goreu i gyfieithu ambell i derm Seisonig, megys Forestroke, I. G., Blaenergyd, E. R., Cyndarawiad. Progression, I. G., Rhagfudiad, E. R., Symudiad. Accidentals, I. G., Dygwyddolion, E. R., Seiniau Damweiniol. Bridgetone, I. G., Pont—dôn, E. R., Trosglwyddsain. Chant, I. G., Salm-don, E. R., Treithgan. Ond y mae doctoriaid yn gwahaniaethu yn fynych. Ymdrechai y ddau drosglwyddo i'r Cymry wybodaeth gerddorol o'r radd uchaf, ac y mae y llyfrau hyn yn werthfawr, ond y mae yn llawn rhy fuan eto i allu gwybod pa mor bell y mae cerddorion Cymru wedi gwneyd defnydd o honynt.

Telyn y Plant, Mai 1859 hyd Rhagfyr 1861. Dan olygiaeth y Parch. T. Levi ac Ieuan Gwyllt. Merthyr Rees Lewis.

Efe oedd yn darparu y tônau a ymddangosasent yn y rhifynau hyn, o ba rai y mae 28 o donau yn yr Hen Nodiant. Y maent oll yn brydferth a chwaethus, wedi eu dethol o Pax, Mozart, Hullah, P. P. Bliss, &c., ac y mac geiriau naw o honynt wedi eu cyfansoddi gan Ieuan Gwyllt, ac yma, ni a dybygem, yr ymddangosodd gyntaf y geiriau dirwestol rhagorol, "Awn, awn yn wrol lu," ar yr alaw "Codiad yr Hedydd." Y mae yma hefyd anthem syml a hawdd o'i eiddo ar y geiriau "Gadewch i blant bychain," cyfansoddedig yn 1854, pan yn dysgu y plant yn Liverpool, mae yn debyg. Efe hefyd er ys amryw flynyddoedd cyn diwedd ei oes oedd yn golygu y darnau cerddorol yn Nhrysorfa y Plant.

7. Arweinydd Corawl.

Dechreuodd arwain côr yn fore iawn, fel y crybwyllasom yn ei hanes, pan tua 15 oed neu ieuengach. Fel yr oedd yn dyfod i sylw fel beirniad cerddorol, yr oedd yn naturiol iddo gael ei wneyd yn arweinydd mewn Cymanfäoedd Cerddorol. Yr hynaf o'r rhai hyn, mae yn debyg, ydoedd "Cymanfa Gerddorol Ddirwestol Gwent a Morganwg." Amcan y Gymanfa hon ydoedd 1. "Cefnogi Dirwest. 2. Dyrchafu a choethi chwaeth gerddorol. 3. Ennill ein cantorion yn fwy at y canu cynnulleidfäol." "Yn Pontypridd y cynnaliwyd y Gymanfa gyntaf, Gorphenaf 1855, yr ail yn Aberdâr, Gorphenaf 1856; y drydedd yn Nowlais, Gorphenaf 1857. Y prif arweinydd yn y tair gyntaf oedd Dr. Evan Davies, Normal College, Abertawe. Cynnaliwyd y bedwaredd gymanfa yn Rhymni, Gorphenaf 19eg, 1858. Yr oedd y Pwyllgor wedi penderfynu ar gael Ieuan Gwyllt, os oedd modd, i fod yn bresennol yn y Gymanfa, a darfu i ni lwyddo." "Yn Rhymni penodwyd ef yn arweinydd yr ol o'r darnau unol am y dydd, ac y mae'r anerchiadau cerddorol a roddodd yn ystod y dydd, wedi aros a dwyn ffrwyth ar ei ganfed yn meddyliau cannoedd o gantorion Gwent a Morganwg, a llanwodd y cylch o brif arweinydd y Gymanfa, gan roddi ei bresennoldeb ymhob un o honynt hyd yr adeg y symudodd i'r Gogledd."[10] "Nid ydym yn gwybod am un sefydliad o'i gyfryw yn Nghymru nac un wlad arall. (1861). Cynnelir cyfarfod blynyddol y Gymanfa hon yn y cyffredin yn niwedd yr haf, mewn lle a nodir yn flaenorol gan y Pwyllgor. Yno yr ymgasgla yr holl gorau (dirwestol) sydd yn cyfansoddi y Gymanfa, a chana pob côr, ar gylch, dan arweiniad ei lywydd ei hun. Gofelir hefyd am gael un o brif gerddorion y genedl yn bresennol, dan lywyddiaeth yr hwn y cenir amryw ddarnau gan yr holl gorau ynghyd. Y mae terfynau y Gymanfa yn cymeryd i fewn Aberdâr, Rhymni, Tredegar, Pontypridd, Cymer, Pentyrch a Chaerdydd; ac yn y cyffredin bydd y corau yn rhifo tua 500 o gantorion. Wrth weled y gallu hwn yn gynnulledig, a sylwi ar yr effeithiau a gynnyrchid pan y byddai y corau oll yn cydganu, penderfynodd y Pwyllgor fod y rhan gyntaf a'r drydedd o'r Messiah i gael eu dysgu y flwyddyn hon, a bod un o gyfarfodydd y Gymanfa i gael ei roddi at ei ganu—yr holl gorau gyda'u gilydd i ganu y choruses. Diau fod hwn yn gam yn yr iawn gyfeiriad, ac y gwelir ei ffrwyth mewn cerddoriaeth gorawl ardderchog yn y Gymanfa nesaf.[11] "Daeth (Mr. Roberts) o'r Gogledd i Gymanfa Merthyr, Gorphenaf 3ydd, 1866, pryd y cyflwynwyd tysteb iddo ar yr achlysur o'i ymadawiad oddiwrthym i'r Gogledd. Yr oedd y dysteb yn cynnwys anerchiad (pa un a welais wedi hyny yn hongian ar y pared yn ei dŷ yn Llanberis) a swm o arian, ond nid wyf yn cofio maint y swm, a thyna'r gwasanaeth olaf a gawsom ganddo fel ein Harweinydd yn Nghymanfa Gerddorol Gwent a Morganwg."[12] Heblaw yr anerchiadau gwerthfawr a roddai bob blwyddyn, ceid adroddiad hefyd o'r Gymanfa yn y Cerddor Cymreig a sylwadau arni, ac yr oedd ei gefnogaeth a'i gyfarwyddiadau ef yn fendith fawr i'r corau. Y mae y Gymanfa hon yn parhâu hyd heddyw, ac wedi gwneyd lles dirfawr i Gerddoriaeth o fewn ei chylch, os nad yn wir yn llawer ëangach.

Wedi ei ddyfodiad ef i Lanberis yn 1865, trwy ei ddylanwad a'i gefnogaeth ef, cychwynwyd cymanfa gyffelyb yn Arfon. Cynnaliwyd y Pwyllgor cyntaf yn Nghaernarfon, Mawrth 19eg, 1866, a'r Gymanfa gyntaf yn Nghastell Caernarfon, Awst 15fed yr un flwyddyn, pryd yr oedd 11 o gorau yn cynnwys dros 700 o gantorion yn cymeryd rhan ynddi, a chyngherdd yn yr hwyr, dan lywyddiaeth y Maer (Ll. Turner, Ysw.), ac y canodd Miss Watts ynddo. Cynnaliwyd ail gylchwyl lwyddiannus iawn yn yr un lle yn 1867, a'r drydedd yn Mhorthmadog yn 1868y bedwaredd yn Nghastell Caernarfon yn 1869. Adeg y bummed yn 1870, daeth yn wlaw, a chynnaliwyd hi yn nghapel Moriah; ac yn 1871 cynnaliwyd hi yn yr un man, ond teneu iawn oedd y cynnulliad. Symudwyd hi i Lanberis yn 1872, ac yno y bu farw. Ieuan Gwyllt oedd llywydd parhâus y Pwyllgor, a'r Arweinydd ymhob Cymanfa oddieithr 1869, pryd yr arweiniwyd gan y Parch. Robert Roberts, Carneddi. Ymdrechodd lawer gyda'r Gymanfa hon ymhob modd, ond syrthio i'r llawr a wnaeth. Mae yn debyg fod ei symud o Gastell Caernarfon wedi bod o niwed, a'r costau mawr, a diwrnodau gwlawog, fel ag iddi droi yn golled, a suddo i ddyled; ac mewn dyled y bu farw, a dygwyd rhan o'r baich hwnw gan Mr. Roberts ei hun. Ar yr un pryd, gwnaeth y Gymanfa lawer o les tra y parhâodd.

Cychwynwyd symudiad cyffelyb hefyd yn Ngorllewin Meirionydd, a chynnaliwyd y Gymanfa gyntaf yn Nghastell Harlech, Mehefin 25ain, 1868. Arweinydd y corau undebol, Ieuan Gwyllt. Y mae y Gymanfa hon yn parhâu yn fyw a blodeuog a llwyddiannus, ac wedi cynnal cylchwyl yn y castell bob blwyddyn er y dechreuad. Yn y blynyddoedd diweddaf, aed drwy y Messiah a Judas Maccabeus. Bu Ieuan Gwyllt yn arweinydd hefyd yn 1869, ac elai heibio i'r corau ymlaen llaw i roddi cyfarwyddiadau mewn rehearsals. Y mae y canu yn y Gymanfa hon wedi gwella yn ddirfawr, ac y mae yn ddiammeu ei bod wedi gwneyd dirfawr les. Y mae Cymanfäoedd y Gogledd yn ddyledus i Ieuan Gwyllt am eu bodolaeth, ac edrychid ato ef ganddynt fel noddwr, cyfaill a chyfarwyddwr.

