Llewelyn Parri (nofel)/Pennod XII

Pennod XI Llewelyn Parri (nofel)

gan Lewis William Lewis (Llew Llwyfo)

Pennod XIII

PENNOD XII.

DYCHWELAI Llewelyn Parri o'r wlad, un prydnawn, ar ol bod yn edrych tipyn o gwmpas y fferm Brynhyfryd—yr hon a ymddiriedid i hen was ffyddlon i deulu Llewelyn, i'w chadw a'i hymgeleddu, hyd nes y byddai ein harwr yn dymuno myned yno i fyw ei hunan. Cafodd ei gadw'n hwy nag y bwriadai, ac yr oedd wedi deg o'r gloch y nos cyn iddo ddychwelyd i'r dref. Yr oedd yn noson dywyll ac yn wlawog iawn. Cerddai Llewelyn at y tŷ yn gyflym, mewn awydd am beidio gadael i'w chwaer a'i warcheidwad fod mewn pryder yn ei gylch, wrth ei weled mor hir heb ddychwelyd.

Fel yr oedd yn troi o gwmpas congl yr heol a arweiniai at dŷ Mr. Powel, clywodd waedd, megys gwaedd merch. Rhedodd at y fan, a gwelai lances yn ymdrechu a dyn, yr hwn a geisiai ei gorthrechu. Teimlodd ein harwr ei waed yn berwi yn ei wythïenau o ddigofaint—rhuthrodd ar y cnaf, yr hwn, wrth ei weled, a dybiodd yn briodol gollwng ei afael o'i ysglyfaeth a gwneyd y goreu o'i draed. Oni ba'i iddo wneyd hyny, buasai wedi cael teimlo pwys dyrnod Llewelyn yn ei wneyd yn gydwastad â'r llawr. Neidiodd ein harwr at yr eneth, yr hon oedd wedi syrthio mewn llewyg. Cododd hi i fyny'n ebrwydd, ac wrth edrych ar ei gwyneb prydferth, yr hwn oedd yn gwisgo ymddangosiad o fraw mawr, yn ngoleu'r lamp, efe a lefodd,—

"Gwarchod pawb! Pwy a pha beth ydych? a sut y daethoch i'r trwbwl yma?"

Yr eneth ddychrynedig, yr hon erbyn hyn oedd yn dechreu dyfod ati ei hun o'r llewyg, a dorodd allan i wylo. Yn mhen ychydig fynydau, hi a ddywedodd,"Oh, syr, yn mh'le yr ydwyf?"

"Yr ydych yn ddiogel oddiwrth ychwaneg o greulondeb yn awr, pa fodd bynag," atebai Llewelyn.

"Oh fy mam!—fy mam!—cym'rwch fi adref at fy mam, neu mi fydd farw cyn i mi ei gweled!"

"Pwy yw eich mam? a pha fodd y daethoch i'r fan hon yr amser yma ar y nos?"

Ymdrechai'r llances drallodus gasglu ei meddyliau yn nghyd, a dywedodd,

"Daethum allan i chwilio am y doctor, i ddyfod at fy mam, a chyn gynted ag y daethum gyn belled a'r gongl yma, rhuthrodd rhyw ddyn ataf, yr hwn a wnaeth i mi gynygiadau anfoesol; ac o herwydd i mi ei wrthwynebu, ymosododd arnaf yn greulon. Oh, syr, cymerwch fi gartref—yr wyf yn teimlo fy hun bron a syrthio—a Duw a dalo i chwi!"

Toddodd calon Llewelyn o'i fewn o dosturi. Rhedodd ei feddwl yn ebrwydd at Gwen ei chwaer, gan ofyn iddo 'i hun, beth pe buasai rhywun yn gwneyd felly iddi hi. Aeth bron yn wallgof wrth feddwl am y fath dro cachgiaidd, annynol. Gofynodd i'r llances yn mha le yr oedd hi'n byw. Enwodd hitha ryw heol gefn yn nghanol y dref.

