Llewelyn Parri (nofel)/Pennod III

Pennod II Llewelyn Parri (nofel)

gan Lewis William Lewis (Llew Llwyfo)

Pennod IV

PENNOD III.

DIWRNOD llawen yn mhorthladd B——— oedd y diwrnod y cychwynodd Meredydd Parri am New York. Yr oedd ganddo o driugain i bedwar-ugain o seiri llongau, nifer o lafurwyr cyffredin, ysgrifyddion, &c., yn ei wasanaethu yn y fan hono; ac er mwyn cadw argraph tangnefeddus, garuaidd, a'u symbylu i fod yn ffyddlon iddo yn ystod ei absenoldeb, a'i groesawu'n fwy ar ei ddychweliad drachefn, penderfynodd Mr. Parri roddi diwrnod o ŵyl iddynt oll, a'u cyflenwi â digonedd o fwyd a diod, a phob darpariaeth i'w gwneyd yn llawen a hapus.

Cofied y darllenydd fod cymeryd mordaith i New York yn amgylchiad a greai lawer mwy o ddyddordeb yn y dyddiau hyny nag a wna yn awr. A thyna y rheswm paham yr oedd y fath dwrf yn nghylch ymadawiad Mr. Parri am chwe' mis.

Y canlyniad o roddi y diwrnod gŵyl yma oedd, i amryw o'r gweithwyr dori dros derfynau sobrwydd, a meddwi. Yr oedd y cwrw i'w gael gyda'r fath helaethrwydd, fel ag i drachwant y mwyaf awchus gael ei dori; ac fe yfwyd y fath nifer o lwncdestunau yn y ciniaw, fel ag i wneyd rhai a arferent fod fwyaf sobr bob amser yn "feddw fawr."

Ond aeth hyny drosodd fel pob peth arall, a thybiwyd fod pob adgof o hono wedi ei gladdu cyn pen y pymthegnos. Ond un boregwaith teg, pan oedd Mrs. Parri newydd ddychwelyd o'i rhodianfa ger glan yr afon, a'i hysbryd a'i chorph wedi eu hadnewyddu'n fawr gan swyn y golygfeydd o'i hamgylch; a phan oedd yn myned i dynu ei shawl oddiam ei hysgwyddau, daeth y forwyn ati, a dywedai fod rhyw ddynes yn y gegin yn dymuno siarad â hi. Dywedodd Mrs. Parri y deuai ati cyn bo hir, ac am iddi aros nes y byddai iddi newid ei gwisg.

"Ond, meistres," ebe'r enethig, "y mae hi'n deud na rosiff hi ddim munud hwy, ac y rhaid iddi hi gael eich gweled chi'r munud yma."

"Wel, wel, os felly mae pethau'n bod," atebai'r feistres, "gwell iddi gael ei boddloni, pwy bynag yw hi." Ac i lawr â hi at y ddynes.

Wedi myned i'r gegin, canfyddodd mai gwraig i un o'r seiri llongau oedd yno yn ei dysgwyl, yr hon oedd wedi bod mewn amseroedd a aethant heibio'n dlawd iawn, mewn canlyniad i feddwdod Sion William, ei gŵr; a'r hon a waredwyd lawer gwaith trwy garedigrwydd Mrs. Parri, rhag marw o newyn. Dyn cryf, tyner, a diwyd oedd Sion William pan yn sobr; ond pan oedd yn feddw nid oedd ymhel âg ef. Bu am flynyddoedd yn dywysog ar feddwon yr ardal; ond yr oedd, er's ychydig fisoedd, wedi troi'n ddyn cymedrol; a'r canlyniad fu, i raddau o dawelwch, tangnefedd, a llwyddiant, ail-wenu ar ei dŷ a'i dylwyth.

Pan ddaeth Mrs. Parri at Mari Williams, fe'i brawychwyd wrth weled y fath olwg anynad, gwgus, ac anfoddog ar ei hen gyfeilles, yr hon oedd wedi derbyn cymaint o garedigrwydd oddiar ei llaw.

"Beth ydyw hyn Mari Fach?" gofynai. "Yr ydych yn edrych fel pe baech mewn trwbwl mawr am rywbeth."

