Lloffion o'r Mynwentydd/Amrywiol

Babanod Lloffion o'r Mynwentydd


golygwyd gan Thomas Rowland Roberts (Asaph)
Hynod a Difyrus


Beddergryff Amrywiol.




O! ar y ddaear, yn ddiau,―ni gawn
Eginyn a blodau ;
Er hyn, ein hedyn, i'w hau,
Ollyngir yn llaw angau.
—R. ab Gwilym Ddu o Eifion.




Yn Mynwent Llanaber, Meirion.


Mewn pridd , dan orchgudd, mewn archgoed,―oddi allan
Ni ellir fy nghanfod;
'Does neb yn fy nwys 'nabod
'Nol cau medd, ond cofio 'mod




Yn LLANGAR, Meirion.

Dan gerig unig anedd,―o ryddid,
Yr ydym yn gorwedd;
Tithau'n ddiau dy ddiwedd,
O led byd fydd gwaelod bedd.




Yn LLANGOLLEN, sir Ddinbych.

Yr Iôn pan ddelo'r enyd,―ar ddiwedd,
O'r ddaear a'n cyfyd;
Bydd dorau beddau y byd
Ar un gair yn agoryd.
—R. ab Gwilym Ddu o Eifion.




Yn Mynwent LLANBEBLIG.

Ddyn gwych, edrych, dan odre—y garreg,
'Rwy'n gorwedd mewn caethle;
Yr un fath, dwy lath o le,
Diau daith y doi dithe.

Pob hedyn a fyn Efe—o'r dulawr,
A'r dylif, i'r frawdle;
Cywir gesglir, o'r gysgle,
Lychyn at lychyn i'w le.
—R. ab Gwilym Ddu.




MR. WM. GRIFFITH, Pentrefelin.

Ow! wele'm gorhoffus William Gruffydd,
Yn mro a llanerch y meirw llonydd;
Gwiwledai drwy'r wlad ei barch a'i glodydd,
A gwall rhaid teimlo in' golli'r "Temlydd";
Ei hanes têg ddirwestydd—ffyddlonaf,
Bery'n ddianaf mewn bri'n Eiddionydd.
—T. E. G.




MR. ROBERT WILLIAMS, Glanllyn, Morfa Bychan.

Digweryl frawd a garem,—ar ei ol
Hir alaeth a deimlem;
Wedi pob croes a loes lem,
Ffoes i wyl ei hoff Salem.
—Emrys.




Hen GRISTION.

Yn deilwng Iôn a'i daliodd—ar y daith,
Er y dydd y credodd;
Yn ei henaint llon hunodd,—
Hoff un i fynwes Duw ffodd.
—Penrhyn Fardd.




MR. WM. JONES, Pantgoleu, Rhostryfan.

Da was di—fôst a distaw fu,—a wnaeth
Yn ffyddlawn o'i allu;
Diwrnod tâl fu'r diwrnod du,
A dydd i'w anrhydeddu.
—Alavon.

Oer len ei farwol anedd,—o'i ogylch.
A egyr ar ddiwedd;
Daw'r afrifawl dorf ryfedd,
Feirwon byd i farn o'r bedd.
—R. ab Gwilym Ddu.




Mr. WM. ELLIS, Penrhyndeudraeth.

Melus cân William Ellis gu—yn awr
Yn y nefol deulu:
Hen Gristion ffyddlon, hoff, fu,—
Rhoi ei oes wnaeth i'r Iesu.
—Morwyllt.




MR. THOS. JONES, Tyddyn Bach, Bettws Garmon.

Thomas onest, mae swynion—yn enw
Y glân, hynaws Gristion;
Rhoed brawd gwyl, anwyl, union,
Addfwyn îs y feddfaen hon.
—F. Buckingham.




MR. HUMPHREY LLOYD, Penmorfa.

 
Wele y tyner Humphrey Lloyd hunodd;
Ei ddidwrf einioes mewn hedd derfynodd;
I'w nawn yn hudawl ffordd uniawn redodd;
Ac Iesu'n gyfaill yn gyson gafodd:
A'r Gŵr mor bur a garodd—drwy'i oes lân
Ato ei Hunan, uwch cur, y tynodd.
—Gwilym Eryri.




Yn Mynwent TOWYN, Meirionydd.

O! wele fi a'm hanwylyd—yn isel,
Fu'n oesi'n dda hyfryd;
Ddau feddiannodd fodd enwyd,
Ddau mewn bedd heb ddim 'n y byd.




