Beirdd a Llenorion Lloffion o'r Mynwentydd


golygwyd gan Thomas Rowland Roberts (Asaph)
Gwragedd


Beddergryff Gwyr.

MR. EDWARD MORRIS.

(Yn Mynwent Llangynog, Meirionydd.)


E. Morris yma wyrodd,—goleu sant,
Eglwys Iôn arweiniodd;
Taith addas trwy ras a rodd,
A Seion a leshäodd.




AR FEDD MEDDYG YN LLANRWST.

Hir goffeir y cyffyriau,—a roddes
I drueiniaid angau;
Ar ruddiau oedd yn pruddhau,
Rhoes wen ac ail rosynau.
—Trebor Mai.




Yn Mynwent LLANTYSILIO, Sir Ddinbych.

O! 'r diwyd athraw duwiol—y Suliau,
Noswyliodd byth bythol;
Tramwy o'i fyd naturiol
I fyd nef—ni fudai'n ol.




Yn Mynwent PENMORFA, Arfon.

John Llwyd osodwyd yn sadwedd—yma,
Mewn ammod i orwedd;
Eginyn o'r Maengwynedd
Hynod a fu—hwn ydi'i fedd.
—Sion Lleyn.




Yn Mynwent HENLLAN, Dinbych.

Fe dynodd fywyd uniawn,—hyd elor
Y daliodd yn ffyddlawn;
Gŵr Duw oedd, a gair da iawn
Gafodd, fel Iago gyfiawn.
—Gwilym Hiraethog.




MR. JOHN HUGHES, Tramroad Side, Pont-y-pridd.

(Gynt o Lanfair P. G., Mon.)

Dyn o ymroad—yn dwyn amrywiaeth
O ddoniau'i oes ydoedd John Hughes odiaeth,—
Oedd fardd a llenor o gryn ragoriaeth;
Ei droed âi'n hawdd hyd dir duwinyddiaeth;
A da y gwyddai ramadegyddiaeth;
Mwynhau bu degau drwy'i hen gym'dogaeth,
O'i addysg mewn ieithyddiaeth;—ah! frawd gwir
'E gaiff fywyd hir i'w goffadwriaeth.
—Dewi Wyn o Esyllt.




HUGH EVANS, Meillionen.

(Yn Mynwent Beddgelert, Arfon.)

Ow! huno porth anghenawg!—ow! nosi
Cymwynaswr enwawg;
A mudo iawn gymydawg,
Ail i'r hwn ni welir rhawg.

Yn Llenyrch na Meillionen, —ni welir
Ail i Hugh mewn angen;
Yn gymhorth, yn borth, yn ben,
Hael oeswr am elusen.
—Ellis Owen, Cefnymeusydd.




Ar fedd JOHN 'STUMLLYN.

Yn Mynwent Ynyscynhaiarn, Eifionydd.)

Yn'r India gyna'm ganwyd,—a' nghamrau,
Y' Nghymru'm bedyddiwyd;
Wele'r fan dan lechan lwyd,
Da oeraidd y'm daiarwyd.
—Dafydd Sion Siams.




MR. JOHN JONES, Pontfaen, Penmorfa.

(Athraw Plant yn yr Ysgol Sul)

.

Athraw da, a thra diwyd,—a fu Sion
Efo'i swydd yn hyfryd;
Ei blant ydoedd gant i gyd—
Y goreu ro'ed mewn gweryd.
—Ellis Owen, Cefnymeusydd.




Yn LLANGERNYW, sir Ddinbych.

Wel, ffarwel i hoff wron,—gorwyd,
A garai ein calon;
Yr hen dad o ddifrad fron,
O hoff eiddlwys fu'n ffyddlon.
—Hywel Cernyw.




MR. GRIFFITH, Dinbych.

(Tad Clwydfardd.)

Ai yn y bedd hwn y byddi—yn unig?
Mae'n anhawdd dy golli;
Ar ei lán oer wylwn ni,
Ar dy ol ffrydiau heli.

Y llaw enwog fu'n llunio—cywreinwaith,
Ceir hon wedi gwywo;
Dengys ei fedd, anedd o,
Athrylith wedi ei threulio.
—Caledfryn.




JOHN JONES, Glangwynant.