Prin y gellid dychymygu fel y tremiai Mari Williams ar ei holyddes, gyda'r fath olygon ffyrnig, nes braidd y gallesid ei chamgymeryd am arthes wedi colli ei chenawon.

"Trwbwl!" meddai; "a da y gellwch ei alw'n drwbwl!" Ydyw Sion wedi troi i yfed eto?"

"Ydyw'n waeth nag erioed!"

"Ow! ow!—gresyn calon!"

"Gresyn! Ië-yr wyf fi a fy mhlant bach yn sicr o gael teimlo hyny i'r byw bellach. Ond fe gaiff rhywun arall deimlo hefyd, marciwch chwi!"

"Yr ydych mewn cyffro mawr; treiwch feddiannu tipyn arnoch eich hun, Mari," meddai Mrs. Parri.

"Cynghor braf i un yn fy sefyllfa fi! Wyddoch chwi mo hanner yr hyn a wni; ond mi gewch wybod yn ddigon buan, mi w'ranta! Bydd yn ddrwg genych glywed pwy a archollodd fy enaid i trwy achosi i Sion fyn'd yn feddwyn yn ei ol!"

"A fu gan rywun law yn ei ddenu i feddwi'r tro yma ?" gofynai Mrs. Parri'n dyner.

"Do! ac y mae Duw'n rhwym o dalu'n ol iddynt yn nydd y farn. Ai tybed y caiff peth fel hyn fyn'd heibio'n ddisylw gan Farnwr yr holl ddaear? Os caiff, y mae yr holl drafferth a gymerwyd i fy nysgu fi yn yr Ysgol Sul yn nghylch cyfiawnder y nef, wedi myn'd yn ofer. Gŵr byneddig, braf, wir! Ah! Mrs. Parri, y mae fy holl annedwyddwch i—holl drallod fy nheulu—holl weithredoedd fy ngwr meddw—yn awr yn gorwedd wrth ddrws eich gŵr chwi. Y fo fu'r achos i Sion golli ei draed y tro yma; ac y fo raid ateb am hyny hefyd.!"

"Hust, Mari Williams!" gorchymynai Mrs. Parri; "raid i chwi beidio siarad fel yna yn fy ngwyneb ac yn fy nhŷ fy hun."

"Ha! ai ê?—ond mi fynaf siarad, ma'm, o ran mi ddaethum i yma i dd'weyd y gwir noeth lymun, pwy bynag a archollir trwy hyny."

"Pa beth a wnaethum i tuag at haeddu cael fy archolli?" "Y chwi, Mrs. Parri! yr ydych chwi'n angyles o wraig, yr oreu yn yr holl ardaloedd; ac wedi bod lawer gwaith cyn hyn yn foddion i achub fy mywyd i a fy mhlant bychain; ïe, yr ydych yn rhy dda iddo fo. Ond am Mr. Parri, y mae———"

"'Rhoswch,'rhoswch, Mari," meddai Mrs. Parri drachefn; "Pa beth bynag yw fy ngŵr, y mae e'n anwyl genyf fi, ae nis gallaf oddef gwrando ar neb yn ei iselhau fel hyn."

"Pa fodd bynag am hyny," atebai Mari, " y mae'n rhaid i chwi wrando'r tro yma. Os yw e'n anwyl genych, nid yw ond yr hyn oedd Sion genyf inau bob amser tra yn sobr. Nid oes dim caredicach dyn nag ef ar ddau droed, pan na fydd dan effaith cwrw a licar; ac ni fu yr un dafn y tufewn i'w enau er's llawer o fisoedd, hyd nes y rhoddwyd gŵyl i'ch holl bobol chwi, pan gychwynodd Mr. Parri i ffordd; a rhag dangos ei hun yn llai awyddus na'r gweithwyr eraill i yfed iechyd da i'w feistr a'i holl deulu, gyda'r cwrw a roddwyd iddynt gan Mr. Parri ei hun, efe a feddwodd; a meddw yw byth er hyny. Gwyddoch o'r goreu ei fod yn arfer ennill ei driswllt y dydd; a galluogodd y cyflog hwnw, trwy gynildeb a sobrwydd, ni i wneyd ein hunain yn o hapus a thaclus. Dechreuad bywyd newydd oedd hyn i mi, a theimlwn fy hun, gyda gŵr sobr, a phlant iach a glanweth o fy nghwmpas, y ddynes ddedwyddaf yn y wlad. Ond 'rwan! O, y mae fy nghalon braidd a thori wrth feddwl! Y mae Sion heb wneyd diwrnod o waith byth er yr adeg felldigedig honno; ac y mae'n feddw bob dydd a nos. Yr ychydig arian oeddym wedi gadw ar gyfer y rhent, y maent wedi eu gwario bob ffyrling—y mae'r plant bron ll'wgu ac y mae yntau yn feddw!"