Yn LLANGEFNI, Môn.

Ar fy medd na ryfeddwch,—rai ifanc,
Er afiaeth a thegwch;
Diau mai buan deuwch
I'r llawr fel finau i'r llwch.




Yn Mynwent LLAWRYBETTWS, Meirion.

Os aeth perthynas cnawd yn ddim,
Mae cariad brawdol yn ei rym.




BEDDARGRAFF CYFFREDINOL.

Yn ei fedd, a thyna fo—wedi myn'd,—
Dim mwy son am dano!
Daear-dwf sy'n do ar do,
Yn dïengyd i angho!
—Ioan Arfon.




Beddargraff yn NGHAERPHILI.

Yr enaid, ar naid, trwy'r nen—ehedodd
O adwyth clwy' Eden;
Yn naear laith, dan oer len
Caerphili, mae corph Elen.




Yn Mynwent GWYDDELWERN, Meirion.

Bum i fel dydi un dydd—yn heini',
Yn hoenus, ddarllenydd;
Ond cofia yrfa orfydd
Mai tithau fel finau fydd.
—Bardd Nantglyn.

Torwyd cneuen len lanwedd,—cynullodd
Duw'r cneuwyllyn sylwedd,
Ei blisgyn anabl osgedd,
Yma'n bod mae yn y bedd.
—Bardd Nantglyn.




Yn Mynwent LLANYCIL, Meirion.

I le uwch ing o lwch angau,—obry
Dadebraf yn ddiau;
Duw ar fyr dyr y dorau
Yn rhwydd iawn i'm rhyddhau.

Egyr Iôn, a gair o'i enau,—hen borth
Y bedd oer ryw forau;
O'i fynwes deuaf finnau,
Heb ei ôl, wedi'm bywhau.
—Penrhyn Fardd.




Yn Mynwent St. OSWALD, Croesoswallt.

Dan y gareg hon i gorwedd—preyd
Shone Prichard Lloyd yn farwedd,
O Gynnwynion gwirionedd
Yn fud ar waelod i fedd.

Ystyr ddyn, yr hûn hon,—a'r gweryd
Y gorwedd y meirwon;
At ddydd brawd bydd di brydlawn,
Cerdd yn iawn a bâr Dduw Iôn.
—L. W.

Ddyn iach, gwyddost beth oeddwn i,—gwael barch,
Gwêl beth ydwyf wedi,
A chofia ben d'yrfa di,
Byth feddwl beth a fyddi.
—Bardd Nantglyn.




Bedd Torwr Cerig beddau.

(Yn Mynwent Nantglyn.)

Gŵr gwiwddoeth ro'es gerig addas,—gynau,
Ar ganoedd o'i gwmpas;
Yma daeth i gymdeithas
Gro y glyn, dan gareg las.




Yn Mynwent PENMACHNO.

Mewn beddrod—tywod tawel—erys hon
Dros enyd, yn isel;
Ond, i fyny, ddydd a ddel,
Hi ddring wrth floedd yr Angel.
—Owen Gethin Jones.




Yn Mynwent LLANRHAIADR, Dyffryn Clwyd.

I'r bedd marwedd mud—daethom,
O deithio mewn drygfyd;
Ni ganwn byth mewn gwynfyd,
'Nol dod o'r bedd yn niwedd byd.




Yn Mynwent DOLGELLAU, Meirion.

Mae dau Ddoctor yn gorwedd,—dau Ruffydd,
O dra hoffus rinwedd;
Yn unawl mewn un anedd;
Tad arab a mab ym medd.




Yn Mynwent LLANWEIRYDD, Môn.

Yma y gorwedd corph William Edwards, o'r Caerau, yr
hwn a ymadawodd a'r fuchedd hon ar y 24ain o
Chwefror, 1668, yn 168 mlwydd oed.

Er cryfder corff pêr, purwyn,—
Arbenig ei wreiddyn;
Ac er mawl, ac aur melyn,—er bonedd
Bedd yw anedd diwedd dyn.
—Bardd Nantglyn.




Yn Mynwent DOLGELLAU, Meirion.

Huno yn gryno mewn gro—daearen
Dŷ oeraidd, heb gyffro;
Daw gorchymyn drylwyn dro,
Duw hynod i'n dihuno.




Beddargraff henafol yn CERIG CEINWEN, Môn.

