Llewelyn Parri (nofel)/Pennod XI
← Pennod X | Llewelyn Parri (nofel) gan Lewis William Lewis (Llew Llwyfo) |
Pennod XII → |
PENNOD XI.
GWELWYD Llewelyn Parri'n eistedd yn astud, unwaith, eto, yn swyddfa Mr. Powel. Ymroddai o ddifrif at ei ddyledswyddau. Daeth Mr. Powel i feddu mwy o ymddiried ynddo braidd nag o'r blaen—cyn ei gwymp diweddaf. Cynyddai'n rhyfeddol yn ei wybodaeth o'r gyfraith, nes gwneyd ei hun yn ddefnyddiol iawn i'w warcheidwad.
Wedi gorphen ei orchwylion yn y swyddfa, ei unig bleser yn y prydnawn fyddai brysio at Gwen—darllen llyfr bob yn ail pennod â hi—neu eistedd wrth ei hochr tra y chwareuai hi'r piano—neu fyned allan i rodio gyda hi. Yr oedd ef yn bob peth iddi hi, a hithau yn bob peth iddo yntau; a gwnelai'r ddau gwpan dedwyddwch yr hen bobl yn llawnach nag y bu erioed.
Aeth misoedd heibio felly. Rhoddodd y rhan fwyaf o hen gyfeillion Llewelyn Parri i fyny bob gobaith am ei weled yn dychwelyd atynt hwy, er's talm. Yr oedd rhai o honynt yn dra chenfigenus hefyd, ac yn ceisio cynllunio rhyw foddion i'w ddenu i'w rhwyd.
Nid oedd yn awr ond tri mis rhwng ein harwr a dyfod i'w gyflawn oed, pryd y byddai iddo ddyfod i feddiant o gyfoeth nid bychan. Y fath les y gall ef ei wneyd hefo'r cyfoeth hwnw, os bydd iddo fyw'n deilwng o'i fam!—y fath felldith y gall ef a'i eiddo fod i'r byd os bydd iddo anghofio cynghorion y ddynes dduwiol honno! Onid wyt braidd yn crynu mewn pryder, ddarllenydd, wrth fynod yn mlaen, a dyfalu pa fath ddyn y try Llewelyn allan ar ol dyfod i'w oed? Cei wybod cyn bo hir. Os oes genyt ryw fath o ymddiried yn niogelwch yr egwyddor o fyw'n gymedrol, yn awr fydd yr adeg i ti ddwyn dy opiniwn i'r prawf. Yr wyt yn myned i gael golwg ar ddyn ieuanc, wedi cael ei ddwyn i fyny gyda'r gofal mwyaf, gan un o'r mamau goreu a duwiolaf—un wedi cael perffaith brawf yn moreu ei oes o dwyll y byd a drygedd meddwdod—un yn gwybod ddarfod i'w hoffder ef o'r ddïod fod yn un achos i yru ei fam i'r bedd—un a wnaeth ammod o'r fath ddifrifolaf wrth erchwyn gwely ei anwyl fam na welid byth mono ef yn feddw drachefn—un yn y mwynad o bob manteision daearol, a chanddo chwaer braidd rhy rhy dda i'r ddaear hon, i'w charu a chael ei garu ganddi—cei olwg ar ddyn yn meddu yr holl fanteision hyn yn ymollwng ar fôr y byd yn nghwch cymedroldeb—cei wybod a oes ymddiried i'w roi yn yr egwyddor honno ai peidio. ****** Un prydnawn oer yn mis Rhagfyr, fe eisteddai dau ddyn ieuanc yn mharlwr y Castle Hotel. Dygwyd y ddau i fyny yn mysg y gymdeithas mwyaf boneddigaidd ag a allasai tref Gymreig o fath B{{bar|3} ei hyfforddio. Cawsant addysg dda hefyd; ac ystyrid hwy yn awr yn ddau ŵr ieuanc parchus. Y mae'r darllenydd wedi clywed enw un o honynt o'r blaen—William Vaughan, neu fel y gelwid ef gan ei rieni a'i gyfeillion agosaf—Bili Vaughan. Yr oedd Bili'n dra hoff o "sbri," fel y gŵyr y darllenydd; ond eto, nid oedd ef cyn waethed "yn y bôn” a rhai oi gyfeillion. Llanc go ddifeddwl oedd; ond credwn yn gryf fod ganddo egwyddor led lew, pe buasai wedi cael chwareu teg gan esiamplau drwg.
