Llewelyn Parri (nofel)/Pennod V

Pennod IV Llewelyn Parri (nofel)

gan Lewis William Lewis (Llew Llwyfo)

Pennod VI

PENNOD V.

Nis gwelwyd mo Mrs. Parri, byth ar ol marwolaeth frawychus ei gŵr yn ymgymysgu fel cynt yn y cylchoedd llawen a diofal, ond cysegrodd ei hoes o hyny allan at geisio gwneyd rhyw les yn y dref—at esmwythau gobenydd rhyw ddyn neu ddynes sâl—at estyn tamaid at safn rhyw un ar haner newynu—at leddfu poen rhywun mewn gofid—at weinyddu balm crefydd i enaid rhywrai trallodedig—ac at ddwyn i fynu ei dau blentyn yn ofn Duw. Penderfynodd ddefnyddio'r gyfran helaeth o gyfoeth a adawodd ei gŵr iddi hi, at wneyd rhyw les yn ei hoes, a gwneyd y defnydd goreu o gyfran Llewelyn a Gwen bach, fel ag iddynt gael rhywbeth i bwyso arno wrth ddechreu byw. Apwyntiodd gyfreithiwr parchus a chyfoethog, o'r enw Mr. Powell, i fod yn warcheidwad i'w phlant.

Un o'r pethau cyntaf a wnaeth y weddw, yn ei hynt ymweliadol â thruenusion y dref, oedd ceisio dod o hyd i anneddau'r meddwon mwyaf nodedig, a gwneyd rhywbeth ar eu rhan. Yr oedd meddwdod cyntaf Llewelyn bach amgylchiad teuluaidd sobr Sion Williams—a marwolaeth ddisyfyd ei gŵr—wedi bod yn foddion effeithiol i beri iddi deimlo mwy dros gyflwr y meddwon, na'r un dosbarth arall.

Pan yn parotoi ei hun un bore i fyned allan ar ei neges ganmoladwy, daeth llythyr iddi o Gaerlleon. Hawdd oedd gweled ar sirioldeb ei llygaid, wrth ddarllen y marc post, a'r llawysgrifen, ei fod yn dyfod oddi wrth rywun ag yr oedd hi yn ei garu. Cusanodd ef hefyd wrth weled y geiriau, "Dearest Mother," yn ei ddechreu.

Iawn yw gwneyd yn hysbys yn y fan yma, fod Llewelyn wedi ei anfon i'r ysgol i Gaerlleon, er mwyn perffeithio 'i dafod yn fwy yn yr iaith Saesonaeg, a dysgu gwersi uwch nag a ddysgai gartref. Cedwid dynes yn y tŷ o bwrpas i ddysgu Gwen bach, yr hon oedd yn rhy ieuanc ac eiddil i fyned o'r cartref.

Y llythyr hwn oedd i hysbysu fod Llewelyn yn ymbarotoi i ddyfod gartref i fwrw gwyliau Calanmai.

Fe ddaeth adref, yn fachgenyn llawn ysbryd, bywiogrwydd, talent, a chariad. Synai ei fam at y cynydd a wnaeth yn ei wybodaeth a'i foesau; ac nid oedd yr un petrusder yn ei meddwl na thyfai ei mab i fynu yn addurn i'w hen ddyddiau hi, ac yn fendith i'w oes.

Aeth y mis o wyliau i blant yr ysgol heibio'n fuan; ac ni chymerodd dim rhyfedd le gyd â golwg ar Llewelyn, amgen na 'i fod wedi mwynhau ei hun yn gampus ar ei ddychweliad, am y tro cyntaf erioed, i wlad ei enedigaeth, o'r ysgol.

Aeth yn ol yn mhen y mis, ac ymroddai o lwyrfryd calon, i hynodi ei hun fel ysgolor.

Fe ganiata'r darllenydd i ni daflu golwg pur frysiog dros ystod deng mlynedd o'i oes forëol, er mwyn dyfod at yr adegau mwyaf cydnaws a natur ein testun, yn hanes bywyd ein harwr.

