Llewelyn Parri (nofel)/Pennod VI

Pennod V Llewelyn Parri (nofel)

gan Lewis William Lewis (Llew Llwyfo)

Pennod VII

PENNOD VI.

Nos Nadolig a ddaeth. Y fath ddysgwyl fu am dani! Y fath nifer o blant fu'n casglu pob dimai a fedrent gael, er mwyn gallu gallu prynu triagl i wneyd cyflath y noson honno! Gynifer o wyryfon a llanciau a gytunasant i eistedd i fyny i barotoi'r cyflath, ac i ymgomio am yr adeg yr unid hwy mewn glân briodas! Gymaint o ddichellion y bu plant y pentref yn eu cynllunio i ddychrynu ambell i gariadlanc ofnus, ar ei ffordd adref o garu! Penderfynai un daflu cath wedi ei rhwymo wrth hwyaden, trwy simnai un o'r tai lle y byddai llu wedi ymgyfarfod i dreulio'r noson; a chaffai'r bechgyn oll bleser mawr wrth feddwl fel yr ysgrechid wrth weled yr ymwelyddion hynod yn dyfod i lawr bendramwnwgl trwy'r simnai, efallai i ddisgyn mewn cwmwl trwch o barddu i ganol y crochan a'r cyflath. Cytunai eraill i chwythu asiphetta trwy dwll clo rhyw dŷ, er mwyn cael y pleser o weled yr anneddwyr yn rhuthro allan, er cael ymwared oddiwrth yr arogl drwg. Parotoai'r lleill eu gyddfau i fyned i ganu carolau, rhai i'r Eglwys, a'r lleill o gwmpas y pentref. Felly, pawb yn ol ei dueddiad yn penderfynu gwneyd y goreu o'r Nos Nadolig.

Bu Llewelyn a Walter hefyd yn addaw iddynt eu hunain bleser nid bychan nos a dydd Nadolig. Penderfynent hwythau chwilio am ryw fwyniant diniwed, ag a wnai iddynt gofio gyda hyfrydwch mewn adeg i ddyfod, fel y bu iddynt dreulio gwyliau'r Nadolig yn B———

Gwelwyd papyrau wedi eu gludio hyd barwydydd y dref, i hysbysu fod cwmpeini o Saeson yn myned i roddi cyngherdd yn y Town Hall, ar Nos Nadolig, pryd y byddai chwech o'r cantorion enwocaf yn y deyrnas yn canu rhai o'r darnau cerddorol goreu. Yno y cytunodd ein harwr a'i gyfaill fyned. Nid llawer o gyngherddau a gawsant tra yn y Coleg; er iddynt gael ambell un hefyd; a dysgwylient y byddai cyngherdd fel hyn yn "drêt" mawr iddynt.

Saith o'r gloch a ddaeth, a gwelwyd dau neu dri o gerbydau o'r palasau cyfagos yn chwyrnu myned tua'r Town Hall. Gwelodd Llewelyn ar unwaith fod y cyngerdd i fod yn un "respectable," yr hyn oedd arno ef ei eisiau uwchlaw pob dim, rhag anfoddloni ei fam wrth ymgymysgu a dosbarth israddol iddo ef ei hun, mewn pleserau, er na ddywedasai'r foneddiges dda yr un gair yn erbyn iddo ymgymysgu faint a fynai â'r dosbarth isaf, mewn gwneyd rhyw les iddynt. Gofal mawr oedd ganddi am gymeriad ei mab.

Cychwynodd Llewelyn a Walter tua'r man apwyntiedig. Cymerasant eisteddle bob un yn nghanol y boneddigion; a gwelid yn ebrwydd y sylw a dynent yn y lle.

"Pwy yw'r ddau ŵr ieuanc hardd yna?" oedd yr ymholiad cyffredinol.

"Llewelyn Parri, mab y diweddar Mr. Meredydd Parri," meddai ambell un ag oedd yn dygwydd adnabod Llewelyn.

"Yn wir," meddai un arall, "y mae Mrs. Parri wedi cael ei bendithio â mab o'r fath harddaf, ac yn edrych mor hawddgar, er iddi hi fod mor anffodus a cholli ei dad ef."