Canfyddid yn amlwg fod araeth Mari Williams wedi cael effaith dwys ar feddwl Mrs. Parri. Ond nis gallasai ddyweyd yr un gair, er fod ei chalon yn cyd-dystiolaethu â Mari Williams, fod gan Mr. Parri law yn llithriad Sion Williams i'w hen arferion o feddwdod; ac yr oedd y wraig fwyn yn ddigon parod i ollwng dagrau o herwydd hyny. Nis gallai wneyd dim ond cadw 'i llygaid yn sefydlog ar gareg yr aelwyd.

Trôdd gwraig y meddwyn at wraig y marsiandwr unwaith drachefn, gyda gwyneb ag y gallesid tybied iddo fod yn brydferth iawn unwaith, ond yr hwn a edrychai yn awr gyn oered, hagred, a chaleted a chareg gallestr.

"Y mae'r gwaetha' heb ei ddyweyd eto, Mrs. Parri," meddai, mewn llais haner taglyd, "Y mae Ann bach wedi marw!"

"Dear me! Ann bach! beth oedd arni hi?" "Oh, dim byd rhyfedd: bu farw o herwydd i ryw ŵr mawr fod yn achos i'w thad feddwi!"

"Ai rhyw angel drwg wedi ei hanfon yma i fy mhoeni ydyw'r ddynes yma?" murmurai Gwen Parri wrthi ei hun. "Gŵyr pawb mai diafl o ddyn ydyw Sion pan yn feddw," ychwanegai'r ddynes, "er ei fod mor dawel ag oen pan yn sobr. Yr oedd yn rhaid iddo gael ychwaneg a 'chwaneg o ddïod, nes meddwi waeth-waeth—dechreuodd fyn'd yn greulon ataf fi a'r plant; ac am i mi geisio ei rwystro i niweidio'r eneth bach, cipiodd afael ynddi o fy llaw, ysgytiodd hi yn ffyrnig, fel pe buasai tiger yn ysgytio oenig—tarawodd hi yn erbyn y gadair, ac aeth allan dan regi! Wydda fo ddim nad oedd hi'n gorph marw ar y lle; a phan gyfodais hi i fyny, mi dybiais inau ei bod. Ond fe gefais ar ddeall toc nad oedd hi wedi ei lladd, o herwydd hi a ddechreuodd ruddfan yn druenus; a phob tro y gwnawn ei symud, rhoddai'r fath ysgrech ag a waedai fy nghalon—rhaid fod rhai o'i hesgyrn wedi eu tori. Gorweddai yn fy mreichiau'r noson hono, a thrwy'r dydd dranoeth; a neithiwr bu farw!"

Yr oedd yn syn gweled y fam drallodedig yn meddiannu ei hun cystal wrth fyned dros y rhan ddiweddaf o'i hanes. Edrychai mor ddiysgog a delw o farmor. Tybed nad oedd hi yn teimlo dim! Ah! mwy tebyg yw ei bod yn teimlo gormod. Y mae ambell i drallod yn lladd pob ymddangosiad o deimlad; ond bydd, yr amser hono, yr ysbryd yn cael ei gnoi gan boen.

Nid felly yn union yr oedd Mrs. Parri. Hi a daflodd ei hun i'w chadair mewn math o lewyg ysgafn, a'r dagrau mawrion yn treiglo i lawr hyd ei gruddiau prydferth ond gwelwon. Gwelodd Mari Williams hyny, a dywedodd,—

"Raid i chwi ddim gollwng dagrau beth bynag; nid wyf fi wedi gwneyd hyny eto. Wylais i yr un defnyn mwy na chraig. Ond fe fu rhyw feddyliau erchyll yn gwau trwy fy ymenydd. Fel yr eisteddwn am oriau meithion ar yr aelwyd ddidân, gan ddal fy mabi ar fy nglin, ac edrych ar ei gwyneb gwyn, gyda chylchau duon o gwmpas ei llygaid cauedig, a gwrando ar ei gruddfanau, bum yn meddwl am eich mab a'ch merch chwi, a bu braidd i mi eu melldithio a'u rhegu o herwydd bai eu tad!"