Enwogodd Llewelyn ei hun gymaint yn ei astudiaethau yn Nghaerlleon, fel yr aeth, cyn pen llawer iawn o amser, trwy bob peth ag oedd yno iddo i'w ddysgu. Dychwelodd adref yn llawn gogoniant. Treuliodd dair blynedd gyd â'i fam heb wneyd dim byd neillduol, heblaw cadw 'i chalon hi i fynu. Yr oedd erbyn hyn yn ddeuddeg oed. Tybiai Mr. Powel, sef y dyn a benodwyd i edrych ar ol eiddo'r plant, a chynhorthwyo 'u mam i'w dwyn i fynu'n iawn, y byddai'n well ei ddanfon i Edinburgh am ychydig flynyddoedd, er mwyn ei berffeithio mewn dysg, a'i barotoi at ryw broffeswriaeth anrhydeddus. A thueddai yr hen foneddwr at iddo astudio'r gyfraith yn fwy na dim arall.

Felly y gwnaed. Ac yr ydym yn awr yn dyfod o hyd i Llewelyn Parri yn laslanc deunaw oed, wedi dyfod adref o'r Coleg, heb ddim yn eisiau ond ychydig wythnosau o arholiad tuag at iddo gael ei anrhydeddu a rhai o'r graddau uchaf.

Ychydig ddyddiau cyn dyfod adref, ysgrifenodd lythyr at ei fam, yn saesonaeg, cyfieithiad o ba un yw yr hyn a ganlyn:

"FY ANWYL FAM.—Dichon y goddefwch i mi fod mor hunanol a dweyd fod gobaith am i'ch disgwyliadau mwyaf awchus am fy llwyddiant yn y Coleg, gael eu boddhau yn drylwyr. Yr wyf eisoes wedi myned trwy amryw arholiadau, ac heb fethu rhoddi boddlonrwydd cymaint ag unwaith.

"Y mae caniatad i'r holl ysgolheigion ddyfod gartref i fwrw gwyliau'r Nadolig; ac yr wyf yn llawenhau wrth feddwl cael unwaith eto groesi gorddrws hên dŷ anwyl fy mam—fy hoff fam!

"Arhosaf adref am bythefnos; ac yna dychwelaf i orphen fy llafur, ac i dderbyn fy ngraddebau.

A gaf fi genad i ofyn eich caniatad i wahodd un cyfaill mynwesol i mi, yr hwn sydd yn yr un dosbarth a mi, i dreulio'r gwyliau dan gysgod bryniau Arfon? Ysgotyn yw, o'r enw Walter M'c Intosh; ond y mae'n un o'r bechgyn callaf, mwyaf moesgar, ffyddlonaf, y cyfarfyddais âg ef erioed. Gwnawn chwi a Gwen bach, rhyngom ein dau, mor llawen a chogau, er fod yr eira'n hulio'r ddaear. "Fy nghariad puraf i fy anwyl, unig chwaer, Gwen. Derbyniwch chwithau yr unrhyw, fy serchog a ffyddlon fam, oddi wrth eich mab diffuant,

"LLEWELYN."

"Mrs. Parri."

Anfonodd ei fam lythyr yn llawn o serch, gyd â'i haner wedi ei ysgrifenu gan Gwen bach, yn atebiad i'r nodyn uchod; a rhoddodd y gwahoddiad gwresocaf i Walter M'c Intosh ddyfod gyd âg ef i dreulio pymthegnos yn Ngwyllt Walia.

Daeth y ddau lanc i Gymru yn holl rwysg Colegwyr ieuainc o ysprydoedd llawen, a meddyliau diwylliedig. Derbyniwyd Llewelyn a'i gyfaill gyda'r caredigrwydd a'r serch ag y gallesid yn naturiol ei ddisgwyl oddi wrth y dyner Mrs. Parri, a'r brydferth, seraphaidd Gwen bach.

Dichon y dylem, yn y fan yma, roddi disgrifiad o'r ddau lefnyn Colegaidd.

Dyna Llewelyn yn eistedd yn ddïofal ar y soffa, ac yn tynu Gwen, ei chwaer, ato, gan wneyd iddi eistedd ar ei lin. Ymdonia modrwyau o wallt brown, cyrliog, o gylch ei dalcen hardd, braidd gyd â'r prydferthwch ag a hynodai ei dâd o'i flaen. Arddengys y llygaid gleision, disglaer, treiddgraph, a charuaidd—y trwyn syth a thlws—y genau heirdd mewn gair, arddengys ei holl wynebpryd brydferthwch braidd heb ei ail, ac fod enaid mawr o fewn y llanc gobeithiol yma.

