Lloffion o'r Mynwentydd/Gwragedd

Gwyr Lloffion o'r Mynwentydd


golygwyd gan Thomas Rowland Roberts (Asaph)
Plant


Beddergryff Gwragedd.




Ar Fedd GWRAIG.

Yn Mynwent y Methodistiaid Calfinaidd,
Cefnddwysarn, Llandderfel, Meirion.

Hon oedd yn wraig rinweddol,—dawelfoes,
Duwiolfwyn a grasol;
Ac o arfeddyd crefyddol,
A cheir hir och ar ei hol.




Yn Mynwent y METHODISTIAID CALFINAIDD,
Llidiardau, Bala.

Wedi mesur hyd ei misoedd—i'r pen,
O'r poenau ehedodd
Sionet wiw, canys sant oedd,
At nifer saint y nefoedd.
Robert Thomas.




Yn Mynwent LLANRWST.

Arafa, mae goreu-ferch—îs dy droed,
Astud wraig lawn traserch;
Tafl dithau rosynau serch,
Ddarllenydd, ar y llanerch.
—Trebor Mai.




Ar Fedd GAYNER HUGHES, o Fodelith.

(Yn Mynwent Llandderfel, Meirion.)

Yma, mi gwiria, mae'n gorwedd—beunydd
Gorph benyw mewn dyfnfedd;
Aeth enaid o gaeth wainedd,
Gaenor lwys yn gán i'r wledd.

Deg saith mor berffaith y bu—o fisoedd
Yn foesol mewn gwely;
Heb ymborth, ond cymhorth cu,
Gwres oesol gwir ras Iesu.




Bedd HEN WRAIG hoff o'r Beibl.

Gair Duw oedd ei gwir duedd,—ar Iesu
Y rho'es ei gorfoledd
Hyd farw; ac nid oferedd
Rho'i "Gwraig bur" ar gareg ei bedd.
—Mynyddog.




Ar Fedd GWRAIG a fu foddi.

(Yn Mynwent Beddgelert, Arfon.)

Gwraig gu, o deulu gwaedoliaeth,—dirion
Hyd oriau marwolaeth;
Dygwyd hi o'i chym'dogaeth
I'w bedd yn wir,—boddi wnaeth.
—D. T., 1820.




Ar Fedd GWRAIG.

(Yn Mynwent Llangwm, Sir Ddinbych.)

Didwyll yn fy ngwaith, 'rwy'n d'wedyd,—a fum
I famau am enyd;
A chymhorth wrth borth y byd,
I'w meibion yn eu mebyd.

Ugeiniau yn awr y geni,—ddaliodd
Tyner ddwylaw Mari;
A gwenawl y bu'n gweini
I'r gwan; dyna'i hamcan hi.




GWRAIG DDUWIOL.

Elin aeth i le na wêl,―na galar,
Na gelyn, na rhyfel;
Angeu neu ddu ing ni ddel,
Ar duedd y fro dawel.
—Caledfryn.




Yn Mynwent LLANFOR, Meirion.

Tynerwch mam, a phwyll y doeth,
A gostyngeiddrwydd sant;
Ymunent yn ei phryd yn goeth,
Cydgordio wnai pob tant;
Nid ydoedd rhagrith dan ei bron
Pan ymddangosai'n fwyn:
Balm ydoedd ei lleferydd llon,
Ei gwedd oedd siriol swyn.




Yn Mynwent Capel y Methodistiaid Calfinaidd,
LLANUWCHLLYN, Meirion.

Gwraig gall, llettygar, gollwyd,—Ow! duodd
Bro dawel Cwm Cynllwyd;
Bro Ne' lân, uwch wybren lwyd,
A'i thegwch gyfoethogwyd.
—Ioan Pedr.




Yn Mynwent TALYBONT, Meirion

Yn rhy gynar troes y wraig anwyl—hon,
I hir gadw noswyl;
I nef wen aeth y fun wŷl,
A hiraeth bâr ei harwyl.
—Ap Vychan.