Gwel unig annedd John Jones, Glangwynant,
Hen flaenor duwiol o oesol lesiant;
Am waith ei Arglwydd mewn uchel lwyddiant
Bu'n hir ofalu—bu'n ŵr o foliant;
Fel enwog swyddog a sant—bu'n gweithio
Yn ddyfal erddo drwy ddwyfol urddiant.
—Ioan Madog.




Bedd ALAWYDD MENAI.

Tarian cerdd cyn tranc gwawrddydd—ei einioes
Hunai yr Alawydd;
Trwy ein gwlad rhîn ei glodydd
Tra Menai fad, tra Môn, fydd.
—Eidiol Môn.




Bedd DR. HUGHES, Llanrwst.

I'w fedd anrhydedd fyddo—sidan-wellt,
Ymestynwch drosto;
Awelon, dowch i wylo,
I'r fan wael, er ei fwyn o.
—Trebor Mai.




Bedd DR. ROBERTS, Conglywal, Ffestiniog.

Dyn gwlad ro'ed yma dan glo,—lluoedd
A wellhâwyd ganddo;
Ond, er hyn, â'r fedr hono
Gwella'i hun nis gallai o!
—Alavon.




Yn LLANGERNYW, Sir Ddinbych.

Am hen gyfaill mwyn gofir,—yn ei fedd,
Gruffydd Ifan gywir;
Ar ei ol ef yr ŵylir
Mewn serch, gwneir amser hir.
—Glan Collen.




Yn LLANUWCHLYN, Meirion.

Wele fedd gwr rhinweddol,—a didwyll
Gredadyn gobeithiol;
Dydd brawd i'w wedd briodol,
Duw Nêr a'i cyfyd e'n ol.
—Meurig Ebrill.




Yn Mynwent TALYBONT, Meirion.

Man hyn rhoed mewn anrhydedd—o'r Tyhen,
Wr tyner i orwedd;
'E bery ei enw a'i bur rinwedd
Fwy'n y byd na'i faen bedd.
—Trebor Mai.




GEORGE CASSON, Ysw., Blaenyddol.

Doeth a da wladwr, fendithiai d'lodion,
A'u nawdd a'u cysur mewn ing oedd Casson;
Pob cŵyn chwiliai, dilëai ddadleuon;
Hedd fu dywenydd ei fywyd union,
Drwy ein holl frodir fe welir olion
Ei law ddaionus ar lu o ddynion;
Am ei lês saif melus sôn—gan filoedd
Tra berwo'n moroedd, tra bryniau Meirion.
—Ioan Madog.




Tad Y PARCH. T. ROBERTS, Newmarket.

Ei benaf hoffder beunydd—oedd enaid
Barddoniaeth a chrefydd;
I rai bach, dan y gro, bydd,
Chwith roi'r fath wych athrawydd.
—Caledfryn.




MR. DAVID WILLIAMS, Llidiart Gwenyn,

Bethesda, Arfon.

Dan ergydion er gwaedu—o Ddewi,
Ca'i ddianc rhag trengu,
Yn y "gwaith" dair gwaith,—drwy gu
Ddawn y gŵr oedd yn garu.

Ond, Ow! wron duwiol—ni ddiangai
Yn myd ingoedd marwol,
Damwain a fu'n godymol
I'w oes wan! mae'n nos o'i ôl !
—Eifionydd.




Yn Mynwent TALYBONT, Meirion.

Yn nhŷ'r Iôn, hen arweinydd—gwrol oedd,
Garai lwyddiant crefydd;
Rhyw swyn fawr i Sion fydd
Yn ngwerydd ei chynghorydd.

Isod mewn bedd gorphwysa,—Lloyd anwyl,
Ni chyll d'enw yma;
Eithr o dy ol, athraw da,
Hen ac ifanc a'th gofia.
—Trebor Mai.




DIC ABERDARON.

(Yn Mynwent Eglwys isaf, Llanelwy.)

Ieithydd uwch ieithwyr wythwaith,—gwir ydoedd,
Geiriadur pob talaeth;
Aeth angau â'i bymthengiaith,
Obry, 'n awr, heb yr un iaith.
—Ellis Owen, Cefnymaesydd.




MR. O. BARLWYD JONES, Ffestiniog.

Dyna Barlwyd o dan berlau―y gwlith
A gwlaw ein teimladau;
Un gwell ni chafodd ei gau
Yn nyffryndir hen ffrindiau.
—Ceiriog.




