Llewelyn Parri (nofel)/Pennod IV
← Pennod III | Llewelyn Parri (nofel) gan Lewis William Lewis (Llew Llwyfo) |
Pennod V → |
PENNOD IV.
AETH dau fis heibio heb i lythyr ddyfod oddiwrth Mr. Meredydd Parri o New York. Dau fis o bryder mawr i'w wraig; ond yr oedd derbyn llythyr oddiwrtho'n ddigon o daledigaeth yn ei bryd hi am haner oes o ddysgwyl caled; ac nis gallasai dim ond ei ddychweliad ef ei hun roddi cymaint o foddlonrwydd i'w meddwl. Cyfeiriai at ei lwyddiant yn ei anturiaeth—at y parch a delid iddo gan yr Americaniaid, a chan rai o'r Cymry a ymfudasant yno, a'r rhai oeddynt yn bur falch o weled un o deulu'r hen wlad, yn enwedig un o'u brodyr Cymreig, yn gallu hawlio'r fath ddylanwad a pharch—soniai hefyd am yr hiraeth a deimlai am ei wraig a'i blant ac am yr adeg ddedwydd yr oedd yn dysgwyl cael ailymuno â hwy, dan gronglwyd yr hen dŷ yn Nghymru.
Gwlychodd Mrs. Parri y llythyr â llawer ffrydlif o ddagrau; a'i phleser mwyaf oedd darllen ei gynwysiad i'r ddau blentyn. Llawenhai Llewelyn hefyd yn fawr wrth feddwl cael gweled ei dad eto, ac ymroddai'n fwy diwyd nag erioed i ddysgu ei wersi yn berffaith erbyn ei ddychweliad, er mwyn cael y pleser o'i synu wrth fyned trostynt.
Un o'r pethau cyntaf a wnaeth Llewelyn ar ol clywed llythyr ei dad yn cael ei ddarllen, oedd gofyn i'w fam chwareu tôn neu ddwy ar y piano, mewn llawenydd am y gobaith o'i weled yn dychwelyd. Nid oedd y piano ardderchog wedi cael ei hagor unwaith, byth er ymadawiad Mr. Parri; ond yn awr nid oedd Llewelyn bach yn fwy parod i ofyn nag oedd ei fam i ufuddhau i chwareu. Chwareuodd "Godiad yr Hedydd," a "Serch Hudol," yn eu holl swyn cynenid, gan redeg trwy'r holl variations ardderchog mewn ysbryd a hoen teilwng o'r hen amser gynt, pan nad oedd gofalon byd yn pwyso dim arni.
Aeth tri mis arall, cymysg o ddedwyddwch a phryder heibio. Dysgwyliai Mrs. Parri lythyr oddiwrth ei gŵr, yn yr hwn y byddai yn dyweyd pa ddiwrnod y deuai adref.
Yr oedd hi a'r ddau blentyn wedi bod yn y parlwr am haner awr, un boreu, yn chwareu rhai o'i hoff alawon ar ol cymeryd rhodianfa fer i ben y bryn. Yr oedd Mrs. Parri megys yn teimlo rhyw swyn anarferol y boreu hwnw yn swn y piano; ac yr oedd nodau naturiol yr hen alawon Cymreig yn cyfodi rhyw syniadau dyeithrol o'i mewn. Anfonodd y plant i gymeryd eu boreufwyd, ond arhosodd hi ar ol, a pharhai i chwareu. Cyfodai ysbrydion megys ar heriad y seiniau melusion—ysbrydion yr hen amser gynt pan oedd hi yn eneth ddiofal—wedi hyny yn briodferch ddedwydd—a thrachefn yn fam ofalus. Ysgubai'r hyn a fu, y sydd, ac a ddaw, o'i chwmpas mewn cylch cyfareddol. Nid oedd un math o alawon yn awr yn gyfaddas i'w theimlad heblaw rhai lleddf, cwynfanus, a sobr. Aeth ei hysbryd yn drwm; nis gwyddai paham; ond nis gallasai beidio chwareu ar y piano, a hyny yn y dull mwyaf pruddglwyfus.
Aeth i feddwl am lwyddiant ac anrhydedd ei gŵr, ac yn y meddwl hwnw hi a chwareuai alaw hyf—"Difyrwch Gwŷr Harlech," os ydym yn cofio'n iawn. Daeth i'w chof yr hyn a ddygwyddodd i Sion Williams a'i deulu, a'r arwyddion o ol dïod oedd ar ei gŵr y noson cyn cychwyn i ffwrdd, a chyfnewidiai ei thôn i'r cywair lleddf yn ei ol. Aeth i ddychymygu llu o bethau, disail efallai. Tybiodd y gallasai ei gŵr ysgrifenu ati yn amlach nag unwaith bob deufis neu dri, er ei fod mor bell; ac aeth i ofni fod ei ofal a'i gariad yn dechreu oeri. Gwyddai fod ei gwr yn un o'r rhai tyneraf wrth natur—o duedd gyfeillgar i'r eithaf; ond ofnai drachefn fod hyd yn oed y rhinweddau hyn yn demtasiynau iddo i ymhel gormod â'r gwpan feddwol. Tybiai y gallasai ei duedd gymdeithasgar, ei haelfrydedd digyffelyb, ei ddymuniad mawr am foddio eraill—y nodweddion a'i gwnaeth yn wrthddrych parch mor gyffredinol—tybiai y gallasai hyn fod yn foddion i'w niweidio mewn gwlad ddyeithr, mor lawn o demtasiynau ag ydoedd New York. Pa un a oedd rhyw sail i'r ofnau hyn ai peidio, amser byr a ddengys. Pa fodd bynag, nis gallai Gwen Parri rwystro i'w dagrau syrthio a gwlychu allweddau'r piano wrth feddwl am danynt; a dyrchafodd weddi at Dduw pob daioni yn iselder ei hysbrydoedd y boreu hwnw.