Nid oedd Walter Mc'Intosh yn debyg i Llewelyn mewn dim braidd. Meddai bâr o lygaid duon digon prydferth, gwallt du fel y frân, gwedd—ymddangosiad tywyll drwyddo, a ffurf corphorol cryf iawn, eto, diwall a mawreddog yr olwg. Arddangosai foesgarwch o'r math mwyaf diwylliedig, a deall cryf; ond yr oedd rhywbeth cyfrwysgall i'w ganfod, ond sylwi'n fanwl—a rhaid fuasai manylu cryn dipyn hefyd cyn canfod yn ardrem ei lygaid duon.

Nid oedd dim yn ei holl ymddangosiad a fuasai'n un gwaradwydd i Llewelyn Parri, am ei ddewis yn gydymaith; eto, nis gallasai Mrs. Parri lai na synu paham y dewisodd ei mab y llefnyn hwnw. Yr oedd flwyddyn neu ddwy'n hŷn na Llewelyn, er na chyrhaeddodd yr un gradd uwch nag ef mewn dysg; nid oedd ei dalent a'i dueddfryd o'r un rhywogaeth ag eiddo ein harwr ychwaith; ni siaradai haner cymaint; ond pa beth bynag a ddywedai, byddai'n gynwysfawr, i'r pwrpas, ac yn llawn o garictor.

Gŵyr y darllenydd eisoes fod Mrs. Parri'n dra hoff o fiwsig. Dygwyddodd fod pob un o'r cwmni difyr ag oedd yn y tŷ yr adeg yma, mor hoff, ac efallai, mor alluog a'u gilydd. Gallai Gwen bach chwareu'r piano'n swyngar Llewelyn oedd yn gampus o chwareuwr ar y flute, a thalodd Walter sylw nid bychan i'r piano hefyd.

Wedi sirioli natur â chwpanaid o dê, dywedodd Llewelyn wrth ei chwaer,

"'Rwan, Gwen, mae arnaf hiraeth am dy glywed yn myned dros rai o dy hoff alawon ar yr hen biano 'na, a gwrando hefyd ar dy lais yn herio tynerwch yr offeryn. Tyr'd, dyro gân, 'ngeneth i," a lladratäodd gusan oddiar ei gwefus gwrelaidd.

Neidiodd yr eneth at y piano fel aderyn ysgafndroed: chwareuodd "Nos Galan," nes tynu'r dagrau i lygaid ei brawd. Aeth dros amryw eraill hefyd; ac ni fuasai'r gwrandawyr yn blino pe yr aethai yn mlaen felly trwy'r nos. Ond teimlai hi awydd clywed y llanc dyeithr yn cyffhwrdd yr offeryn hoff. Deallodd Llewelyn ar ei golwg, beth oedd ar ei meddwl, a dywedodd,

"Walt., y mae fy chwaer llawn cystal am farnu chwareu rhai eraill, ag yw am chwareu ei hunan. Dyro dro dros rai o alawon yr hen Alban."

"Un peth a fedraf i foddloni Miss Parri," oedd yr ateb. Chwareuodd "Auld Lang Syne," braidd i berffeithrwydd. Wedi hyny canodd yr hen falad gampus, "Will and Jean," o waith Hector Macneil, a dilynodd ei lais a'i law; a

"Chyd â'r llaw ydd â'i'r Awen;
Wi! wi! i'r llaw wisgi wèn."