ELINOR, Gwraig MR. RICHARD THOMAS, Bethesda, Ger Bangor.

Os i dŷ'r bedd, dros dro bach,—y gwthiwyd
Yn gaeth, y corph afiach,
Yr enaid, i gyfrinach
Dirion Iôr, aeth adre'n iach.

E hoer lwch, ar ol hir lechu,—eilwaith,
Welir yn dadebru;
Daw i'r làn, gyda rhyw lu,
O urddasol braidd Iesu.
—Caledfryn.




Yn Mynwent LLANGERNYW, Sir Ddinbych.

Y nefol Gatrin Ifan,—un dawel,
A diwyd ei hanian;
Ei hufydd fywyd cyfan
Ro'es i glod yr Iesu glân.
—Glan Collen




Yn Mynwent TOWYN, Meirionydd.

O fewn i'r gêl—fedd hon,
A'r fron heb unrhyw fraw,
Yr erys Mair heb dd'od yn rhydd
Hyd ddydd y farn a ddaw;
Ar doriad dydd Mab Duw,
Hi glyw ei lef yn glau,
A'r holl iselion yma sydd,
A fydd yn ymryddhau.




Yn Mynwent TALYBONT, Meirion.

Ar fedd y wraig grefyddol,—ond odid,
Dywedai pobl dduwiol;
Un oedd hi na ddaw o'i hol
Wraig arall fwy rhagorol.
—Gwilym Hiraethog.




Yn Mynwent TALYBONT, Meirion.

Elizabeth o loesau byd—a'i ingau,
Ddiangodd i wynfyd;
Pery'i chôf mewn parch hefyd,
Ar ei hol yn bur o hyd.
—Gwilym Hiraethog.




Yn Mynwent DINMEL, Meirion.

Un o ddewisol awenyddesau
Hen Walia ydoedd, gweuai fwyn eiliadau;
Parai'i marwolaeth chwerw alaethau,
A'i chloi dan dywyrch lydain adwyau;
Ond dringodd Mair drwy angau,—at nefawl
Deulu awenawl yr aur delynau.
—Tafolog.




MRS. CATHERINE EVANS priod MR. JOHN EVANS,
Farrier, Pentrefelin, ger Porthmadog.

Ow! gwywodd daiar wraig dda a diwyd,
Ei llafur dyfal oll fawrhai deufyd;
Dilyn yr Iesu y bu drwy'i bywyd,
A'i air glân, dyddan, oedd ei dedwyddyd;
Fel mam dwymn galon, dirion hyd weryd,
Cofir ei haddas deg gyfarwyddyd:—
Os hên i'w bedd troes o'n byd,—o'i llanerch
Daw'n wridog wenferch, dan radau gwynfyd.
—Ioan Madog.




ANNE WILLIAMS, Aelod yn y Tabernacl, Llanrwst.

Anne a wyddai'r man iddi—roi ei phwys
Drwy ffydd mewn caledi;
Ddiwedd oes, arwyddodd hi,
Fod Iôn a'i fraich gref dani.
—Caledfryn.




Ar fedd Gwraig gyntaf Mr. HUGH EVANS, gynt o'r Drum.

Yn Mynwent Llanerfyl, swydd Drefaldwyn.

Fel finnau diau y deuwch—er moddion
Er meddu pob harddwch,
Trwsiad dillad, deallwch,
Cewch bydru a llechu mewn llwch.




MARY, merch hynaf MR. EVAN THOMAS, (Bardd Horeb.)

Yr hon a fu farw yn Paddy's Run, America,
Medi y 23ain, 1852, yn 23 mlwydd oed.

Tiroedd a moroedd mawrion—a deithiais,
Nes daethum at estron,
I geisio hawl o'r gwys hon
I orwedd gyda'i feirwon.
—Bardd Horeb.




Beddargraff fy NAIN.

Mam fy mam, yma mae hi—yn huno,—
Hen wraig onest trwyddi;
Dynes, medd pawb am dani,
Dda iawn, iawn, oedd 'y nain i.
—Dewi Havhesp.




MRS. OWEN, Regent House, Caernarfon.