8. Cymanfaoedd Canu Cynnulleidfäol.

Dywedai y Parch. D. Saunders, yn ei anerchiad yn Nghaeathraw, mai efe oedd "tad" y Cymanfäoedd Canu Cynnulleidfäol. Wedi darllen y sylwadau canlynol yn y Rhifyn I. o'r Cerddor Cymreig, 1861, buom o'r braidd yn ammheu dywediad Mr. Saunders:—" Cerddoriaeth y Cysegr.—Ymddengys fod ein gwlad wedi ei dihuno i fesur helaeth ar y pwnc dyddorol a thra phwysig hwn. Y mae ein heglwysi, perthynol i'r gwahanol enwadau, yn dechreu ystyried eu dyledswydd, ac yn ymdeimlo â'r rhwymedigaeth sydd arnynt i dalu mwy o sylw i'r mater hwn, ac i fod yn fwy gofalus a llafurus yn ei gylch. Yr ysgogiad pwysicaf ar hyn o bryd, yn y cyfeiriad hwn, yw yr Undebau a ffurfir yma a thraw, er symleiddio, coethi, a chrefyddoli ein caniadaeth gynnulleidfäol. cyntaf o'r rhai hyn, hyd y gwyddom, a ffurfiwyd yn y Bala, yn haf y fl. 1859. Cynnwysai yr Undeb hwnw holl gynnulleidfäoedd y Methodistiaid Calfinaidd yn Nosbarth Penllyn. Mewn pwyllgor cynnwysedig o gynnrychiolwyr y gwahanol gynnulleidfäoedd, dewiswyd nifer of dônau ynghyd a geiriau priodol i'w canu arnynt. Ar ol eu dysgu, cafwyd cyfarfod mawr cyhoeddus yn y Bala i'w cydganu. Yr oedd y fath flas ar y cyfarfod hwnw, fel y penderfynwyd cael un cyffelyb y flwyddyn ganlynol. Hyny a fu; ac yr oedd hwnw drachefn yn hynod o lwyddiannus. Deallwn fod cerddoriaeth gynnulleidfäol yn yr ardaloedd hyny wedi cyfnewid yn fawr iawn er gwell trwy yr ysgogiad. Ymledodd yr ysbryd i Gorwen, yn yr un Sîr; ac yr ydym yn deall fod ysgogiad cyffelyb ar droed yn Nosbarth Edeyrnion. Yn chwarelydd poblogaidd Ffestiniog drachefn, sefydlwyd undeb i'r un perwyl, a chafwyd yno un cyfarfod cyhoeddus tra effeithiol. Tua'r un amser, dechreuodd pobl Arfon ymysgwyd; ac erbyn hyn yr ydys wedi penderfynu yno ar nifer o dônau a hymnau i'w dysgu, ac y mae cyfarfod mawr cyhoeddus i gael ei gynnal yn ystod yr haf dyfodol yn Nghastell Caernarfon, i'w canu. Wrth ganfod y cyfeillion yn y Gogledd yn myned rhagddynt mor lwyddiannus yn y gwaith canmoladwy hwn, teimlodd rhai lleoedd yn y Deheubarth awydd cryf i gychwyn yn yr un cyfeiriad. Ffurfiwyd Undeb yn Nosbarth Merthyr a Dowlais. Cynnaliwyd cyfarfod cyhoeddus cyntaf yr Undeb hwn yn nghapel Pontmorlais, Merthyr, pryd yr oedd y capel eang hwnw yn llawn, a chanwyd wyth o dônau cynnulleidfäol yn dra hyfryd. Mae yr undeb hwn wedi penderfynu cynnal ei gyfarfod cyhoeddus bob saith wythnos; ac felly, bydd y nesaf ar y 5ed o'r mis hwn (Mawrth 1861). Mae yr Annibynwyr hefyd yn Merthyr a Dowlais wedi ffurfio undeb cyffelyb, ac yn bwriadu cynnal eu cyfarfod cyhoeddus cyntaf yn Zoar, Merthyr. Fel yr ydym yn ysgrifenu, dyma lythyr o Gaerdydd, yn ein hysbysu eu bod hwythau wedi ymuno—fod tônau a hymnau wedi eu dewis—ac y cynnelir y cyfarfod cyhoeddus cyntaf yn mis Ebrill. Mae yr undebau hyn yn rhwym o wneuthur daioni annesgrifiadwy; a charem weled y cyffelyb wedi ei ffurfio ymhob ardal drwy yr holl wlad." Ond y mae y dyfyniad canlynol o lythyr Mr. David Evans, Caerdydd, er hyn oll, yn benderfynol: "Dichon hefyd y dylem eich cofio i ni gael un 'Gymanfa o Ganu Cynnulleidfäol' yn y flwyddyn 1859, Ionawr 10fed, yn Aberdâr. Yr oedd hon yn hollol dan arweiniad Mr. Roberts; efe ymgymerodd â dethol y tônau a'r hymnau, &c. Dyma'r Gymanfa Gynnulleidfäol gyntaf yn ngwlad y gân, gallwn feddwl. I hon daeth corau Gwent a Morganwg fel un gynnulleidfa, ac nid fel corau. Cafwyd canu da, wrth gwrs, ond nid oedd y myn'd fel yr oedd yn y llall (Cymanfa Gwent a Morganwg): yr oedd yn amlwg ei bod ar y cynaraf, goruchwyliaeth Ioan Fedyddiwr heb orphen ei gwaith. Mae wynebddalen (Programme) y Gymanfa hon fel y canlyn:—'Y Tônau a'r Hymnau a genir yn nghyfarfod cyntaf Cymanfa Gerddorol Gynnulleidfäol Gwent a Morganwg, a gynnelir yn Aberdâr, Ionawr 10fed, 1859. Detholwyd y Tônau allan o'r Llyfr Tonau Cynnulleidfaol gan Ieuan Gwyllt.' Yr wyf yn falch fod yr hen Brogram ar gael." Yr oedd hyn cyn i'r Llyfr Tonau ddyfod allan (yn Ebrill 1859), ac felly, mae yn debyg mai cael argraffu nifer o gopïau a wnaed tra yr oedd y llyfr yn y wasg. Sylwer, yr oedd hwn yn cymeryd i mewn gylch corau Cymanfa Gerddorol Ddirwestol Gwent a Morganwg; felly mae yn debyg mai y corau hyny wedi dyfod at eu gilydd oedd yma, ac nid undeb cynnulleidfäoedd ac un gymanfa a gafwyd o'r cyfryw natur, ac yn ddiddadl, dyma'r gyntaf o'r cyfryw yn Nghymru. Ond yn y Bala, mae yn debyg, yn ol fel y dywed y Cerddor, y ffurfiwyd yr undeb cynnulleidfäol cyntaf, yn yr haf, ar ol i'r Llyfr Tonau gael ei gyhoeddi. Ni a dybiwn fod Mr. R. H. Pritchard, a'r diweddar Mr. John Jones, Llidiardau, a chyfeillion cyffelyb, yn cychwyn y symudiad hwn; ond ai ynddynt hwy y gwreiddiodd y syniad? Mae yn lled debyg nad ê, ond iddo ddyfod o Aberdâr, naill ai oddiwrth Mr. Roberts ei hun, neu o weled hanes y cyfarfod Ionawr 10fed. Wedi hyny yn 1861, tua Ionawr, y ffurfiwyd yr Undeb Canu Cynnulleidfäol cyntaf yn Merthyr a Dowlais, ac yr oedd y cylch hwn yn llawer llai nag yn 1859, a mwy ymarferol. Mae o'n blaen yn bresennol brogramme Pummed cyfarfod cyhoeddus "Undeb Cerddorol Cynnulleidfäol Merthyr a Dowlais," yr hwn oedd i'w gynnal "Nos Lun, Awst 26, 1861, am 7 o'r gloch," ymha un y nodir saith o dônau a hymnau arnynt, ac y dywedir fod y "Cyfarfod Rhagbarotoawl i'w gynnal yn nghapel Pontmorlais, Merthyr, Nos Wener, Mehefin 28, 1861. David Rosser, Ysgrifenydd." Dengys hyn yn amlwg fod ymddangosiad y Llyfr Tonau wedi creu deffröad cyffredinol drwy yr holl wlad, ac ymledodd yr undebau hyn, a daeth galwad am gasglydd y llyfr i fyned oddiamgylch gyda'r canu. Yn yr haf 1861, cymerodd daith gerddorol drwy Feirionydd, Eifionydd a Lleyn, yn cynnal, gan mwyaf, ni a dybiem, gyfarfodydd canu cynnulleidfäol, ond weithiau hefyd yn traddodi ei ddarlith; a rhoddir hanes y daith yn lled fanwl yn y Cerddor; ac yn 1862 bu trwy ranau o Sir Benfro; Sir Gaerfyrddin, Mai, 1863; drwy Sir Fôn, "ar wahoddiad y Cyfarfod Misol," Mehefin, 1863; Sir Aberteifi, Hydref yr un flwyddyn; a Mai a Mehefin, 1863, yn Siroedd Caerfyrddin a Dinbych. Yn Awst, 1866, arweiniai y canu mewn Cymanfa Ganu Gynnulleidfäol yn Mhwllheli. Yr oedd yn dda erbyn y blynyddoedd hyn ei fod yn rhydd oddiwrth bob cysylltiad â newyddiadur, fel y gallai dreulio ei amser yn fwy llwyr yn y cysylltiad yma, a pharhaodd yn ddyfal gyda hyn hyd ei farwolaeth, ac yr oedd lliaws o Gymanfäoedd yn dysgwyl am dano yn haf 1877. Hoff waith iddo oedd hyn, ac yr oedd yn fynych yn cael gafael ar yr ysbryd addoli ynddo, ac yn tywallt ei galon iddo. Ar yr un pryd, nid ydoedd ymhob ystyr yn arweinydd o'r fath oreu—o'r fath fwyaf llwyddiannus. Am ei wybodaeth gerddorol, wrth gwrs, yr oedd yn ddihafal, ac yr oedd ganddo glust ddigymhar, ac yn y pethau hyn yr oedd yn perthyn i ddosbarth cyntaf yr oes; ond prin y gallwn ddyweyd fod ysgogiadau y llaw yn ddigon amlwg a well-marked i fod yn hawdd i'w ddilyn. Nid oedd ychwaith yn meddu y dengarwch hwnw mewn dull, oedd yn tynu dynion ar ei ol. Y mae ambell un a fedr gael gan eraill wneyd gwaith, bron heb yn wybod iddynt eu hunain; y mae yn medru ennill rhyw swyn, a dylanwad arnynt, nes eu caethiwo wrtho. Y mae un arall, y mae rhyw bellder naturiol rhyngddo ef a hwy, nes y mae yn rhaid iddo ddemandio cryn lawer arnynt. Un o'r dosbarth olaf hwn oedd efe, ac yr oedd yn anfantais fawr iddo; diffyg yn ei natur ydoedd, ac nas gallai wrtho, ond yr oedd yn ei osod yn agored yn fynych i gael ei gamddeall gan ddynion, ac yn cael felly; ac ni buasai yn gallu llwyddo mor anghyffredin, er yr anfantais hon, oni b'ai fod yna ryw uchafiaeth (superiority) anghyffredin yn perthyn iddo. Ymdrechai efe yn deg hefyd yn y cwbl i fyned i mewn at ysbryd y canu, ac i gynnyrchu syniadau teilwng am dano.

Dylem grybwyll hefyd ei fod, tra yn byw yn Merthyr, ac wedi astudio y Tonic Sol-ffa, yn meddu dosbarthiadau i ddysgu y gyfundrefn hono, a llawer o ddysgyblion, a'r un modd yn Llanberis, yn 1865. Cawn fod oll tua 229 o rai dan ei addysg of a dau eraill. Ac wedi dyfod yn Arholydd ei hun, cawn iddo arholi mwy am dystysgrifau, mae yn debyg, o lawer na neb arall yn Nghymru. Am flynyddoedd, nid oedd bron fis yn myned heibio nad oedd nifer mawr o enwau rhai wedi eu harholi ganddo am yr Intermediate Certificate, yn ymddangos ar du dalenau y Cerddor. Pasiodd efe ei hun am yr Intermediate tua diwedd haf 1863,[13] drwy gael ei arholi gan ei hen gyfaill Mr. E. Roberts, Liverpool. Ni cheisiodd basio yn uwch yn y Tonic Sol-ffa. Y rheswm penaf am hyny, mae yn ddiammeu, oedd diffyg amser i ymarfer; am wybodaeth yr oedd uwchlaw pob cwestiwn. Nid bychan fu ei lafur mewn cymhell, ac arholi, a dysgu y gyfundrefn hon.