" Y mae'r llanc yr un bictiwr a Mr. Parri," ebe'r trydydd.

Dechreuodd y concert—aed trwyddo yn dra llwyddiannus —a darfyddodd. Hwyliodd pawb tua chartref, Llewelyn a Walter yn eu mysg.

Mynych oeddynt y sylwadau ar y canu. Mynai rhai mai methiant hollol oedd y cyngherdd trwyddo draw; haerai eraill na fu erioed o'r blaen y fath gantorion yn ninas B———; gresynai eraill yn fawr fod y brif gantores wedi crygu, a chwynai eraill fod y prifgantor yn gwaeddi gormod.

Pa fodd bynag, yr oedd ein harwr wedi cael ei foddloni dros ben; ond am ei gyfaill, ychydig a ddywedai ef ar y pwnc.

Yr oedd yr heolydd wedi rhewi ychydig; gwenai y lleuad dlos uwchben, a chwareuai'r ser mewn sirioldeb yn yr wybren; ar y cyfan, prin y gallasai Llewelyn ddymuno noson hyfrytach yr amser yma o'r flwyddyn; a thynai tua'r tŷ mewn ysbryd siriol a boddgar.

"Beth!" meddai ei gyfaill," nid ydych am fyned gartref yrwan? Mae hi'n rhy gynar eto."

"Gwir ei bod yn o gynar; ond gwyddoch i mi addaw bod i fewn erbyn deg o'r gloch," atebai Llewelyn.

"Wel, rhaid i mi gyfaddef, os nad oes rhyw bleser mwy na hyn i'w gael yn eich dinas enedigol, y buasai yn well i mi fod wedi aros gartref i fwrw'r gwyliau."

"Ha, ha! byddwch bob amser yn gweled pob peth, yn mhob man yn salach ac islaw pethau eich gwlad eich hun. O'm rhan i, mi gefais fy moddhau i'r pendraw heno, ac yr wyf yn meddwl pe y chwiliech chwi Edinburgh drwyddi, na fuasech yn dod o hyd i chwech o gantorion tebyg i'r rhai hyn."

"Wel, yn wir, o ran hyny, canu'n dda ddarfu iddynt; ond dysgwyliais gael rhywbeth mwy cyffrous i fy nifyru ar ol dod yma. Ac os oes genych ryw ryfeddod gwerth ei gweled, dewch i ni gael rhoi trem arni."

"Buasai'n dda genyf allu eich boddio yn mhob modd dichonadwy, fy nghyfaill, ar ol eich denu fel hyn i Gymru," ychwanegai Llewelyn; "Ond y mae arnaf ofn ymdroi dim yn hwy, rhag y bydd fy mam yn ofidus am danom."

Ar hy hyn, dyma bentwr o wŷr ieuainc yn dyfod heibio, hefo cigars yn eu cegau, ac yn gwneyd cymaint o drwst a phe buasai yno gant. Yr oedd yn amlwg fod eu bryd yn hollol ar ddigon o lawenydd a digrifwch. Adnabu rhai o honynt ein harwr, a gwaeddasant,

"Holo, Llewelyn Parri, fyth o'r fan yma! wydden ni ddim eich bod wedi dod adref nes i ni eich gweled yn y concert. Mae'n dda genym daro arnoch. Dowch gyd â ni, yr hen gyfaill diddan."

"I ba le yr ydych yn myned?" gofynai Llewelyn.

"I dŷ Bili Vaughan i gael tipyn o ddifyrwch," oedd yr ateb.

Temtasiwn gref, heb ei disgwyl, oedd hon; ond cofiodd y llanc am ei fam a'i chwaer—am ei addewid i ddychwelyd gartref yn gynar-a phetrusodd am funud.

"Sut ddifyrwch?" gofynai.