Dyn. ar. lle. y. dayarwyd
Mo. Llwyd. y. 3.o. Hydref .
1647. Hwn. a. ymdrechodd.
ymdrech. deg dros xi frenin
ai. wlad. wrtw . I . ystlys. I
claddwyd. I. Assen. E. F. J. J. anb.
Rees Owen yn gywely. y. 4.0
Dachwedd 1653.




Yn Mynwent GWYDDELWERN, Meirion.

Tragwyddol waed yr Oen a'i boenau,
Tangnefedd fu'n diwedd ni'n dau.

Meirwon yw'r dewrion, dyna eiriau—gwir
Ymroi i gyd i angau;
Diwedd pob dyn sy'n neshau,
Meirw a wnawn, ymrown ninau.
—Bardd Nantglyn.




Yn Mynwent LLANDDERFEL, Meirion.

O'r byd a'i fawr rwysg i'r bedd—yr aethym,
Er eithaf ymgeledd;
I letty gwely gwaeledd,
Pa bryf bach waelach ei wedd?




Yn Mynwent LLANYSTUMDWY, Arfon.

Yma y gorwedd John Ellis ac Humphrey Williams, a
fuont farw yn yr un amser, ac a gladded yn yr un
bedd; yr oeddynt gariadus ac anwyl yn eu bywyd,
ac yn eu marwolaeth ni wahanwyd hwynt.

Dau gymar yn wâr un weryd,—dau dàl,
Deulanc ieuanc hyfryd;
Dau o'r un fro, dirion fryd,
Difeius eu dau fywyd.—(1763.)




Yn Mynwent LLANABER, Meirion.

Yn gynnar i'r ddaear oer ddu—aethym
I ethol gwlad Iesu;
Caf ddyfod mewn cyfnod cu
At f'enaid eto'i fynu.




Cafwyd beddfaen mewn ffos mewn cae cyfagos
i fynwent Llanfair, ger Rhuthyn, a'r hyn a ganlyn
arni. Bernir oddiwrth ymddangosiad y
Beddargraff ei fod yn dri chan' mlwydd oed o leiaf.

Dyma'r fan freulan di freg,
Gŵr graddawl ar osteg;
Lle mae'n tadau a'n teidiau têg
Yn gorwedd dan 'run gareg.




Ar Fedd GWRAIG a'i DAU BLENTYN.

Torwyd a bwriwyd i bant—winwydden,
Yn nyddiau llawn ffrwythiant;
A dau o'i blodau, lân blant,
Yn y llwch hwn y llechant.
—Bardd Nantglyn.




Yn Mynwent DOLGELLAU, Meirion.

Taid a Thad mewn tud noeth wedd,—Nain a Mam
Yr un modd mewn llygredd;
Ac Wyrion yma'n gorwedd,
A Phlant: dyma bant eu bedd.

O'u hûn garchar anhygyrchol,—er cur
Eu ceraint hiraethol,
A dagrau'n llif difrifol,
Ni ddaw'r un o'r naw yn ol.




Ar Fedd GWRAIG a'i DWY FERCH, a phob un o'r enw ANN.

Tair Ann i'r un man ran meth,—yr einioes
Arweiniwyd yn gydbleth;
A'r tair Ann, o'r un plan pleth,
Ydyw Ann a'i dwy eneth.
—Bardd Nantglyn.




Yn Mynwent LLANTYSILIO, Sir Ddinbych.

Eich llwch a orphwys mewn hedd
Hyd nes daw'r angel
Uwch law y dyffryn i'ch deffro,
I hawlio'r fraint i'r nefol fro.




Ar Fedd Gwr a Gwraig a'u MERCH.

Sylwn, edrychwn, ar dri—o enwau
Fu unwaith byw'n heini;
Sef merch deg, foreudeg fri,
Da rin, a'u dau rieni.
—Bardd Nantglyn.




Yn Mynwent LLANDDERFEL, Meirion.

Cydorwedd mewn bedd y byddwn,—yma
Dan amod gorphwyswn,
Hyd ddydd barn cadarn, codwn
I gael hedd o'r gwely hwn.




Bedd TEULU Y BARDD.

(Yn Mynwent Penmachno.)


Rhaid yw myn'd i'r glyn dan glo―y llety
Llwytaf i orphwyso
Mae 'nwy ANN yma'n huno,
A'm dwy GRACE, yn myd y gro.
—Owen Gethin Jones.




Yn Mynwent LLANBEDR, Ardudwy.