Y dyner wraig edwinodd—yn dawel,
Fel blodeuyn syrthiodd;
Ei thegwch a waethygodd,—
I wynfyd o'i phenyd ffôdd.
—Cynddelw.




GWRAIG RINWEDDOL.

Yma yn unig, mewn anedd—dywyll,
Yn dawel y gorwedd,
Un a roed mewn anrhydedd,
A gwir barch, dan gaer y bedd.
—Caledfryn.




Ar Fedd MARY, Gwraig JONATHAN HUGHES, y Bardd.

(Yn Mynwent Blwyfol Llangollen, sir Ddinbych.)

I'r ddaear fyddar fe aeth—y ddirym
Ddaearol naturiaeth;
Ar Enaid a'r wahaniaeth
Mae'n llaw Duw, y man lle daeth.
—Jonathan Hughes.




MARTHA, Gwraig R. PRITCHARD, Ffridd, Denio.

A Martha ni ymwrthyd—y Duwdod,
Awdwr mawr ei bywyd;
Na! hi ddaw, fel newydd ŷd,
Ar ei air, o oer weryd.
—Eben Fardd.




MISS MARGARET GRIFFITHS,

King's Head Inn, Caernarfon.

Hon adwaenid yn un dyner—a mwyn,
Yn llawn moes a gwylder,—
Iawn rodio gan roi'i hyder
Ar Iesu wnai 'n ngras ei Nêr.
—Ioan Madog.




MRS. JANE JONES, ac ELLEN, ei Merch.

(Yn Mynwent Llanllyfni, Arfon.)

Deuwn ein dwy yn y diwedd—o'r llwch,
A'r lle 'rym yn gorwedd,
Yn wir glau o bau y bedd
Ryw foreu i wir fawredd.




Gwraig a fu farw o'r Frech Wen ar ddydd genedigaeth un bychan.

Ah! fy maban gwan, ddydd geni,—diau,
Adewais i oesi;
Y Frech Wen fawr ei chyni,
A'i naws hell, ddyg f'einioes i.
—Caledfryn.




JANE ROWLANDS, Caernarfon.

Ei chŵys yn hardd a chyson—a dynai
O dan anfanteision;
Mewn hedd, o'r anedd oer hon,
Daw'n chwaer o dan ei choron.
—Caledfryn.




MARY, Gwraig MR. Wм. MORRIS, Lleyn.

Yma, rhan o Mair heini'—falurir
Fel eraill fu'n oesi;
Daw awr i'w chael, a dyrch hi
I'r lán o'r marwol lenni.
—Eben Fardd.




CATHERINE, Priod MR. RICHARD WILLIAMS,

Britannia Terrace, Porthmadog.

I'w siriol ŵr erys hir loes—yma
Am ei wraig fwyneiddfoes;
Ar ol y ferch i'r eiloes
Yn fawr ei pharch fry y ffoes.
—Ioan Madog.




MRS. ELIZABETH JONES. Pentregwyn, Mam
Y PARCH. J. SILIN JONES, Llanidloes.

(Yn Mynwent Llansilin.)

Eliza bur cyn loes y bedd—nofiai
Yn afon trugaredd;
Golud hon yw gwlad o hedd,
Orau man Duw'r amynedd.
—Richard Davies, Llansilin.




MERCH IEUANC.

Yn gynar yn ei gwanwyn—y gwywai
Ei gwawr fel blodeuyn;
O'r bedd oer rhybudd yw hyn,
Daw'th yrfa di i'w therfyn.
—Caledfryn.




MARY, Gwraig MR. WILLIAM THOMAS, Caernarfon.

Mawr dro i Mary druan—ymadael,
A mudo i'r graian!
Hiraethus ei gŵr weithian,—
Dan hir glo dyna'i wraig lân.
—Eben Fardd.




GWRAIG IEUANC.

I'r llwch o'i harddwch a'i hurddas,—yr aeth
Ar ol bér briodas;
A'i hardd enaid i'r ddinas
Wych, a'r wledd uwch awyr lâs.
—Cynddelw.




