Lewsyn yr Heliwr (nofel)/Y Fugeiles a'r Heliwr

Y Gist Lewsyn yr Heliwr (nofel)

gan Lewis Davies (Lewis Glyn Cynon)

Gwyl Gynog

IV.—Y FUGEILES A'R HELIWR.

ER nad oedd Beti Hendrebolon ond prin pedair-ar-ddeg oed pan gollodd ei rhieni. cymerodd at waith y ffermdy fel pe wedi cael hir brofiad ohono. Gofalai am reidiau ei brodyr fel y gwelsai ei mam yn gwneuthur yn y dyddiau gynt, ac yr oedd y dodrefn a'r llestri llaeth yn dangos y glendid mwyaf.

Arhosodd ei thri brawd yn weddw, a chydag amser edrychid gan yr holl gymdogion ar Beti fel meistres y tyddyn. Gweithiai yn galed ar bob tymor o'r flwyddyn, a mawr oedd ei gofal am holl greaduriaid y fferm.

Prif gyfoeth Hendrebolon oedd y defaid a borai "arhosfa" helaeth ar lethr y Fân. Bugeilid y rhai hyn yn gyson gan un o'r brodyr, ond o byddai goruchwylion eraill y fferm yn gofyn am lafur y tri brawd, mynych yr elai Beti ei hun i edrych y mamogiaid. Gyda'i deugi yn ei. dilyn clywid ei chwibaniad yn torri o'r ucheldiroedd, a llawer o deithwyr ar heol Senni a syllent gydag edmygedd ar y fugeiles dlos yn llamu nentydd a ffosydd yr "arhosfa."

Pan ar ymweliad ag Ystradfellte un tro, gwelodd fy hen famgu hi fel "Menna yn dod o'r mynydd," gyda'r awelon yn ei gwallt a cheinder y rhos yn ei grudd. Ac o'r cyfarfyddiad damweiniol hwnnw nid oedd "byw na bod" heb i'r hen gyfeilles ysgol fyned i lawr gyda hi y foment honno i Hendrebolon i gael ymgom uwchben brechdan a llaeth. Yn yr ysgwrs gylch y bwrdd daeth Gwern Pawl a'i gysylltiadau yn naturiol i'r siarad, ac o ganlyniad enwyd Shams a'r cyfeillion eraill cyn bo hir. Pan ofynnwyd i Beti am y pryd y gwelodd hi Lewsyn ddiweddaf, hi a drodd y siarad fel pe o ddamwain i gyfeiriad arall. Rhyfeddodd fy hen famgu ychydig at hyn ar y pryd, ond aeth y peth yn fuan o'i meddwl, a chan godi i ymadael brysiodd i'w siwrnai gyda barn uwch nag erioed am harddwch a deheurwydd Beti.

Hyfryd fuasai gan fy hen famgu pe gallai feddwl yn dda am Lewsyn hefyd yn y cyfnod hwn, ond yr oedd ei anian wyllt ef yn ei arwain yn brysur i'r llwybrau lle mae colli cymeriad yn beth hawdd. Efe oedd heliwr Bodwigiad yn awr, a siaradai yr holl ardal am ei ystranciau. Sonnid yn neilltuol am y ffair olaf ym Mhontneddfychan pan arweiniodd efe nifer o fechgynnos y chwarel i ffrwgwd waedlyd â glowyr Glynnêdd a derfynodd mewn cyfraith a dirwyon.

Clywodd Beti yr holl helynt heb holi dim yn ei gylch, oblegid adroddid ef gan ei brodyr (a gashaent Lewsyn â chasineb mawr), yn ei gwydd heb ystyried fod pob gair a ddywedid fel brath i'w chalon. Ymhen hyn oll aeth y brodyr yn fuan wedyn i gyfraith a chefnder Lewsyn parthed "hawliau mynydd" Fforest Fawr Brycheiniog, a phechodau y tylwyth yn gyffredinol gyda phechodau unigol y ddau gefnder oedd i'w clywed beunydd gylch y bwrdd yn Hendrebolon. Ni chymerai Beti ran yn y siarad o gwbl, ond yr oedd rhywbeth yn ei mynwes yn cymell amddiffyniad o Lewsyn i'w meddwl yn wyneb y cyhuddiadau i gyd.

Tua'r amser hwn gwahoddwyd Beti gan ei chyfeilles Mari i dreulio prynhawn Sul gyda hi ym Mhenderyn, a rhan o'r cynllun oedd i Mari ddyfod i'w chyfarfod hyd Bont Hepsta erbyn dau o'r gloch. Hynny a wnaed, ac wedi cwrdd ohonynt trôdd y ddwy gyfeilles oddiyno i gyrchu Twyn yr Eglwys.

Ond pan ar yr heol isaf oedd ryw drichanllath islaw heol fawr Aberhonddu, heb na gwrych na chlawdd rhyngddynt, gwelsant ddyn ieuanc yn marchogaeth ar yr heol uchaf. Adnabu y cyfeillesau ef ar unwaith, ac hyd yn oed pe heb adnabod y marchogwr, yr oedd ceffyl gwyn Bodwigiad yn gyfarwydd gan bawb yn y plwyf. Ond nid oedd yr un amheuaeth yn meddwl y ddwy eneth am bersonoliaeth marchogwr y ceffyl gwyn.