Beddargraff MORWR.

Dyma weryd y morwr,—o gyrhaedd
Gerwin fôr a'i ddwndwr;
Ei dderbyn ga'dd i harbwr
Heb dón ar wyneb y dw'r!
—Tudno.




Yn Mynwent TALYBONT, Meirion.

Mae Ellis, o'i drwm waeledd,—wedi myn'd
I mewn i dangnefedd;
Rhodio wnaeth i anrhydedd,
A cha' barch yn llwch y bedd.




BEDDARGRAFF Y CRISTION.

Os tan y gist mae'r Cristion,—ei ddu fedd
Sydd fel mânblu'n union;
Mae rhyw fwynhad mawr fan hon,
Yn nghlyw su engyl Sïon.
—Trebor Mai.




MR. EDWARD JONES.

(Yn Mynwent Penmachno.)

Dyma dŷ Edward! mud ydyw!—mewn llwch
Mae'n llechu'n mysg amryw:
A'r peth sy'n rhyfedd heddyw—
Efe'n ei fedd, a fi'n fyw.
—Owen Gethin Jones.




BEDDARGRAFF MYFYRIWR.

Ei ddiwedd oedd i Ioan—yn fwy'i nôd
Na'i fynediad allan:
Molianai ac eiliai gân.
Yng nghanol angeu'i hunan.
—Trebor Mai.




MR. THOMAS TUDOR, Glyn.

Yn ffyddlon i'r Iôn a ranodd—y gras,
Yn gu, yn addas y gweinyddodd
Tudur, nes ymddatododd, a'i yspryd
Yn ddir aeth i fyd sydd wrth ei fodd.
—Cynddelw.




Yn Mynwent TALYBONT, Meirion.

Is twyn, gŵr addfwyn gwareiddfoes —orwedd
I aros ail einioes;
Mae ei enaid canaid cu
Yn nghôl Iesu'n angel eisioes.
—Ioan Pedr.

Fan yma huna un hynod—ei barch,
A rhoed y byd fawrglod
Uwch ei fedd, gyda chôf fod
Gŵr Iesu'n y gro isod.
—Derfel.




BEDDARGRAFF DYN IEUANGC.

Wele orweddle ireiddlanc,—daear
Yw diwedd dyn ieuanc;
Pob hoenus, olygus lanc,
Yno ddaw, ac ni ddianc.
—Robin Ddu o Feirion.




Bedd Mr. EVAN EVANS, Tanygraig, Porthdinorwig.

Ei enw fydd fyw pan f'o—y gareg
A'i geiriau'n malurio:
Cyfaddas faen côf iddo
Gerfiodd ei hardd grefydd o.
—Meigant.




Mr. JOHN EVANS, Farrier, Pentrefelin, ger Porthmadog.

Yn ben Mil-feddyg buʼn mawl ei foddion,
Yn rho'i o'i brifwaith gelfyddgar brofion,—
A'i lês i'w wlad drwy ei fâd ymdrafodion
Gododd ei enw i serch ei gyd-ddynion;—
A ffyddlawn ro'es ei hir einioes union
I waith ei Iesu, bu'n nerth i'w weision:
O'r byd aeth yn ngherbyd Iôn,—a geiriau
Y nefoedd olau'n lloni'i feddylion.
—Ioan Madog.




Bedd MR. JOHN ROBERTS, Albert House, Llanrwst

Grist Eneiniog! rho'ist hwn ini—yn gerddor
Wnai i gyrddau’i hoffi:
Gelwaist e'n ôl i'th foli
Yn iaith y nef! a thawn ni'!
—I. D. Conwy.




Ar Fedd Gŵr IEUANC yn Llanbeblig.

Ai mewn âr yma yn wyw—y gorwedd
Blaguryn o'i gyfryw?
Ar lán ei fedd, hyd heddyw,
Amheu yr y'm ai marw yw.
—Caledfryn.




DAU FRAWD.

Yn llygredd y bedd oer bant,—y ddeufrawd
Pur ddwyfron gydhunant;
At Iesu gwyn cyd-esgynant
I hedd uwch sêr, yn ddau iach sant.
—Cynddelw.




MR. WILLIAM ROBERTS, Peniel House, Llan, Ffestiniog.