Buasai yn annichonadwy iddi daro ar dant mwy annedwydd a dinystriol i heddwch meddwl Mrs. Parri, druan. Cyrhaeddodd yr awgrymiad hyd adref.

"Oh! Mari Williams, peidiwch siarad fel yna!" meddai, gan ddal ei dwylaw i fyny, fel pe mewn gweddi, tra y treiddiai ias oer trwy ei henaid wrth feddwl am ei bachgen a'i geneth hi gyda haner melldith ar eu penau diniwed. "Na, ni fedr neb ddymuno drwg iddynt hwy!" dywedai yn isel.

"Na fedr, neb, er mwyn eu mam!" meddai'r ddynes; " ond y mae arnaf ryw led ofn y daw'r drwg i'w cwpan, yn enwedig y bachgen, heb i neb ei ddymuno. Y mae Duw yn ymweled ag anwiredd y tadau ar y plant. Ond os erbyd Duw eich plant chwi, ni wna hyny byth er mwyn eu tad!" Teimlai Mrs. Parri awydd am i'r ymddiddan yma ddarfod, a dywedodd,

"A gaf fi ddyfod gyda chwi adref, i edrych beth fedrwn ni wneyd i Ann bach?"

"Os ydych yn dewis, ma'm; ond ychydig iawn ellir wneyd iddi hi'rwan!"

Tarawodd Mrs. Parri ei mantell drosti, ac aeth gyda Mari Williams yn ddioed.

Aeth ias o arswyd dros ei chorph llednais pan gyrhaeddodd yr anedd ddigysur. Gwelai ddau blentyn llwydaidd geneth oedd un—yn gwargrymu ar yr aelwyd oer; gwyddai fod y cwpbwrdd yn wag; gwelai'r ffenestr yn ddarnau; a gwaeth na'r cyfan, tynid ei sylw at y corphyn bychan a orweddai ar y gwely—y plentyn llofruddiedig! Aeth ati, symudodd y gynfas a'i gorchuddiai, ac edrychodd am fynyd mewn dwysfyfyrdod ar y gwyneb bychan, tawel, yr hwn a welodd y tro o'r blaen mor dlws, rhosynaidd, a theg. Eneiniodd y corph a'i dagrau tyner.

Yr oedd yr olygfa yn ormod i deimladau'r fam. Er iddi arddangos y fath deimlad o ddialedd ychydig amser yn ol. wrth fyned dros yr hanes i Mrs. Parri, dychwelodd y teimlad tyneraf sydd yn perthyn i'r natur ddynol i'w mynwes. Rhuthrodd i'w meddwl y syniadau mwyaf calonrwygol am y tad truenus—yr eneth anwyl a ryddhawyd oddiwrth boenau byd ag oedd yn rhy ddigysur iddi hi i fyw ynddo—yr eisiau a wgai arni hi a'r gweddill o'r plant —a'r anghysur oedd i'w ddysgwyl iddi oddiwrth feddwdod ei gŵr—rhuthrodd yr holl bethau hyn dros ei henaid fel llifeiriant ysgubawl, a chan benlinio i lawr wrth erchwyn y gwely, hi a wylai yn uchel. Da oedd iddi gael gollwng allan ei gofid yn y ffordd hono, rhag ofn y buasai, wrth gael ei gau'n gaeth yn ei bron, yn gwneyd rhyw hafog angeuol iddi. Ymddygai yn awr yn union fel mam; toddodd yr wylo ei gofid iaog i ddull naturiol o ddangos tristwch; taflodd ei hun ar y gwely dan grio; cusanodd ddwylaw oerion ei geneth anwyl, gan gyffhwrdd weithiau a'i gwallt cyrliog, a galw arni mewn acenion torcalonus, gan ddywedyd,

"Ann! Ann! Ann!—fy anwyl Ann!"

