Lewsyn yr Heliwr (nofel)/Yr Ysgweier

Ar y Cwpwl Lewsyn yr Heliwr (nofel)

gan Lewis Davies (Lewis Glyn Cynon)

Y Ddwy Gyfeilles

X.—YR YSGWEIER

Y DYDD Gwener canlynol i'r ddalfa yn Hendrebolon, curwyd wrth ddrws tŷ Mari Jones (oedd yn awr yn byw ar gwr isaf pentref y Lamb) tua chanol dydd, ac erbyn ateb y drws gan Mari ei hun, yno yr oedd ei hen gyfeilles Beti ar gefn ei cheffyl, ac yn ymddangos fel pe yn dychwelyd o farchnata.

"Mari, dewch i'm hebrwng," ebe hi, "y mae isha arna'i i wilia a chi."

"Gadewch i fi gael 'm het, ac fe ddof," ebe hithau yn ol.

Erbyn i Mari ddyfod i'r drws yr ail waith yr oedd Beti wedi disgyn oddiar gefn ei cheffyl, ac yn barod i gydgerdded â hi.

Cerddodd y ddwy i fyny yn araf gan arwain y ceffyl gerfydd ei ffrwyn, ac ymddiddan yn sobr am amgylchiadau yr wythnos ryfedd honno, ac yn neilltuol am dynged Lewsyn.

Yn syml adroddodd Beti yr holl helynt am ei ddyfodiad, a'i arhosiad yn Hendrebolon, a'r modd truenus yr aeth i ddwylaw y swyddogion o'r diwedd.

"Ellwch chi feddwl am rwbath ddylswn i fod wedi wneud na wnetho i?" ebe Beti mewn tôn ofidus. "O, Mari! yr o'wn i bron torri 'nghalon wrth 'i weld e', y truan bach, yn cael 'i glymu ganddi nhw, a fynta mor dawel trwy'r cwbwl. Ddwetodd e' ddim yn gâs wrthoi, ond pan oedd y cerbyd ar fâda'l, edrychodd arno i, O mor garedig, 'roedd yn ddigon i doddi calon unrhyw un." "Beti! peidiwch gofidio, chi wnethoch y'ch gora glâs, 'rwy'n siwr," ebe Mari.

Ymddangosodd y geiriau hyn fel pe yn rhoi cysur mawr i Beti, ond meddai,—"Oes rhwbath allwn ni wneud eto, Mari, idd 'i achub e'? Mae Shams wedi 'matal â Phenderyn, a mae rhai'n dweyd 'i fod ei hunan mewn rhyw helynt neu 'i gilydd."

"Mae arna i ofan nag oes llawer o obath, ond fe ddweta wrthoch chi beth allwn ni wneud,-gadewch inni fynd at y Sgweier a gofyn iddo fe'n helpu. Mae fe yn un o'r gwŷr mawr mwya', chi wyddoch, ac fe all e' feddwl am rwbeth na ddaw i'n meddwl ni o gwbwl.

Dotwch y ceffyl yn y Lamb ac fe awn ato 'nawr. 'Does dim awr er pan weles i o 'n mynd lan y drive i'r Plas." Gosodwyd yr anifail yn ddiogel yn ystabl gyffredin y gwesty, ac aeth y ddwy i Blas Bodwigiad i eiriol ar ran un fu unwaith yn bennaf ffefryn yno.

"Wel, 'm merched i, beth yw eich neges ataf fi? Mari, pwy yw'r ferch ddiarth yma?"

"'Dyw hi ddim yn ddiarth iawn, syr. Beti Williams o Hendrebolon yw hi, ac y mae hi a finna wedi galw i gael gweld a oes dim posib i chi wneud rhwbeth dros Lewsyn,—Lewis Lewis, syr, yn 'i helynt. 'Roedd e' a ninna yn yr ysgol yng Ngwern Pawl yr un amser, ac yn wir, syr, wyddon ni ddim beth i wneud i geisio 'i helpu fe, ond fe garsan wneud 'n gore."

"Dewch i mewn, 'ch dwy," ebe fe yn garedig. "Gwenllian!" ebe fe drachefn wrth y forwyn, wedi iddynt eistedd, " Dewch a'r botel win yma!" Yna arllwysodd iddynt eill dwy wydraid bychan ac a'i hestynodd iddynt mewn modd mor barchus a phe baent yn foneddigesau pennaf y wlad.

"Da iawn, ferched," ebe fe ymhellach, "yr wyf yn caru plwc a phenderfyniad ble bynnag y gwela i e'. 'Nawr, chi yw y cynta' yn y lle sy wedi mentro wilia â fi yn ei gylch. Chi wyddoch iddo fatal oddiyma tan dipyn o gwmwl, ond cwmwl neu beidio, ferched, yr oedd yn well dyn na'r oll o'r llwfriaid sy 'nawr yn gatal iddo fynd i'r crocbren o'u rhan nhw. Fe fydd yn dda gyda chi glywed mod i ishws wedi cyflogi y barrister gore yn y wlad idd 'i amddiffyn e', ac ni chaiff dim sefyll rhyngto a rhyddid os gall arian Bodwigiad wneud hynny. Gadewch i fi weld, yr y'ch chi, Miss Williams, yn chwaer i Gruffydd Hendrebolon. Fe fydd e' yn un o'r tystion, bid siwr. 'Nawr, beth wetwch chi 'ch dwy am ddod i Gaerdydd i'm helpu i amser y treial? Dwedwch wrth 'ch brawd. Miss Williams, mod i 'n dymuno arno 'ch gatal i ddod, oblegid rhwng popeth fe fydd yn rhaid cael rhai i edrych ar ol petha yn y tŷ gymres i yng Nghaerdydd dros amser y treial, a chi ddowch chi, Mari, gyda hi, 'rwy'n siwr. Yr wy'n lled ffyddiog, rywffordd, y daw Lewis yn rhydd ac ni fydd well ganddo weld neb yno na'r rhai a'u cofiws pan oedd e' dan y dŵr. Nos da i chi ferched, caf glywed o' wrthych yr wythnos nesa' p'un ai ddewch ne beidio. Da gen i fod ysgol Gwern Pawl yn troi maes ferched fel chi."

Aeth y cyfeillesau yn ol drwy y drive mor galonnog a phe bae Lewsyn eisioes yn rhydd.

Diwrnod gwyn yw hwnnw yn hanes unrhyw un y ca ynddo gydnabyddiaeth llwyr gan ei well.

Aeth Mari i fyny i'r Lamb gyda Beti at y ceffyl, ac wedi ei helpu i'r cyfrwy, a mynnu addewid y deuai i'w gweled prynhawn y Sul ar ol hynny, ymadawodd â hi am y tro mewn mawr hyder y deuai popeth yn iawn yn y diwedd.

Ni sylweddolai y genethod ar y pryd dywylled oedd y cwmwl uwchben Lewsyn fel blaenor y terfysg a thywalltwr y gwaed. Yr oedd canmoliaeth a chefnogaeth anisgwyliadwy y Sgweier wedi codi eu calonnau

c'uwch yn awr ag oeddent o isel cyn hynny. Yr oedd oriau dygn eto yn eu haros na freuddwydient am danynt, a da iddynt ar y pryd oedd bod mewn anwybodaeth ohonynt.