"Rhoddwn ein gair na fydd yno ddim yn cael ei ddwyn yn mlaen berygla eich enw da, nac a niweidia yr un blewyn o wallt eich pen. Y mae genym ormod o barch i'ch anrhydedd, eich enw, a'ch talent, i geisio eich denu at unrhyw beth peryglus. Nid yw ddim yn y byd ond tamaid o swper da, cân neu ddwy, ac adref drachefn."

"Yr wyf yn dra diolchgar i chwi," meddai Llewelyn Parri; "ond y mae'n ddrwg genyf fy mod wedi addaw bod adref cyn hyn; ac felly nid wyf yn gweled pa fodd y gallaf ddyfod gyd â chwi, er mor dda fuasai genyf gael awr yn eich cwmni."

"Er mwyn rheswm, peidiwch bod yn ffwl, Llewelyn!" ebe Walter M'c Intosh wrtho, yn haner dig. "Chwi yw'r babi mwyaf a welais i erioed. Nid oeddych yn ffit i gael eich gollwng o arffedog eich nurse!"

"Ond, foneddigion, y mae genyf reswm arall hefyd. Gwelwch fod genyf gyfaill gyd â mi; ac os nad yw ef yn cael ei wahodd cystal a minau, ni's gallaf ei adael."

"Wrth gwrs," llefai'r holl lanciau. Ac unodd y cyfan hefo'u gilydd, ac aethant am dŷ Bili Vaughan yn llawen a chwareuus.

Math o blasdý hardd a hynafiaethol yr olwg arno, yn nghanol coedwig fechan, tua haner milldir o'r dref, oedd y tŷ hwn; ac yr oedd y mab yn absenoldeb ei rieni, wedi gwahodd nifer o'i gyfeillion yno i dreulio'r nos Nadolig mewn llawenydd. Gorchymynodd i'r hen gogyddes barotoi'r swper goreu ag y gallai'r lle ei hyfforddio, a gofalodd ei hunan am ddarparu digonedd o'r gwirodydd goreu ar gyfer yr amgylchiad.

Erbyn myned o'r llanciau i mewn, dyna lle'r oedd y tân mawr yn rhuo yn y grât, y bwrdd wedi ei osod a'i barotoi yn y dull mwyaf chwaethus, a'r potelau gwin, &c., yn barod i goroni y swper â mwyniant ac â llawenydd.

Aeth pang trwy fron Llewelyn Parri wrth weled yr holl barotoadau hyn, o herwydd gwyddai o'r goreu nad aethpwyd erioed i'r gôst a'r drafferth i wneyd y fath ddarpariadau, gyd â'r disgwyliad am i'r cwmni dori i fynu'n gynar, fel yr addawyd iddo ar y cyntaf. Gwyddai hefyd ei wendid ei hun, a'i anallu i wrthsefyll temtasiwn pan fyddai gwirod mewn cyrhaedd. Pa fodd bynag, addawai wrtho 'i hun un ymdrechu drechu cadw o fewn terfynau cymedroldeb.

Yn anffodus i'n harwr, nid oedd ei gyfeillion yn teimlo yr un gochelgarwch ag ef; a gwnaent eu goreu i gael ganddo yfed mwy nag oedd briodol, hyd yn oed yn y dyddiau hyny. Gwyddai o'r goreu ei berygl—teimlai ei hun yn llithro—i lawr y gwelai ei hun yn myned er ei waethaf, ac yn ei fyw nis gallai atal ei hun. Nid oedd yn un o'r rhai cryfaf i ddal diod, ond ychydig iawn a wnai'r tro i'w feddwi. Wrth ystyried hyn, ymdrechai yfed gyn lleied ag oedd bosibl.