Cwynfawr marw Adda'r cynfab,—a marw mawr
Marw mwyn Rufeinfab;
Marw mawr arw marw Mair Arab,
A marw mwy oedd marw ei mab.




Yn Mynwent TOWYN, Meirionydd.

I wlad arall, loyw dirion,—i Salem,
Preswylfa nefolion;
Hi laniodd ar olwynion
Cu rad ras— Cariad yr Iôn.




Yn Mynwent FALMOUTH.

Yn mhell o wlad fy nhadau,—clöedig
Mewn cleidir yw'm fferau;
Ond tyr Iôn eto yr iau,
A dringaf o dir angau.

Dygir i'r lán yn degwedd—fi eilwaith
O afaelion llygredd;
A chodaf mewn iach adwedd
Anfarwol, heb ôl y bedd.

Garwaf ing, gorfu angau,—aeth a'r maes,
Uthr i'm oedd ei arfau;
Eto'i gledd, a'r bedd oer bau
Drwch fan, a drechaf finau.




Yn Mynwent EGLWYSWEN, Dinbych.

Hil Huxiaid Cannaid Conwy
Oedd enwog ddynion dyrchafadwy,
Ond BEDD angof di—ofwy
Yw Nyth pawb fel na waeth Pwy?




Ar Fedd MAM A THAD yn Nhowyn, Meirionydd.

Bedd fy Nhad, 'rw'i mynych gofio,
Bedd fy Nhad sydd eiriau prudd;
Ac yn mynwent blwyfol Towyn
Bedd fy Nhad anwylaf sydd.

Bedd fy Mam sydd gerllaw iddo,
Bedd fy Mam y'nt eiriau trist;
'Rwy'n llawenhau wrth gofio'r amod
Wnaethant hwy âg Iesu Grist.




Yn Mynwent Cynwyd, Meirion.

Aed pridd i'r pridd, y llwch i'r llawr,
Hyn ydyw'n tynged oll;
Ond creder y gwirionedd mawr,
Ni syrthiwn ddim ar goll.




Ar Fedd MAM a'i DAU BLENTYN.

(Yn Mynwent Gwyddelwern, Meirion.)

I'r isel fedd, Ow! resyn,—hûn o'i fewn
Y fam a'i dau blentyn;
O'i afael Duw a ofyn
Eto ar air y tri hyn.




Yn Mynwent LLANGWM, Sir Ddinbych.

Y bedd yw diwedd pob dyn,—i'r cnawd
Er cnwd o aur melyn;
Yr einioes bob yn ronyn
I own o glai yno glŷn.




Yn Mynwent GWYDDELWERN, Meirion.

Gwylia di oedi dy adeg—y llon
Ddarllenydd iach gwiwdeg;
Gwyrodd fi dan garreg
I'r bedd trwch, Ile'r rhybudd teg.




Ar Fedd GWR a GWRAIG.

(Yn Mynwent Llangernyw, Sir Ddinbych.)

Gŵr a gwraig i âr y gro,―rai addfwyn,
A roddwyd i huno;
Ond o'r glyn du oer ei glo,
Er atal codant eto.




Ar Fedd GŴR a GWRAIG.

(Yn Mynwent TOWYN, Meirionydd.)

Gwel ein bedd, dyfnfedd ni'n dau,—gwna gofrestr
Gan gyfrif dy oriau,
Daw dwthwn y doi dithau
Yn fud i'r un bydrud bau.
—M. E.




Yn Mynwent CORWEN, Meirion.

Wedi hir oes, marw raid,—y duwiol
Yn dawel ei enaid;
O dwrw'r byd draw fe naid—mewn syndod,
I freichiau'r Duwdod, byth yn fendigaid.
—David Evans.




Yn Cincinnati, Ohio, Unol Dalaethau.

I'w gorph gwan wele'r anedd,—ac obry
Mae Gabriel yn gorwedd;
Trueni troi o Wynedd
I chwilio byd, a chael bedd.




Yn Mynwent LLANTYSILIO, Sir Ddinbych.

O'r oer lwch, er hir lechu—mae, cofiwch,
A'm cyfyd i fynu;
Hir faith gur a dolur du
A'm gwasgodd i drwm gysgu.




Ar Fedd GŴR a GWRAIG a gladdwyd yr un amser.

Dau gymhar hawddgar o hyd,—da ogylch
Dygent ran eu bywyd;
A chael ill dau ddychwelyd
O ran pridd ar yr un pryd.
—Bardd Nantglyn.




Yn Mynwent LLANDDERFEL, Meirion.