Da iawn oedd gan Mrs. Parri ei gweled yn wylo felly; oblegid ofnodd unwaith fod ei synwyrau'n dechreu myned yn ebyrth i'w gofid. A thra'r oedd y fam yn gollwng allan deimladau dyfnaf ei henaid yn y dull hwnw, uwchben ei phlentyn hoff; aeth y wraig foneddig fwyn o gwmpas dyledswyddau anhebgorol anghenrheidiol dan y cyfryw amgylchiadau, megys gorchymyn defnydd tân, bwyd, arch, galarwisgoedd, &c., &c. Wedi dychwelyd o gyflawni'r dyledswyddau hyn, llwyddodd i gael gan y fam drallodedig anghofio cymaint ar ei phoen fel ag i gymeryd cwpanaid o dê da, a sirioli ei hun trwy olchi ei phen a'i gwyneb mewn dwfr oer.

Gosodwyd yr angyles fechan yn ei harch, wedi ei hamdoi yn ddestlus a syml: rhoddwyd pwysi o flodau prydferth yn ei llaw. Dywedwyd wrth y plant eraill am ei chusanu am y tro diweddaf cyn cau cauad yr arch; ac yn ddystaw a diseremoni, aed a'r corphyn i'r fynwent gerllaw.

Yn awr, y mae blodau'n hulio'r beddrod bob gwanwyn; a chaiff gwrlid o eira gwyn, pur o'r nefoedd bob gauaf; tra nad ŵyr Ann bach mwyach am na cham na chur.

Cafwyd gwaith mawr cyfodi'r fam oddiar fedd bychan ei geneth. Yr oedd yn hwyr erbyn iddynt gyrhaedd y tŷ. Wedi eistedd o honynt am tuag awr ar ol eu dychweliad o'r cynhebrwng, daeth Sion William i'r tŷ. Nid oedd yn feddw yn awr, ond ysgydwai i gyd drosto fel deilen Hydref, dan effaith y "sbri" a gafodd. Yr unig achos nad oedd yn feddw yn awr oedd, ei fod heb arian i dalu am ddïod; ac nid gwragedd tai tafarnau yw y rhai a roddant eu heiddo i neb heb obaith da cael tâl cyflawn yn ol.

Nid oedd Sion Williams wedi tywyllu gorddrws ei dŷ byth ar ol y noson yr anfonodd ei ferch fechan i dragywyddoldeb mewn mynyd o gynddaredd. Nis gallasai ei wraig edrych ar ei wyneb hagr a'i gorph crynedig; ac nid oedd neb yn foddlon na pharod i dori ar y dystawrwydd pruddglwyfaidd a achosodd ei bresenoldeb yn y tŷ. Ond o'r diwedd, efe a daflodd ei lygaid o'r naill gongl i'r llall, a gofynodd,—

"Lle mae Ann?"

Tebyg mai dyna'r peth oedd yn pwyso fwyaf ar ei feddwl. Pwy a ŵyr nad oedd rhyw fath o adgof am ei greulondeb yn ymwibio trwy ei fyfyrdodau yn nghanol ei ddïod? ac yn awr, tra yn sobr, yn pwyso ar ei galon fel plwm? Ond pa fodd bynag yr ymdeimlai, yr oedd yr holl wirionedd yn awr ar gael ei ddadlenu, er ei wae.

"P'le mae Ann bach?" gofynai drachefn.

"Mae hi wedi marw!" meddai ei wraig; "ac wedi ei chladdu hefyd!"

"Beth, beth?—wedi marw!—Ann wedi marw!" meddai, mewn tôn haner gwallgof.

"Ië, Sion William, wedi marw! Acy mae llaw greulon rhyw ddyn i fod yn atebol am ei hyspeilio o'i bywyd pan yn ddwyflwydd oed. Dichon nad yw'n werth genyt gofio dy ymddygiad ati'r noson o'r blaen. Pa fodd bynag, dyna i ti yr unig gysur a fedraf fi roddi, sef ei bod wedi marw—marw trwy greulondeb ei thad meddw—ti yw ei llofrudd!"