Y mae'n ddrwg genym nad oedd ei gyfaill y tro hwn cystal dyn ag ef. Un wedi ymwerthu i wasanaethu'r cnawd, ei wyniau a'i chwantau oedd hwn. Meddai eithaf ymddangosiad; ond calon ddrwg ofnadwy, oedd dan groen ei fynwes. Anhawdd fuasai cyfarfod â dyn harddach mewn rhai pethau; ond gresyn fod rhywbeth wedi gadael lliw cochddu ar ei drwyn, gwahanol i'r lliw hardd fydd yn cael ei adael gan awelon iach y boreu ar wyneb dyn sobr. Gellid tybied i'w lygaid fod yn leision unwaith; ond yn awr, y maent wedi troi i fath o liw llwyd. Wrth edrych ar ei law hefyd, tra yn estyn y gwydraid brandy yna at ei safn, braidd nad ellid tybied fod rhyw elyn wedi cael caniatâd i weithio 'i ffordd dan sylfeini'r tŷ o bridd, a'i fod yn ei dynu i lawr yn raddol; neu ynte paham y rhaid fod ei law yn crynu? Ofnai ei hen fodryb mai afiechyd oedd ar y Ilanc; ond ni thybiodd am foment mai afiechyd diod gadarn.
Ar ei fodryb yr oedd yn byw, a a dysgwyliai dy gael cyfoeth mawr ar ei hol, pan elai'r hen wrach allan o'r ffordd, i fysg y meirwon. Ac yna, addawai iddo 'i hun, fine life, chwedl yntau.
"Welsoch chi'rioed fel y mae Llewelyn Parri wedi altro ar ol marwolaeth ei fam?" ebe Bili Vaughan wrth ei gyfaill. Y mae'n actio'r sant byth er hyny mor berffaith a'r un pregethwr."
"Gadewch iddo—mae hyny'n eithaf i ddallu tipyn ar lygaid yr hen Bowel."
"Botheration! braidd nad wyf fi yn cenfigenu wrtho. Byddai Llewelyn yn arfer bod yn un o honom ni; ond yn awr, y mae wedi troi'n wrthgiliwr. Ond synwn i ddim nad yw yn llygad ei le er hyny."
"Yn llygad ei le! Ai peth yn ei le ydych chwi yn galw peth fel yna? O'm rhan fy hun, yr wyf yn tosturio dros y bachgen, ac yn bwriadu troi'n genadwr i geisio cael ganddo adael ei ffyrdd ynfyd, a dychwelyd at bleserau ei hen gyfeillion."
" Yr ydych yn bur hunanymwadol, yn siwr!"
"Hunanymwadol neu beidio," atebai Ffrederic Jones canys dyna oedd ei enw—"mae'n anghyson â fy nghredo fi edrych ar ddyn ieuanc o dalent mor gymdeithasgar yn difa 'i amser a'i dalent hefo pethau nad ydynt gymhwys ond i hen grystiau sychion o ddynion i'w cyflawni!"
"Ond yr wyf fi'n barnu fod Llewelyn Parri'n gwneyd gwell defnydd o'i dalent a'i amser na'r un o honom ni ein dau," meddai Bili.
"Wel, cymaint sydd genyf fi i'w ddweyd ar y pwnc yw, fy mod yn penderfynu ei dynu o'i lwybr presennol, pa un bynag ai fo ai fi sy'n iawn Fedraf fi ddim goddef edrych arno'n byw mor sanctaidd a hynyna, ychwaith."
"Beth gebystr sydd rhyngddo chwi âg ef? Nid ydych yn hoffi dim drwg iddo? O'm rhan fy hun, fynwn i ddim llawer niweidio blewyn o wallt ei ben."
"Pw lol—niweidio!—pwy sy'n meddwl am ei niweidio? 'Does dim byd rhyngwyf fi âg ef, ond fy mod yn grynsio na fuaswn i yn ei esgidiau ef. Dyna fo—bydd cyn pen tri mis yn un-ar-ugain oed, a daw holl gyfoeth ei dâd i'w feddiant yn un lwmp. Heblaw hyny, mae'r hen Bowel yn ymddangos mor hoff o hono fe, mae'n fwy na thebyg y bydd i'r hen law ei wneyd yn aer i'w eiddo yntau. Mae hyny'n eitha' da. Ond pan gofiaf fy mod i'n hongian wrth odreu culion rhyw hen wrach o fodryb grintachlyd, yr hon a all fyw mil o flynyddoedd eto i boeni fy enaid, a gwneyd fy mywyd yn fwndel o wermod i mi—y mae edrych ar Llewelyn Parri'n ormod i mi i'w ddal. Ac yr wyf yn yn penderfynu hefyd tori tipyn ar ei grib cyn bo hir."