Ond pa fodd y gallai gadw 'i hun rhag bod yn agored i gael ei ystyried gan ei gyfeillion yn ofnus merchedaidd? Yr oedd Llewelyn yn falch yn gystal ag yn addfwyn; ac ni fynai er haner ei etifeddiaeth i neb dybied ei fod yn wanach na'r gweddill o'r cwmpeini. A'r teimlad hwn a gafodd yr oruchafiaeth, fel y bydd yn cael braidd bob amser ar fechgyn ieuainc pan yn cellwair â pherygl. Felly, yfodd nes anghofio 'i fam a Gwen bach, yn yr adeg ag yr oedd mwyaf o anghenrheidrwydd am iddo'u cofio. Pan gyfodwyd oddi wrth y bwrdd, teimlodd ei hun, a gwelodd pawb eraill, ei fod yn feddw. Ymddygodd ar y cyntaf yn hollol foneddigaidd wedi hyny aeth yn ffraeth a sïaradus—ac o'r diwedd aeth yn afreolus ac ystyfnig. Ond chwareu teg iddo ef, prin y gellid dweyd fod y lleill fawr well nag yntau; yr oedd y ddïod wedi cael effaith arnynt oll, oddi eithr Walter, yr hwn a gadwodd well rheol arno 'i hun.

"Wel, gyfeillion llon," meddai Llewelyn mewn ymadrodd bloesg, "addawsoch y caem gân neu ddwy; rwan am dani hi."

"Clywch, clywch," llefai'r cyfan.

"Foneddigion," ebe Bili Vaughan, "yr wyf yn cynyg ar fod i Mr. Llewelyn Parri ein hanrhegu â chân."

"Rydw i'n eilio'r cynygiad," meddai Ifan Llwyd; "pawb sydd o'r un feddwl, coded ei law."

Cododd pob un ei ddwylaw, a dechreuodd Llewelyn ganu, er mawr adeiladaeth y brodyr teilwng, fel y gellid tybied, wrth eu gweled yn gwrando â'u cegau:—

Yn iach i bob gofid a phenyd a phoen,
A chroesaw bob llonfyd a hawddfyd a hoen:
Yn iach i ofalon helbulon y byd,
A chroesaw bob rhyddid—hoff ryddid a'i phryd,
Yn nhymhor ieuenctid ni fynwn gael byw
Mewn môr o ddifyrrwch—ein hiawnder ni yw;
A mynwn anrhydedd i Bacchus ein Duw.

Tra fyddo rhagrithwyr yn uchel eu nâd
Am yru Difyrwch o oror y wlad,
Ni fynwn ei chadw'n arglwyddes fawr glod,
A'i moli a'r canau pereiddiaf yn bod.
Yn nhymhor ieuenctid ni fynwn gael byw
Mewn môr o ddifyrrwch—ein hiawnder ni yw;
A mynwn anrhydedd i Bacchus ein Duw.

O llanwer y gwydrau ac yfer yn hael,
Ein moliant mae Bacchus yn haeddu ei gael;
I'n perffaith ddifyru mae'n gweddu cael gwîn
A lona ar amnaid yr enaid â'i rin.
Yn nhymhor ieuenctid ni fynwn gael byw
Mewn môr o ddifyrrwch—ein hiawnder ni yw;
A mynwn anrhydedd i Bacchus ein Duw.

"Bravo," llefai'r cyfeillion oll.

Cyfododd Bili Vaughan ar ei draed drachefn, i gynyg iechyd da dau gyfaill sef Mr. Llewelyn Parri, a Mr. Henry Huws—y cyntaf ar yr achlysur o'i ddychweliad adref o'r Coleg, a'r llall ar ei lwyddiant mewn cystadleuaeth ddiweddar. Yfwyd y llwnedestun yn wresog.

Wedi hyny llwyddwyd i gael gan Walter M'c Intosh ffafrio'r cyfeillion â chân Ysgotaidd; ond am na wyddom pa fodd i sillebu tafodiaith yr Albanwyr, ni's beiddiwn gofnodi ei gân. Pa fodd bynag, fe ymddengys ddarfod iddi roddi boddlonrwydd cyffredinol, a derbyniwyd hi gyd â tharanau o gymeradwyaeth.

Aeth oriau heibio fel hyn, mewn cyfeddach a meddwdod a chrechwen. Ac yr oedd yr haul yn euro'r dwyrain hefo 'i belydrau cyntaf fore dydd Nadolig, cyn i'r llanciau gyrhaedd y dref yn ôl.

Druain o Mrs. Parri a'i merch! cawsant noson anesmwyth. Arosasant ar eu traed i ddisgwyl am y ddau fachgen hyd nes oedd wedi haner nos; a digon anfoddlon oeddynt i fyned i orphwys yn y diwedd.