ELLEN, Merch MR. SOLOMON JONES.

(Yn Mynwent Bethel, Arfon.)

Trwm ydoedd rho'i dan rydlyd farrau'r bedd,
Yn ngwanwyn einioes an mor lon ei gwedd;
Hir gofio 'i rhagoriaethau cu a wnawn,—
Boed hedd i'w llwch—ei chwsg fo'n esmwyth iawn.




Beddargraff GWRAIG DDUWIOL.

Yma'i rho'ed, ond nid marw yw hi,—hedd-gwsg
Bydd y gell hon iddi,
Nes i fythol, freiniol fri,
Daw'r Iachawdwr i'w chodi.
—Pedrogwyson.




MRS. JONES, Abercain, Llanystumdwy.

Wele'r bedd anedd unig—y llecha
Ei llwch cyssegredig;
Ei chlod sydd ucheledig,
Na ro' droed ar le'i hir drig.
—Caledfryn.




HANNAH, Gwraig MR. ROBERT PARRY,
Ty'n y fawnog, Llanberis.

Hannah fwyn mewn diboen fedd—a erys;
Yn oreu o'r gwragedd;
Nes ei nôl i orfoledd
At deulu Saint i lys hedd.
—Eben Fardd.




MRS. JANE ROBERTS, (Jini'r Wniadwraig.)

Jini'r wniadwraig huna—'n hyn o drig,
Ond yr oedd honyna
'N rhy ddwyfol, i'r gro ddifa
Yr un dim ar ei henw da.

Un dduwiol, dda, rinweddol, ddiwyd—a fu,
A mam fwyn ei hysbryd;
Nôd ei byw hyd ei bywyd,
Ni ddyga'r bedd o go'r byd.
—Dewi Havhesp.




PRIOD YR AWDWR.

(Yr hon a fu farw Chwefror 28ain, 1855, yn 59 ml. oed.)

Un oedd fu'n wraig rinweddol,—yn goron
I'w gŵr, yn fendithiol;
Mae ei henw dymunol
Yn barchus, serchus o'i hôl.
—Caledfryn.




MRS. JONES,
Gweddw Y PARCH. T. JONES, Dinbych.

Rhoes i Iôn hir wasanaeth,—a'i law Ef
A'i cynhaliai 'n helaeth;
Mae'n awr—a ni mewn hiraeth,
Yn mro Nef—nid marw wnaeth.
—Caledfryn.




Beddargraff GWRAIG IEUANC.

O bu raid i'r briodas—ddaearol,
Droi'n ddirym ei hurddas,
Di gryn yw'r Cyfamod Gras,—
Byw wrth hwn yw'r berthynas.
—Eben Fardd.




MISS MARTHA ROBERTS, Bryn Eryr, Clynog.

Yma, wrth fedd Martha fâd,—dagrau serch
Hyd y gro, sy'n siarad
Iaith aml galon a'i theimlad;—ond gwrando—
Ni raid gofidio'n yr adgyfodiad.
—Dewi Arfon.




MAM Y PARCH. D. RICHARDS, Caerphili.

Chwaer ydoedd, pur ei chredo,—a'i bywyd,
Tra bu, yn ei wirio;
Un o brif seintiau ein bro,
Mewn anedd oer mae'n huno.

Daw eilwaith ddydd didoliad—o dŷ'r bedd,
Drwy barch, at ei Cheidwad;
Daw, fore yr adferiad,
O dŷ'r glyn i dir ei gwlad.
—Caledfryn.




PRIOD MR. JOHN JONES, Cerig-y-druidion, Llanberis.

Os doi, 'wir, heb ystyrio,—ddarllenydd,
I'r llanerch hon rywdro,
Dy droediad—araf, araf f'o,—
Mae Ann anwyl yma'n huno!
—Elidirfab.




Yn Mynwent TALYBONT, Meirion.

Y wyryf heinyf a hunodd,—un hoff
Jane Hughes a'n gadawodd;
Clai tew y bedd cul a'i tôdd,
Ac yn ieuanc hon wywodd.

