Llio Plas y Nos/Y Llofrudd
← Stori Ivor | Llio Plas y Nos gan R Silyn Roberts |
Cwmwl yn Clirio → |
11
Y LLOFRUDD
Y NOSON honno, pan gyfarfu Ivor â Llio, tybiodd ei fod yn gweld cyfnewidiad er gwell ynddi. Ofnai, er hynny, ar y cyntaf, mai ei obaith hiraethlon oedd tad y syniad, ond, fel y parhâi i'w gwylio'n ofalus, gorfu arno gredu bod y cyfnewidiad yn ffaith. Ciliasai'r drem grwydrol, wyllt, ddychrynedig, bron yn gyfan gwbl o'i llygaid, ac yn ei hymddiddan nid oedd yn rhuthro oddi wrth un pwnc at un arall yn sydyn a direswm. Ar adegau hefyd, gwelai hi'n gwasgu ei hael â'i llaw fel pe bai'n ceisio cofio rhywbeth. A hwy'n difyr ymgomio, digwyddodd un peth a effeithiodd yn ddwfn ar Bonnard. Cyfeiriodd at Crutch fel "eich tad"; edrychodd arno mewn dryswch, ac ebr hi'n arafaidd:
"Does gen-i'r un tad, na neb yn perthyn yn unlle."
"Na," ebr yntau, "dydech-chi ddim yn unig; hefo pwy rydech-chi'n byw?
Crychodd hithau ei thalcen, a synfyfyriodd yn brudd.
"Rydw-i'n byw hefo fo," ebr hi; a rhedodd ias o gryndod trosti.
Ie," ebr Bonnard, "mae-o'n byw yn y tŷ yma- Ryder Crutch, ych tad."
"Nid y fo ydi. . ." atebodd hithau'n sydyn, a chwanegodd yn araf ac aneglur, "dydw-i ddim yn cofio."
Ceisiodd Bonnard ei chwestiyno ymhellach, ond y cwbl a wnâi oedd ysgwyd ei phen, a dweud â gwên drist, "Dydw-i ddim yn cofio." O'r diwedd, dododd ei phen prydferth ar ei ben ef, a sisialodd yn addfwyn: "Peidiwch â holi chwaneg; mae pethau'n mynd ar draws i gilydd yn 'y mhen i; chi, Ivor, ydi'r cwbwl sy arna-i eisio."
Cofleidiodd yntau hi'n dyner, ac ni chwanegodd boeni mwy arni'r noson honno. Ond fe ddarganfu un peth, sef, yr ystafell lle'r arferai Ryder Crutch eistedd. Cysgai, yn ôl pob tebyg, mewn ystafell arall; ond dywedodd Llio y byddai'n aml ar ei draed hyd oriau mân y bore, ac y cysgai weithiau yn ei gadair yn yr ystafell honno.
Fyddwch-chi'n i weld-o'n amal, Llio?"
Na fydda-i, wir; mae arna-i gymaint o'i ofn-o. Mi wyddoch pam.
Y noson honno, ymadawodd Bonnard â Llio'n gynharach nag arfer, gan adael iddi feddwl ei fod yn myned o'r tŷ. Ond wedi gadael ei hystafell hi, tynnodd ei lusern allan, goleuodd hi, a chyfeiriodd ei gamre ar hyd y fynedfa i ran arall o'r tŷ. Disgrifiasai Llio'r ffordd iddo, a dilynodd yntau hi heb fethu. Nid oedd erchylltra'r lle yn ymddangos yn cael effaith yn y byd arno; ni ddychrynid ef gan ridwst y llygod mawr, na chan ddolef annaearol y dylluan. Llosgid ei galon gan deimladau croes i'w gilydd—cariad at Llio, a chas at lofrudd ei fam; swynol ofid hiraethlon serch, a ffyrnig ddyhead am ddialedd. Ond ni ddaethai'r awr i ddial eto; a rhaid iddo heno oedd atal ei law.
