Lloffion o'r Mynwentydd/Plant

Gwragedd Lloffion o'r Mynwentydd


golygwyd gan Thomas Rowland Roberts (Asaph)
Babanod


Beddergryff Plant.




Beddargraff GENETH Un-ar-ddeg Mlwydd oed.

(Yn Mynwent Dolgellau.)

Trallodau, beiau bywyd—ni welais,—
Na wylwch o'm plegyd:
Wyf iach o bob afiechyd,
Ac yn fy medd gwyn fy myd.
—Dafydd Ionawr.




Beddargraff Tri PHLENTYN.

Yr Iesu aeth a'r tri rhosyn—o'r byd,—
Dyma'r bedd wnai'u derbyn;
Ond try'r rhôd,—daw'r tri, er hyn,
I wenu mewn ail wanwyn.
—Mynyddog.




Ar Fedd GENETH Ieuanc i JOHN JONES, Abercain.

(Yn Mynwent Llanystumdwy,)

Daw'r dydd mawr, daw gwawr o deg wedd,—i'm rhan,
Daw 'Mhrynwr disgleirwedd;
A gwên ar ei ogonedd,
Daw'n iach fy nghorph bach o'r bedd.
—R. ab G. Ddu o Eifion.




Bedd Dau BLENTYN.

Diau fel dau flodeuyn—y torwyd
Y tirion ddau blentyn;
Ond eu Dwyfol Dad ofyn
Y ddau glws o bridd y glyn.
—Elis Wyn o Wyrfai.




GENETH.

Yn fore'i rhan anfarwol—adawodd
Ei diwyg daearol;
Aeth i'r nef, ond ni thry'n ol
Hyd fore'r dydd adferol.
—Caledfryn




Ar Fedd CATHERINE HUGHES, Merch Cadben
HUGHES, Pwll-y-gate, Nefyn.

Cynar i'r ddaear oer ddu,—ei dodwyd,
Er didwyll broffesu;
Daw'r pryd y cyfyd Iôr cu
Hon i'w lys, anwyl Iesu.
—R. ab G. Ddu o Eifion




GENETH

Esther Ann oedd ddyddanwch—rhieni
Wirionent ar degwch;
Hon, ar y llef, yn wyn i'r llwch—llonydd,
Ddaw fel y wawrddydd—ddwyfol harddwch.
—Dewi Glan Ffrydlas




Dau BLENTYN MR. WM. WILLIAMS, Boston Lodge Porthmadog.

Iôn alwai'i ddau anwylyd—foreu'u hoes,
I'w fawrhau mewn gwynfyd;
Iach o gur, uwch y gweryd
Yw'r ddau bach yn hardd eu byd.
—Ioan Madog.




Ar Fedd PLENTYN a Foddodd.

Blaenwyd hwn yn ei blentyniaeth—gynnar
Gan gennad marwolaeth;
Yn ifangc yn ei afiaeth,
Drwy fawdd dw'r i'w fedd y daeth.
—Eben Fardd.




Tri WILLIAM.

Tri blodeuyn gwyn teg wedd—o un llîn
Sy'n llonydd gydorwedd;
Tri William bach trwy waeledd—
Iawn eu buch[1]—sy mewn un bedd.
—Caledfryn.




Ar Fedd PLENTYN.

Dafydd! daeth Duw i'w ofyn—yn gynar
I ganu ei delyn;
Aeth yn angel pen felyn,
I asio'i gerdd i Iesu gwyn.
—Cynddelw.




HANNAH, Merch fechan MR. a MRS. OWEN JONES,
Glasfryn House, Pwllheli.

Hannah'n wen fel seren sydd,—ymlonnol
Y'mlaen y boreuddydd;
Caed ddibaid, gannaid gynnydd,
Siwrne dda i'r seren ddydd.
—Eben Fardd.




Ar Fedd Pump o FEIBION yr Awdwr.