Yn feunyddiol gwnai fyw'n addas—i enw
Anwyl Crist a'i deyrnas;
Ac i le hardd gloyw urddas
Uwch y glyn aeth o'r Bach Glas.
—Ap Vychan.




BEDDARGRAFF FY MAM.

Ni welais erioed anwylach,—llanerch:
Hawlia'r lle hwn, mwyach,
Lonydd gan bob rhyw linach,—
Yma mae bedd fy mam bach.
—Dewi Havhesp.




GWRAIG RINWEDDOL.

Gwraig dda, ddiond, gwraig ddiddwndwr,—un wyl,—
Yn elyn pob cynhwr';
Bu hon yn goron i'w gŵr,
A chredodd i'w Chreawdwr.
—Emrys.




MRS. ELLEN THOMAS, Turnpike, Dyffryn,
Capel Curig.

Gwraig gywir, eirwir, orau—o filoedd,
Felus ei thymherau;
Syrth i'r bedd bob rhinweddau
Oni chaiff hon ei choffhau.
—Moelwyn Fardd.




MRS. JONES, Abercain, Llanystumdwy.

Os gorwedd yr wyf is gweryd,—Duw Nêr,
Mwy, cofier, a'm cyfyd,
I dŷ diddan dedwyddyd—
Man uwch bedd, mewn mwynach byd.
—Dewi Wyn o Eifion.




Beddargraff MRS. WATKINS, Porthmadog.

(Yn Mynwent Ynyscynhaiarn, Eifionydd.)

"Côf" yn nhir anghof a rydd―y gareg
Am wraig oreu'n bröydd;
Ac ar faen serch cerf-enw sydd—mwy gwerthfawr
Na'r gist o fynawr gostiai.
—Dewi Arfon.




Yn Mynwent GWYDDELWERN, Meirion.

Uwch bedd o wae, uwch angeu a'i gledd,
Ehedoedd hi i fyd o hedd.




Beddargraff TAIR Chwaer.

Teirchwaer sydd îs tywarchen—o'm heiddo,
Yn meddiant daearen;
Galwyd Catherine ac Elen,
Och! i oer gist, a'u chwaer Gwen.
—Robert Owen, Nailor.




Ar fedd MERCH IEUANC, a lofruddiwyd gan ei chariad. [1]

(Yn Mynwent Pentrefoelas, Sir Ddinbych.)

Nid penyd clefyd a'm cloes—nid angen,
Nod ingol dolur—loes,
Na henaint aeth a'm heinioes,
Ond dyn a fu yn dwyn fy oes.




Yn Mynwent TALYBONT, Meirion.

Gwyn bu ei bèr einioes gan bob rhinwedd,
Gwyn am ei hanwyl ddi—gwyn amynedd,
Gwyn ei phob awr â gwên o hoff buredd,
Gwyn fu ei therfyn, gwyn fyth ei haerfedd;
Gwyn hâf Duw, gwn, fu ei diwedd,—bellach
Gwynach, gwynach, fyth â ei gogonedd.
—Islwyn.




Ar fedd GWRAIG.

Bu iddi bump o blant, a bu iddynt oll farw yn eu
babandod, ac wrth esgor ar y diweddaf bu hithau
farw hefyd, a chladdwyd y chwech yn yr un bedd.


Y pum' baban gwan, teg wedd,—ireiddwych,
A roddwyd i orwedd;
A'r anwyl fam, yr unwedd,
Is du faen, mewn distaw fedd.
—R. ab G. Ddu o Eifion.




Priod MR. DAVID EVANS, Tremadog.

Lleni ei thywell anedd—a rwygir
Ryw foregwaith rhyfedd;
A daw hon, mewn gogonedd,
Heb liw bai, ac heb ol bedd.
—Bardd Treflys.




Yn Mynwent PENRHYNCOCH, Sir Aberteifi.

Oer a chul dan dyweirch yw—ystafell
Meistres Davies heddyw;
Uchel lef ei phlant ni chlyw
Yma'n dweyd, "Mam nid ydyw."