"Dduw mawr!" llefai'r dyn anffodus; "Beth yw hyn yr wyf yn ei glywed? Fy llaw i fy hun wedi anfon fy ngeneth bach i'r byd arall, i fod yn dyst gerbron gorseddfainc barn Duw o fy nghreulondeb i! A yw hi wedi myn'd i'r nefoedd i ddwyn ar gof i Dduw fy mhechod? Na! nid fi a'i lladdodd hi—Ann bach!—fy ngeneth ieuangaf!—fy anwyl Ann! Pwy feiddia ddyweyd mai y fi a'i lladdodd ?"

Syrthiodd ar y fainc, gan grynu i gyd drosto.

Yn awr, yr oedd yn rhywyr i ofnau eraill gael lle ar ei feddwl. Y mae cyfiawnder i ymweled â llofruddion heblaw cyfiawnder y nef; a digon naturiol fuasai i Sion Williams ddechreu ofni cyfraith y tir erbyn hyn.

"Oes rhywun yn gwybod am hyn?" gofynai yn bryderus. "A achwynodd rhywun arnaf?"

Da iawn iddo oedd fod Mrs. Parri yn y tŷ'r pryd hwnw, yr hon a'i hatebodd, gan ddywedyd,

"Na, nid oes neb yn gwybod am y peth heblaw ni ein hunain. Yn awr, y mae genyf ammod i'w chynyg. Os gwnewch chwi addaw yn awr bod yn well dyn rhagllaw, a byw'n fwy cymedrol gyda'ch gwraig a'r gweddill o'r plant, minau a addawaf gadw'ch gweithred yn ddirgelwch. Ond y fynyd y torwch chwi eich addewid, caiff cyfiawnder cyfraith Lloegr afael ynoch. A ydych chwi yn foddlon i ymrwymo i beidio meddwi byth eto!"

"Ydwyf," meddai Sion gyda braw.

"O'r goreu; boed i hon fod yn wers ofnadwy i chwi, Sion Williams; bob tro y daw'r gelyn i gynyg eich temtio, cofiwch beth y mae eich meddwdod wedi ei gostio i chwi bywyd un o'ch plant! Yn awr, yr wyf yn eich gadael chwi a'ch gwraig i ymheddychu â'ch gilydd, fel y barnoch oreu, gan weddio ar Dduw, am iddo yn ei drugaredd, faddeu i chwi eich troseddau."

Aeth Mrs. Parri gartref. Yr oedd Llewelyn bach yn dysgwyl am ei fam, a chroesawodd hi gyda chant o gusanau cynhesion. Cymerodd Mrs. Parri damaid o swper, ahwyliodd i fyned i'w gwely yn gynar y noson hono. Ond noson bur ddigwsg a gafodd hi. Methai yn ei byw a pheidio meddwl am Llewelyn a Gwen bach, eu tad, a llawer o bethau eraill. Gwelai ei phlant, yn enwedig y bachgen, yn mhob modd yn rhai gobeithiol dros ben. Ond yr oedd y rhagolygiadau heulog a daflodd i'r dyfodiant ychydig amser yn ol, yn awr yn dechreu cyfnewid yn gas; cymylau duon a ddechreuent ymgasglu dros awyrgylch ei rhagobeithion; pruddglwyfedd a dychryn a gymerai le prydferthwch a hapusrwydd. Nid oedd dim son y pryd hwnw am ddirwest, fel yn ein dyddiau ni. Nid oedd ganddi hithau yr un syniad pa fodd i attal ei Llewelyn bach, rhag myned i afael yr hyn y bu braidd i Mari Williams, yn ei gwallgofrwydd, ei ddymuno iddo. Ac yr oedd Ysbryd Ann bach hefyd, megys yn hofran o gwmpas ei gobenydd trwy'r nos, gan lefain, mewn llais egwan, am i ryw iawn gael ei wneyd, ac ymddangos yn anfoddlon i dderbyn iawn yn y byd, oddieithr addewid ddifrifol i wneyd y goreu at gael ymwared tragywyddol o'r gelyn sy'n dwyn y fath gyflafanau i fysg dynolryw, a'r hwn a'i hyspeiliodd hi o'i bywyd yn mlagur ei hoes.

Gan benderfynu ynddi ei hun defnyddio pa foddion bynag a ganfyddai yn un effeithiol i beri diwygiad, ac atal dynolryw rhag cael eu dirywio trwy feddwdod, hi a gysgodd.

Nodiadau

golygu