9. Beirniad Cerddorol.

Yr oedd wedi dechreu beirniadu cerddoriaeth cyn ymadael o Aberystwyth, ond wedi myned i Liverpool daeth i sylw cyffredinol yn fuan. Tra yr oedd efe yn Aberystwyth, yr ydym yn tybied, ymddangosodd llythyrau galluog yn yr Amserau dan y ffugenw "Gogrynwr," yn cynnwys adolygiad llym ar Feirniadaeth Anthem neu Gydgan mewn Eisteddfod,[14] lle yr oedd sail gref dros ddyweyd fod camwri wedi ei wneuthur. Tynodd y llythyrau hyny sylw cyffredinol, a thybiai llawer oedd yn adnabod Ieuan Gwyllt mai efe oedd eu hawdwr, am na wyddid am neb digon galluog i'w hysgrifenu ond efe, ac hefyd oddiwrth y ffaith mai "Gogrwr" oedd ei dad. Fodd bynag, y mae genym ddigon o sail dros ddyweyd yn bendant mai nid efe oedd "Gogrynwr,"[15] er y dichon ei fod ef wedi ysgrifenu rhywbeth mewn cysylltiad â'r ddadl hon dan ffugenw arall. Yr oedd yn feirniad Eisteddfod Ffestiniog 1854, a Llundain a Manchester yn 1855, ac ar ol hyny yr oedd ganddo gyflawnder o'r gwaith hwn ar ei ddwylaw yn barhâus. Clywsom ef yn dyweyd, nad oedd un Eisteddfod Genedlaethol er ys tuag 20 mlynedd nad oedd wedi cael ei ofyn i feirniadu ynddynt, a bu mewn rhai o honynt; ond safai yn gryf ac yn benderfynol yn erbyn, os deallai fod dynion o gymeriad isel i gael lle ar eu hesgynlawr; nid oedd dim yn ei boeni yn fwy na hyny. Credai fod yr Eisteddfod yn allu cryf i wneyd daioni, ond yr oedd yn rhaid ei chael yn bur oddiwrth lygredigaeth fel hyn; ac y mae yn ddiddadl fod ei brotests ar y mater hwn wedi cynnorthwyo i ddyrchafu llawer ar yr Eisteddfod. Ysgrifenai feirniadaethau manwl a galluog, pa rai a gyhoeddid yn yr Amserau, ac wedi hyny yn y Cerddor Cymreig, ac yr oedd y goleuni a wasgarodd yn y dull hwn yn un o'r moddion mwyaf effeithiol i addfedu y wlad am gael diwygiad yn cerddoriaeth. Ysgrifenai hefyd adolygiadau manwl ar lyfrau. Trwy bethau fel hyn daeth i gael ei gydnabod fel un o'r awdurdodau uchaf, os nad yr awdurdod uchaf oll. Ni byddwn yn dyweyd gormod wrth ddyweyd nad oedd neb yr oedd gan ein cerddorion oll ymddiried mwy llwyr ynddo, os cymaint, fel beirniad coethedig, galluog, a chywir, a diduedd. Ac yr oedd efe yn meddu cymhwysderau neillduol i fod yn feirniad cerddorol. Dichon fod beirniadu canu, yn enwedig canu corawl, yn un o'r pethau mwyaf anhawdd; o herwydd ei fod yn gofyn gallu i gyfuno—i concentratio—ar unwaith gynifer o wahanol sylwadaeth ar ddadganiad sydd yn symud ymlaen mor gyflym. Wedi cael y cywair i ddechreu, rhaid sylwi yn fanwl fod hwnw yn cael ei gadw; fod pob nodyn ymhob llais yn cael ei sain a'i le priodol; fod amser pob un cael ei gadw yn gywir; fod cyfartaledd priodol yn cael ei gadw trwy y lleisiau; fod y geiriau yn cael eu dadgan a'u hacenu yn briodol; fod y mynegiant yn cyfateb i ansawdd y geiriau a'r gerddoriaeth; fod y lleisiau yn cyd—doddi i'w gilydd, ac yn dadgan y seiniau yn naturiol a phriodol; ac yn y cwbl, fod enaid, ysbryd, ac amcan y cyfansoddiad yn cael ei gyrhaedd. Mae ambell un sydd yn deall cerddoriaeth yn dda yn ei hegwyddor, eto heb feddu clust ddigon teueu ac arferedig i ddarganfod mân frychau; a dichon fod ambell un all farnu cywirdeb dadganiad yn lled dda, eto heb feddu digon o graffder i sylwi ar y mynegiant ac ysbryd y cyfansoddiad. Ond yr oedd ynddo ef un o'r cyfuniadau mwyaf cyflawn o'r cymhwysderau anghenrheidiol. Meddai gydnabyddiaeth gyflawn â cherddoriaeth yn ei holl agweddau, clust anghyffredin o deneu a chyfarwydd, a chraffder neillduol i ganfod pob peth anghenrheidiol, ac uwchlaw y cwbl, ysbryd oedd yn gallu cydymdeimlo âg ysbryd y cyfansoddwr. Yn y cyfan hefyd, yr oedd ynddo y fath chwaeth bur, y fath sense o anrhydedd, cywirdeb a chydwybodolrwydd, fel nas gallai neb deimlo ammheuaeth o'r fath leiaf, y gwnelai degwch a chyfiawnder â phawb, "pe syrthiai'r nefoedd." Y mae yn debyg na lanwodd un cylch yn fwy cyflawn nag yn ei waith yn eistedd yn ei gadair feirniadol. Ac yn ei holl gysylltiadau fel y cyfryw, y mae yn ddiammeu y teimlir ei fod y beirniad mwyaf uchel, mwyaf anrhydeddus, a mwyaf craffus a fagodd Cymru erioed. Beirniadodd lawer iawn ymhob cylch, o'r Eisteddfod Genedlaethol hyd y Cyfarfodydd Llenyddol distadlaf, ond ceid ef yr un, yn fanwl a thrwyadl, a chydwybodol ymhob man; ni wnai y gwaith yn ddiofal ac ysgafala am fod y lle yn fychan, neu y cystadleuwyr yn ddisylw ac anfedrus, ond mynai gyflawni ei waith yn fanwl a pherffaith dan bob amgylchiadau.

Yn yr holl lafur mawr ac eang hwn o'i eiddo fel cerddor, nid oedd yn ymorphwys ar yr adnoddau yr oedd wedi eu casglu ynghyd yn ystod hanner cyntaf ei oes. Yr oedd yn dal ar bob cyfleusdra ac yn llafurio yn ddyfal i cangu ei wybodaeth ei hun, ac i ymgydnabyddu yn drwyadl â phob peth oedd yn cymeryd lle yn y byd cerddorol. Nid oedd un symudiad o unrhyw bwys yn cymeryd lle yn Nghymru, nac mewn un wlad arall, mewn cysylltiad â cherddoriaeth, nad oedd efe yn sylwi yn fanwl arno ac yn mynu ei ddeall. Ni byddai un cantor na cherddor farw, nac yn ymneillduo oddiar yr esgynlawr, na byddai efe yn gwybod ei hanes; ni chyfodai un cerddor newydd i sylw na byddai efe yn deall yn lled fanwl ei gyfeiriad; nid ymddangosai un gwaith cerddorol na fynai ei ddeall yn drwyadl. Yr oedd yn drysorfa o wybodaeth gerddorol ddihysbydd. Nid ydym ar hyn o bryd yn gallu gwybod a ydyw y traethodau, &c., a ddechreuwyd mor ragorol yn y Cerddor, &c., wedi eu cario ymlaen neu eu gorphen ymhlith ei lawysgrifau. Fel y maent, y maent yn wir werthfawr; ond os ydynt yn fwy cyflawn, y mae ynddynt drysorau anmhrisiadwy i genedl y Cymry, na ddylid eu gadael i fyned i golli.

II. EI LAFUR FEL LLENOR.

1. Golygiaeth yr Amserau. Rhagfyr 10fed, 1852, hyd Hydref 21ain, 1858.

Yr oedd yr Amserau y pryd hwnw yn newyddiadur o bwysigrwydd mawr, a chryn gyfrifoldeb oedd ymgymeryd â'i olygiaeth. Er mai nid efe oedd y newyddiadur cyntaf→ yn 1814—15 cyhoeddwyd y Seren Gomer gan Joseph Harris, —eto gellid gyda llawer o briodoldeb alw yr Amserau yn "dad" newyddiaduron Cymru. Cychwynwyd ef yn 1843. Cawsom yn ddiweddar weled y rhifynau cyntaf o hono, ac yr oedd teitl y cyntaf fel y canlyn,—"Yr Amserau, Dydd Mercher, Awst 23, 1843. Pris Tair Ceiniog. Liverpool: Argraffwyd a Chyhoeddwyd gan John Jones (o No. 6, Great Newton Street) yn ei swyddfa yn 21, Castle Street, lle y derbynir Hysbysiadau, ac y cyfarwyddir pob Gohebiaeth i'r Golygydd.—Dydd Mercher, Awst 23, 1843." Y Golygydd ydoedd y Parch. William Rees (Gwilym Hiraethog), a chynnorthwyid ef gan Mr. John Jones, yr Argraffydd, yn hyny— hwn ydoedd bregethwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Dygodd ysgrifau galluog y Golygydd, ac yn enwedig ei ysgrifau fel yr "Hen Ffarmwr," y papyr i sylw gryn lawer; er hyny, o herwydd nad oedd iddo gylchrediad digon helaeth, helynt ddigon blin fu arno o dro i dro; ond cadwodd yn fyw drwy y cwbl, ac yr oedd yn gadael argraff ar y wlad. Yn y flwyddyn 1848 daeth i ddwylaw Mr. Lloyd. Yr oedd y duty y pryd hwnw yn anfantais fawr iddo, a symudwyd yr argraffdŷ i Isle of Man, er mwyn ceisio osgoi hyny; ond buan y deallodd y Llywodraeth hyny, a daethpwyd yn ol i Liverpool. Yn adeg y symudiad bu am fis heb ei gyhoeddi. Fel Golygydd cynnorthwyol yr oedd Ieuan Gwyllt yn myned i Liverpool, ond cafodd fod yr holl waith yn disgyn ar ei ysgwyddau. Ond ymwrolodd, a phenderfynodd wneyd pob ymdrech i lanw y lle pwysig hyd eithaf ei allu, ac ymdaflodd â'i holl ysbryd i'r gwaith. Da genym ddyweyd ei fod, trwy drafferth fawr, wedi casglu ynghyd yr holl ysgrifau a ysgrifenwyd ganddo i'r Amserau tra yn Olygydd iddo, ac wedi ysgrifenu ei enw wrthynt, a'u bod yn awr yn meddiant Mrs. Roberts; ond nid ydym yn hollol sicr ei fod wedi gallu cael y cyfan, yn enwedig y rhai cyntaf oll; oblegid bu raid iddo advertisio cryn lawer, a chwilio yn ddyfal i gael gafael ar y copiau. Gwelwn ei fod ef ei hun yn dyweyd yn ei nodiad yn y Bibl Teuluaidd, iddo ysgrifenu yr erthygl arweiniol gyntaf i'r Amserau Rhagfyr 10, 1852;[16] ond y peth cyntaf y medrasom gael gafael arno ydoedd "Adolygiad ar yr Anthemau Buddugol yn Eisteddfod Bethesda, Ddydd Iau Dyrchafael 1852—Bethesda, R. Jones," gydag enw "Ieuan Gwyllt, Rhagfyr 15, 1852," wedi ei ysgrifenu dano. Yn yr Amserau Rhagfyr 22ain, cawn erthygl arweiniol ar "Budget Arglwydd Derby a'i ymddiswyddiad." Ionawr 5, 1853, "Programme Iarll Aberdeen." Ionawr 19, Madiai," ac un arall ar "Gymdeithas Ddiwygiadol Gymreig Liverpool;" ac o hyny ymlaen, cadwai ger bron ei ddarllenwyr o wythnos i wythnos ddesgrifiad bywiog a dyddorol o ysgogiadau y pleidiau gwleidyddol, a'r pynciau mewn dadl rhyngddynt. Pwysai yn fanwl bob athrawiaeth, gan chwilio y rhesymau drostynt, a'r egwyddorion oedd danynt. Safai yn gryf ar egwyddorion puraf a dyfnaf Rhyddfrydiaeth, a dadleuai yn wresog o blaid pynciau oeddynt y pryd hwnw heb ddyfod i sylw fel y maent erbyn hynDiddymiad pob treth eglwys, y Dadgysylltiad, diddymiad y crogi, diwygiad seneddol, diddymiad pleidgeisio, agoriad y Prifysgolion, Rhyddfasnach, attaliad y fasnach feddwol, cynnildeb yn y Llywodraeth, a Chymdeithas Heddwch. Y mae cryn nifer o'r pynciau y dadleuai drostynt wedi eu selio erbyn hyn ar ddeddflyfrau ein gwlad; y mae nifer mawr o rai eraill erbyn hyn yn brif bynciau y dydd; ac y mae amryw ag y mae corff ein cydwladwyr heb ddyfod eto i deimlo eu pwysigrwydd. Yr oedd yn hynod o gryf yn erbyn rhyfel, ac yn ystod rhyfel y Crimea, cadwai y darllenwyr â gwybodaeth gryno a chyflawn o safle y cwestiynau, a chondemniai y rhyfel hwnw yn gryf, ond yn bwyllog a phenderfynol. A'r un modd yn adeg gwrthryfel India, dangosai ei fod yn astudio y materion y dysgai eraill arnynt yn drwyadl. Ac ysgrifenai gryn lawer ar bynciau oedd yn dal perthynas â chwestiynau pwysig, megys desgrifiad o Twrci a Rwssia, ac o India, &c. Yr oedd yr Amserau yn wirioneddol yn arweinydd i feddyliau ei ddarllenwyr, o herwydd felly y credai efe y dylai newyddiadur fod; nid casgliad o ryw newyddion, ond papyr i arwain a dwyn allan egwyddorion a goleuo y wlad. Ac nid yn unig ysgrifenai erthyglau arweiniol galluog, ond gofalai am fwyd iachus a dyddorol yn holl gynnwys y papyr, eto na chai dim ymddangos y byddai raid i neb gywilyddio o hono. Ysgrifenai gryn lawer ei hun, yn ei feirniadaethau, ei adolygiadau ar y cyfnodolion ac ar lyfrau, "Tŷ Arthur Llwyd," a phynciau eraill; nid cerddoriaeth yn unig, ond gwybodaeth yn gyffredinol. Rhoddodd ysgrif neillduol o ddyddorol a da yn y rhifyn Rhagfyr 28, 1853, ar Fwrdd y Golygydd, ymha un y rhoddai gyfarwyddiadau rhagorol ar yr hyn a ddylai gohebiaethau fod,—1. Y meddyliau. 2. Y papyr. 3. Yr ysgrifen. 4. Y prif lythyrenau. 5. Yr attalnodau. 6. Trefniad yr ysgrif. Ond tra yr oedd yn gryf a manwl dros y gwirionedd a phurdeb, a gweddusrwydd, eto yr oedd yr un mor zelog dros ryddid barn a llafar, a gallai fwynhâu ac ni warafunai i'r darllenwyr fwynhâu digrifwch priodol. Hyn a arweiniodd i'r anghydwelediad rhyngddo ef a Mr. Lloyd y cyhoeddwr, ac y mae yn debyg mai hyn oedd yr achos i'r Dysgedydd feirniadu yr Hen Amserau a'r Amserau Newydd. Ni oddefai, wrth gwrs, ymosodiadau personol oddiar lid a malais, eto teimlai fod gan bob un hawl i ddadgan ei farn ar bersonau a sefydliadau fel y maent yn eiddo cyhoeddus. Ond yr ydym yn barod iawn i ddadleu dros ryddid barn os na byddwn ni yn cael ein cyffwrdd; ond os dywedwch rywbeth am danom ni, gwyliwch atoch. Tybiwn fod ymddiheurad Cymdeithasfa y Gogledd, o'r ochr arall, yn tarddu oddiar fod yr Amserau yn rhy ryddfrydig. Y mae gwroniaid rhyddid wedi bod dan deyrnged fel hyn ymhob oes. Y mae rhyw ddosbarth o ddynion a fynent gael eu rhestru ymhlith diwygwyr cymdeithas, eto ydynt mor synwyrol a chymedrol, fel y teimlant yn ddyledswydd arnynt hysbysu y cread nad ydynt hwy yn gyfrifol dros y bobl "eithafol." Gadawer iddynt hwy; myned ymlaen y mae y byd, a'r bobl eithafol sydd yn ei wthio yn ei flaen; ac oni b'ai am y rhai hyny, buasai er ys talm wedi sefyll, ac ymgeulo a llygru. Yr oedd Ieuan Gwyllt yn ddiwygiwr o'r iawn ryw, ac yr oedd yr Amserau felly pan dan ei olygiaeth; nid yn cymeryd rhyw hobbies i ddadleu drostynt ychwaith, ond oddiar egwyddorion cedyrn oedd yn rhaid iddynt weithio eu ffordd allan. Rhyddfrydwr trwyadl ydoedd, a gwnai ymdrechion diflino i gynhyrfu Cymru i fod felly. Ysgrifenai at Sir Aberteifi ar Restriad Etholwyr dan yr enw Cadwallon o Ben y Dinas, ac ymdrechai "nerth braich ac ysgwydd" ymhob modd i blanu egwyddorion Rhyddfrydiaeth yn ein cenedl. Nid oedd Cymru y pryd hwnw y peth ydyw heddyw, er nad yw heddyw ychwaith y peth y dylai fod; ond bu gan yr Amserau gryn lawer o law yn y gwaith o'i dwyn i'r hyn ydyw. Rhoddir lle i'r Parchedig William Rees, D.D., fel tywysog Golygwyr Cymru, ar gyfrif ei ragflaenoriaeth, a'r grym a'r dylanwad cryf a ennillodd fel golygydd cyntaf yr Amserau, a llythyrau yr "Hen Ffarmwr," ac yn hollol briodol felly; ond yn nesaf ato, ar gyfrif ei holl gymhwysderau fel sylwedydd craff ar symudiadau yr oes, ac hwyrach yn fwy cyflawn mewn arolygiaeth fanwl dros holl gynnwys cyffredinol y papyr, y gellir rhestru Ieuan Gwyllt. Ymaflai Hiraethog yn y prif wythïenau, gan eu dadlenu mewn dull grymus, a chyda nerth anwrthwynebol dychymyg bywiog, cymeradwyai neu gondemniai nes cyrhaedd meddyliau a chalonau ei ddarllenwyr. Olrheiniai Ieuan Gwyllt ddadblygiad egwyddorion gyda manylder a chraffder, a chadwai ei ddarllenwyr sylwgar yn well—versed yn oleuedig ar holl bynciau mawr y dydd, mewn gwleidyddiaeth a chrefydd.