Cyrhaeddasant y man desgrifiedig. Safodd yr eneth gyferbyn a thŷ oedd yn ymddangos fel yn union o'r tu cefn i'r Blue Bell Tavern, lle yr ymgynullai yr hen gymdeithion meddw'n fynych i gydswpera. Gofynodd y llances iddo mewn llais addfwyn,

"Oh, dowch gyda mi i'r tŷ, rhag ofn fod fy mam wedi marw! Beth os yw wedi trengu tra yr oeddwn i allan? Oh, fy mam anwyl!"

"Raid i neb ofyn ddwywaith am i mi wneyd gweithred o drugaredd," ebe Llewelyn; ac aeth ar ei hol i fyny grisiau hirion, troellog, nes cyrhaedd rhyw ystafell. Synwyd y llanc yn aruthr pan gyrhaeddodd y fan. Dysgwyliodd weled ystafell ddigysur, ddiddodrefn, afiachus, gyda dynes sal, neu gorph trancedig ynddi. Ond yn lle hyny, ymddangosai pob peth o'i gylch yn gostfawr ac ardderchog; ac yn un pen i'r ystafell fe fe welai—nid dynes ar fin trengu—ond lliaws o foneddigion yn eistedd uwchben eu gwydrau gwirod yn llawn afiaeth a llawenydd.

Gyda 'i fod wedi rhoi ei draed yn y lle, diflannodd y llances allan o'i olwg, ac ni welodd mwy o honi.

Cafodd yr amgylchiad y fath effaith arno, nes ei wneyd yn analluog am ychydig fynydau, i adnabod neb o'r dynion lawen oedd o'i flaen, er eu bod oll wedi codi ar eu traed i'w groesawu.

"Pa beth yw hyn yr wyf yn ei glywed?" gofynai yn wyllt, pan anerchid ef gan ŵr y Blue Bell, yr hwn a ddywedodd,

"Croesaw, Mr. Llewelyn Parri! mae'n dda genyf eich gweled wedi taflu pruddglwyfedd o'r neilldu, a dyfod i edrych am eich hen gyfeillion. Dowch yn mlaen, ac eisteddwch i lawr."

Y cyntaf iddo 'i adnabod o'r cwmpeini ydoedd Walter M'c Intosh. Gafaelodd Walter yn ei law, a gofynodd iddo, "Pa fodd y bu hyn, frawd? dyfod yma yn nghwmni geneth ddrwg!"

"Wn i ddim—yr wyf yn wallgof!"

Edrychodd o'i gwmpas, ac adnabu'r cyfan. Yr oedd ei hen gymdeithion yno i gyd. Gwridodd mewn cywilydd, ac edrychodd am y drws i redeg allan yn ei ôl. Daeth yr holl wŷr ieuainc yn mlaen ato, gan feddwl ei dynu yn ôl; cymerodd dau neu dri afael ynddo, gan geisio ei lusgo at y bwrdd. Rhuthrodd y gwaed i wyneb ein harwr—pelydrai tân o'i lygaid bywiog—crychau ei dalcen mewn cynddaredd, a llefodd allan,—

"Foneddigion! yr wyf yn eich tynghedu i sefyll draw dan boen eich bywyd! Pwy bynag a gyfhyrddo â mi, bydd yn adyn marwol!"

Gwywai'r cwmpeini annewr dan effaith ei olwg a'i lais, a phan oedd yntau yn troi at y drws i fyned i ffordd, dywedodd Walter wrth y llanciau,

"Nid oedd yn iawn i chwi geisio 'i berswadio i aros heno, o herwydd digon tebyg iddo feddwl nad oedd neb yn yr ystafell pan ddaeth i fewn gyda'i fenyw." A chan droi at Llewelyn, ychwanegodd—"Mae arnoch gywilydd o'r cwmpeini a ddaeth gyda chwi i'r ystafell, Mr. Parri, onid oes?"