Gwrandawai Mrs. Parri, Llewelyn, a Gwen bach, mewn syndod a dedwyddwch. Wedi i'r llanc orphen, unodd y cyfan i ganu a chwareu, mewn cydgan, yr hen "Sweet Home." Aed drosti a throsti drachefn, ac ni wyddir pa pryd y buasid yn darfod â hi, oni bai i floedd o'r heol ddyrysu eu cyngherdd. Bloedd oedd honno na chlywodd yr un o'r cwmni dedwydd ei bath erioed o'r blaen. Neidiodd Llewelyn i'r ffenestr, a thyna lle y gwelai dorf o bobl, gwýr, gwragedd, a phlant, yn rhedeg ar ol dyn ag oedd yn ymddangos megis yn wallgof. Rhedodd Llewelyn allan ac ar eu holau; dilynodd hwy at lán yr afon, a chyrhaeddodd yno'n ddigon buan i weled yr adyn ag y ceisid ei ddal, yn cymeryd naid ofnadwy oddi ar bincyn craig i lawr i'r berw islaw, ac yn cael ei rowlio gan y dylif tua'r weilgi fawr, nes, o'r diwedd, suddo am byth dan y tonau certh! Cyfodai'r dyrfa floedd fawr, rwygol, wrth ei weled yn cymeryd ei naid, a dychwelodd Llewelyn gartref i fyned dros yr hanes.

Erbyn iddo fyned i'r tŷ, yr oedd Mrs. Parri wedi cael gwybod gan y gwas pwy oedd yr adyn gwallgof. Pwy 'ddyliet ti oedd ef ddarllenydd? Y truan gwr Sion Williams! Gwnaeth y dyn anffodus gais teg at fyw'n sobr, ar ol yr amgylchiad o gladdedigaeth ei eneth; a llwyddodd i gadw'r addewid a wnaeth i Mrs. Parri, am fis neu ddau; ond fe guriai ei gnawd ymaith, nes braidd nad oedd ganddo ond y croen am yr esgyrn; nis gallai roddi cwsg i'w lygaid na hun i'w amrantau, ddydd na nos; ac o'r diwedd, fe 'i gyrwyd at y cwpan meddwol drachefn, er mwyn ceisio lleddfu pangfeydd ei enaid.

Ymddangosai fel dyn wedi llwyr golli arno 'i hun. Cymerwyd ef i'r gwallgofdy. Cadwyd ef yno am flynyddoedd, nes y tybiwyd ddarfod i'w synwyrau gael eu hadferu. Daeth adref. Ond enynodd yr olwg ar ei hen drigfan—ar fedd ei Ann fach, yr hon a hyrddiwyd i dragywyddoldeb gan ei law greulon ef ei hun—ar fedd Mari ei wraig, yr hon a dorodd ei chalon mewn gofid a chyni— ar ei hen fwthyn yn gartref clyd i ryw estroniaid, —enyodd yr holl bethau hyn y fath fflam o ofid yn ei fynwes, nes y tybiodd nad oedd dim ond y ddïod fyth a'i diffoddai. Ymrôdd i yfed ac i yfed gyn waethed ag erioed. Cyfarfyddwyd ef ar yr heol, tuag wythnos cyn yr amgylchiad sobr yma, gan Mrs. Parri. Syrthiodd ar ei ddwylin ar lawr, a wylodd fel plentyn wrth ei gweled. Buasai edrych arno yn toddi'r galon galetaf.

"Oh! Mrs. Parri anwyl!" meddai; "fedrwch chi na neb arall mo f' achub i rwan! Waeth i mi heb na threio bod yn ddyn sobor byth mwy! Y mae gwyneb yr eneth bach o flaen fy llygaid raid i ba le bynag yr af, âf, a llais Mari yn erfyn am i mi arbed ei bywyd, yn swnio yn fy nghlustiau bob munud! Yr wyf yn clywed y beth bach yn crio—yr wyf yn ei gweled yn gorph marw ac oer—yr wyf yn ei chlywed yn achwyn wrth ei mam, mewn llais isel, gresynus, mai fi a'i lladdodd! Nid oes i mi orphwysdra na dydd na nos, ond pan fo fy ymenydd wedi ei foddi mewn diod!".

Dyna oedd agwedd ei feddwl wythnos yn ôl. Ond beth yw yn awr? Safai o'r blaen yn ei olwg ei hun, yn ngolwg Mrs. Parri, ac yn ngolwg Duw, fel llofrudd ei eneth—fel torwr calon ei wraig; ond safai yn awr yn nghlorian ei Farnwr, fel llofrudd ei blentyn—fel dinystrydd ei wraig—fel dinystrydd ei fywyd ei hun, ac fel damniwr ei enaid am byth!