2. Y Gwladgarwr—newyddiadur wythnosol, cyhoeddedig yn Aberdar, Hydref 21, 1858, hyd Hydref 7, 1859.

Rhoddasom o'r blaen achlysur ei symudiad i Aberdâr i gymeryd golygiaeth y newyddiadur hwn. Nid ymddengys ei fod wedi cadw na chasglu ynghyd ei ysgrifau i'r papyr hwn, ac ni fu gydag ef, fel y gwelir, mo'r blwyddyn. Tebygol ydyw nad oedd a fyno ond â'r prif erthyglau a'r prif gang enau, a bod rhywrai eraill yn gofalu am gynnwys cyffredinol y papyr. Fel y dywedasom, nid oedd yn teimlo yn ddedwydd am nas gallai gymeradwyo pob peth a roddid ynddo. Heblaw hyny, yr oedd maes arall yn graddol ymagor iddo—yr oedd yn dechreu pregethu, a'r Llyfr Tonau wedi dyfod allan, &c., fel y penderfynodd roddi yr olygiaeth i fyny. Gallwn fod yn sicr, fodd bynag, iddo wneyd y gwaith yr un mor gydwybodol a thrwyadl, a phleidio yr un egwyddorion, yn Aberdâr ag yn Liverpool.

3. Y Goleuad. Newyddiadur wythnosol at wasanaeth Crefydd, Llenyddiaeth, Gwleidyddiaeth a Moesau. O Gorphenaf 1, 1871, hyd Ebrill 30, 1872.

Argreffid ef y pryd hwnw yn Nghaernarfon, gan Mr. John Davies. Er fod teitl y papyr hwn, fel y gwelir, yn gyffredinol, eto papyr wedi ei fwriadu yn benaf fel organ neu gyfrwng cymundeb at wasanaeth y Methodistiaid Calfinaidd ydyw; ond na bu ac nad oes a fyno y Cyfundeb, fel y cyfryw, âg ef ymhellach na'i fod yn ddealledig mai ynddo ef y ceir adroddiad mwyaf awdurdodedig y Cyfarfodydd Misol, ac mai efe sydd yn rhoddi yr adroddiad cyflawnaf o'i weithrediadau. Meddiant i gwmni o bersonau sydd yn swyddogion ac aelodau Methodistaidd ydyw, a chychwynwyd ef yn Hydref 1869. Ar y cyntaf rhenid y gwaith golygyddol rhwng amryw bersonau, ac ysgrifenai amryw erthyglau iddo yn awr ac yn y man. Yr oedd Ieuan Gwyllt yn un o'r rhai a ymunasant â'r symudiad, a chawn erthygl o'i waith, Rhagfyr 17, 1870, ar "Ryfel a'r Haul;" un arall Medi 17 yr un flwyddyn ar "Mr. Matthews, Aberystwyth;" a Thachwedd 26ain ar y "Te." Ond teimlid nad oedd sefyllfa pethau yn foddhäol mor benagored a hyny, ac fod yn well cael un Golygydd cyfrifol iddo. Yr oedd Mr. Roberts y pryd hwnw wedi ymneillduo oddiwrth ofal eglwysig, ac yn byw yn y Fron, Caernarfon, ac felly yn gyfleus o herwydd ei agosrwydd i'r swyddfa; a theimlid yn awyddus iawn iddo ef ymgymeryd â'r gwaith. Yr oedd ganddo gryn lawer o waith ar ei ddwylaw, mae yn wir; ond yr oedd ei zel yn gryf dros y Goleuad, a chydsyniodd ar y telerau fod iddo gael cydnabyddiaeth am ei lafur, yr hyn oedd yn hollol deg. Ac wedi cymeryd y gwaith mewn llaw, ymaflodd ynddo o ddifrif, a theimlid yn fuan mai nid cellwair oedd y Goleuad ganddo ef. Ysgrifenai y "Nodion Wythnosol" bob wythnos, a chostiai hyny iddo lawer o ddarllen a sylwadaeth fanwl. Ysgrifenai y rhan amlaf ddwy, ac yn bur fynych dair, o erthyglau arweiniol rhagorol bob wythnos, ac yn fynych ryw bethau eraill iddo mewn adolygiad ar lyfrau, neu ysgrif ar ryw fater dyddorol. Yr oedd y "Gohebiaethau," hyny ydyw, y llythyrau gohebiaethol, dan ei ofal ef, ond cynnwys cyffredinol y papyr dan ofal Mr. J. Davies (Gwyneddon), yr argraffydd. Felly gwelir mai ychydig iawn o gynnorthwy yn y prif bethau a gafodd yn ystod yr olygiaeth hon, ond llafuriai ef yn galed—yn galed iawn; a gellir dyweyd fod cynnwys ei lafur yn ddigymhar o ran purdeb chwaeth, amrywiaeth, a meddylgarwch. Hwyrach mai y gŵyn benaf a ddygid yn erbyn y Goleuad y pryd hwnw oedd fod helyntion Ffrainc yn cael gormod o le yn barhâus, ac o herwydd hyny yn "sych." Yr oedd Ffrainc y pryd hwnw yn yr ymdrech yn ymffurfio ar ol y dinystr ofnadwy a wnaed arni yn y rhyfel â Prwssia, a dymchweliad yr ymherodr aeth. Ac iddo ef, oedd wedi sylwi yn fanwl ar ysgogiadau Ffrainc er ys dros ugain mlynedd, ac yn deall mor drwyadl yr egwyddorion pwysig oedd yn cydymdrech ynddi, a phwysigrwydd ei safle a'i dylanwad mewn cysylltiad âg Ewrop a'r byd, yr oedd ei symudiadau o ddyddordeb anghyffredin. Nid oedd eraill yn cael y fath ddyddordeb am nad oeddynt wedi astudio y mater mor drwyadl. Er hyny, dichon fod hyny yn cau allan i raddau gormodol symudiadau pwysig ein gwlad ein hunain, ac yn enwedig Cymru, a helyntion Cyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd, yr hyn oedd neges arbenig y Goleuad, er nad oedd hyny ychwaith heb gael sylw. Am yr holl lafur dirfawr hwn, am dri chwarter blwyddyn, nid oedd ei gydnabyddiaeth ond bechan—bechan iawn; ac hyd ei farwolaeth yr oedd y gydnabyddiaeth hono heb ei thalu iddo; ond erbyn hyn yr ydym yn tybied fod y mater hwnw wedi ei drefnu gyda'i weddw.