Clywodd Mrs. Parri'r ddau'n dyfod i fewn, ac ofnodd nad oedd cerddediad a llais un o honynt yn union fel yr eiddo dyn sobr; ond ar ol cael sicrwydd eu bod yn ddiogel o dan ei chronglwyd, hi a gysgodd yn drwm am oriau.

Ni osodwyd y boreufwyd ar y bwrdd hyd nes oedd yn hwyr; ond er hwyred oedd, bu raid aros tipyn hwy wed'yn cyn i'r ddau fachgen ddod i lawr am dano. Ond daeth y ddau i lawr; ac nis gallai Llewelyn beidio gwrido at eu glustiau wrth wynebu ei fam—yr oedd ei euogrwydd yn pwyso'n drwm arno: disgwyliai gael gwers dda am ei ymddygiad; ac nid oedd dim mwy annymunol ganddo na chyfarfod â'i golygon treiddgraph yn tremio arno, fel pe buasai yn ceisio darllen dirgelion ei galon. Gallodd Walter feddiannu ei hun yn well—ymddygai yn berffaith dawel a moesgar, fel arferol, ac ni fuasai neb yn meddwl, wrth edrych arno ef, fod dim o'i le wedi digwydd.

Braidd nad oedd yn dda i Mrs. Parri, fod Llewelyn mor wridog pan ddaeth i lawr, neu buasai'n dychrynu wrth weled mor llwyd oedd ei mab. Ond wedi i'r gwrid gilio o'i wyneb, hi a ganfyddodd yr holl ddirgelwch; nis gallai amheuaeth fod yn ei meddwl mai effaith yfed i ormodedd oedd y gwefusau llaesion—y llygaid trymion—y gwyneb llwyd y llaw grynedig, a arddangosai Llewelyn y bore hwnw. Tebyg ei bod yn rhy drallodus i siarad llawer; dichon hefyd nad oedd yn dymuno darostwng ac israddio ei mab yn mhresenoldeb Walter. Cymaint a ddywedodd oedd,

"Buoch allan trwy'r nos, onid do, fy mechgyn i?"

"Wel, y gwir am dani hi yw, fy mam," meddai Llewelyn, dan wrido drachefn, "ddarfod i ni gyfarfod â pharti o hen gymdeithion i mi, y rhai oeddynt yn myned i'r wlad, ac fe'n temtiwyd ninau i fyned gyd â hwy gyn belled â chartref Bili Vaughan. Cawsom swper yno; aethom dros rai o hen streuon ein hieuenctid; ac achosodd hyny i ni fod yn bur hwyr cyn gallu cyrhaedd cartref. Gobeithio na ddarfu i chwi a Gwen aros ar eich traed i'n disgwyl."

"Ddim hwy na haner nos."

"Y mae'n ddrwg genyf i chwi gael achlysur i aros mor hwyr a hyny."

"Wyt ti'n sâl, machgen i? Yr wyt yn edrych felly. Oes rhywbeth yn dy flino?"

"Dim byd o bwys. Ond yr wyf yn meddwl i mi gael anwyd lled drwm neithiwr, trwy fy mod yn anghynefin a theithio dan awyr y nos, a minau heb ofalu am ddigon o gynhesrwydd, gan na fwriedais fyned i'r wlad. Yr oedd yr awel yn bur lèm," meddai Llewelyn, gan gadw ei lygaid ar y soser dê, rhag cyfarfod a thremiad ei fam.

"Poor Llewelyn!" meddai Gwen bach, a'i llygaid yn llawn o ddagrau serch, gan feddwl fod Llewelyn yn dweyd y gwir am natur ei selni.