Tra ebrwydd gorphenodd tri—brawd—eu hoes
Ac wedi hwynt deu—frawd,
O'n golwg mae'n y gwaelawd
Yma bridd ar y pum' brawd.

Mewn agwedd fonedd i fynu—i gyd,
Hwy godant gan lamu
O garchar y ddaear ddu,
Byw oes pan alwo'r Iesu.
—Bardd Horeb.




Geneth MR. THOMAS HUGHES, Druggist, Pwllheli,
yr hon a foddodd yn dair blwydd oed.

Er iddi foddi, mae'n fyw,—a heinif
Yw ei henaid heddyw;
Merch deirblwydd ddedwydd ydyw,
O fawdd dw'r, yn nefoedd Duw.
—Eben Fardd.




LAURA, Merch MR. F. LLOYD, Ship Chandler,
Porthmadog.

I'w rhieni da eu rhinwedd—erys
Hiraeth am ferch degwedd;
Ow! i'r hyf angeu rhyfedd
Gau Laura bach dan glo'r bedd.
—Ioan Madog.




Dwy ENETH i MR. W. J. P. DAVIES, Racine, Wisconsin;
GRACE oedd enw y ddwy; a bu y ddwy farw yn eu babandod.

Dwy Ras fach o'r dyrys fyd—a droswyd
I'r isel fedd, ennyd;
Yn fuan dônt i fywyd,
Gôl-yng-nghôl o'u gwely 'nghyd.
—Eben Fardd.




Ar Fedd PLENTYN.

Nag wylwch, ni ddaw gelyn—i'w gyffwrdd,
Na gofid i'w ddilyn;
Mae'n ddedwydd oherwydd hyn,
Digred i'w colli deigryn.
—Cynddelw.




MERCH fechan MR. RICHARD ROBERTS, Llandderfel.

O'r fechan! pwy sydd ddedwyddach?—Och! O!
Na chawn i, dlawd afiach,
O saethau'r byd a'i sothach,
Gwr o dy fedd, gariad fach.




ELIZA bach.

—Dewi Havhesp.
Ei gruddiau a'u gwawr addien—a wywodd
Awel codwm Eden;
Deuai'n ebrwydd, dan wybren,
Oes bach Eliza i ben.
—Caledfryn.




J. T. JONES, Mab hynaf JOHN a CATHERINE JONES,
o'r llong "Samuel Holland," Porthmadog.

Difyrus drwy'i hyfryd forau—y bu,
Mor bert oedd ei eiriau;—
Mwy er hyn ni cheir mawrhau
Ei swynol lais a'i wenau.
—Ioan Madog.




Ar Fedd PLENTYN.

O rïeni, rai anwyl—nag wylwch
Er gweled ei arwyl;
Ymgyrchwch am y gorchwyl,
Gwedi'r oes o gadw'r hwyl.
—Cynddelw.




Ar Fedd PLENTYN.

(Yn Mynwent yr Annibynwyr, Llanuwchllyn, Meirion.)


Byr fu hyd bywyd Hugh Bach,—anwylaf,
Ni welwn ef mwyach;
'Hedai o ofid byd afiach
I fro nef, mae fry yn iach.
—Gwilym Hiraethog.




Ar Fedd MERCH IEUANC.

(Yn Mynwent Beddgelert, Arfon.)


Aeth Gwen, oedd gangen deg wedd,—yn fore
O ferw a sŵn gwagedd;
I angeu yn ieuengedd,
O'stwr y byd i isder hedd.
—D. T., 1810.




Yn Mynwent LLANFOR, Meirion.

Aeth yr eneth ar union—i ganol
Gogoniant angylion;
Fry yr aeth i fawrhau'r Iôn,
A chware dan ei choron.




FY MAB.

Ein Iôr gwyn a ro'i genad—i angau
Wneuthur ingol rwygiad,
Dwyn fy machgen mwyn a mâd
I'r dufedd ar ei dyfiad.
—Ioan Madog.