Cyn gadael y cysylltiadau gwleidyddol hyn, hwyrach y dylem grybwyll un mater arall er mwyn cyfiawnder â'i goffadwriaeth ef. Yn y flwyddyn 1868 dechreuodd egwyddorion Rhyddfrydiaeth, oedd wedi cael eu taenu mor ddyfal ganddo ef ac eraill, ymweithio yn gryf yn Nghymru, ac ennynodd zel a brwdfrydedd mawr; ac ymhlith eraill ymysgydwodd Sir Gaernarfon oddiwrth iau Toryaeth. Pa mor bell y cafodd Ieuan Gwyllt le i weithio yn gyhoeddus gyda'r ymdrech hono, nid ydym yn gwybod. Fodd bynag, taenwyd y gair fod gweinidog a cherddor enwog o enwad arall am ddiane oddiar ffordd yr etholiad; a rhywfodd neu gilydd hwyrach mai heb weled ei enw yn gyhoeddus gyda'r symudiad—dygwyd enw Ieuan Gwyllt hefyd i mewn i'r stori, ei fod yntau yn cilio. Gwnaeth y "Dyn â'r baich drain"[17] o'r Lleuad yn y Dydd ddefnydd o honi, mewn dull anghyffredin o ddoniol, gan ddarlunio y ddau gerddor yn teithio yn annibynol ar eu gilydd yn ngwres yr haf, ac yn cydgyfarfod ar ben bryn yn y Deheudir, ac yn diweddu gyda deuawd. Tynodd donioldeb y llythyr hwnw gryn lawer o sylw a thestun siarad, a chafodd Ieuan Gwyllt deimlo yn ddwys ond yn ddystaw oddiwrtho. Hyn sydd genym ni i'w ddyweyd ar hyn,—mor bell ag yr oedd a fyno y chwedl â Ieuan Gwyllt, yr oedd yn anwiredd hollol; ni fu syniad o'r fath erioed yn ei feddwl; ac nid yn unig hyny, ond tystiai wrthym iddo wneyd ymdrech i ddyfod o Gaergybi i Gaernarfon drwy rwystrau, y rhai y gallasai yn hawdd eu cymeryd yn ddigon o esgus, i gofnodi ei bleidlais dros yr ymgeisydd Rhyddfrydig. Gwyddai y rhai a'i hadnabyddent ef yn dda o'r goreu, ei fod ef yn rhy bur i'w egwyddorion i gilio yn ol; ond nid oedd pawb yn ei adnabod felly, a chafodd brofi erlidigaeth yn hollol ddiachos. Dylasai y camargraff gael ei gywiro yr un mor gyhoeddus ag y gwnaed ef, ond hyd yr ydym yn gwybod, ni wnaed hyny byth. Am dano ef ei hun, yr oedd yn rhy reserved, ac o bosibl yn rhy ddolurus ei deimlad, i amddiffyn ei hun trwy y wasg. Cyfiawnder âg ef yn awr yw dyweyd hyn drosto, oblegid dichon i rywun gael gafael ar y chwedl mewn amser dyfodol a'i hadgyfodi pan na byddo neb a all dystio i'r gwirionedd.[18]

3. Amrywiol Ysgrifau. Yn yr "Oenig"—(1855—57, dan olygiad y Parchn T. Levi e D. Phillips. Abertawe: Rosser & Williams)."

"Mae y llythyrau at Gyfaill yn tu dal. 286, 341 a 462 o'r Gyfrol I., wedi eu hysgrifenu gan I. Gwyllt o Liverpool, dan yr enw 'Sion Llwyd' (Pentre Sais). Efe a anfonodd i mi 'Fy Album fy hun' hefyd yn tu dal. 454 o'r Ail Gyfrol, ac yr wyf yn meddwl mai efe ydyw awdwr y pennillion. Mae rhyw argraff ar fy meddwl mai ar Album Miss Hughes (Mrs. Josiah Thomas yn awr), yr ysgrifenodd hwynt. [19] Efe hefyd bïau Llythyr Sion Llwyd,' yn tu dal. 19 o'r drydedd gyfrol, ac yn ol a allaf gofio y llythyr at Gyfaill yn tu dal. 108." Llythyrau at ŵr ieuanc ydyw yr eiddo Sion Llwyd, ac y mae ynddynt gryn lawer o athroniaeth amgylchiadau bywyd, a phrofiad ac ysbryd crefyddol. Y maent yn dangos meddwl difrifol, braidd, hwyrach, yn bruddglwyfus; ac y mae y sylwadau ar Salm xxxvii., ar "ymddiried yn yr Arglwydd," yn rhagorol. Dyn fel Album ydyw testun y llinellau barddonol gwir ragorol a llawn tlysineb. Y mae y Llythyr at Gyfaill yn esiampl deg o hono ef yn ei lythyrau, a sylwadau bywiog o'r eiddo ar Liverpool, y Parch. D. C. Davies, M.A., Eben Fardd yn gwrando Jenny Lind, a'r Parch. John Jones, Talsarn, ond nid oes ond blanks yn yr 'Oenig." At y Parch. T. Levi yr ysgrifenwyd y llythyr, ac efe a gyhoeddodd y dyfyniadau heb ganiatâd, ni a dybiwn.

Telyn y Plant, Mai 1859 hyd Rhagfyr 1861, dan olygiad y Parch. T. Levi ac I. Gwyllt. Merthyr Rees Lewis.

Heblaw y tônau y crybwyllasom am danynt, I. Gwyllt a ysgrifenodd yr Anerchiad yn y rhifyn cyntaf, "Philosophi i'r Plant," tu dal. 148, 181, 202, 211 a 243, a'r adolygiad ar "Hymnau a Thônau gan E. Roberts, Liverpool," tu dal. 124 o'r ail Gyfrol. Anerchiad da yw y cyntaf, ond dichon ei fod yn llawn rhy uchel i'r plant ei ddeall. Eglurhâd dyddorol mewn dull o ymddyddan ar athroniaeth pethau cyffredin, dwfr, rhew, gwlaw, &c., yw y philosophi i'r plant. Pe buasai y rhai hyn wedi myned ymlaen am flynyddoedd, buasent yn werthfawr iawn.

Y Traethodydd. Treffynnon: P. M. Evans.

Yr ysgrifau o waith Ieuan Gwyllt a ymddangosodd yn y cylchgrawn chwarterol hwn oeddynt :-1857, tu dal. 275, Mendelssohn; 1866, tu dal. 133 a 471, Isaac Taylor; tu dal. 326, Yr Offeiriadaeth; 1867, tu dal. 261, Poen; 1869, tu dal. 46, Jonah; 1873, tu dal. 204, Brodyr yr Arglwydd; 1877, tu dal. 261, Bywyd ac Anllygredigaeth. Yn ei ysgrif ar Mendelssohn y mae wedi llwyddo yn anghyffredin i fyned i mewn i ysbryd ei destun-y mae ynddo gydymdeimlad byw âg ef; ac y mae rhai darnau, yr ydym bron yn teimlo wrth eu darllen, fod ei brofiad ef ei hun yn dyfod i'r golwg ynddynt. Hanes Mendelssohn ydyw, a beirniadaeth ragorol ar ei gyfansoddiadau a'i le yn y byd cerddorol. Cyfansoddwyd yr erthygl hon pan oedd yr awdwr yn olygydd yr Amserau. Ysgrifenodd ei ddwy erthygl ar Isaac Taylor, "ei hoff awdwr," chwedl yntau, yn fuan ar ol marwolaeth y gŵr enwog hwnw. Yr oedd unwaith wedi myned o Lundain Stamford Rivers, o bwrpas i gael gweled Isaac Taylor, a threuliodd ddwy awr yn ei gymdeithas. Gallem dybied fod awydd cryf ynddo i ddyfod i gyffyrddiad personol, os oedd modd, â'r gwŷr enwog a edmygai; oblegid nid yn unig darllenai eu gwaith, ond astudiai yn fanwl eu hanes a'u cymeriad; nid o ran chwilfrydedd gwag nac ymffrost, oblegid prin y clywid ef yn son ei fod wedi llwyddo i hyny, ond er mwyn deall y dyn. Yr oedd efe wedi darllen gweithiau Isaac Taylor yn fanwl iawn, ac yn edmygydd mawr o hono. Yr oedd rhyw gyffelybrwydd yn nhuedd eu meddyliau, ac yr oedd crefyddoldeb dwfn a byw Isaac Taylor yn swynol iawn iddo. Rhydd ddarluniad ardderchog o'i hanes yn yr erthygl gyntaf, a'i weithiau yn yr ail; nid adolygiad arnynt yn gwbl, ond cymer afael ar yr egwyddorion sydd yn rhedeg drwyddynt. Mae tuedd gref yn yr erthyglau hyn i godi awydd cryf yn y darllenydd am ddarllen gweithiau rhagorol Isaac Taylor. Tybiwn mai ei Saturday Evening a ystyriai efe yn oreu. Mae yr erthygl ar "Boen" yn cynnwys ymchwiliad athronyddol a chrefyddol i'r pwnc: beth ydyw, o ba le y daeth, ac i ba amcan. Yr oedd efe, yn ddiammheu, wedi dyoddef llawer o boen ynddo ei hun yn ei oes, ac y mae myfyrdod ar y mater, fel y ceir ef yn yr erthygl hon, yn hollol gydweddol â natur ei feddwl ef. Y mae yr erthyglau ar "Yr Offeiriadaeth, Jonah, a Brodyr yr Arglwydd," yn cynnwys eglurhadaeth feirniadol, athrawiaethol ac ymarferol ar y pynciau dan sylw. Rhydd olwg gryno ar farnau gwahanol awdwyr arnynt, a dengys ei fod yn hollol gydnabyddus â'r testynau yn yr ieithoedd gwreiddiol, ac â barn pob esboniwr o bwys arnynt, a phwysa gyda barn a chraffder neillduol eu rhesymau drostynt. Ymdrechai roddi i'r darllenwyr syniad clir a thrwyadl ar y pwnc a ddygai i'w sylw. Y mae rhyw ddyddordeb pruddaidd yn perthyn i'r erthygl olaf, sef "Bywyd ac Anllygredigaeth." Ysgrifenodd hi ychydig amser cyn ei farwolaeth, a dyma un o'r pethau olaf a ysgrifenodd i'r wasg. Dywedai yn ei nodiad at y Golygydd, fod yn ei fryd ysgrifenu amryw erthyglau ar y mater: yn hon y mae yn trin ar angeu, a'r sefyllfa rhwng angeu a'r farn. Dengys ei fod yn deall yn dda beth yw syniadau gwyddonwyr ar fater ac ysbryd, a noda yn gywir iawn y terfynau priodol sydd i wyddoniaeth a dadguddiad. Eglura yn oleu y gwahanol farnau sydd ar y pwnc o fodolaeth y corff a'r enaid ar ol angeu, gan ddangos pa mor bell y mae yr Ysgrythyr yn rhoddi sail iddynt, ac ymha bethau y maent yn myned ymhellach na'r hyn a warentir gan ddadguddiad a gwyddoniaeth, a chloa i fyny trwy egluro yr hen athrawiaeth uniongred yn ei symlrwydd, pa mor bell y mae genym oleuni dadguddiad a gwyddoniaeth, ac ymha bethau y mae tywyllwch eto yn aros, ac yn y diwedd dywed ei fod yn gadael yr Adgyfodiad a'r Farn i fod dan sylw mewn erthygl ddyfodol-awgrymiad na chafodd fyw i'w roddi mewn gweithrediad. Fel y sylwai Gol. y Traethodydd ddydd ei gladdedigaeth, yr oedd yn rhyw gysur ei fod wedi cael ei arwain o ran ei feddwl i ymdrin a myfyrio ar y materion hyn, fel pe buasai yn ymgydnabyddu â hwynt wrth ddynesu atynt.

4. Llyfr Hymnau y Methodistiaid Calfinaidd. Cyhoeddedig trwy awdurdod Cymanfa Gyffredinol y Cyfundeb. Dinbych: Argraffwyd a Chyhoeddwyd gan Thomas Gee. 1869.