Gwyddai'r cnâf beth a wnaethai'r tro i gael gan Llewelyn droi yn ei ol. Rhoddodd winc ar Ffrederic Jones a Billi Vaughan i gario'r pwnc yn mlaen.

"Profodd eich cyfeilles yn anffyddlon i chwi'r tro yma," sylwai Ffrederic.

"Dewch i mi glywed tipyn o'ch helynt," meddai Bili. "Foneddigion!" llefai Llewelyn, a'i lygaid yn melltenu mewn cynddaredd wyllt—"nid wyf yn gwybod yn iawn pa beth i'w ddweyd na'i wneyd. Ond y mae arnaf ofn fod dichell yn hyn oll. Gwrandewch arnaf!"

"O gwnawn siwr," meddai'r cwmpeini. "Gosteg, tra bo Mr. Parri'n myned dros ei hanes!"

"Cym'rwch wydraid o frandi i ireiddio'r corn cyn dechreu ar y ddarlith," meddai Ffrederic Jones, gan estyn y gwirod iddo.

"Nid oes arnaf eisiau cynorthwy hwnyna i hyrwyddo fy ymadrodd," meddai Llewelyn; "ond rhag i chwi feddwl fy mod yn ffwl nac yn gachgi,———" cymerodd y gwydr o law ei faglwr, ac i lawr â'r brandi mewn amrantiad llygad.

Y foment y llyncodd ef y gwirod, rhuodd ei gydwybod daranau o gyhuddiadau o'i fewn, nes gwneyd iddo lefain yn eigion ing ei enaid, er y dichon na thorodd allan mewn geiriau,

"Dduw mawr! pa beth a wnaethum? A yw fy mam yn gweled hyn oll?"

Ond fe gymerodd Mr. Jones ddigon o ofal am wneyd y brandi'n ddigon cryf i'r dyben iddo godi i ben y llanc hyny yn gynt, a'i feddwi. Ni chafodd ei siomi yn ei amcan. Cyn pen y deng mynyd, yr oedd Llewelyn Parri wedi anghofio pob peth yn nghylch ei fywyd blaenorol—ei fam—ei addewid—ei chwaer—a'i benderfyniadau mynych i fyw'n sobr. Cododd y gwydraid cyntaf flys am un arall —ac un arall—ac felly yn mlaen, nes iddo feddwi. Galwodd Llewelyn am y fath gyflawnder o wirod i'r cymdeithion hefyd, nes iddynt hwythau oll fyned i'r un cyflwr ag yntau. Ni ymadawsant o'r ystafell tan y boreu.

Pan ddaeth y boreu, yn lle myned, gyda gwyneb euog, adref i dderbyn cerydd Mr. Powel a maddeuant Gwen, arosodd yn y dafarn. Tretiai bob un a ddeuai i fewn. Ac erbyn y nos, yr oedd prif feddwon y dref wedi ymgasglu o'i gwmpas, a phawb yn rafio mewn afiaeth.

****** Disgynai'r gwlaw'n llifogydd—codai'r gwynt yn groch—ac yr oedd y noson yn ddu ac yn dywell.

Eisteddai dynes druan wrth ochr bwrdd, oddi ar ba un yr oedd newydd roddi'r tamaid diweddaf o fara i'r plant, y rhai a edrychent megis wedi haner llewygu. Ehedodd y wreichionen olaf o dân oddi ar yr aelwyd, ac ymgrapiai'r plant o gwmpas y lludw, tra yr eisteddai'r baban ieuengaf, braidd wedi fferu, ar lîn ei fam.

Yr oedd y ganwyll ddimeu ddiweddaf yn y tŷ yn tynu at ddiwedd ei thymhor; a theyrnasai distawrwydd a phruddglwyfedd angau yn y tŷ.

Nid ymddangosai fod y fam yn cymeryd yr un sylw o'r plant, ond cauai ei llygaid, pwysai ei phen ar ei llaw, gyd a'i phenelin yn gorphwys ar y bwrdd, a suddai ei meddwl mewn adgof o'r pethau a fuont o'r blaen.