Ar Fedd TAIR O FERCHED bychain MR. R. V. JONES, Maesygadfa,
y rhai a gladdwyd o fewn ychydig ddyddiau i'w gilydd.

(Yn Mynwent y Bala, Meirion.)

Er gwyro'r tair i'r gweryd,—yr Iesu
Wnaeth roesaw i'r yspryd;
Arweiniodd mewn byr enyd
Y tair bach uwch twrw byd.
—Ioan Pedr.




Ar Fedd PLENTYN.

Nag wylwch, Duw a'i galwodd—i'w fynwes
Naf anwyl a'i rhoddodd;
O hydwyll fyd ehedodd,—
Aeth i fyd sydd wrth ei fodd.
—Cynddelw.




Ar Fedd PLENTYN a FODDWYD yn afon Seiont.

(Yn Mynwent Llanbeblig, Arfon.)

Hwn yn ddwy flwydd hunodd,—i fynwes oer
Afon Seiont y syrthiodd;
Trwy angau dyfrllyd trengodd,
Diau aeth i fyd wrth ei fodd.
—Caledfryn.




Yn Mynwent BETHESDA, Arfon.

Idwal bach o adael y byd—gafodd
Wir gyfoeth y gwynfyd;
A'i lon nefol wên hefyd,
Ddaw o'r bedd i hedd o hyd.




Ar Fedd MERCH IEUANC.

(Yn Mynwent Capel Cefnddwysarn, Meirion.)


Bu fyw i farw, O! fyred oedd ei thaith;
Bu farw i fyw i dragwyddoldeb maith.
—I. D. Ffraid.




ELLEN, unig blentyn CAPT. MORRIS ROGERS,
Porthmadog.

Ei swynol lais a'i hanwyl wedd—oeddynt
Iddi yn anrhydedd;
Ow! wyro'n foreu i orwedd—
Ellen bach dan gloion bedd.

Holl seiniau ei llais swynol—hir gofir
Er gwyfo 'i gwedd siriol;
Gan hiraeth âi'n gynarol
I fro y nef fry yn ôl.
—Ioan Madog.




CHWE' PHLENTYN HUGH ROWLANDS, Caernarfon,
sef tri mab a thair merch a fuont feirw o bedwar mis i ddeng mlwydd oed.

O'r un rhieni yr hanym,—yn dri mab,
Ac yn dair merch oeddym,
Yn more oes, yma'r ym
O amryw oed—meirw ydym.
—Caledfryn.




Yn Mynwent LLANGWM, Sir Ddinbych.

Bu marw yn elw eiloes—i'r eneth,
Mor anwyl ei beroes;
Er ing drud, yr angau droes
I'r eneth yn wawr einioes.
—Ioan Pedr.




Yn Mynwent LLANFAIRTALHAIARN, Sir Ddinbych.

I'w fedd byr aeth Dafydd bach,―ni welir
Ef yn wylo mwyach;
Oedd ddoe'n dlws,—heddyw'n dlysach,
Yn ymyl Nêr mola'n iach.
—Iolo Mon.




DAU BLENTYN.

Y ddau rosyn gwỳn têg wedd,—er edwi
Dan oer adwyth llygredd,
A darddant o bant y bedd,
A gwenant mewn gogonedd.
—Cynddelw




JANE MINNIE, Merch hynaf Y PARCH. T. OWEN,
Porthmadog.

Ei hardd a denol rudd dyner—wywodd
Awel boreu amser;
A myn'd a wnaeth i'r mwynder,
At dorf o saint rif y sêr.
—Ioan Madog.




TRI O BLANT MR. EVAN JONES, Contractor,
Porthmadog.

Mal y brau gwmwl borëuol—y bu
Eu bywyd daearol;
Draw ffoisant, dri hoffusol,
Yn fuan i'r nef yn ol.
—Ioan Madog.




TRI O BLANT.