Yr oedd Ieuan Gwyllt er's blynyddoedd, fel y gwelsom yn ei ddarlith ar Gerddoriaeth, yn teimlo anghen am lyfr Hymnau gwell na'r rhai oedd gan y gwahanol enwadau, ond am flynyddoedd nid oedd arwyddion fod hyny yn debyg o ddyfod oddiamgylch. Ymddengys iddo ef ei hun wneyd parotoad ar gyfer hyn. Mewn llythyr dyddiedig Chwefror 11eg, 1852, dywed, "Y mae genyf just un gair i'w ddyweyd wrthych mewn ymddiried. Byddwch gystal a pheidio ei ddyweyd wrth neb ar hyn o bryd. Y mae genyf Gasgliad o Hymnau yn cael ei barotoi, ac mor gynted ag y cyhoeddir argraffiad o'm Llyfr Tonau yn y Tonic Sol-ffa, bwriadaf ddwyn allan Lyfr Tonau ac Emynau,―y ddau ynghyd-y dôn yn nodiant y Sol-ffa ar ben uchaf y tu dalen, a'r Emyn neu gymaint o'r Emynau a allaf roi ar y gweddill o'r tu dalen hwnw, a'r un dylynol cyferbyniol. Argreffir yr Emynau yn golofnau dwbl, fel na bydd raid talu am bapur waste; ac ni bydd pris y ddau ynghyd, os gallaf fodd yn y byd, ddim yn fwy na'm Llyfr Tonau ei hun yn bresennol. Mae hyn oll yn GYFRINACHOL; ond dymunwn gael unrhyw awgrymiadau oddiwrthych chwi ar y pwnc. [20] Erbyn y Gymanfa Gyffredinol gyntaf yn Abertawe, 1864, yr oedd rhyw gymaint o deimlad am gael Llyfr Hymnau newydd ymhlith y Methodistiaid; ac wedi i'r Gymanfa hono ddyfod ynghyd, ac ystyried pa waith allasai wneyd er budd i'r holl Gyfundeb, syrthiwyd, yn un o'r pethau cyntaf, ar y priodoldeb o gael un Llyfr Hymnau. Un achos o hyny ydoedd fod dau o leiaf mewn arferiad lled gyffredin—un yn y Gogledd, a'r llall yn y Deheudir; teimlai rhai brodyr yn y Deheudir mai un a fyddai oreu, ac mai un y Deheudir ddylai hwnw fod, ac y mae yn bosibl fod hwnw yn rhagori ar un oedd ar y maes y pryd hwnw. Penodwyd Pwyllgor gan y Gymanfa hono o nifer o'r dynion goreu, [21] o'r Gogledd a'r Deheudir, at y pwrpas hwnw, feddai y Cyfundeb. Cymerodd amser maith i'r Pwyllgor hwnw i ddwyn y gwaith ymlaen, oblegid penderfynid ei wneyd yn drwyadl. Ymddengys fod pwys hyrwyddo y gwaith wedi cael ei osod ar Ieuan Gwyllt. Dygwyddasom alw heibio iddo yn Llanberis yr adeg yr oedd ar droed, a gwelsom y llyfr yn y MS., a chawsom yn yr ymddyddan ychydig o hanes ei ddygiad ymlaen. Wedi i'r Pwyllgor gyttuno ar yr egwyddorion, ar rai o ba rai y bu llawer o ddadleu, ysgrifenid yr emynau gan I. Gwyllt, ar bapyr quarto, a dim mwy nag un emyn ar yr un papyr, gyda digon o le o'r ddeutu, ac anfonid sypyn o emynau felly i aelodau y Pwyllgor ar gylch o'r naill i'r naill drwy y post; a rhoddai pob un ei enw wrth bob emyn, naill ai mewn cymeradwyaeth neu gondemniad; ac ni chaffai un emyn fod yn y llyfr heb fod mwyafrif y Pwyllgor yn ei chymeradwyo. Yr oeddid wedi penderfynu argraffu yr emynau fel y cyfansoddwyd hwynt gan eu hawdwyr, ac nid dilyn neb o'r "Cyfnewidwyr Hymnau;" ac yn yr ychydig gyfnewidiadau bychain a wnaed, yr oedd yn rhaid i'r cyfnewidiadau hyny gael cymeradwyaeth y mwyafrif o'r Pwyllgor, yn y dull a nodwyd. Gwelsom y pile fawr o'r papyrau hyn a gyfansoddent y llyfr, ac y mae yn amlwg fod hyn oll wedi costio llafur dirfawr i'r un oedd erbyn hyn yn Ysgrifenydd y Pwyllgor, sef Ieuan Gwyllt. Y mae y Rhagymadrodd wedi ei ysgrifenu ganddo ef, a'r cyfarwyddiadau, y Mynegai i'r adnodau o'r Bibl, a'r Mynegai i faterion pob emyn, ac y mae gofal mawr wedi cael ei ddangos i roddi enw awdwr priodol pob emyn wrthi. Dichon y gallasai y ddau fynegai fod yn fwy cyflawn, ond gwaith yw hyn i'w wneyd eto gan rywun yn meddu digon o amser a phwyll. Wrth ystyried y llafur dirfawr oedd gan y Pwyllgor i'w gyflawni, ac hefyd fod y mynegai yn cael ei wneyd o'r MS., y mae yn llawn mor gyflawn ag y gellid dysgwyl iddo fod. Rhoddwyd hefyd, er mwyn cyfleusdra i ddechreuwyr canu, enw tôn neu ddwy uwch ben pob emyn, ac y mae priodoldeb y cyfaddasiad yn brawf o'i graffder a'i chwaeth ef. Rhoddwyd ychydig Salmau hefyd, er rhoddi prawf a ymgymerai y Cyfundeb â chanu Salm-donau (chants), ond prin y maent hyd yma wedi cael dim sylw. Tybiwn fod y Mynegai i bob emyn. hefyd wedi ei gasglu ganddo ef, ac ni ŵyr neb ond y rhai sydd wedi cael profiad, y llafur dirfawr sydd yn myned i wneyd mynegai egwyddorol. Felly, arno ef y disgynodd y llafur mwyaf gyda'r casgliad hwn. Nis gwyddom beth a ddaeth o'r casgliad oedd ganddo ef ei hun wedi dechreu ei barotoi; tybiwn ei fod wedi cael ei suddo yn hwn. Yn Nghymanfa Aberystwyth, 1866, cawn y Llywydd (Dr. Edwards) a'r Parch. Roger Edwards yn rhoddi hanes pa le yr oedd y llyfr, a phenderfynwyd ymddiried gorpheniad y gwaith i'r Parchn. D. Jones, Treborth, a John Roberts (Ieuan Gwyllt)—Mr. Roberts i fod yn convener y Cyfeisteddfod." Hefyd "Bod awdurdod yn cael ei roddi i'r Cyfeisteddfod ddwyn allan y Llyfr Hymnau mor fuan ag y byddo modd, a bod iddynt ofalu am wahanol types, a maintioli, a phris priodol i gyfarfod âg anghen y cynnulleidfäoedd." Ar ol i'r llyfr ddyfod yn barod, anfonwyd am gynnygion i'w argraffu; ac wedi ystyriaeth, gwelodd y Pwyllgor yn oreu dderbyn cynnygiad Mr. Gee o Ddinbych. Felly, yn nghofnodau Cymanfa Gyffredinol Llanelli, 1868, "Gwnaed adroddiad o weithrediadau Cyfeisteddfod y Llyfr Hymnau, gan y cynnullydd, y Parch. John Roberts, Llanberis. Hysbyswyd fod y copy oll yn barod yn llaw yr argraffydd, sef Mr. Gee, Dinbych; fod y cyttundeb rhwng y Cyfeisteddfod a'r argraffydd wedi ei orphen; mai swllt fydd pris y plyg a'r rhwymiad rhataf, a phedwar swllt y mwyaf; y llyfr lleiaf i fod yn barod yn mis Tachwedd, a'r llall yn Rhagfyr. Darllenwyd y cyttundeb rhwng y Cyfeisteddfod a'r argraffydd yn y cyfarfod. Mewn atebiad i gais oddiwrth y Cyfeisteddfod, penderfynwyd:—Fod awdurdod yn cael ei roddi iddynt i ddwyn allan argraffiad o'r Hymnau gyda Thonau priodol i'w canu arnynt." Tynwyd y cyttundeb allan gan Ieuan Gwyllt. Nid yw yn perthyn i ni yma i basio barn ar y cyttundeb hwn, ond diammheu, ag ystyried yr holl amgylchiadau, fod y Pwyllgor yn ystyried mai hwnw oedd y goreu allasent wneyd. Wedi pasio y penderfyniad uchod gyda golwg ar y Llyfr Hymnau a Thonau, cododd gwrthwynebiad gan yr argraffydd i hyny, yr hyn a barodd lawer o drafferth a gofid i Gynnullydd y Pwyllgor; ond yn y diwedd cafwyd allan fod yn berffaith deg a rheolaidd, yn ol y cyttundeb, i hyny gael ei wneyd. Er hyny, ni chariwyd yr amcan byth i weithrediad. Ar ol i'r argraffiad cyntaf ddyfod allan, cododd cwyn led gyffredinol yn y wlad o herwydd ei ddiffygion, ac yn Nghymanfa Gyffredinol Liverpool, 1869, "Wedi ymddyddan maith, penderfynwyd ein bod yn derbyn eglurhâd Mr. Gee, ar yr hyn y cwynir o'i herwydd mewn cysylltiad â'r Llyfr Hymnau, a'n bod yn ymddiried i'w air a'i anrhydedd y diwygir y gwallau, ac y symudir pob achosion o'r cwynion rhagllaw." Ar ol hyn, bu ymgais am gael argraffiad canol rhwng y brasaf a'r manaf; ond o herwydd nad oedd hyny yn y cyttundeb, ac na wnai yr argraffydd ddim dros ben hwnw, methwyd a chael hyny oddiamgylch. Erbyn hyn, y mae y cyttundeb hwnw wedi dyfod i ben. Yr ydym yn crybwyll yr amgylchiadau hyn yn unig am eu bod yn dangos y ffyddlondeb a'r ymroddiad gyda pha un y gwasanaethai Ieuan Gwyllt Gyfundeb y Methodistiaid, er fod hyny yn costio iddo ddirfawr drafferth a llafur, a chryn lawer o ofid meddwl. Pe buasai yn dilyn ei gynllun cyntaf, sef cyhoeddi Casgliad o'r eiddo ei hun, gallasai gael llai o'r pethau hyn, a mwy o elw iddo ei hun; ond yr oedd efe yn caru llwyddiant a dyrchafiad Methodistiaeth fel y cyfryw, ac nid mewn un modd yn hoffi cael marchogaeth y Corff er ei les personol.

Fel ysgrifenydd, yr oedd ei iaith yn ddillyn a choethedig, a'i feddyliau yn athronyddol ac ëang, a'r eglurhâd o honynt mor dryloëw a'r dwfr glân. Darllena ei holl ysgrifeniadau yn berffaith esmwyth a naturiol, mewn Cymraeg pur, heb ddwyn dim bastarddaidd na Saesoneg, oni byddai yn anmhosibl trosglwyddo y syniad heb hyny. Yr oedd yn Gymro trwyadl a phur, a'i frawddegau bob amser yn Gymreig o ran eu harddull. Yr ydym yn cofio un amgylchiad mewn llettŷ yn Llandrindod, lle yr oedd yno hen glerigwr o'r Deheudir (ond genedigol o'r Gogledd), yr hwn a achwynai yn fawr ar iaith y Deheudir, a dywedai fod iaith y Gogledd yn fwy pur, gan nodi esiamplau. Wedi gwrando arno yn bwyllog, dangosodd Ieuan Gwyllt iddo fod y geiriau yr achwynai arnynt yn drwyad a gwreiddiol Gymreig, gan egluro eu hystyr, nes y bu gorfod i'r gŵr ddystewi. Yr oedd wedi darllen llawer, a meddwl wrth ddarllen; a pha beth bynag am wreiddiolder, yr oedd ei feddyliau bob amser yn eiddo iddo ei hun. Tueddai yn fynych, wedi taraw ar ryw syniad, i ddilyn ychydig ar ol hwnw, ac yna dychwelyd at ei bwnc. Hwyrach fod y dyfyniad canlynol o un o'i lythyrau yn rhoddi i ni gipolwg ar ei ddull o feddwl. [22] "Rhaid i chwi gofio mai nid esgusawd dros fy anffyddlondeb fel gohebydd ydyw rhyw lith fel yna, ond darn o feddwl a wibiodd trwy fy mynwes wrth fwrw rhyw hanner mynyd o olwg dros fy ymddygiadau. Fe allai, wrth i chwi halio ar ryw ddernyn fel yna, y daw i chwi y meddylddrych yn gyfan, ac y cewch y pleser o fyned i fewn a chwilio celloedd ei galon. Meddylddrych yn gyfan!' a ddywedais i? Hawyr anwyl, beth sydd yn gyfan yn ein byd ni! O ran' y mae pob peth yma. Rhyw ranau o bob peth a geir yma—y byd nesaf yw byd y cyfan. Hynod, onidê? mor blentynaidd ydym; edrychwch ar y dyn mwyaf ei gyrhaeddiadau a fu yn y byd erioed. Am ryw foment y mae yn siarad synwyr, y foment nesaf y mae yn baldorddi nonsens; yn awr y mae ganddo ddernyn o wirionedd, y foment nesaf y mae yn ymbalfalu mewn tywyllwch; yn debyg iawn. i blant bychain-y foment hon. mae syniad y plentyn, mor bell ag y mae yn cyrhaedd, yn gywir, er ei fod yn gyfyng, ond y fynyd nesaf y mae wedi colli'r ffordd yn gwbl. Beth pe dadlenid o flaen ein meddwl am fynydyn hen freinlen fawr Gwirionedd, yn ei hŷd a'i lled? O mor fychan fyddai swm gwybodaeth y mwyaf gwybodus o blant Adda yn ei hymyl; ac mor gyfeiliornus fyddai corff mawr syniadau plant dynion o'u cymharu â hi. Plant, ïe, a llai na phlant. Plant! nage, darnau o blant. 'Mewn rhan' y mae hyd yn nod y galluoedd sydd genym yn cael eu gosed mewn gweithrediad yn y byd yma. Welais i eto yr un dyn, na dynes ychwaith, yn gosod ei serch mewn cyflawn weithrediad ar unrhyw wrthddrych. Naddo fi, erioed. Byddai y fath ddyn neu ddynes yn beth hynod yn y byd hwn. Welais i eto neb yn ymarfer galluoedd ei feddwl hyd yr eithaf, ar bob pryd, ac ar bob achos. Rhyw ddarnau o fywyd felly ydyw ein bywyd ni. 'Does yma neb yn byw bywyd cyfan. Ond, fy anwyl gyfaill, dyma fi'n myn'd. Mynych y bum yn meddwl beth pe gollyngai dyn ei feddwl yn rhydd am ddiwrnod cyfan yn y modd hwn, a chofnodi pob awgrym, pob trem feddyliol, pob meddylddrych neu ddarn o feddylddrych, a wibiai drwy'r awyrgylch ysbrydol hon, beth fyddai y cynnyrch? Tybed fod y byd wedi cael rhyw erthygl felly erioed? Prin y gallaf fi goelio; onidê, y mae fy meddwl i yn wahanol iawn i feddyliau yn gyffredin."