Oer fedd gŵr ifanc, tirf oedd, a'i grefydd
O dyner deimlad, dianair Demlydd;
Hwn gynar hunodd yn gân arweinydd,
A llenor gonest, llawn o îr gynydd;
Yn awdwr a thôn-nodydd,—athraw mâd,
Drwy'i oes a'i rodiad dros ei Waredydd.
—Alwenydd.




MR. WILLIAM WILLIAMS, Foundry, Llangefni.

Gwel yma wely Gwilym hael galon,
Ewyllysiai gysur a lles gweision,
Gŵr duwiol ydoedd garai dylodion;
Ei grefydd gyfa gerfiodd ei gofion
Byth—gynes yn mynwes Môn,—a'i daear
Helltir â galar yr holl drigolion.
—Tudno.




MR. WILLIAM JONES, Felinheli.

Un ôd o ffyddlawn ydoedd yn ei daith,
Hyd eitha'i alluoedd;
Un a'i afael am nefoedd,
Ac o galon union oedd.
—Cynddelw.




Ar Fedd yn Mynwent LLANDYSUL, Ceredigion.

Gwrandewch, er gwychder eich gwedd,—ar fy ôl,
I ryw fan, mewn llygredd;
Y deuwch, dyna'ch diwedd;
Chwi y byw, cofiwch y bedd.
—Bardd Horeb.




MR. ROBERT JONES, Bryngwdion.

Hynaws amaethwr mewn esmwythyd—oedd
Bu iddo blant diwyd;
A chaffai barch hoff y byd,
Da'i air fu drwy ei fywyd.
—Eben Fardd.




DYN IEUANC.

Amnaid Iôn, mewn munud awr,—agora
Gaerydd y daiar—lawr;
Daw eilwaith o lwch dulawr,
O farw'n fyw, i'r farn fawr.
—Caledfryn.




MR. WILLIAM JONES, Brithdir, Glynceiriog.

Yn yr unig oer anedd,—yn welw,
Mae William mewn llygredd;
Y gareg uwch lle mae'n gorwedd,
A dystia'i fod mewn dystaw fedd.
—Cynddelw.




Ar Fedd DAU FRAWD IEUAINC.

Boreu anwyl, ond bér einioes—ydoedd
I'r brodyr gwareiddfoes;
O glyw'r byd ynfyd anfoes
Marw hwy yn moreu eu hoes.

Er cael yn dra gwael eu gwedd—man yma
Mewn anmharch gydorwedd,
Yn wiwlon cânt heb waeledd
Gyda'r byd godi o'r bedd.
—Bardd Horeb.




MR. JOHN ROBERTS, Dinbych, y Cantor.

Hyd lán y bedd dilynodd yr Iesu,
A'i ras a ganmolodd;
Yna'i enaid, pan hunodd,
Aeth i fyd sydd wrth ei fodd.
—Caledfryn.




GŴR IEUANC.

Na Gruffydd nid oedd gŵr hoffach,—na brawd
O bur rodiad glanach;
Ond o'i fedd, 'mhen enyd fach,
E' ddaw 'nol fyrdd anwylach.
—Cynddelw.




MR. WILLIAM OWEN, Tremadog, Eifionydd.

Am ein mwyn William mae'r wlad mewn alaeth;
Rhoddai'i iawn haeledd fri i'r ddynoliaeth;
Bu'n para i arwain meibion peroriaeth,
A'i gôr hudolus enwogai'r dalaeth;
Ac ôl ei addysg helaeth—fydd eto,
Yn fawl llawn iddo tra fo llenyddiaeth.
—Ioan Madog.




SION DAFYDD, gynt o'r Tai Hirion.

Palas yn nheyrnas nef—a obeithiwn
Byth yw ei gartref;
Dedwyddwch, wedi dioddef,
O wên Duw, i'w enaid ef.
—Eben Fardd.




JONATHAN HUGHES.

(Yn Mynwent Llangollen, swydd Dinbych;
bu farw Tach. 25ain, 1805, yn 84 mlwydd oed.)

Am ddawnus gofus gyfan,—wir sylwad
A'r sylwedd ddoeth gynghan,
Odid fawr yn llawr un Llan
Byth nythu bath Jonathan.
—Twm o'r Nant.




DAFYDD JONES, Blaenor gyda'r T.C. yn Bettws-y-coed.

Gŵr astud, a gwir Gristion,—oedd Dafydd,
Difwlch flaenor ffyddlon;
Un wrth raid, yn nerth yr Iôn,
I lesâu teulu Sion.
—Emrys.