Nid oes neb ond cristion pur a all deimlo a mwynhau'r nerth y mae gweddi yn ei hyfforddio, pan fydd amgylchiadau allanol fel yn cyduno i ddarostwng yr ysbrydoedd, a llwfrhau'r enaid. Ac nid dyma'r tro cyntaf i Mrs. Parri deimlo nerth ac adfywiad wrth droi at orsedd gras mewn cyfyngder. Cafodd ei thawelu'n fawr, a theimlai fath o lawenydd dystaw yn dyfod dros ei chalon wrth feddwl fod Un a'i lygaid bob amser yn gwylied pob ysgogiad, ac yn barod i'w hamddiffyn rhag pob enbydrwydd.
Clywai lais llawen Llewelyn a Gwen bach yn chwareu yn y gegin. Ar hyn dyna rat-tat llythyr-gludydd ar drws. Llamai ei chalon lawenydd wrth feddwl fod llythyr wedi dyfod oddiwrth ei gŵr, a rhedodd i lawr ei hunan. Cyfarfyddodd y forwyn hi gyda llythyr mawr yn ei llaw. Neidiodd am dano gydag awyddfryd cariadferch gynhes-galon, ac enciliodd i'w hystafell ddirgel i ddarllen ei gynwysiad. Eisteddodd yn ei chadair gydag ochenaid o foddineb, fel pe buasai cadwen haiarn yn gollwng ei gafael o'i chalon, wrth ganfod fod y llythyr yn dwyn marc post New York.
Fel y bydd ar un ofn i fynyd o ddedwyddwch anghyffredin ysgubo'n rhy fuan o'i afael, felly hithau, am fynyd, a ddaliai y llythyr yn ei llaw—cusanai ef a thrôdd ef am y waith gyntaf i edrych ar y llawysgrifen cyn agor y zel.
Ond y fath siomedigaeth! nid llawysgrifen ei gŵr oedd hi yn y diwedd. Heblaw hyny, yr oedd y sel yn ddu. Pwy a allai yr ysgrifenydd fod? Beth a allai fod y genadwri? Ac o New York hefyd! Neidiodd y wraig o'i chadair mewn braw dysymwth.
Ah! y fath bwysigrwydd sydd yn gynnwysedig yn y llythyr yna! Wraig addfwyn, ni'th gynghorem i beidio bod ar ormod brys i'w agor, rhag ofn y bydd i ti gael gwybod rhywbeth na ddymunai dy galon. Nid oes ond y sel ddu yna rhyngot a chael ar ddeall dy fod yn weddw! A wnei di ei agor?
Ië, ei agor a wnaeth gyda llaw grynedig, darllenodd yr ychydig linellau cyntaf ynddo. Nis gallai fyned yn mhellach. Syrthiodd ar y llawr fel darn o blwm, gan roddi bloedd a ddeffroai bob ecco yn y mur!
Rhuthrodd y morwynion ati mewn mynyd ar ol clywed yr ysgrech a thwrf y cwymp. Ond aeth oriau lawer heibio cyn i allu meddygol penaf y dref ei dwyn i deimlad —i deimlad o'i gwir sefyllfa adfydus.
Braidd nad oedd yn ddig am i neb gymeryd trafferth i'w dwyn ati ei hun. Pa gysur oedd iddi hi mwyach? Ai nid oedd ei gŵr wedi myned i ffordd yr holl ddaear? "Pa'm na fuasent yn gadael i mi farw?" gofynai. "Pa'm y codasant fi o'r trobwll du hwnw o ing, yn nerth pa un yr oeddwn yn cael fy llusgo, megys â nerth anwrthwynebadwy i geulan y bedd? Gwell bod yno wrth ochr fy ngŵr, na byw, a gwybod ei fod ef wedi marw!"
"Ah! Mrs. Parri," meddai rhyw gymydoges dyner-galon, "cofiwch am eich plant!"
"Fy mhlant!—fy mhlant! O, ïe, fy mhlant! Y maent yn awr wedi eu gadael yn amddifaid o dad!"
"Ond, er hyny, mae Tad yr amddifaid eto yn fyw," oedd yr ateb tyner.