Y tri phlentyn gwyn eu gwedd—a fwriwyd
Yn farwol i'r llygredd;
Ond codant o bant y bedd,
I ganu mewn gogonedd.
—Cynddelw.




MAB MR. ELIAS ROBERTS, Coedmor.

Y diwael hardd flodeuyn—fu luniaidd,
Ddiflanai fel gwyfyn;
Einioes aeth heibio yn syn;
Ow! rhoddi'i fath i'r pryfyn.
—Caledfryn.




ELIZABETH, Merch CAPT. W. HUGHES, "Ariel,"
Porthmadog.

Eiddo Iesu oedd isod,―a'i eiddo
Yw heddyw'n yn ei wyddfod,
Efo'r iach dorf fawr uchod—
Yn eu gwledd sy'n taenu'i glod.
—Ioan Madog.




MERCH MR. JOSEPH PARRY, 7, Elizabeth Street, Liverpool,
yr hwn a fu farw Chwefror 6ed, 1851; yn 6 mlwydd oed.

Rhy anhawdd i'w rhieni—yma oedd,
Meddwl am fod hebddi,
Nes o'i bodd ehedodd hi,
O'r glyn i dir goleuni.
—Caledfryn.




MERCH FECHAN MR. JOHN OWEN,
Masnachydd Glô, Llandderfel.

Edwinodd, hunodd dan wenu—do wir,
Ac nid aeth, rwy'n credu,
Un fwy hardd, i'r ddaear-ddu,
Na'i chlysach i law Iesu.
—Dewi Havhesp.




DWY EFEILLES.

Bu un farw yn flwydd, a'r llall yn flwydd a diwrnod oed—
plant Mr. W. PARRY, Glo Fasnachydd, Caernarfon.


Ddwy chwaer deg, cyd-ddechreu y daith—i'r byd,
Drwy boen a gaent unwaith;
Caent wedi, wedi byr waith,
O fewn dim gyd-fyn'd ymaith.

Y wisg o gnawd diosgynt,—a dringo
Gyda'r engyl wnelynt;
Bodau ail cerubiaid ynt,
Ai nid angylion ydynt?
—Caledfryn.




WILLIAM, bachgen tair blwydd a thri mis oed,
mab MR. R. ROBERTS, Boston House, Gaerwen, Môn.

Wele, mae bedd William bach—i agor,
A'r hogyn fu'n afiach,
Ddaw allan ar wedd holliach
O hono i fyw i nef iach.
—Eben Fardd.




BACHGEN a laddwyd gan garniad march.

(Yn Mynwent Beddgelert.)

Ym mriw march marw i mi,—ym mriw y groes
Mae'r grym i'm cyfodi;
Ym mriw y groes o'm mawr gri,
Adferaf i glodfori.
—Eben Fardd.




MERCH MR. E. GRIFFITH, Anglesey House,
Caergybi.

Un hardd oedd, ond hir ddyddiau —ni welodd,
I'w nol y daeth angau;
Mewn hedd aeth, er cael mwynhau
Anfarwol fyd yn forau.
—Caledfryn.




Yn Mynwent Llanycil, Meirion.

Ffarwel, fy nhad, 'rwy' wedi'm rhoddi
Mewn tywyllwch yn y pridd;
Ffarwel, fy mam, paham yr wyli,
Caf dd'od i fyny'n iach rhyw ddydd;
Ffarwel i'm brodyr a'm chwiorydd,
'Rwyf yn ddedwydd iawn fy lle,
Draw yn canu mawl i'm Iesu,
Byth yn nghwmni teulu'r ne'.




Yn Llanfor, Meirion.

Os ydyw'r aelwyd gartref
Yn wag heb Mary fach,
Nid ydyw wedi colli o fod,
Mae yn y nef yn iach;
Na wylwch am y fechan,
Can's eiddo'r Iesu oedd hi;
Fe dalodd ef am dani'n llawn
Ar groesbren Calfari.




Ar Fedd GENETH IEUANC.