Wedi i'r boreufwyd fyned trosodd, aeth Mrs. Parri a'i merch allan, ar ryw neges haelionus, gan adael Walter yn unig gyda Llewelyn yn y parlwr. Rhyddhad mawr oedd hyn i'r ddau. Gyn gynted ag y cawsant y tŷ iddynt eu hunain, taflodd Llewelyn ei hun ar y soffa gydag ochenaid. Cyn pen hir, dywedodd Walter wrtho,

Wyddoch chwi beth, Llewelyn? mae'r eneth yna Gwen eich chwaer—yn un o'r creaduriaid mwyaf nefolaidd y disgynodd fy llygaid arni erioed."

"Ydyw, o ran corph a meddwl," meddai Llewelyn. "Nid oes neb ond y sawl sydd yn yr un sefyllfa a mi yn gwybod mor drwyadl yr wyf yn ei charu. Ni fynwn er dim iddi gael yr un achos i boeni y gradd lleiaf o'm herwydd i. Gwyn fyd na fa'i yr hen drafferthion Colegaidd yma drosodd! fe gaech chwi a phawb eraill weled Llewelyn Parri yn llawer gwell dyn wed'yn. Yr wyf yn penderfynu cadw fy hunan yn uchel yn meddwl fy chwaer."

"O, gwyn fyd na fa'i genyf fi'r fath angyles i ddylanwadu ar fy henderfyniadau!"

"Fyddai'n dda genych chwi hyny?"

"Byddai yn fy nghalon."

"Wel, mi ddywedaf i chwi beth, Walter, ac yr wyf braidd yn sicr na fydd i mi fethu wrth ei ddweyd:—yr wyf yn meddwl yn sicr y bydd i chwi eich dau—chwi a Gwen syrthio mewn cariad â'ch gilydd pan ddaw hi dipyn hynach, a phriodi wed'yn. Dyna ddrychfeddwl campus, onid ê?"

"Campus yn wir—rhy brydferth—rhy ddysglaer i fod yn wirionedd, mae arnaf ofn. Ond, a gawsoch chwi unrhyw le i feddwl y byddai i Gwen fy hoffi fi?"

"Ddywedodd hi erioed mo hyny—mae hi'n rhy ddiniwed a simple i beth felly eto. Ond beth pe gwelsech ei llygaid pan oeddych yn chwareu'r piano ac yn dadganu, y dydd o'r blaen! Yr oedd digon o brawf yn hyny i mi fod gyn hawdded cynneu'r fflam o gariad rhyngoch chwi a'ch gilydd, ag a fyddai enyn tân hefo callestr yn nghanol ystordŷ powdwr."

"Wel, Llewelyn, yr wyf fi'n barod—fi yw'r powdwr; ond gobeithio na fydd iddi hi fod gyn galeted a challestr chwaith. Ond cofiwch fy mod i yn tyngu, o'r mynyd hwn, mai eiddo Gwen Parri a fyddaf fi, neu ni fyddaf yn eiddo neb byth. Ond eto mae arnaf ofn na fedraf byth enill ei chydsyniad hi."

"Os na fedrwch chwi, fy nghyfaill," meddai Llewelyn, "mi fedraf fi ei thueddu i dderbyn llaw'r neb a fynwyf. Nis gall Gwen bach lai na charu pwy bynag a garwyf fi."

"Wnewch chwi addaw arfer eich cariad a'ch dylanwad o fy mhlaid ynte?" gofynai Walter.

"Nid yn unig yr wyf yn addaw, ond yn tynghedu!"

Rhoddodd y sicrhad yma fath o foddlonrwydd i feddwl Walter. Parhaodd y ddau yn ddystaw am ychydig fynydau, a syrthiodd Llewelyn mewn hun. Ni chysgodd Walter, ond myfyriai'n ddwys ar rywbeth. Parhaodd y ddau felly hyd nes y dychwelodd y boneddigesau o'u neges genadol ganmoladwy.

Cwestiwn cyntaf Gwen bach oedd,

"Sut mae 'ch cur, fy mrawd?"

"Oh, all right," atebai Llewelyn. "Mae o wedi diflanu ymaith cyn llwyred ag eira'r llynedd."

Mae'n dda genyf glywed."

"Ond Gwen, beth feddyliech chwi a wnaethum i tra yr oeddych allan?"

"Wn i ddim wir."

"Dyfeisiwch."