"Y mae yn mynd i'r Becwns," ebe Mari, gan gyfeirio at arferiad yn yr ardal gan bob perchen merlyn i wneud y daith i Fannau Brycheiniog y Sul cyntaf yn Awst.

Ar hyn cododd Lewsyn ei law atynt mewn cyfarchiad moesgar, a theimlai y ddwy nad oedd gelyniaeth ganddo at Beti, beth bynnag am ei brodyr.

"Welsoch chi'r haul ar 'i wallt e'?" medde Beti, "on'd o'dd e' fel aur?"

Nid oedd Mari wedi sylwi yn neilltuol ar hynny, a phan drodd, mewn eiliad neu ddwy, i ddweyd rhywbeth arall wrth ei chyfeilles, gwelodd fod honno yn gwrido 'n ddwfn unwaith eto, fel ag y gwnaeth gynt wrth y nant.

Aeth Lewsyn rhag ei flaen i Gwmtâf gan feddwl mwy am y sylw a gaffai efe a'i greadur hardd yn arddangosfa y merlynnod wrth droed y Becwns nag am y merched. Yr oedd y sôn am ei ddyrchafiad i fod yn brif heliwr yr ystâd wedi tramwy y blaenau oll, a theimlai efe yn rhinwedd hynny ei fod yn rhywun mewn gwirionedd bellach.

Rhoddid y flaenoriaeth iddo, nid yn unig gan Shams, ond gan holl gylch ei gyfoedion, ac yn neilltuol felly mewn unrhyw gwestiwn a berthynai i ragoriaeth creadur. Yr oedd y bechgyn hyn wedi arfer plygu i'w farn pan yn yr ysgol, ac anodd ganddynt oedd ei groesi yn awr. Credent fod yr hwn oedd yn anffaeledig ymron yn ei wersi gynt yn ddim amgen na hynny pan yng ngwenau heulwen y Plâs.

Ond yr oedd cenhedlaeth hŷn na'r rhai hyn yn barnu yn wahanol am yr heliwr. Siglent eu pennau pan siaredid ei enw, a choffheid gan amryw ohonynt am y dirgelwch ynglŷn â'i enedigaeth ac afresymoldeb y rhyddid roisid iddo ef rhagor bechgyn eraill yr ardal. Sisielid llawer hefyd am ei hyfdra ar y Sgweier, a chynhygid mwy nag un ddamcaniaeth i gyfrif am hynny.

Beth bynnag am y ffeithiau a eglurai y pethau hyn. cynhyrfwyd y pentre un bore tua diwedd pythefnos y Mabsant gan y newydd fod Lewsyn wedi colli ei swydd, a'i fod wedi myned i ffwrdd yn ddistaw (i Ferthyr, fel y tybid), ac nad ydoedd i osod ei droed i mewn i Fodwigiad mwy.

Balchïai rhai yn ddigêl am ei gwymp, ond nid oedd heb ei gyfeillion ychwaith, oblegid daliai Shams Harris drosto yng ngwydd pawb, a dadleuai Mari Jones o'r Garwdyle mai bachgen glew ydoedd er gwaethaf ei fân wendidau, ac nad oedd mab yn y plwyf a allai "ddal canwll iddo" mewn dim a wnâi dyn yn ddyn.

Cofiai hi yn dda am fwynhâd y prynhawn hwnnw wrth nyth y Kingfisher, ac am lawer ysgwrs lawen a gawsai hi a Beti ag yntau yng nghylchoedd Gwern Pawl.

Druan o Beti! a wyddai hi y newydd, tybed? Penderfynodd Mari ei chyfarfod ar y ffordd i'r farchnad y Gwener nesaf yn y byd i roddi iddi y newydd trist, ac i arllwys eu cydymdeimlad y naill i'r llall yn wyneb yr alaeth sydyn.

Hynny a fu, pan brofodd Mari yn siaradus iawn a Beti yn ddwedwst dros ben. Ymhen mis gwelsant ei gilydd drachefn, a brawychwyd Mari yn fawr wrth weled y cyfnewidiad yn ei chyfeilles—y gruddiau wedi llwydo, y wên yn absennol, a'r llais ariannaidd wedi trawsnewid i ryw sisial bloesg.

Clywsai lawer gan ei mam am y decline yn dilyn teuluoedd, a daeth i'w chof am gyfnither i fam Beti fu farw o'r darfodedigaeth rhywle yng ngoror Maesyfed, ac am ewythr iddi, ochr ei thad, a ddaeth i'w angau o doriad gwaed disymwth.

Dygwyd i'r bwrdd felly holl ddoluriau ac anhwylderau teulu Hendrebolon am dair cenhedlaeth, a rhwng popeth ni wnai Mari ddim ond ofni y gwaethaf am ei chyfeilles hefyd.

Ond camsyniol fu darogan Mari wedi'r cwbl. Aeth bywyd yr awyr agored ar arhosfa ddefaid y Fforest Fawr yn drech na rhestr afiechydon y teulu i gyd, ac oddigerth y llonder ysbryd bywiog a'i nodweddai gynt, daeth gwedd gynefin Beti yn ol iddi eto.