Cyrhaeddodd yr ystafell, ac aros. Caeedig oedd y drws, heb sŵn nac oddi mewn nac oddi allan. Cerddasai Bonnard mor ddistaw ac mor ysgafn â chath. Edrychodd o'i gylch am le i ymguddio, pe deuai galw, a gwelodd yn sefyll wrth y mur lurig rhyfelwr o'r hen amserau gynt, digon mawr i guddio cawr o'i mewn. Ciliodd tu ôl iddi i wylio; a phenderfynodd aros yno'n ddistaw, mor amyneddgar ag yr erys y pwma am ei ysglyfaeth.
Aeth awr heibio, ond ni ddaeth neb o'r ystafell; aeth dwy a thair awr heibio, ond nid oedd trwst yn y lle. Meddyliodd Bonnard fod yn rhaid bod y wawr yn torri bellach, ond ni thorrai gwawr byth o fewn Plas y Nos, am fod caeadau ar yr holl ffenestri. Ust! Dyna drwst y tu arall i ddrws yr ystafell-trwst camau eiddil, araf a thrwm. Curai calon Bonnard yn gyflymach, a llithrodd ei law yn reddfol at ei lawddryll. Dyna'r drws yn agor yn araf, a golau gwan cannwyll yn llewychu drwyddo i'r fynedfa heibio i'r siwt lurig a guddiai berson Bonnard. Tu ôl i'r golau deuai corff y neb a'i cariai i'r golwg. Ai dyma Ryder Crutch? Hen greadur cul, gwargam, a hagr, tebycach i ryw ddrychiolaeth ddybryd nag i fod dynol. Ond, yn sicr ddigon, ar gig a gwaed, ac nid ar gysgod disylwedd, y gorffwysai trem ffyrnigwyllt Bonnard. Murmurai'r hen greadur wrtho'i hun, fel y llusgai'r naill droed heibio i'r llall; cariai'r gannwyll yn gam; a dangosai ei holl ystum, yn ogystal a'r llygaid a oedd wedi hanner sefyll yn ei ben, fod diod gadarn wedi hanner ei ddrysu. Dan ei dylanwad hi, anghofiodd y llofrudd, dros amser, y gwaed a dywalltasai; a rhoes iddo fath o wroldeb gau i wynebu dychryniadau cydwybod, a melltigaid atgofion Plas y Nos. Cerddodd Crutch ymlaen yn araf heibio i'r marchog arfog a safasai am flynyddoedd â breichiau estynedig ar y pared. Tu ôl i'r marchog safai Bonnard, a'i ddannedd wedi eu gwasgu'n dynion, a chilwg fygythiol yn ei lygaid golau dieithr, dialgar, marwol, a barai i'w wyneb ymddangos yn llwyd ac annaturiol. Dyma fel y gorchfygai'r dymuniad i ruthro ar ei elyn, a gwasgu ohono ei fywyd anfad.
Dan hercian ymlaen, ciliodd yr hen ŵr yn fuan o'r golwg, a gadawodd Bonnard ei ymguddfan yn ddistaw; aeth i mewn i'r ystafell a adawsai Crutch, ac archwiliodd hi'n ofalus. Nid oedd ynddi lawer o leoedd y gellid cuddio pethau ynddynt, a thynnodd yr hen gwpwrdd ei sylw ar unwaith.
Rhaid imi agor hwnna ryw noson," eb ef. Ond gwaith anodd a pheryglus ydoedd, ac yn gofyn arfau i'r pwrpas cyn y gellid ei wneud. Felly, gadawodd yr ystafell y noson honno, a chiliodd yn ôl at ystafell Llio. Diau ei bod hi, fun brydferth, ddiniwed, yn ei hystafell, a chwsg tawel fel cariad yn bwrw allan ofn o'i mynwes. Cerddodd Ivor, am hynny, yn ôl a blaen ar hyd y fynedfa ddigysur nes clywed cathl foreol yr adar yn y coed gerllaw, a gwybu wrth hynny dorri o'r wawr, a deffro o natur i lawenhau yn yr heulwen. Sylweddolodd hefyd nad oedd caddug du a phrudd Plas y Nos byth yn fwy diobaith nag ar doriad gwawr.