Yn Mynwent LLANGYBI, Arfon.

Trwy y niwl Catrin Ellis—a ganfu
Y gwynfyd uchelbris;
PI hon nid oedd un nôd îs
Na Duw'n Dduw—dyna ddewis!
—Eben Fardd.




Ar fedd GWRAIG DDUWIOL.

Gwel isel fedd gwraig lesol fu,—drwy ei hoes
Yn drysor i'w theulu,
Pa orchest ydoedd parchu,
A mawrhau gwerth un mor gu?
—Bardd Aled.




MRS. PUGHE, Aberdyfi, a'i MERCH.

Y ddwy anwyl heddyw hunant—mewn hedd,
Yma'n hir gorphwysant;
O'u tŷ cudd eto cânt—eu dadebru,
A'u codi fyny mewn cydfwyniant.
—Cynddelw.




GWRAIG RINWEDDOL, o'r enw Ann.

Ann, araf droes yn nhwrf y dre',—dodwyd
Wedy'n mewn gorweddle;
Na's try'n ol, nes daw o'r ne'
Lef fawr yr olaf fore!

Y ddynes dda, ddawnus, ddiwyd,—Ann gu,
Ro'ed yn y gell briddlyd:
Deil ei hun nes dêl ennyd
I wneud barn a newid byd.
—Eben Fardd




Priod MR. ROBERT JONES, Telynor, Llangollen.

(Yn Mynwent Llantysilio.)

Gair yr Iôn egyr yr annedd,―isod,
Lle mae Liza'n gorwedd,
Ac yna hi ddaw'n geinwedd
I'r wlad bur, o waelod bedd.
—Dewi Havhesp.




MAM a'i РHLENTYN.

Yma, danodd, mam dyner—a erys
I orwedd mewn prudd-der;
Hynaws fu drwy'i heinioes fèr,
Oer hunodd ar ei hanner.

Y baban bach heibio i boen byd—droes
Ei drem tuag eilfyd;
Ciliodd drwy loesau celyd
O'r och groes i'w arch o'i gryd.
—Eben Fardd.




Ar Fedd GWRAIG.

I fawredd, eto'n forau,—er y cwsg
Yn nhir cysgod angau,
O'i argelion, i'r golau,
Daw ei chorff wedi'i iachau.
—Caledfryn.




PRIOD a MERCH MR. MORRIS WATKINS,
Aberrhaiadr, Llanrhaiadr-yn-Mochnant.

(Yn Mynwent Llanfor.)

Y man hyn yn mwynhau hedd—y mae mam,
A'i merch fach yn gorwedd;
Gwel eu hunig gul anedd,
A thro'r byw rhag sathru'r bedd.
—Dewi Havhesp.




Ar Gôf-golofn ANN GRIFFITHS, o Ddolwar Fechan,

(Yn Mynwent Llanfihangel-yn-ngwynfe, Maldwyn.)

"ANN GRIFFITHS, o Ddolwar Fechan; a anwyd yn 1778; a fu farw Awst, 1805.

Dedwydd fydd tragwyddol orphwys,
O bob llafur yn y man;
Yn nghanol môr o ryfeddodau,
Heb un gwaelod byth na glán.

Codwyd y Gofadail hon gan Edmygwyr yr Emynyddes,
o barch i'w choffadwriaeth, yn y flwyddyn 1864."




Ar Fedd MERCH IEUANC
a gymerwyd ymaith gan glefyd poeth yn fuan ar ol iddi ymuno â chrefydd.

 
Y fun ieuanc fwyn, wywodd;—llwch ydyw;
Llucheden a'i cipiodd!
Gobeithiwn mai'r sel arddelodd
Yn y lán draw'n elw i hon drodd.
—Eben Fardd




Ar Fedd GWRAIG.

Ei bér oes yn llwybrau Iesu―ro’es hi,
Ar sail ei fawr allu,
A'r Iôn yn tirion wenu,
Hyd ael y bedd ei dal bu.
—Caledfryn.




Ar Fedd MAM a'i MERCH.