Portreadai o flaen llygaid ei meddwl ddyddiau dedwyddion ei hieuenctid—galwai i gof ei bywiogrwydd hoenus, ei chyfeillion a'i chyfeillesau llawen, a'i hymddiried trylwyr yn mhawb a phob peth. Cofiai am dynerwch ei gŵr tuag ati, pan ddechreuasant fyw hefo 'u gilydd; a chydmarai'r cyfan gyda 'i chyflwr torcalonus presennol.

Yr oedd yn awr yn yr wythfed flwyddyn o'i bywyd priodasol, ac yn y seithfed flwyddyn o'i hatebolrwydd pwysig fel mam. Aeth yr wyth mlynedd ymaith yn ei golwg, fel breuddwyd pan ddihuno un; a chyda hwy fe ddarfyddodd adlewyrchiadau diweddaf gobaith o fewn ei mynwes. Teimlai fod y wermod yn cael ei ychwanegu yn nghwpan ei bywyd yn barhaus, ac edrychai ar y dyfodiant gydag ias o arswyd.

Pa beth fu yr achos o hyn? Pa beth hefyd, heblaw yr hyn fu yn achos o braidd bob annedwyddwch yn mysg dynoliaeth wareiddiedig? MEDDWDOD. Cymerodd y cawr yma afael yn ei gŵr, a llusgai ef tua cholledigaeth gyda grymusder anorchfygadwy. Rhoddodd ei wraig i fyny bob gobaith am ei weled yn dychwelyd i'w hen lwybrau rhinweddol, a phrofi ei hunan byth mwyach yn ŵr gofalus ac yn dad tyner—tybiai—a thybiai'n gywir hefyd ei fod wedi myned yn rhy bell yn ffordd dystryw i allu dychwelyd.

Ond hi a gafodd afael ar obaith nad yw'n darfod gyda gobeithion daearol—parodd siomedigaethau'r bywyd hwn i'w meddwl chwilio am bethau ansiomadwy—pethau tragywyddol. Penderfynodd roi'r goreu am byth i'w brwydrau daearol; edrychodd tuhwnt i'r bedd; rhoddodd ei hymddiried yn Nuw, ac edrychai am orphwysdra yn unig yn y wlad lle y mae pob deigryn o ofid yn cael ei sychu oddiar bob grudd am byth, a llawenydd tragywyddol a digymysg yn cymeryd lle poen.

Parâai'r ystorm i ymgynddeiriogi oddiallan; daliai'r gwlaw i ymdywallt yn bistylloedd; rhuthrai'r gwynt mewn pwffiau ysgubawl trwy'r heolydd a'r ffyrdd; ac ymruthrai'r llifddyfroedd trwy'r cwteri tua'r afon islaw y dref gyda swn anferth. Ysgythrai'r gwynt yr hen ffenestr; curai'r gwlaw yn erbyn y gwydr gyda ffyrnigrwydd; yr oedd pob peth yn dywyll oddiallan, a phob peth yn bruddglwyfaidd oddifewn. Darfyddodd y ganwyll, ac nid oedd yno'r un wreichionen i daflu gradd o sirioldeb ar yr un gwrthddrych, na byw na marw. Neidiodd yr hogyn hynaf ar ei draed, a gwaeddodd,—

"Mam!"

Nid oedd yno lais na neb yn ateb. Dynesai'r hogyn ati; ond ni symudai hi mwy na phren; cymerodd y bachgen afael yn ei llaw—yr oedd honno gyn oered a rhew; crïai'r babi—ond ni wnai'r fam yr un sylw o hono.