Rhwng ei erthyglau, ysgrifau, llythyrau, &c., ysgrifenodd lawer iawn iawn; ond tarewir ni wrth eu darllen, mor gymhwys y mae pob brawddeg wedi ei ffurfio, pob gair yn ei le, heb eisieu rhoddi ato na thynu oddiwrtho, a'r cwbl wedi myned felly yn naturiol. Yr oedd barn yn bresennol mor gryf, mor gyflawn, ac mor fanwl yn ei feddwl wrth ysgrifenu, fel na byddai berygl ei gael yn "baldorddi nonsens fel ambell un.

III. EI LAFUR FEL PREGETHWR A GWEINIDOG. 1859-1877.

Hysbysir ni nad oes un o'i bregethau ar gael. Nid ymddengys y byddai yn ysgrifenu ei bregethau, ac na byddai ganddo byth mewn ysgrifen ond papyryn bychan, yr hwn a gadwai yn gyffredin yn mhoced ei wasgod isaf. Nid ydym yn gwybod a fu yn ysgrifenu yn nechreuad ei bregethu, ai ynte a fabwysiadodd y dull hwn o'r cyntaf. Yr oedd ganddo gof rhagorol. A thybiwn ei fod yn pregethu yn lled debyg fel y byddai yn ysgrifenu, meddwl yn dda ar y mater, ac yna, wedi ffurfio ei gynllun cyffredinol, ysgrifenai ymlaen fel y byddai meddyliau yn dyfod iddo. "Yr wyf yn cofio," meddai, "i mi gael cerydd llym iawn er ys amser yn ol gan un hen frawd, ag sydd yn awr yn y gogoniant, am roddi fel esgus dros feithder rhywbeth a ysgrifenaswn, nad oeddwn yn amcanu ei wneyd mor faith pan yn dechreu, nac yn meddwl ei fod felly hyd nes yr edrychais drosto ar ol ei orphen. Gosodai efe i lawr fel 'deddf y Mediaid a'r Persiaid,' y dylaswn feddwl fy holl erthygl cyn rhoddi pin ar bapyr i ddechreu ei hysgrifenu. Ond er fod y wers yn llem, a'r rheol yn gaeth, mae yn ddrwg genyf orfod addef fy mod hyd yn hyn heb ei dysgu." [23] Darllenai yr Emynau yn yr addoliad yn glir a phwysleisiol a phwyllog, sylwai yn fanwl ar y gynnulleidfa yn canu, ac os byddent yn ddiffygiol iawn attaliai hwynt, a dywedai nad oeddynt yn canu fel y dylent, a gofynai iddynt ail ganu. Byddai hyn, weithiau, yn peri i'r dechreuwr canu' fyned yn gynhyrfus, ac amryw yn y gynnulleidfa ofni, nes y pallent ganu gystal ag y medrent. Yr oeddym unwaith yn nghwmni boneddiges ddeallus iawn, ychydig ddyddiau ar ol iddo fod yn y capel y perthynai hi iddo, ac yn attal y gynnulleidfa felly. "Mr. ——" meddai, "yw ein dechreuwr canu ni, ac ato ef yr oeddym ni yn edrych am arweiniad. Os oedd gan Mr. Roberts ryw sylwadau i'w gwneyd, wrtho ef y dylasai eu gwneyd yn y tŷ capel ar ol darfod, ac iddo yntau ein dysgu ninnau wedi hyny, ac nid taflu y gynnulleidfa i ddyryswch ar y pryd, a tharfu ysbryd addoli." Tra yr ydym yn mawrygu zel Mr. Roberts, ac yn gwybod ei fod ef yn gwneyd hyny oddiar wir awydd cael y canu yn fwy teilwng, buom yn meddwl ganwaith fod synwyr a chrefydd yn sylwadau y foneddiges. Darllenai y bennod yn bwyllog a phwysleisiol, eto mewn ysbryd syml, dirodres, a defosiynol; deuai parch i'r gwirionedd yn amlwg yn ei ddull. Gweddïai hefyd yn syml a gostyngedig, yn feddylgar a difrifol, fel un yn ceisio rhoddi ei hun a'i wrandäwyr yn llaw ei Dduw. Yr oedd yn nodedig iawn fel gweddiwr. Wedi darllen ei destun yn eglur, esboniai ef yn feirniadol, gan ddwyn i'r golwg ffrwyth astudiaeth fanwl o hono, ac os byddai anghen rhoddai eglurhâd ar ystyr y gwreiddiol, eto heb ddim ymhoniad, nac un argraff ar feddwl ei wrandawyr o'i ysgoleigdod. Arweiniai yn feddylgar at ei destun, a thynai o hono y meddyliau y mynai alw sylw ei wrandäwyr atynt, mewn dull naturiol. Yna elai ymlaen. i egluro y meddyliau hyny, a dygai i'r golwg lawer o syniadau tarawiadol a thlysion-eto nid fel un yn casglu blodau, ond yn dilyn ei fater, ac yn taraw arnynt ar ei ffordd. Siaradai yn feddylgar a difrifol, eto gyda rhyw gymaint o awdurdod yn ei ddull a'i oslef, fel un yn teimlo fod y gwirionedd oedd ganddo yn hawlio sylw ei wrandäwyr ac y dylent hwythau roddi ystyriaeth iddo. Yr oedd ei lais yn naturiol ac yn cael ei lywodraethu yn dda, eto heb ddim tonyddiaeth na hwyl, er y gallai ennyniad teimlad ei galon beri i'w lais gryfhâu, ac i'r awdurdod yn ei lais a'i ddull ddyfod yn fwy amlwg. Dywed un wrthym, fod ei ragymadrodd bob amser yn rhagorol, y canol heb fod mor flasus, ond deuai ond odid afael cyn y diwedd. Yr oedd yn gwbl rydd oddiwrth bob rhodres, ac ni cheisiai arwain y gwrandäwyr â "geiriau · denu," nac â dim mewn arddull, ond y gwirionedd ei hun yn syml. Eto nis gallai oddef i ddim fod ar ffordd ei wrandawyr i roddi sylw i'r gwirionedd yr oedd yn ei hawlio; byddai unrhyw ystumiau neu ymddygiad, neu swn, neu ysgogiadau a thwrf babanod, yn peri rhwystr mawr iddo. Y nodwedd mwyaf amlwg oedd hawlio astudrwydd ac ufudd-dod, am fod pwysigrwydd a difrifoldeb y gwirionedd yn galw am hyny. Felly nis gellir ei restru yn bregethwr poblogaidd, er fod y gwrandäwyr meddylgar a difrifol yn derbyn adeiladaeth drwyddo. Nis gellir dyweyd, ychwaith, ei fod yn siaradwr rhwydd na hyawdl, er nad oedd, o leiaf wedi y blynyddoedd cyntaf, ddim yn flinderus ynddo; ond teimlai ei wrandäwyr mai y gwirionedd a deimlai ac a draethai oedd yn hawlio sylw, ac nid dim neillduol yn ei allu ef i'w roddi allan. Fel y sylwasom, daeth i gyffyrddiad â Mri. Moody a Sankey yn 1874, a llanwyd ei ysbryd gan ysbryd eu hymdrech hwy. Ymollyngodd i gymhell y gwrandäwyr-yn wir, gadawai gyfansoddiad ei bregethau, er mwyn siarad yn syml â'r gwrandäwyr. Weithiau cymerai, fel Mr. Moody, "y gwaed" yn fater, ac olrheiniai ef, neu ryw fater cyffelyb, a gwelid yn amlwg ei fod ef ei hun yn llawn o ysbryd y diwygiad. Cafodd lawer o oedfäon grymus a llwyddiannus yr adeg hon, ac yn enwedig felly yn Penygraig, y capel bychan yn ymyl y Fron, lle yr hoffid ac y perchid ef mor fawr, ymunodd cryn nifer â chrefydd yno. Nis gallai neb a'i gwrandawai, gyda dim ystyriaeth, ammeu am foment nad oedd efe yn hoff gan Dduw, ac yn byw yn agos ato, ac yn meddu yr "eneiniad oddiwrth y Sanctaidd hwnw." Yr oedd yn bregethwr mawr mewn difrifoldeb, meddylgarwch, a defnyddioldeb, ond nid yn fawr yn yr ystyr a arferir yn gyffredin gan y llïaws.

Fel bugail, yr oedd yn gwir ofalu am yr achos yn ei holl ranau, ac yn hoffus iawn gan bawb oeddynt yn gallu nesu ato, ac yn neillduol barchus gan bawb oll o'i ddeiliaid; eto prin, hwyrach, y gellir dyweyd fod ei fugeiliaeth yn llwyddiannus gyda golwg ar y lliaws. Clywsom ef yn dyweyd, wrth anerch gweinidog ar ei sefydliad mewn eglwys, fod eisieu i'r bugail fod yn adnabod ei braidd ; nid yn gwybod eu henwau, a lle eu preswylfod, eu galwedigaeth a'u gwynebpryd, ond yn eu hadnabod yn adnabod eu cymeriad, tuedd eu hysbryd, a'u safle fel crefyddwyr. Yr oedd efe ei hun yn neillduol o fanwl a chraffus yn ei sylw ar bersonau ei ofal, er nad bob amser, hwyrach, yn agos atynt, eto gellid dyweyd, o'r bron, fod bob un wedi bod yn destun study ganddo. Yr oedd yn gydwybodol yn ei ddyledswydd gyda'r plant, y gwŷr ieuainc, a'r rhai mewn oed. Yn y society, fodd bynag, ni fynai fyned i holi profiadau, ond gadael iddynt ddyfod allan fel ffrwyth addfed, os deuent. Ceid un o'r blaenoriaid i agor y society mewn rhyw gyfeiriaid, ac ymdriniaeth naturiol felly arno; neu ynte os deuent ar draws rhywbeth a'u harweiniai, i ryw gyfeiriad arall. Yr oedd hyn yn ddiddadl yn ddull rhagorol i roddi blas a phleser ac adeiladaeth i'r rhai yr oedd eu tueddfryd at bethau pur ac ysbrydol; ond y mae dosbarth i'w cael mewn eglwysi heb erioed gael y chwaeth hwnw, ac nid oes mewn dull fel hyn nemawr i dynu y dosbarth hwnw. Byddai ganddo sylw a gofal dros yr achos yn ei bethau allanol, er nad ymwthiai mewn un modd i ymyraeth â gwaith y diaconiaid. Yn y Bibl Teuluaidd cawn fel hyn, "1867, Gorphwysfa Chapel, Llanberis, was built," yn cael ei nodi fel dyddiad yn ei fywyd ef. Diammeu mai y rheswm am hyn ydyw ei fod ef ei hun wedi cymeryd llawer o'r drafferth gysylltiedig â dwyn y mater hwn i ben.