ROBERT DAFYDD, Tyddyn Ruffydd, Brynengan.

Nodedig ei ddawn nid ydoedd;—er hynny
Rhannodd fara'r nefoedd,
O'i law aur i laweroedd;
Offeryn Duw a'i ffrynd oedd.
—Eben Fardd.




MR. ELLIS O. ELLIS, Bryncoch.

Ow! dan oer leni rhoed iawn arlunydd,
Nas bu ei lawnach o ddawn ysblenydd;
Un â'i heirdd luniau roddai lawenydd
I'w wlad a'i genedl wrth wel'd ei gynydd;
A'i "Oriel" anhefelydd a geidw
Glod ei fyw enw tra gwlad Eifionydd.
—Ioan Madog.




R. WILSON, y Darluniedydd Arbeiawl.

Athrylith uthr a welwyd—yn Wilson,
Mewn haulserch, heb ddrygnwyd;
Ond tra'n fyw, gan afryw nwyd,
Haul ei oes a wael lyswyd.

Lluniedydd oedd allai nodi—natur,
A'i hynotaf deithi;
Gwenau pefr ei gwyneb hi
A wir luniodd ar leni.
—Cynddelw.




MR. JOHN JONES, Hendre Mawr.

(Yn Mynwent Talybont, ger y Bala.)


Ein hoeswr hynawsedd—o'r Hendre Mawr,
Dröai'n mhob rhinwedd;
Enw da hwn a'i duedd,
Wnaiff i fyd hoffi ei fedd.
—Dewi Havhesp.




Ar Fedd MORWR, yn Llanenddwyn, Meirion.

Trafaeliais trwy orfoledd—yr India,
A'i randir y llynedd;
Eleni mewn gwael annedd,
Ym mîn môr, yma'n y medd.

Och! angau trwm, trwm bob tro,—pa ddewin,
Pwy a ddiangc rhagddo;
Nid oes i'w gael er ffael ffo,
Llwch Enddwyn llechai ynddo.




Yn Mynwent LLANDDERFEL, Meirion.

Yma gorwedda gŵr addfwyn,—a mâd
Gymydog da'i ymddwyn;
Priod a thad mâd a mwyn
O reddf, a gwladwr addfwyn.
—Cynddelw.




MR. ROBERT WILLIAMS, Cilfoden, Llanllechid.

(Cantor rhagorol.)

Gwyddai fiwsig difaswedd,—dyn ieuangc
Dan iau moes a rhinwedd;
Ond garw yn fud y gorwedd;
Y dawn a baid yn y bedd.
—Eben Fardd.




MR. ROBERT HUMPHREYS.

(Yr hwn a fu am flynyddau yn arweinydd o Lanberis i'r Wyddfa.)

Arweinydd da'i ddydd oedd ef—i'r Wyddfa,
Wr addfwyn llawn tangnef;
Hoffodd Grist, ac yn ei ffydd gref
Arweiniwyd yntau i'r Wiwnef.
—Ioan Madog.




MR. JOHN JONES, Ty llwyd, ger y Bala.

(Yn Mynwent Talybont, Meirion.)

Ein hen seraph, John Jones, orwedd—fan hyn,
I fwynhau tangnefedd;
Rhowch wên goruwch ei anedd,
Gŵr Duw fu o'i gryd i'w fedd.




Gŵr Ieuanc duwiol o'r enw ROBERT ROBERTS.

Wele'i fedd, ynghanol ei fan;—caled
Oedd cilio yrwan;
Ond o'i oer le daw i'r lan
I fywyd gwell yn fuan.

Yn ddyn ifangc o ddawn nefol,—goleu,
Gwylaidd a gobeithiol;
Fe adawodd gof duwiol
O'i fawr rin, yn fyw ar ol.
—Eben Fardd.




MR. DAVID DAVIES, (Eos Derfel,) Llandderfel.

'Roedd mwy na’i lon'd o uniondeb—a byw wnaeth
Heb wneyd anghywirdeb,
Na thaenu, dan rith wyneb,
Anghyfiawn air yn nghefn neb.
—Dewi Havhesp.




MR. WILLIAM FOULK.

(Dechreuwr Canu yn Nghapel Tremadog.)


