Lewsyn yr Heliwr (nofel)/"Gwaed, neu Fara!"

Gwyl Gynog Lewsyn yr Heliwr (nofel)

gan Lewis Davies (Lewis Glyn Cynon)

Y Faner Goch

VI.—"GWAED, NEU FARA."

YCHYDIG ŵyr gweithwyr Deheudir Cymru, sydd heddyw yn ennill mwy o gyflog mewn un dydd nag a wnai eu teidiau mewn wythnos gyfan, am y caledi a ffynnai yn ein gwlad gan mlynedd yn ol.

Mor ddiweddar a'r flwyddyn 1830, deuddeg swllt yr wythnos oedd cyflog y "gweithiwr haearn" wrth y ffwrnes, a'r glowr dan y ddaear yr un modd. Prynid popeth yn "siop y cwmni," ac yn aml nid oedd "dim yn troi" wedi talu'r gofynion yno.

Ychydig oedd nifer y cymdeithasau dyngarol, a llai fyth yr undebau o unrhyw fath, fel rhwng popeth nid oedd y gweithiwr cyffredin ond math ar gaethwas, yn dibynnu bron yn hollol ar ewyllys da yr un a'i cyflogai.

Gwyddys yn eithaf da mai Merthyr oedd Mecca pob Cymro o anian grwydrol yn yr oes honno, a bod y llwybrau arweiniai tuag yno yn cael eu mynychu gan "dorwyr cyfraith" o bob math. A phan gofiom am erwinder y gyfraith ei hun yn y dyddiau hynny, hawdd credu bod cyfran fawr o'r "dynion dôd" ar lan Taf yn ffoaduriaid, am ryw drosedd neu 'i gilydd, o'r ardaloedd y magwyd hwy.

Yno y gwelid llawer gŵr ddygodd ddafad ei gymydog ym Mrycheiniog neu Geredigion, ambell un fel Dic Penderyn a dorrodd asgwrn cefn ei gyfaill o ddamwain yn Aberafon ac arall, fel Lewsyn yr Heliwr (oedd yn wirioneddol o Benderyn) a fynnai fod yn ben neu ddim pa le bynnag y trigai.

Yn y flwyddyn 1831, yr oedd sefyllfa pethau yng ngwlad yr haearn a'r glo yn waeth nag y bu yng nghof neb—yr hur yn llai, y nwyddau yn brinach, a'r dyledion yn myned yn drymach, trymach.

Nid oedd papur dyddiol yn y dywysogaeth, ac hyd yn oed pe bae, ychydig oedd y rhai fedrai fforddio i dalu am dano. Yr oedd Merthyr i bob pwrpas ymhellach o Gaerdydd neu Abertawe y dyddiau hynny nag yw oddiwrth Bwluwayo neu Singapore heddyw. Felly, rhaid oedd i dref Merthyr ei hun ennill neu golli yn yr argyfwng mawr o'i blaen.

Dacw hwynt—y werin anllythrennog yn cael eu cynhyrfu yn ol a blaen gan bob rhyw ddawn, ond yr oll yn diweddu mewn condemniad o'r meistri celyd— dim mwy, dim llai. "Dim!" ddywedais i? Welwch chwi mo'r newyn ymhob gwedd? mo'r awydd ymddial ymhob llygad?

Gyda hyn, dyna'r newydd yn rhedeg fel tan mewn sofl fod y milwyr yn dod. Ie, milwyr Waterlw, meddai pawb. Dyma hi ar ben arnom! Cawn ein gwasgu yn ol i'r hen delerau. a bydd bidog uwch ein pen fel yr oedd ffrewyll yr Aifftiwr uwchben Israel gynt!

Welwch chwi'r dyn ieuanc acw yn annerch ei gydweithwyr mewn geiriau eiriasboeth, ac yn eu cynhyrfu a'i frawddegau miniog? Os nad ydych yn ei adnabod, gwn am rai o hen ysgolheigion Gwern Pawl a wnai hynny ar unwaith. Y tafod ffraeth, y gwallt crych, a'r holl osgo annibynnol, yn union fel cynt, nis gallent berthyn i neb arall ond i Lewsyn yr Heliwr. Clywch beth a ddywed!—

"Fechgyn! ma' nhw'n gweyd fod y sowldiwrs yn dod! I beth? dybygwch chi? I beth hefyd, ond i'n gwneud yn slafiaid mewn gwirionedd a'n gorfodi i weitho yng Nghyfarthfa fel y gwnant i'r blacks neud yn Jamaica! Fechgyn! am dano 'i 'm hunan wy' 'i ddim yn mynd i weitho 'm henaid ma's am ddiddag swllt yr w'thnos i foddhau neb, ac nid wy'n mynd i starfo chwaith! Cofiwch 'ng ngeiria, boys! 'Rwy'n gwel'd y 'cotia cochion' ishws wedi dod o fla'n yr hotel. Gadewch inni fynd lawr i gael gweld a chlywed beth gewn ni."

I lawr yr aed, ac yno ar yr heol fawr o flaen Gwesty y Castell yr oedd miloedd wedi ymdyrru, y mwyafrif, fe ddichon o gywreinrwydd i weled y Scottish Highlanders ("gwŷr y peisha bêch " fel y gelwai y Morgeinwyr hwynt) fuont yn Waterlw; ond llawer hefyd i weled beth gynhygiai y meistri o'r tu ol i'r "cotia cochion." Ar y palmant o flaen y gwesty safai y milwyr yn rheng sengl gyda'u cefnau ar y mur, ac yn gwasgu arnynt, gan lenwi yr heol o ochr i ochr, yr oedd y dorf aruthrol.