"Mam!" meddai Llewelyn, gan dynu ei gadair at ei hochr, ar ol dychwelyd o weled yr adyn yn boddi; "Mam! y mae arnaf ofn fod y cyffro yma wedi effeithio gormod arnoch; yr ydych yn edrych yn bur ben-isel."

"O, fy machgen!" atebai'r fam; "y mae genyf reswm da dros fod yn ben-isel. Yr wyf yn gwybod mwy am yr adyn yma sydd newydd hyrddio 'i hun i dragywyddoldeb, nag y mae neb yn ei feddwl; ac y mae adgof am bethau a ddigwyddodd flynyddau'n ol, yn pwyso'n drwm ar fy meddwl y fynud yma!"

Torodd Gwen bach i wylo wrth glywed ei mam yn siarad fel yna, er na wyddai at ba beth yr oedd yn cyfeirio. Efallai fod gan Llewelyn ryw adgof am yr amgylchiad o farwolaeth geneth Sion Williams, ond ni wyddai ddim am yr achos o'i hangau.

"Mae arnaf ofn eich bod yn myned yn nervous, mam," meddai Llewelyn.

"Yr wyf yn gwybod digon o bethau i wneyd llawer un yn nervous," oedd yr ateb. "Am pa bethau, mam?" "Am effeithiau meddwdod."

"Os meddwdod a yrodd y dyn yma i wneyd pen am dano'i hun fel yna, yr wyf fi'n methu gweled paham y rhaid i chwi boeni yn ei gylch."

"Dichon fod mwy a wnelwyf fi a'r peth, nag yr wyt ti'n ei wybod, Llewelyn."

"Wel, os oedd raid iddo gael diod; ac os nad allai gadw rhëol ar ei drachwant, iawn oedd iddo sefyll y canlyniad. Nid oes dim ychwaneg a fyno neb ag ef ei fai ef ei hun yn unig oedd."

"Welais di erioed rai o effeithiau mwyaf ofnadwy meddwdod?"

"Do! mi a welais un o'r students, ar ol bod yn yfed gwirod am wythnos, wedi llosgi'n lludw ar lawr ei ystafell erbyn un bore, pan nad oedd dim tân yn agos ato, nac ôl tân ar ddim byd arall; a barn y doctoriaid oedd, ei fod wedi myned ar dân oddi wrth natur danllyd gormod o wirodydd poethion."

"Wel, rwan—fydd rhyw ddigwyddiadau fel yna ddim yn sibrwd yn dy feddwl di, y dylid defnyddio rhyw foddion i roddi atalfa ar bethau fel hyn?"

"Ond pa atalfa a ellir roddi?”

"Dyna'r cwestiwn mawr. Yr wyf fi wedi bod yn treio dyfeisio llawer cynllun, ond yn methu'n glir a chael un wrth fy modd. Byddaf braidd a meddwl weithiau y dylai pob dyn a dynes ymwrthod yn dragywyddol â phob math o ddïodydd meddwol, ac y dylai pob tŷ tafarn yn y deyrnas gael ei gau i fyny."

Pw! lol wirion, mam; peidiwch boddro 'ch pen hefo phethau fel hyn. Beth ddeuai o'r byd pe y rhoddai pawb y goreu i yfed yn gymedrol? A phaham y dylid cau'r tafarnau? Y mae gwerthu cwrw a gwirod yn fusnes gonest; ac os oes rhai'n analluog i reoli eu trachwantau eu hunain, ni ddylid cosbi pawb am hyny. O'm rhan i, yr wyf yn ddigon hoff o ddiferyn o wirod yrwan ac yn y man; ac mi ystyriwn fy hun yn cael fy nghaethiwo'n ormodol, ac yn annheilwng o ddyn rhydd, pe y rhwystrid fi i yfed yn gymedrol am fod eraill yn yfed gormod.