"Fedra' i ddim—dywedwch chwi."

"Wel, mi roddais y Christmas Box gwerthfawrocaf yn yr holl fyd i Walter!"

"Haelionus iawn wir. Ond wyddwn i ddim o'r blaen eich bod yn feddiannol ar y peth mwyaf gwerthfawr yn y byd," meddai Gwen, dan chwerthin yn llawen.

"Fuasech chwi ddim yn dweyd hyny," meddai Walter, dan edrych mor dyner ag y medrai yn ei llygaid, "pe y gwybyddech beth oedd yr anrheg."

"Dichon hyny," meddai Gwen drachefn; "ond nid yw o bwys yn y byd genyf fi beth a roddodd, os yw wedi peidio ymadael a'i chwaer." Chwerthai'r eneth dlos drachefn.

"Ha, ha, ha! dyna'n union y peth yr wyf wedi ei roddi iddo. Rhoddais fy unig chwaer i fy mrawd mabwysiedig. Ai nid yw honyna yn rhodd werthfawr? Rhaid i ti gofio hyn pan ddeui'n fawr, Gwen, a pheidio syllu mewn serch hefo'r llygaid gleision yna ar neb ond Walter. Dyro dy law iddo, i ddangos dy gydsyniad, Gwen," dywedai Llewelyn.

"Mi a roddaf fy llaw yn rhwydd," ebe'r eneth; "ond cofiwch, nad wyf wrth hyny yn cydsynio. Ond yr wyf yn addaw ystyried y mater drosodd. Y mae arnaf ofn y bydd i mi gyfarfod â rhywun arall ag y gallaf ei garu'n well."

"Na! rhaid i chwi beidio meddwl am hyny," meddai Walter, dan gusanu ei bysedd meinwynion. "Y funud y bydd i mi gael ar ddeall fod fy anwyl Wen Parri wedi rhoddi ei chalon i arall heblaw fi, bydd fy nhynged wedi ei sefydlu am byth—fy nghalon wedi ei thori—fy oes wedi ei gwneyd yn wagnod dibwrpas a difudd yn ngraddfa bodolaeth plant dynion! chwi, Gwen, a fydd seren fy oes eich bresenoldeb chwi fydd y baradwys at ba un y rhodiaf —goleuni disglaer eich llygaid fydd colofn arweiniol fy nghamrau—swn eich llais fydd y miwsig y byddaf yn hiraethu am dano—y gobaith o feddiannu eich cariad fydd coron fy modolaeth!"

"Campus, Walter!" dywedai Llewelyn, "Yr ydych yn fwy hyawdl fel carwr o'r haner nag yn y Coleg. Gellwch garu gyd âg arddull Apollo, ac nid tebyg i'n dull diniwed, syml, ni, rhwng bryniau Cymru yma."

"Ha! deuparth yspryd y beirdd Ysgotaidd sydd wedi disgyn arnaf, fachgen—Burns a Byron—"atebai Walter."

"Ond dowch, fy anwyl Wen, cyfhyrddwch eich llaw âg allwedd y piano yna eto."

Nid oedd eisiau gofyn ddwywaith i Gwen chwareu—yr oedd yn rhy hoff o gerddoriaeth.

Wedi myned dros amryw o'i hoff alawon, hysbyswyd hwy fod y ciniaw yn barod. A chiniaw oedd, teilwng o giniaw dydd Nadolig yr hen amser gynt. Ond yr hyn oedd o fwy boddhâd i Lewelyn na'r holl seigiau o'i flaen, oedd gweled ei fam yn edrych arno mor garedig a maddeugar a phe buasai erioed heb droseddu yn ei herbyn. Bwytaodd y bechgyn gyd âg awchusrwydd rhai yn eu hoed hwy; a chafodd Walter brawf teg o garedigrwydd pobl bryniau Cymru.

Treuliwyd y gweddill o'r dydd mewn ymddiddan difyr, canu a chwareu; a phrin y gallesid meddwl fod yr un yspryd drwg erioed wedi cael dylanwad ar yr un o'r cwmni tangnefeddus.

Nodiadau

golygu