Mewn ychydig eiliadau dacw ffenestr llofft y gwesty yn agor, a'r meistri—Crawshay, Guest, ac eraill yn eu tro yn annerch y dyrfa. Siaradodd rhai ohonynt yn synhwyrol a heddychol ddigon, ond gyrrodd un arall ohonynt y cynhulliad yn wenfflam, o awgrymu yn lled ddigamsyniol mai gwell oedd i'r gweithwyr blygu mewn pryd cyn y byddai'n rhaid iddynt wneuthur hynny drwy nerth arfau.

Ar hyn wele Lewsyn yr Heliwr yn neidio yn ffyrnig at y milwr agosaf a chydag ysgogiad cyflym yn cipio ei fwsged oddiarno. Yna, gan grochwaeddi " Gwaed, neu Fara!" efe a drywanodd yr Ysgotyn â'i fidog ei hun. Am yr hanner awr nesaf yr oedd yr heol yn un câd —y dorf yn ceisio rhuthro ar y milwyr, a hwythau— fechgyn dewr bob un—yn ceisio eu dal yn ol. ac yn anad dim, i'w rhwystro i ennill drws mawr y gwesty a myned at y meistri ar y llofft.

Yna y gwelwyd y camsynied dybryd a wnaed o osod y milwyr yn rheng sengl ar y palmant, ac wedi diogelu bywydau y rhai o'r tu mewn trwy sicrhau y drws wynebai yr heol, y peth pwysicaf wedi hynny oedd diogelu bywydau y milwyr eu hunain oedd y tu allan a'u cefnau ar y mur.

Dro ar ol tro y rhuthrodd y dorf arnynt, a thro ar ol tro y daliwyd hwynt yn ol naill ai gan fidogau yr Ysgotiaid eu hunain ar y palmant, neu gan y saethu a wnaed dros eu pennau o'r llofft.

Anodd iawn fu y gwaith o dynnu milwyr yr ystryd, bob yn un ac un, i ddiogelwch. Yr unig ffordd i'w wneud bellach, gan fod drws y gwesty yn awr wedi ei gau, oedd eu symud gam a cham i gongl y tŷ, ac yna peri iddynt redeg, un yn awr ac un yn y man, oddiyno i ddrws mawr yard y gwesty yn yr heol groes.

Llwyddwyd i gyrraedd "dinas noddfa" gan bob un o'r Ysgotiaid oddigerth yr olaf ar ben y rheng. Yr oedd efe—cawr nerthol—wedi bod yn nôd i gynddaredd y dorf o'r dechreu, gymaint fu ei fedr a'i ddewrder y diwrnod hwnnw. Oblegid pan wedi ei guro i'w liniau, a'i faeddu nes llifai y gwaed dros ei wyneb, para i ymladd a wnai efe. Ac yn awr, wele yntau wrth gongl y tŷ yn paratoi i redeg fel ag y gwnaed gan ei gydfilwyr.

Ond wrth y gongl hefyd yr oedd Dic Penderyn, ynghyda'r rhai mwyaf penderfynol o'i gyfeillion yn mynnu ei rwystro i gyrraedd diogelwch. I ffwrdd ag ef, fodd bynnag, ac enillodd yr yard, ond gyda Dic a dau neu dri arall yn hongian wrth ei ystlys fel helgwn ar fedr tynnu i lawr lew eu helwriaeth.

Beth ddigwyddodd y tu ol i ddrws yr yard ni ddeuir byth i wybod gyda manylder mwy, ond yr oedd yr Ysgotiad dewr yn farw, a chyhuddid Dic o fod yn achos ei farwolaeth.

Wedi i'r milwyr adael y palmant, parhawyd am beth amser i saethu at y bobl yn yr heol hyd nes y gwelodd pawb mai gwell oedd bod allan o gylch y tanio. Ar y lle agored, yn gelain neu yn glwyfedig, yr oedd tua hanner cant yn gorwedd, a phan y ceiswyd cario y trueiniaid o'r man y syrthiasant, saethwyd ar y dechreu at bawb a geisiai wneuthur hynny.

Gofynion milwrol,—rhag ymgasglu o'r dorf eilwaith i beri cynnwrf adnewyddol,—yn ddiau a barodd y saethu parhaol hwn; ac fel y bu yn ffodus i enw da yr Alban, rhoddodd y munudau nesaf gyfle i natur oreu y milwyr i arddangos ei hun. Oblegid pan y daeth mam Gymreig,—hen wraig gyda'i gwallt yn wyn,—heb ofn na gwn na bidog i gario ei mab allan o'r gyflafan, gwaeddodd y swyddog nad oedd neb i'w rhwystro. Ar y gair gostyngwyd ffroen pob mwsged i lawr, a thynnodd pob Ysgotyn ei gap o barch têg i'w harwriaeth difraw.

O! 'r fath arddunedd oedd gweled cariad mam yn torri dros ben popeth i gyrraedd ei mab clwyfedig, ac O! 'r fath dro gresynol bod achos iddi beryglu ei hun. Pob parch, er hynny, i'r Ysgotyn a blygodd o flaen cariad mam Gymreig!