(Yn Mynwent yr Annibynwyr, Llanuwchlyn, Meirion.)

Hir alerir ar ol Laura—dyner,
Sydd dan y maen yma;
Yn y llwch hwn y llecha
Gwyryf ddwys o grefydd dda.
—Ap Vychan.




Yn Mynwent Corwen, Meirion.

O'i hoerfedd ceufedd cyfyd—Eliza,
'N hwylusaidd i wynfyd;
A'i chwaer yn ddisglaer hefyd,
Ar foreu hâf braf rhyw bryd.




ELIZA MARY, Merch MR. O. E. HUGHES, (Crafnant)
Bryn Afon, Trefriw.

O Fryn Afon i fri nofiodd—ei henaid,
Ar Fryn Duw gorphwysodd:
Yn nhŷ ei rhieni'r hunodd,
Yn mharlwr ei Phrynwr deffrödd.
—Trebor Mai.




Yn Mynwent CORWEN, Meirion.

Daw Eliza yn dloswedd—i fyny,
O'r difäol geufedd;
A'i dwy ran yn gán eu gwedd,
Ni welir ynddynt waeledd.
—D. E.




Yn Mynwent LLANDDERFEL, Meirion.

O'r anwyl fab gwareiddfoes,—edwinodd
Yn ei dyner faboes;
Ond i William daw eiloes,
Nef a'r wledd; anfarwol oes.
—Cynddelw.




PLANT MR. DAVID THOMAS, Bethesda.

Mae Eliza uwch trwm loesion—angau,
Dringodd fynydd Sïon,
A Huw ei brawd ger ei bron,
Yn ngolwg yr angylion.

A thrwy ing a thir angau—aeth Ema
Yn ei thymhor hithau,
Yno i wir lawenhau,
Hyd lenyrch aur delynau.
—Caledfryn.




Yn Mynwent LLANTYSILIO, Sir Ddinbych.

Eres swynol rosynau—a wisgent,
Hardd osgedd y borau;
Ond ingol anadl angau
A'i wedd oer wywodd y ddau.




Dau BLENTYN MR. J. WILLIAMS, Caernarfon.

Eu deuoedd yma'n dawel—y llechant
Yn eu lloches ddirgel;
Ond ânt yn rhydd, ddydd a ddêl,
O'u du ing, mal dau angel,
—Cynddelw.




MARGARET ALICE, Merch CADBEN JONES,
"Samuel Holland," Porthmadog.

Mae alaeth am y wiwlon—gariad-wyl
Margred Alice dirion:
I orsedd aur brysiodd hon,
Heb weled yr helbulon.
—Gwilym Eryri




WILFRED GIFFARD, ail fab MR. THOMAS THOMAS,
Snowdon Valley, Llanberis.

Athrylith ar ei holwyn—a gafodd,
Fe gofiai bob testyn:
'Roedd hwn tuhwnt i blentyn,—
Mor gall mewn deall a dyn.
—O. Gethin Jones.




GENETH FECHAN y Bardd, yr hon a fu farw yn
Chwe' mis oed.

Ar dy gorff oer, wedi gair "Ffarwel,"—rhaid
Rho'i un cusan ddirgel;
Ah! dedwydd wyt; ond, doed a ddel,
Gwisgaf ing am gwsg fy angel.
—Taliesin o Eifion.




JOHN, Plentyn IOAN AB ELLIS, Llanrwst.

Iesu oedd eisieu iddo—fyw yn uwch,
Fyw'n nes lawer ato;
Mor ddedwydd, ddedwydd yw o
Beth anwyl, am byth, yno.
—Trebor Mai.




ROBERT HERBERT FOULKS, yr hwn a fu farw yn
17 mis oed.

Y gân oedd degan iddo—'n ei iechyd,
Ddygodd nych oddiarno;
Herwydd hyn, prysurodd o
Gyni at y gân eto.
—Eidiol Môn.




Nodiadau golygu

  1. bywyd