O! mor fyw fu'r fam a'r ferch,
Drwy eu hoes yn llawn traserch,
Yn ffyddlon dros achos Iôr,
Ar g'oedd o bur egwyddor,
Heddwch i'w llwch sy'n llechu,
Yn anedd y dyfnfedd du.




Ar Fedd GWRAIG.

Ein chwaer anwyl a hunodd—yn yr Iesu,
Ei henaid orphwysodd;
Aeth i fyd oedd wrth ei bodd,
I'w was'naethu'n oes oesoedd.

Ac yn moreu'r adgyfodiad—daw o'r gweryd
Yn gorph hardd ar eiliad,
I gyduno â'i glân enaid
Aiff i'r nef yn llaw ei Thad.




Priod Mr. ROBERT JONES, Saer Maen, Llandderfel.

Ar enwog lwybr rhinwedd—y bu taith
Betty Jones i'w diwedd;
A deil ei hyglod nodwedd,
Yn goeth byth er gwaetha'r bedd.
—Dewi Havhesp.




LOWRI OWEN, Tyddyn Cwcallt.

(Yn Mynwent Llanystumdwy.)

 
O'r du lawr y daw Lowri—gwedi'r boen
A gado'r bedd difri;
Mae teyrnas addas iddi,
Dydd heb nos i'w haros hi.
—R. ab G. Ddu o Eifion.




Ar Fedd GWRAIG DDUWIOL.

Yn ei phwyll hon ni phallodd i'w diwedd
Ei Duw a'i cynhaliodd;
Er ei fwyn hi erfyniodd
Nerth i fyw'n un wrth Ei fodd.




ETTO.

Aeth o dir noeth daiarol—i fyny
I'r trigfanau nefol,
Mynwes yr Oen dymunol,
Llonydd nyth, lle ni ddaw'n ol.
—M. D. M.




MRS. MARY GRIFFITH, Pentref, Llanwnda.

Geiriau segur a surion—ni luniodd
I flino'i chym'dogion:
"Ie," Nage," oedd ddigon
O eiriau call y wraig hon.
—Tremlyn.




Bedd DEBORAH, priod y diweddar MR. THOMAS PRITCHARD,
Amlwch, (a mam Y PARCH. J. PRITCHARD.)

(Yn Mynwent Amlwch.)

Uwch angeu'n iach o'i ingoedd—dyburwyd
Deborah'n oes oesoedd,
Da nofiai hyd y nefoedd,
Yn dawel iawn, duwiol oedd.
—Robyn Ddu Eryri.




Beddergryff Plant.




Beddargraff GENETH Un-ar-ddeg Mlwydd oed.

(Yn Mynwent Dolgellau.)

Trallodau, beiau bywyd—ni welais,—
Na wylwch o'm plegyd:
Wyf iach o bob afiechyd,
Ac yn fy medd gwyn fy myd.
—Dafydd Ionawr.




Beddargraff Tri PHLENTYN.

Yr Iesu aeth a'r tri rhosyn—o'r byd,—
Dyma'r bedd wnai'u derbyn;
Ond try'r rhôd,—daw'r tri, er hyn,
I wenu mewn ail wanwyn.
—Mynyddog.




Ar Fedd GENETH Ieuanc i JOHN JONES, Abercain.

(Yn Mynwent Llanystumdwy,)

Daw'r dydd mawr, daw gwawr o deg wedd,—i'm rhan,
Daw 'Mhrynwr disgleirwedd;
A gwên ar ei ogonedd,
Daw'n iach fy nghorph bach o'r bedd.
—R. ab G. Ddu o Eifion.




Bedd Dau BLENTYN.

Diau fel dau flodeuyn—y torwyd
Y tirion ddau blentyn;
Ond eu Dwyfol Dad ofyn
Y ddau glws o bridd y glyn.
—Elis Wyn o Wyrfai.




Nodiadau golygu

  1. BRAWDLYS SIR DDlNBYCHI - Baner ac Amserau Cymru 1867-08-07 cyrchwyd 2024-01-06