Gwely 'i serch oedd Eglwys Iôn—a'i fwyn lais
Fu'n wledd i blant Sion;
Heddyw ei bêr dyner dôn
Sy'n felus i nefolion.
—Ioan Madog.




EDWARD JONES, Torwr Beddau.

(Yn Mynwent Llandderfel, Meirion.)


Dyma fedd torwr beddau—dyn di roch,
Diwyd iawn drwy'i ddyddiau,
A gwên bob amser yn gwau,
Wr hynaws, ar ei enau.
—Dewi Havhesp.




D. R. PUGHE, Ysw., Frondirion.

Aeth yn glaf, a thyna glo—ar y byd!
I'r bedd bu raid cilio;
Ein coffhâd, er hyn, caiff o;
Gŵr da oedd,—gair da iddo.
—Eben Fardd.




Yn Mynwent BETTWSYCOED.

Yn ieuanc iawn i ddidranc hedd—galwyd
Gwilym lân ei fuchedd;
A thrwy hyny daeth Rhinwedd
Yn falch i arddel ei fedd.




MR. JOHN JAMES, Pilot, Borthygest, Porthmadog.

Dyma fedd dyn da, diwyd—hir hwyliodd
Drwy'r heli terfysglyd;
Uniawn fu'n nawn ei fywyd
Yn rhoi 'i holl bwys ar well byd.
—Ioan Madog.




BEDDARGRAFF MORWR IEUANC.

Diangodd o'r môr am weryd—lawr oer;
A thaflai 'r un enyd,
Angor i fôr yr ail fyd—
I ddwfr y porthladd hyfryd.
—Dewi Arfon.




MR. HUMPHREY THOMAS, Berth, ger y Bala.

(Cerfiwr gwych ar geryg beddau; yn Mynwent Talybont, Meirion.)

Hebryngwyd i lwybr ango'y dalent
A'r dwylaw fu'n cerfio;
A'i wir barch a ddeil tra bo'
Haul anian yn olwyno.
—Dewi Havhesp.




MR. THOMAS PRITCHARD, Penrhyndeudraeth.

Am Thomas anwyl, dyn gwyl, hael galon,
Hiraethus awel leinw byrth Seion;—
Ei rin oedd enwawg, rhoi'i nawdd i weinion,
Ei fynwes gynhes a doddai gŵynion;
A'i fawl sydd gennym fel swyddog union
A thad, y'nghariad ei fwyn gynghorion;
Urddas, a gwir addysg Iôn,—yn gywir
Trwy'i fywyd welir tra fo duwiolion.
—Ioan Madog.




MR. MORYS HUGHES, Cwmcoryn.

Morys a'i felus foliant—a gariwyd
I fôr y gogoniant;
A dyma lle seinia'r sant
Emyn nefol mewn nwyfiant.
—Eben Fardd.




GWR IEUANGC DUWIOL.

Llaw ieuanc i Dduw'r lluoedd—a ro'es ef,—
Rhyw sant disglaer ydoedd;
Ei siwrnai fer, os ofer oedd,
Siwrnai ofer sy' i'r nefoedd!
—Trebor Mai.




NATHANIEL NATHANIEL, Alltwen, Morganwg.

Nathaniel ei ran anfarwol sydd
Fan yma'n tawel orphwys;
Tra'i yspryd wedi myn'd yn rhydd
I rodio yn mharadwys;
Ei fywyd gloyw'n ngwinllan nef,
A wnai'r Alltwen yn wenach;
A hyn wna'r côf am dano ef
I ninnau yn anwylach.
—Tawenfryn.




MR. SIMON JONES, o'r Bala.

Ow! dyhidlwyd hyawdledd—yn symud
Simon Jones i'r ceufedd;
Gwanwyd Rhyddfrydiaeth Gwynedd,
Rhoed Gwyddfa'r Bala'n y bedd.

Hyf, ëon gawr, safai'n g'oedd—a'i saeth ar
Drais a thwyll yr orsedd;
Dyn i'w wlad, doniol ydoedd,
Ac yn mhob rhan campwr oedd.
—Dewi Havhesp.




GWR IEUANC.

(A fu farw yn fuan ar ol ei fedyddio.)


O fad ddwys fedydd Iesu—y codais,
Er cael cydryfelu;
Ond caf, pan godaf yn gu
Tro nesaf, gyd—deyrnasu.
—Cynddelw.