"Fy mab!" meddai Mrs. Parri'n ddifrifol; "yr wyt yn siarad fel bachgen difeddwl a diofal, ac un nad yw erioed wedi deall rheolau euraidd yr egwyddor Gristionogol. Yr wyf fi'n gwadu fod gwerthu dïodydd meddwol yn fusnes gonest, er y gallai rhai dynion a merched gonest fod yn eu gwerthu; o herwydd nid wyf yn credu fod gwerthu diodydd o'r fath yn gwneyd lles i neb, tra gŵyr pawb eu bod yn gwneyd niwed i bawb. Y mae gwario arian am wirod yn waeth na 'u taflu ymaith. Y mae'r dyn sydd yn ymgyfoethogi ar werthu gwirodydd poethion, yn lladrata pobl o'u harian, cysuron, cyfeillion, tai, tiroedd, nodweddiad, iechyd, bywyd, ac enaid; ac yn rhoi yn eu lle, anghysur, gwallgofrwydd, clefydon, llofruddiadau, terfysgau, cableddau, dinystr, a phleser mynudol y delirium. Busnes gonest wyt ti'n galw peth fel yna? Ai gormod genyt ti fyddai aberthu ychydig wirod bob dydd er mwyn cael ymwared â'r holl bethau hyn? Na, nid yw fy Llewelyn anwyl i yn un mor hunanol a hyny!"

"Dowch mam—yr ydych yn siarad yn rhy ddifrifol o'r haner ar y mater! Ni feiddiaf fi ddadleu a chwi yn y style yna. Yr ydych yn dymuno gormod o lawer, mae arnaf ofn. Fedrwn ni ddim dysgwyl i bob peth gael ei ddwyn yn mlaen mewn perffaith gydweddiad â rheolau Cristionogaeth yn yr hen fyd llygredig yma."

"Pa un bynag a fedrwn ni ddysgwyl hyny ai peidio, felly y dylai fod. A phe yr ymddygai pobl yn unol â rheolau yr hen Fibl yna, ni fyddai'r fath beth a meddwdod a'i ganlyniadau o fewn y byd. Ac yr wyf fi'n coleddu rhyw syniad dirgelaidd, er's wythnosau bellach, ond na wiw imi adael i neb ei wybod, rhag iddynt chwerthin am fy mhen, mai dyledswydd pob dyn a dynes gymedrol yw peidio yfed dim, er mwyn esiampl i'r rhai sy'n yfed llawer. Ac yr wyf wedi dyfod i'r penderfyniad yma, sef na chaiff yr un dafn o ddïodydd alcoholaidd byth ymddangos ar fy mwrdd i, ond hyny."

"Pw, pw! peidiwch bod yn wirion! Yr wyf fi'n ddigon hoff o wirod! Ac yr wyf yn bwriadu dal ati i yfed ychydig bach ar hyd fy oes. Nid oes arnaf yr ofnad lleiaf na's gallaf reoli fy hun hefyd, heb wneyd ffwl o honof fy hunan."

Pe na buasai Mrs. Parri mewn cyrhaedd clyw, buasai Walter M'c Intosh wedi adgoffa i Llewelyn fod ei ymffrost yn nghylch rheoli ei hun yn un go wag, o herwydd fe wyddai Walter ddarfod iddo fethu "rheoli ei hun" lawer gwaith mewn swperi a roddai'r naill golegydd i'r llall.

Gwen bach, dan chwerthin, a ddywedodd,—

Yr wyf fi'n meddwl yn siwr i mi glywed fy mam yn son ryw dro am fachgen bach yn myned yn feddw ar win yn yr ystafell giniaw, ac yn syrthio'n rholyn ar draws yr ystolion. Beth ddywedet ti, fy mrawd, pe y clywet ti'r bachgen hwnw'n bostio y gallai reoli ei hun?"

Cyrhaeddodd y sylw ei bwynt dymunedig, o herwydd fe wridodd Llewelyn at ei glustiau, a cheisiodd lanhau ei hun trwy ddyweyd,—

"Ho! beth oedd ryw dro hogynaidd felly? Nid oeddwn ond hogyn, neu, ni fuaswn yn gwneyd ffwl o honof fy hun. Yr wyf yn awr yn dechreu myned yn ddyn; ac fe gaiff y byd wybod mai fel dyn yr ymddygaf, y llefaraf, ac yr yfaf, ac nid fel ynfyd."

"Duw roddo nerth i ti i gadw dy benderfyniad, fy machgen anwyl i!" meddai Mrs. Parri.

Nodiadau

golygu