"Y mynyd yma' roeddych yn son am fod yn gyson a'ch credo. Mi 'ch cynghorwn chwi hefyd i geisio cael gan eich geiriau fod yn gyson â'u gilydd. Dywedasoch nad ydych yn meddwl am niweidio Llewelyn Parri; a chyn gorphen eich stori, mynwch dyngu y torech dipyn ar ei grib!"
"Mi wnaf hyny hefyd, pa un bynag ai cysondeb ai anghysondeb fydd hyny!"
"Peidiwch bod yn ffwl! gadewch i'r llanc lonydd. Mae'n dda iawn genyf ei fod yn dod yn mlaen cystal, ac ni fynwn er llawer ei weled yn troi'n feddwyn yn ei ôl. Gall Llewelyn fod, cyn pen ychydig amser, yn ogoniant i'n tref, os parha i fyned yn mlaen am ychydig amser fel y mae'n myned yn awr."
"Aed yntau, ddywedaf fi. Ac ni hidiwn i ddim a rhoi pwl o dano fo i'w helpu i fyned i ben pinagl anrhydedd. Ond, cofiwch fy nghyfaill, y peth sydd yn fy ngolwg i yn awr yw hyn y mae pwrs Llewelyn yn drymach na'n pyrsau ni, pan mae ein hangenion ni'n llawn cymaint a'r eiddo ef."
"Gwir; ond ei eiddo cyfiawn ef yw ei bwrs a'r hyn oll sydd ynddo—eiddo wedi ei enill trwy flynyddoedd o ddyfalwch o ochr ei dad, ac megis wedi ei gysegru â gwaed calon yr anffodus Meredydd Parri. Braidd na ddywedwn wrthych mai gwerth gwaed ydynt!"
"Peidiwch ceisio codi ysbrydion i fy nychrynu oddi wrth fy mhlan. Y mae gan Llewelyn Parri fwy nag a wna'r tro iddo; ac waeth iddo ef dalu am ein diod a'n pleserau ni na rhywun arall—talu raid i rywun!"
"Haelionus iawn! Ond nid syniad sâl mo hwna, chwaith."
"Sâl! glywsoch chwi fi yn dweyd rhywbeth sâl erioed pan fyddai nodweddiad, pleser, ac anrhydedd fy nghyfeillion a fy hunan yn gofyn cymhorth fy nghynlluniau? A chyn wired ag fod arian yn anghenrheidiol tuag at gadw i fynu ein rhwysg a'n mwyniant, yr wyf yn sicr o gael gan Llewelyn Parri ddyfod yn mlaen i offrymu ei gyfran." A llyncai Ffrederic Jones ei wydraid brandi gyda golwg buddugoliaethus.
"Mae arnaf ofn eich bod yn addaw gormod, fy nghyfaill," meddai Bili. "Efallai nad ydych yn gwybod am adduned Llewelyn i'w fam ar ei gwely angau. A gwyddoch hefyd mai nid peth hawdd fyddai gwneyd ffwl o Llewelyn Parri os bydd yn sobr."
"Ond ei feddwi yw'r hyn sydd genyf fi mewn golwg. A pha mor gryf bynag y dichon ei adduned i'w fam fod, gwnaf iddo ei thori. Y mae gan y byw fwy o ddylanwad ar ddynion na'r marw. Dowch, llynewch y glasiad yna, ac mi a alwaf am un arall."
"Ac mi wnewch i Llewelyn Parri dalu am dano?"
"Pw! yr wyf yn sicr pan gawn Llewelyn i'n mysg, y bydd cystal genych chwi gael share o'r mwyniant a'r un o honom."
"Digon tebyg," meddai Bili. "Ond sut yr ydych yn bwriadu ei gael? Yr wyf fi wedi ei gyfarfod tua haner dwsin o weithiau yn ddiweddar, ac wedi methu bob tro cael ganddo droi gyda mi i gael glasiad."
"Ho! y mae genyf blan ag y bydd i mi fforffetio cymaint oll ag sydd ar fy helw os metha. Bydd Llewelyn Parri ar ei sbri cyn pen y pythefnos!"
Galwodd Ffrederic Jones am wydraid arall i bob un; yfodd y ddau lanc hwynt, ac ymadawsant â'u gilydd am y noson.