GWR IEUANC o Leyn.

Ni ddeil nerth na phrydferthwch—i dynged
Angeu didynerwch;
Os daw'r llangc i isder llwch,
Anurddir yno'i harddwch.
—Eben Fardd.




AR FEDD GWR IEUANC.

Un gwridawg a dengar ydoedd—William
Y'ngolwg llaweroedd;
O fore' i daith ei fryd oedd
Yn ifanc ar y nefoedd.
—Hwfa Môn.




CRISTION DYFAL.

Yn dawel iawn a diwyd—heb ei ail
Bu ef yn ei fywyd
Mawr ofal gym'rai hefyd,
A llwyr boen er gwella'r byd.
—Caledfryn.




Capt. JOHN EDWARDS, Porthmadog.

Oh! am ein Edwards, oedd ddyn mwyn odiaeth,
Yma yr erys cŵyn a mawr hiraeth;
Am rinwedd uchel ei synwyr helaeth
Ei enw teilwng a barcha'n talaeth;
Ar y môr heli 'n ngrym ei reolaeth,
Bu'n Llywydd cyflawn drwy iawn ymdriniaeth;
I oer dir y beddrod aeth—priod mâd,
A dyn i'w alwad yn llawn dynoliaeth.
—Ioan Madog.




MR. EVAN EVANS.

(Diacon gyda'r M.C. yn Nghorwen.)


Ei weision a fyn Iesu—atto'i hun,
Mintai hardd ei deulu;
O'r fonwent oer i fynu
Evans gŵyd i'w fynwes gu.
—Eben Fardd.




Ar fedd MR. JOHN JONES, ieu., Ty Capel, Nebo.

Yr hwn oedd yn nodedig am ei ddawn gerddorol. Cyfarfyddodd â damwain
angeuol yr. Staffordshire, y 9fed o Orphenaf 1870, pan yn ei
28ain ml. oed, a chladdwyd ef yn Mynwent Llanwenllwyfo, Mon.

Awdwr a cherddor odiaeth—a llawnaf
Ddarllenwr cerddoriaeth;
Nodau a threfn caniadaeth
A'u dull yn iawn deall wnaeth.
—H. Jones, Rhosybol.

Pur eiriau a sain peroriaeth—ganai
Yn geinwych, swyn odiaeth,
A medrai iawn drin mydraeth
Gwiw gerdd y gynghanedd gaeth.
—Philotechnus.




Mr. J. R. JONES, Ramoth.

O'r gro pan ddeua ryw ddydd,—gyda'r Oen,
Caiff gadw'r wyl dragywydd;
Ail einioes o lawenydd,
A hir saif i'w aros sydd.
—R. Ab G. Ddu o Eifion.




Mr. J. GRIFFITHS, Tyddyn Seion.

Gŵr hoffus oedd John Gruffydd,—credadyn
Cry' didwyll ei grefydd;
Un gafodd grêd a bedydd
O eigion ffynon y ffydd.
—Cynddelw.




Mr. RICHARD WILSON, R.A., (Yr Arlunydd.)

O foreu ei yrfa eirian—rho'i oleu
Ei athrylith allan,—
Darluniai, dilynai'n lân
I'r linell ar oll anian.

Yn llaw ei oes bu'n llesol,—dyg iddi
Dêg addysg gelfyddol;
A'i gywir waith geir o'i ôl
A syna'r oes bresenol.
—Ioan Madog.




MR. ROBERT LEWIS, Penygroes, Penrhyndeudraeth.

Ar fin yr afon ryfedd—ei Dduw oedd
Iddo'n bob ymgeledd:
Yn ei gôl, mewn gorfoledd,
Fry yr aeth i fro yr hedd.
—Ioan Deudraeth.




MR. O. THOMAS, Bryntirion, Ffestiniog.

Ar uniawn ffordd Gwirionedd—rhodiodd ef
Ar hyd ei ddydd glanwedd;
Ac yma nid oes camwedd
Estyn fŷs ato'n ei fedd.
—Alavon.

MR. EVAN EVANS, Timber Merchant, Machynlleth.


{{center block|
<poem>
Fel un o nefol haniad,—yn gynar
I fyd gwyn y cariad,
Addfedodd, —a cha'dd fudiad,
Dros y dw'r, adre' i'w 'stad.
—Tafolog.




Nodiadau golygu