Rhuthrodd yr hogyn hynaf allan i'r heol wag ac anial, a rhedodd yn erbyn y gwynt a'r gwlaw, heb sefyll moment yn unlle, nes cyrhaedd gyferbyn a'r Blue Bell. Gwyrodd dan y ffenestr i wrandaw, a chlywodd lais ei dad yn ymddyrchafu mewn crechwen uwchben ei ddïod! Yr oedd ef yn un o'r rhai a dretid gan Llewelyn, ac yn hynod fel meddwyn yn y dref. Yr oedd pob un yn yr ystafell yn feddw. Dewiswyd Llewelyn i fod yn gadeirydd ar y cyfarfod, a Rhydderch Pritchard—tad y bachgen yn is-gadeirydd.

Pan ddaeth yr hogyn bach i wrandaw dan y ffenestr, yr oedd Llewelyn Parri newydd ddarfod siarad ar ryw bwnc llwncdestunol; ac yr oedd yr is-gadeirydd yn difyru'r cwmpeini â chân. Curai'r cyfeillion y byrddau'n ddidrugaredd ar ol pob penill, i ddangos eu cymeradwyaeth.

Cyn iddo orphen y penill diweddaf, yr oedd bachgen truenus yr olwg yn sefyll wrth ei ochr. Dyryswyd y cerddor ar ei gân, trwy i'r bachgen waeddi arno,

"'Nhad, nhad! rhowch i ni damaid o fara! Y mae fy mam heb brofi yr un tamaid er ddoe! 'nhad, nhad! mae mam yn sal!—mae mam wedi————marw!

"Wedi marw!"

Gwnaeth y geiriau hyn i galon hyd yn oed y meddwyn gyffroi. Clowyd ei dafod cyn gorphen ei gân; cyfododd o'i gadair, ac ymlusgodd adref ryw lun.

Deffrôdd yr apeliad rywun arall hefyd, heblaw ef.

"Pa beth a glywais?" gofynai'r llanc meddw oedd yn y gadair ddwyfraich, iddo 'i hun. "Mam—mam wedi marw! Ydyw, mae fy mam inau wedi marw; a dyma finau yn awr yn sathru ei gair diweddaf wrth farw dan fy nhraed!"

Cyfododd yntau i fyned i rywle nas gwyddai i ba le. Ond efe a ddilynodd y dyn a'r hogyn.

Aeth y tri i'r tŷ annedwydd a ddesgrifiasom uchod. Oedd, yr oedd Margared druan wedi marw! Eisteddai'n union fel y gwelwyd hi ddiweddaf gan y bachgen, ond yr oedd yn oer a chyfflyd. Gorphenodd esgeulusdod a chreulondeb eu gwaith arni. Cafodd y diafl o Feddwdod un aberth arall i'w gell, ac nid annhebyg yw y caiff un arall eto yn fuan.

Aeth y tad annynol yn ol i'r dafarn i geisio boddi euogrwydd ei gydwybod mewn ychwaneg o ddïod. Rhoddodd ei feddwdod, a'r cyffro a achosodd marwolaeth ei wraig arno, dro dwbl cyflymach ar olwynion ei fywyd, a llusgodd ei hun at geulan y bedd cyn haner ei ddyddiau. Disgynodd i fewn yn feddwyn; ac ni welwyd mwy o hono!

Druain o'r plant! yr oedd yn edrych yn wgus arnynt hwy. Ond cymerodd y gyfraith ofal o honynt, a chawsant noddfa go lew yn y Tlotty. Gobeithio eu bod wedi cael eu cadw yno ddigon o hyd i fod dan ofal rhai eraill, hyd nes i DDIRWEST ddyfod i'r ardal; a gobeithio eu bod hwythau, yn ngrym yr adgof am ddyoddefiadau eu mam ac euogrwydd eu tad, wedi cofleidio'r moddion goreu a welodd y byd erioed er atal meddwdod—sef llwyrymwrthodiad.

Dygodd effeithiau'r gwlaw ar ei wyneb, ynghyd a'r olygfa echrydus a welodd Llewelyn, ef i gofio fod rhywrai —neu rhyw un o leiaf—yn poeni, os nad yn tori ei chalon, o'i achos ef. Cofiodd am Gwen. Aeth adref, sef i dŷ Mr. Powel.