Y mae'r syniad crefyddol yma wedi bod yn angor gobaith i filoedd o weddwon, pan mewn trallod yn methu gwybod beth a ddeuai o'u plant. Felly y bu i Mrs. Parri. Tybiodd y rhai oeddynt yn sefyll yn ei hymyl ar y pryd, fod math o wên angelaidd wedi ysgubo'n ddystaw bach ar draws ei gwyneb, pan grybwyllwyd y cysur nefol hwn iddi. Digon tebyg. Yr oedd hi'n' un o'r rhai a wyddai'n dda beth oedd byw mewn ymddibyniad ar yr addewidion dwyfol.
Ond yr oedd y tarawiad yn un trwm. Effeithiodd i'r byw. Ofnai'r meddyg y byddai'n un ai ei bywyd neu ei synwyrau gael eu ddinystrio gan y ddyrnod. Ac nid rhyfedd. Wedi iddi fod am fisoedd yn breuddwydio am ddychweliad ei gŵr, ac yn ymbarotoi ar gyfer yr amgylchiad dedwydd wedi bod yn rhoddi ei holl ymdrechion meddyliol ar waith i berffeithio'r plant, yn enwedig Llewelyn, yn eu gwersi, erbyn dyfodiad eu tad—wedi bod yn gosod pob peth mewn trefn teilwng i'w groesawu; a phan oedd ei hawyddfryd wedi ei godi i'r pwynt uchaf o ddysgwyliad a phryder, yn cael ei hysbysu yn y diwedd ei fod wedi cael ei dori i lawr yn nghanol ei rwysg a'i lwyddiant, heb iddi hi dderbyn cymaint a gair na gwên ymadawol oddiwrtho. Rhuthrai ei myfyrdodau difäol trwy ei hymenydd fel afon o dân, yn dwyn beunydd yr unrhyw weledigaeth ar frigau ei thonau tanllyd y weledigaeth o'i gwr yn oer ac yn farw, wedi cael ei daraw i lawr gan gyllell y llofrudd—ei gwr wedi marw—wedi ei ladd wedi ei lofruddio! Gwelai ef yn holl ogoniant ei ddynoldeb—yn brydferth, urddasol, caruaidd, a llwyddiannus—yn cael ei dori i lawr yn ddisymwth, heb gael amser i ddanfon yr un genadwri o gariad, nac efallai, gymaint a gweddi cyn marw! Ymddangosai pob peth iddi'n dywyllwch di wawl—heb yr un pelydr o obaith. Dychymygai ei weled yn ymbalfalu yn y glyn tywyll, heb gyfaill i'w arwain—heb wraig i gynal ei liniau a'i freichiau yn ei ymdrech ddiweddaf—heb neb i roddi gair o gysur i'w enaid! A gorweddai hithau yn ei gwely digysur, gan ddysgwyl ei thynged ei hun: nid ymddangosai yr un edef o drugaredd wedi ei gadael, trwy help pa un y gallasai ddringo i fywyd yn ol. ****** "Ai gwir yw fod Mr. Meredydd Parri wedi marw yn New York?" gofynai cyfaill i gymydog ag oedd yn myned allan o dŷ Mrs. Parri.
"Ië, digon gwir, ysywaeth," oedd yr ateb.
"O ba glefyd y bu farw?"
"O glefyd y ddïod, y mae arnaf ofn."
Sut felly?"
"Wel, mae'n ymddangos ddarfod iddo syrthio i gweryl A rhyw Americanwr, mewn perthynas i ryw bwnc masnachol o'u heiddo. Yr oedd y ddau'n drwm mewn diod. Yn mhoethder y gwirod, dywedodd Mr. Parri rywbeth nad oedd yn ei feddwl—rhywbeth ag y buasai'n gofidio llawer yn ei gylch, pe y cawsai hamdden i sobri. Yr oedd ef yn ŵr boneddig o'r iawn ryw, yn mhob peth braidd; ond pwy a all ateb am ymddygiad dyn meddw? Ac yr oedd yntau, fel yr ymddengys, wedi meddwi hyd wallgofrwydd. Aeth y ddau feddwyn yn mlaen mor bell yn y cweryl, nes y daethant i'r penderfyniad o setlo'r mater trwy rym min y cleddyf. Felly fu. Ymladdwyd gornest. Brathwyd Mr. Parri dan ei bumed ais, a syrthiodd i lawr yn gorph marw!"
"Y fath wers ofnadwy!" meddai'r dyn arall. "Dyn yn cael ei yru felly i wyddfod ei Farnwr heb gael rhybudd i ymbarotoi; un arall yn agored i gael ei boeni am oes â'r ymsyniad erchyll o fod wedi cymeryd ymaith fywyd ei gyd—ddyn—bywyd dyn ag oedd ond prin yn atebol am yr hyn a ddywedai nac a wnelai ar y pryd! Y fath fywyd disglaer, yn diflannu yn y fath gaddug o warth! Meddwl mawr yn cael ei daflu oddi ar ei echel, dan effaith gormod o wirod!—calon urddasol yn cael ei hamddifadu o'i churiadau tyneraf!—ac enaid gwerthfawr yn cael ei hyrddio i'r glorian tra'r dyn mewn cyflwr o feddwdod! O ddiwedd truenus!"
Dyna fel y bu farw tâd ein harwr, yn ngogoniant ei ddyddiau.