Fel Pregethwr, yr oedd yn aelod o'r Cyfarfod Misol, ac yn y cysylltiad hwnw yr oedd yn weithgar ac anwyl ymhlith ei frodyr. Yr oedd yn teimlo dyddordeb yn symudiadau y Cyfundeb; ac ymha le bynag y byddai, pa un ai yn y Cyfarfod Misol ai yn y Gymdeithasfa, yr oedd yn gryn lawer o'r man of business, a byddai ei sylwadau bob amser yn dangos synwyr a barn, er na byddai efe yn ymwthio yn y cysylltiad hwn ychwaith. Fel cadeirydd y Cyfarfod Misol, llywiai yn ddeheuig. Mae ambell un yn cael llawer o le ar eu dyfodiad cyntaf i gylch newydd, ond mewn amser yn darfod, a'i ddylanwad megys yn colli; ond nid un felly ydoedd efe, yr oedd ei nerth yn parhâu, ai ddyddordeb yn y gweithrediadau a'i weithgarwch yn parhâu. Efe oedd un o gynnrychiolwyr Cyfarfod Misol Arfon i'r Gymanfa Gyffredinol am 1876 ac 1877, ond yr oedd wedi marw ychydig ddyddiau cyn yr olaf. Efe hefyd oedd un o'r cynnrychiolwyr ar Bwyllgor y Genadaeth Dramor, ac un o'r pethau olaf a wnaeth dros y Cyfarfod Misol oedd ysgrifenu anerchiad at yr eglwysi gydag ystadegau y flwyddyn 1876, ac y mae yr anerchiad hwn wedi ei ddyddio "Fron, Ebrill 1877." Ystyrid ef yn rhestr flaenaf gwŷr y Cyfarfod Misol, ac yn un o'r rhai a dybid eu bod yn golofnau. Yn y blynyddoedd diweddaf, yr oedd y Cyfarfod Misol wedi pasio drwy gyfnod o crisis; yr oedd ymdrechion yn cael eu gwneyd i ddwyn diwygiadau i mewn, ond fel bob amser, anhawdd oedd dwyn hyny ymlaen heb wrthdarawiadau. Yr oedd efe yn galonog o blaid diwygiad, ac yr oedd ei bwyll a'i ddylanwad ef o werth mawr, fel y dygwyd y cwbl ymlaen, ar y cyfan, yn esmwyth a thangnefeddus, ac y cadwyd oddiwrth bob ysbryd anfrawdol, a chafodd y pleser o weled y Cyfarfod Misol wedi diwygio llawer iawn, ac yn edrych ymlaen i gyfeiriad dyfodol llwyddiannus.

Yn nechreu 1871, yn unol â chais y Dosbarth, ymgymerodd â gofal Cyfarfodydd Ysgolion Dosbarth Caernarfon, yn yr hyn y parhaodd hyd ei farwolaeth. Clywsom ef y flwyddyn gyntaf; ac er fod y gwaith yn cael ei ddwyn ymlaen yn dda, nis gellid dyweyd fod ynddo neillduolrwydd fel holwyddorwr. Y mae holi ysgol yn gelfyddyd ar ei phen ei hun, ac nid i bob un y rhoddwyd y ddawn hono; ac y mae yn bosibl, o herwydd diffyg ymroddiad ac ymarferiad, fod llai o sylw yn cael ei dalu i'r gangen bwysig hon nag a ddylai fod. Tuedd rhy gyffredin ydyw gwneyd yr holi yn arholiad, i brofi gwybodaeth yr ysgoleigion; ond y mae hyny ynddo ei hun yn dangos mai ofer ydyw, oblegid os profi gwybodaeth, nis gellir profi lliaws gyda'u gilydd, rhaid eu cael yn fwy arbenigol i hyny. Ymroddodd efe ati o ddifrif i herffeithio ei hun yn hynyma, a'r cyfryw ydoedd ei allu i ymgymhwyso fel y daeth cyn hir yn un o'r holwyddorwyr goreu a glywsom erioed. Yn yr holi, arweiniai y plant, neu y rhai mewn oed, yn raddol i mewn i ganol y pwnc, gan daflu goleuni arno, a pheri i bawb gael blas neillduol yn yr ymddyddan. Cafwyd llawer o gyfarfodydd y cofir am danynt yn hir yn y Dosbarth hwn, ac yr oedd y llafur yma wedi cylymu serchiadau y wlad am dano. Yr oedd, yn ddiammheu, wedi costio iddo ef lafur caled, ond bendithiwyd ef yn helaeth ynddo.

Yr ydym, yn awr, wedi cymeryd golwg ar lafur pum' mlynedd ar hugain fel Cerddor, fel Llenor, ac fel Gweinidog. Ac wrth edrych drosto, nid ydym yn petruso ei alw yn llafur anferth! Oes fer, mewn cymhariaeth, ydoedd oes ei lafur cyhoeddus, ond oes a dreuliwyd trwy ddiwydrwydd anghymharol. Ni threuliai fynyd yn segur, ond gweithiai yn ddyfal, yn barhâus ac yn galed. Er na chafodd oes faith, treuliodd oes fawr, a chyflawnodd waith anghyffredin o fawr mawr yn ei swm, mawr yn ei amrywiaeth, mawr yn ei werth a phurdeb ei natur. Mae ambell un yn codi rhyw un gofgolofn iddo ei hun, wrth yr hon y cysylltir ei enw, ond cododd efe amryw. Yr oedd y meddwl cryf, iraidd a bywiog oedd ganddo, fel yn ymwthio i mewn i bob cyfeiriad, ac yn cyfoethogi y byd â'i lafur ar bob llaw. Fel yr afon Rheidol yn nghymydogaeth Penllwyn, yn ymlwybro tua'r môr, weithiau yn ireiddio'r coedydd, bryd arall yn dyfrhâu y ddôl a'i chynnwys, a thrachefn yn disychedu'r trigolion, felly yr oedd yntau; fel cerddor, fel llenor a bardd, ac fel pregethwr, yr oedd yn ceisio barhâus at fod o ryw ddefnydd a llesâd. Ni ddychymygasom fod ffrwyth ei lafur mor anferth, hyd nes i ni wneyd ymchwiliad iddo, ac y mae yn ddiammheu mai ychydig sydd wedi synied am eangder a rhagoroldeb llafur Ieuan Gwyllt.

Nodiadau

golygu
  1. O'r Amserau, Awst 30, 1854.
  2. O'r Amserau; Darlith ar Gerddoriaeth yn Llanelli, Chwefror 9, 1856, y Parch. T. Levi yn y gadair.
  3. Nid ydym wedi enwi yr holl gasgliadau, ond yn unig y prif rai, mor bell ag y mae yn ymddangos iddynt roddi rhyw ysgogiad i feddyliau dynion. Cyhoeddodd J. Roberts, Henllan, Caniadau y Cysegr yn 1839.
  4. Yr Amserau, Mawrth 9, 1853.
  5. Y mae hyn wedi bod ac yn bod eto ar ffordd llwyddiant cerddoriaeth—dynion yn tybied eu bod yn gwybod y cwbl, pryd nad ydynt, mewn gwirionedd, wedi myned yn ddyfuach na'r cnewyllyn.
  6. Mewn llythyr at Mr. E. Roberts, Liverpool.
  7. Adroddiad o anerchiad y Parch. D. Saunders yn Nghaeathraw.
  8. Gwelir iddo gael ei gyhoeddi am dair blynedd ar ddeg. Prin y gellir bod yn sicr, hwyrach, o'r cwbl a ddywed Mr. Saunders yma. Bu y symudiad i Wrexham yn ddiau yn ysgafnhâd mawr i'r Golygydd, ac ymdrechwyd i godi ei gylchrediad i bum' mil y pryd hwnw. Tybiwn mai eiddo Hughes a'i Fab ydoedd bellach, a'i fod yn talu, nid ar unwaith, ond trwy gadw stereotype y gerddoriaeth. Felly y dywedir fod y Musical Times; ni thalai ond fel y mae y gerddoriaeth mewn amser yn talu.
  9. Cerddor Cymreig, Mai, 1866, tu dal. 39.
  10. Llythyr Mr. D. Evans, Caerdydd.
  11. Cerddor Cymreig, Rhif I., tu dal 6.
  12. Llythyr Mr. D. Evans.
  13. Yr ydym yn ei gael ei hunan yn cyfieithu y Llyfr Tonau i'r Tonic Solff, ac yn tybied ei fod o fewn pythefnos i'w orphen Chwefror 12, 1862, (llythyr at Mr. E. Roberts); er hyny, ni ddaeth y llyfr allan hyd fis Mehefin, 1863.
  14. Yr ydym wedi methu yn deg a chael o hyd i'r ddadl hon i allu rhoddi mwy o fanylion am dani.
  15. Y diweddar Mr. T. Jones, Meddyg, Corwen. Gwel y Methodist, Hydref, 1855.
  16. "1852, Dec. 9. Went to Liverpool to edit Yr Amserau. Wrote the first Leading Article for that paper Dec. 10th."
  17. Mynyddog.
  18. Cafodd Mynyddog fyw ar ol Ieuan Gwyllt i gyfansoddi y geiriau canlynol i Requiem y Dr. Joseph Parry:

    Wylwn! wylwn! cwympa 'r cedyrn,
    Cwympa cedyrn Sion wiw;
    Wylwn! wylwn! dianc adref
    Y mae cewri mynydd Duw:
    Cydalarwn dan y stormydd,
    Crogwn ein telynau 'n syn,
    Crogwn hefyd bob llawenydd
    Ar hen helyg prudd y glyn:

    Y cadarn a syrthiodd, mae bwlch ar y mur,
    A Sion ar suddo mewn tristwch a chur.
    Ond udgorn Duw a rwyga feddau 'r llawr,
    A syrth y ser yn deilchion ar un awr;
    Dydd dial, dial Duw! dydd gwae i fyrddiwn fydd,
    Ond dydd gollyngdod teulu 'r nef yn rhydd;

    Clywaf lais o'r ne 'n llefaru,
    Treiddia drwy hen niwl y glyn,
    Rhai sy'n meirw yn yr Iesu,
    Gwyn eu byd y meirw hyn.

    Moliannwn! gorfoleddwn!
    Cawn gwrdd i gydganu, cydfoli, cydfyw,
    Mae allwedd marwolaeth wrth wregys ein Duw.

  19. Llythyr y Parch. T. Levi. Mae Mr. Levi yn gywir yn y cwbl o hyn.
  20. Cyfieithad o lythyr at Mr. E. Roberts, Liverpool.
  21. Dyma'r penderfyniad, "Bod y cyfarfod hwn yn barnu y byddai yn dra dymunol cael un Llyfr Hymnau i'r holl Gyfundeb, y cyfryw lyfr i fod yn feddiant i'r Gymanfa Gyffredinol, ac yn dewis y Parchedigion Henry Rees, Liverpool; Lewis Edwards, M. A., Bala; David Jones, Treborth; Roger Edwards, Wyddgrug; Thomas Phillips, Henffordd; John Roberts, Merthyr; David Charles, Caerfyrddin, a William Thomas, Pontllanfraith, i fod yn Gyfeisteddfod i gymeryd mesurau tuag at gyrhaedd yr amcan hwn, a dwyn casgliad o Hymnau i mewn i'r Gymanfa nesaf. Y Parch. Roger Edwards i fod yn Ysgrifenydd y Cyfeisteddfod."
  22. At y Parch. T. Levi.
  23. Yr Oenig. Cyf. I. tu dal. 341. Llythyrau at Gyfaill.