Lloffion o'r Mynwentydd/Hynod a Difyrus

Amrywiol Lloffion o'r Mynwentydd


golygwyd gan Thomas Rowland Roberts (Asaph)


Beddergryff hynod a difyrus.




Beddargraff DYN CROES, YMLADDGAR.

Tan gareg 'rwyt ti'n gorwedd:—ys heddyw
Nis haeddit anrhydedd;
Dydi'r gŵr didrugaredd
Cas gan bawb, cwsg yn y bedd.
—Pyll Glan Conwy.




Beddargraph Dr. PRIESTLEY, y Materolwr.

Yma y gorwedd wedi marw
Yn dra dethau mewn arch derw,
Esgyrn, 'menydd, gwaed, gwythienau,
Corph ac enaid Dr. Priestley.
—David Davies, Castell Hywel.

Creadur cymmysgryw ydoedd,—gwas Duw,
A gwas diawl yn gyhoedd;
Angel a mul yn nghlwm oedd
Mewn afiaeth am y nefoedd.
—Cynddelw.




MARI Y FANTELL WEN.

Llyma rych llwm y wrachen,—yn ngolwg
Oedd angyles glaerwen;
Byw ar hudo bu'r hoeden,
Mewn twyll wisg, sef "Mantell Wen."
—Cynddelw.




Beddargraff DYN CALON—GALED.

Digrif a fyddai dagrau—wrth ei fedd,—
Gwarth fyth ro'i trist lefau;
O'n gŵydd diolchwn ei gau;
'E drengodd brawd yn angau.
—Morwyllt.




Beddargraff GWRAIG a fu farw o eisiau
trwynlwch,(Snuff.)

Iach oedd; ond, heb lon'd ei blwch—hi drengodd
Drwy angeu am drwynlwch;
Ond, caiff ar wib, lon'd tri—blwch,
Wele ei lle'n nghanol llwch !
—Dewi Havhesp.




Beddargraff y CYBYDD

Yn y bedd hwn Cybydd huna,— un fu
Fwya 'i fâr am elwa:
Aur oedd ei dŵr a'i Dduw da:
Ysgydwch bwrs e' goda!
—Gwilym Cowlyd.




Beddargraff HELYDD.

(Yn Mynwent Llanycil.)

Rhow'ch garreg deg o dan gi,—Llwynog,
A lluniwch lun dyfrgi,
A gafaelgar deg filgi,
A charw hardd, ar ei chwr hi.
—Sion Dafydd Las o Nannau.




BEDDARGRAFF Y CYBYDD.

Dowch, pan ddeloch uwch ei loches,—heb aur,
Heb arian na manbres;
Dowch, wyr, 'n wag, da chwi, i'r neges,—
Ni sai'n y pridd os clyw sŵn prês.
—Dewi Havhesp.




I'R DYN CELWYDDOG.

Celwyddog fu'm i yn y byd,
Lle rhois fy mryd ar wegi;
Ond gwae im', weithian yn y bedd
O'r diwedd gorfu im' dewi.




Beddargraff SIMON LEIDR

Efe, drwy oes fudr, isel,—a drottiodd
I ladrata'n ddirgel:
O'r diwedd ni gawn fro dawel,
A Simon Jones yma'n y jêl.
—Alavon.




Beddargraff GWRAIG GELWYDDOG.

D'wedodd a fedrodd, tra fu,—o gelwydd:
Gwyliwch ei dadebru,
Neu hi ddywed; rwy'n credu,
I bawb, mai'n y nef y bu.
—Ellis Owen, Cefnymeusydd.




Ar Fedd MAM.

(Yn Mynwent Llandecwyn Meirion.)

Rhoes hon y ddwyfron ddifreg, —naws egwan
Rhoes sugn i bymtheg;
Deg cynhes lodes loywdeg,
Pump o feibion tirion teg.




Ar Fedd MYDWRAIG.

Derbyniais, rhifais, dan rhôd,—naw ugain,
O egwan fabanod,
'Rwy'n gorwedd yn niwedd nôd,
Mewn daear a mân dywod.




BEDDARGRAFF HYNOD.

(yn Llanelltyd, ger Dolgellau)[1]

Dyma lle gorwedd hen gorphyn fy nhad,
Pridd ar ei goryn, a phridd ar ei draed,
Pridd ar ei draws, a phridd ar ei hyd,
Dyma'r lle'r erys hyd ddiwedd y byd.




Beddargraff SION TROGWY.

Dyn o faintioli cawraidd, ac ymladdwr bwystfilaidd.

Dyma fan trigiant Sion Trogwy,—gwingodd
Ag angeu'n ofnadwy:
Da i bryfaid bu'r ofwy,
Ni bydd moes o safn bedd mwy!
—Morwyllt.




HEN GYNHENWR.

Wedi oes hir o gadw sŵn,—a llywio
Mewn llawer nyth cacwn,
Aeth blaenor cynghor y cŵn
I'w senedd yn llys annwn.
—Cynddelw.




Beddargraff y CYBYDD.

Trengu, er casglu, wna'r call—arianog,
Ryw ynyd, fal anghall;
A thraddodir, gwedi'r gwall,
Ei loi aur i law arall.




LEWIS MORRIS, Sir Feirionydd.

Oddeutu haner can' mlynedd yn ol, yr oedd yn Sir Feirionydd ŵr o'r enw Lewis Morris, yn weinidog yr efengyl gyda'r Trefnyddion Calfinaidd. Ei hynodrwydd penaf oedd maintioli ei gorph. Yr oedd yn ddyn talach na chyffredin, a'i gorph drwyddo oll yn ddiarhebol fawr. Digwyddodd iddo fod ar gyhoeddiad yn Lerpwl, pryd yr oedd Gwilym Hiraethog yntau yn y dref; a chan eu bod yn adnabyddus o'u gilydd yn flaenorol, aeth Hiraethog i'w lety i edrych am dano. Wedi ychydig ymgom, gofynodd Lewis Morris a wnelai y bardd ychydig o englynion i'w rhoddi ar ei fedd ef, a chynnyrch addewid Hiraethog yw yr englynion canlynol:

Edrychwch! angeu a drechodd,—i lawr aeth,
Goliah'r oes a gwympodd;
Anhap fu—ŵyr neb pa fodd,
Lewis Morris lesmeiriodd.

Buodd dost ar y bedd du,—anheulu'dd,
Pan elai i'w lyncu;
Un o'i faint i'w safn ni fu,
Digon i'w fythol dagu.

Y pryfed—yn wir pa ryfedd—a unent
Mewn enwog orfoledd;
Ni bydd mwyach, bellach balledd,
Na newyn byth yn y bedd.

E' balla angeu bellach—o wendid
Ladd undyn mwyach;
Fe ddofwyd y bedd afiach—
Do yn siwr, ca'dd lon'd ei sach.




D. JONES, ARGRAFFYDD, AMLWCH.

Nodiadau golygu

  1. nodyn mewn llawysgrifen