Ni fu yn ngholwg ei warcheidwad na'i chwaer er's tridiau; ac nis gwyddai yn iawn pa fodd i'w gwynebu yn awr. Teimlai ei euogrwydd yn faich trwm, ac nis gwyddai pa fodd i gael ymwared o hono—pa un ai trwy fyned a chyfaddef ei fai, ynte trwy ddychwelyd i'r dafarn, "fel ci at ei chwydfa." Pa fodd bynag, yn mlaen yr aeth, a gwelwyd ef yn sefyll am fynyd o flaen y drws, cyn canu'r gloch.

Tarawai yr awrlais un-ar-ddeg. Yr oedd Mr. & Mrs. Powel newydd fyned i'w gwelyau, ac eisteddai Gwen ei hunan yn y parlwr, fel pe buasai rhywbeth yn dweyd wrthi am beidio myned. Canai'r gloch. Neidiodd yr eneth at y drws, a llamodd ei chalon o lawenydd wrth weled ei brawd.

"Oh, Llewelyn!" meddai—" a ddeuaist ti'n ol? Ofnais fy mod wedi dy golli am byth;" ac aeth ato gan feddwl ei gusanu. Gwelodd ei lygaid—aroglodd ei wynt—a neidiodd oddiwrtho drachefn fel pe neidr wedi ei phigo, a llefodd,"Llewelyn Parri!—yr ydych yn feddw!"

"Paid a gwirioni, Gwen," atebai yntau. "Dim o'r fath beth; ac yr wyf yn synu at eneth gall fel tydi yn meddwl peth mor wirion. Nid wyf yn feddw!"

Syrthiodd Gwen i lewyg, a chofodd ddyfod ati ei hun goreu gallai, gyda chynhorthwy dyn meddw.

Wedi cael adferiad o'i llewyg, hi a sefydlodd ei llygaid ar yr eiddo ei brawd, yn y cyfryw ddull difrifol a cheryddol na welodd ac na theimlodd ef erioed o'r blaen mo'i fath.

"Fy mrawd!" meddai, "yr wyt wedi tori dy addewid i fy mam—yr wyt wedi dibrisio ei chais olaf yr wyt wedi darostwng dy hun—wedi pechu braidd tuhwnt i edifeirwch —ac y mae arnaf ofn dy fod yn ddyn colledig! Oh, Llewelyn, wyddost ti beth yw'r hyn a wnaethost?"

"Mae'n debyg y gwn i," oedd yr ateb sarug. "Mi fu'm yn edrych tipyn o fy nghwmpas, gan fwynhau fy hun am dridiau; a phwy a faidd fy ngalw i gyfrif?"

Wylai'r eneth yn chwerw dost.

"Am ba beth yr wyt ti'n crio, Gwen?" gofynai'r meddwyn. "Fu'm i ddim yn meddwi fwy na thithau; ac os clywi di rywun yn dweyd hyny, rhaid i ti beidio 'i goelio. Yr wyf gyn sobred a sant."

"Oh, Llewelyn! Llewelyn! Ni feddyliais erioed y buasit yn troi allan fel hyn! Y mae fy nghysur wedi ei ddinystrio am byth. O, fy mam? cawn i ddyfod atoch chwi!"

Cychwynodd Llewelyn i fyned ati, i afael yn ei llaw, ond wrth fyned syrthiodd ar draws y gadair, ar ei ben i'r llawr; tarawodd yn ei godwm yn erbyn y bwrdd crwn, ar yr hwn yr oedd amryw lestri, a thaflwyd y rhein'y i lawr nes oeddynt yn ddrylliau man. Tybiodd Mr. Powel, wrth glywed y trwst, fod dynion drwg yn y tŷ—tarawodd ei lodrau am dano, ac aeth i lawr. Y peth cyntaf a welodd oedd, Llewelyn yn mesur y llawr, ac yn tyngu yn enbyd am na fedrai godi. Enynwyd tymher wyllt yr hen gyfreithiwr i'w heithafion—cyffröwyd ei holl ddigofaint—ysgyrnygai ei ddannedd, a chauai ei ddwrn. Yr oedd yn dda i'r bachgen meddw fod ei chwaer yn yr ystafell ar y pryd, neu fuasai dim ymddiried nad ymosodasai ei warcheidwad arno'n greulon.

Ond sefyll yn fud uwch ei ben a wnaeth yr hen ŵr. O'r diwedd, gwyrodd i gydio gafael yn ei goler. Cafodd olwg llawn ar ei wyneb hagr, meddw. Ailgynhyrfwyd ei ysbryd —dechreuodd lusgo'r llanc at y drws, a gwaith ychydig fynydau oedd ei daflu allan i'r heol, gyda rhoi rhybudd iddo am beidio byth tywyllu'r drws hwnw drachefn.

Pan oedd yn myned d i gloi'r drws ar ei ol, cydiodd Gwen afael yn ei fraich, a gofynodd iddo,

"Mr. Powel! nid ydych yn ystyried beth yr ydych yn ei wneuthur! Wyddoch chwi ddim mai fy mrawd yw?" "Gwn! A gwn hefyd nad yw'n deilwng o gael ei alw'n frawd i chwi!"

"Ond, fedraf fi ddim goddef edrych arno'n cael ei daflu allan, fel ci, i'r gwlaw a'r storm, i gymeryd ei siawns. Pa mor anfad bynag yw ei drosedd, yr wyf fi dan rwymau i'w garu; ac os oes modd ei achub, fy nyledswydd yw ceisio gwneyd!"

"Ei achub! Nid yw yn werth y drafferth. Os gallodd dori yr amod ddifrifolaf ag y gallasai dyn ei gwneyd, mewn gan lleied o amser, nid oes dim a all ei atal yn awr. Y mae eich cariad yn hollol ofer. Ddylech chwi ddim ei garu! Nid yw'n deilwng o hyd yn oed maddeuant!" Clôdd y drws, gan dynu Gwen at y tân; ac yna aeth i'w wely, ar ol dweyd wrthi am beidio meddwl mwy am y peth.

Cymerodd hithau ganwyllbren, a chychwynodd i'w gwely, gan dybied, fel Mr. Powel, nad oedd yr un a allai wneyd y fath watwaredd o addewid mor bwysig, yn haeddu ei chydymdeimlad na'i chariad; a bwriadai geisio anghofio'r fath adyn diymddiried am byth.

Ond fe 'i tarawyd megis gan daranfollt, gan rym geiriau diweddaf ei mam—"cerwch y naill y llall—byddwch ffyddlon ich gilydd!" Syrthiodd y ganwyllbren o'i llaw, a safai hithau yn y lle am fynyd fel delw. Yna dywedodd wrthi ei hun,

"Ha! y mae genyf finau amod i'w chadw cystal ag yntau; ac os na chadwaf hi, byddaf yn anffyddlon. Ond mi a'i cyflawnaf. Ni waeth pa mor isel mewn pechod yr â fy mrawd, bydd ei chwaer yn ffyddlon iddo. Glynaf wrtho trwy bob peth—maddeuaf iddo—caraf, a chyflawnaf ddyledswyddau eithaf cariad chwaer!" Gweddïodd am nerth i gyflawni ei dyledswydd, ac am arweiniad ac hyfforddiant pa fodd i fyned yn mlaen. Mewn gweddi, fe dywynodd pelydr o gysur i'w henaid cyfododd oddi ar ei gliniau yn grêf ei ffydd, ac yn ymroddgar ei meddwl.

Aeth i'w gwely, gan benderfynu gweithredu ar ran ei brawd bore dranoeth.

Nodiadau

golygu