Credodd yn yr Iesu hawddgar,
Tra bu yma ar y ddaear;
Yna'r Iesu a'i cymerodd
I'w ogoniant yn y nefoedd.




Yn Mynwent YSGEIFIOG, Sir Fflint.

Gwelwch, edrychwch ol dros—y llawr oer,
A'r lle'r wyf yn aros,
Nes dydd barn, galed farn glos,
Ni ddiangaf—rhaid ymddangos.




Ar Fedd pump o bersonau—TAD a MAM, MAB a DWY FERCH.

(Yn Mynwent Llangernyw, sir Ddinbych.)

Pum' Cristion ffyddlon i'w coffau,—orwedd
Yma i aros borau
Y bydd agoriad beddau
Yn arwydd Iôn i'w rhyddhau.
—Gwalchmai.




Yn Mynwent LLANFOR, Meirion.

Cydorphwyswch mewn tawelwch,
Geraint hoff o dwrw'r byd;
Mor gysurus yw'ch gorweddle,
Carchar angau'n wely clyd;
Iesu'ch Prynwr a'i cysegrodd,
Myn eich cyrff yn hardd eu gwedd;
Hyn sydd gysur i'ch amddifaid,
Trist eu bron ar fin y bedd.




Beddargraff TRI yn yr un Bedd.

(Yn Mynwent Trefriw.)

Dyma ni—gwedi pob gwaith,—yn dri llesg,
A wnaed o'r llwch unwaith—
Mewn bedd—(on'd dyrnfedd fu'n taith?)—
Lle chwelir ni'n llwch eilwaith.
—Pyll Glan Conwy.




Ar Fedd Gŵr a Gwraig.

(Yn Mynwent Beddgelert, Arfon.)

Rhoed Abram mewn bedd obry,—a Sara
Fu'n siriol i'w garu;
Rhoed ninan'n dau mewn bedd du
O'r golwg; dyma'n gwely.
—Hywel Gruffydd.




Yn Mynwent LLANGAR, Meirion.

Fy annedd waeledd a welwch—mewn bedd,
Mae'n boddi pob harddwch;
Chwithau'n ddiau ddeuwch,
Waela'r llun i wely'r llwch.—(1731.)




Ar Fedd CADBEN LLONG a'i WRAIG

(Yn Mynwent Llanaber, Meirion.)

 
Teithiais a hwyliais fôr heli,—mynwent
Yw'r man 'rwy'n angori;
Mae nghymar mwyngar a mi,
Mewn tywod yma'n tewi.




Ar Fedd BRAWD a CHWAER a laddwyd gan Fellten.

(Yn Mynwent Beddgelert, Arfon.)

Dyma fedd ceufedd er cofio,—bryd chwith,
Brawd a chwaer sydd ynddo;
Dau 'run dydd dan raian dô,
Rad addas, a roed iddo.—(1710,)}}




Diarhebion ar Fedd Henafol yn LLANGWM, sir Ddinbych.

Goreu meddyg, meddyg enaid.
Gwell gwybodaeth nag aur.




Beddargraff TAD a MAB.

(Yn Mynwent Llanycil, ger y Bala.)

Yr eiddilaidd îr ddeilen—a syrthiai
Yn swrth i'r ddaearen;
Yna y gwynt, hyrddwynt hen,
Ergydiai ar y goeden.
—Tegidon.




Yn Mynwent CORWEN, Meirion.

Y gwylaidd Gristion, gwelwch—ei enw
Uwch ei anedd, cofiwch
Y noddir mewn llonyddwch
Gan engyl ne' le ei lwch.




Yn Mynwent GWYDDELWERN, Meirion

Gwylia, gweddia, O! ddyn,—yn bur a
Bydd barod i gychwyn
Yr ymdaith; ni ŵyr undyn
Yr awr y daw Mab y Dyn.




Ar Fedd LLANC IEUANC a fu'n hir nychu.

Hir gur, a dolur, a'i daliodd—yn faith,
Nes i'w fedd y dymchwelodd;
O'i febyd y clefyd a'i clodd—
A Duw o'r bocn a'i derbyniodd.
—Bardd Nantglyn.




Yn Mynwent ABERFFRAW, Môn.

O Feirion, union anedd,―wych, enwog,
Cychwynais yn hoewedd;
Rhodiais yrfa anrhydedd,
Drwy Arfon i Fôn am fedd.




Mewn Mynwent yn ABERTAWE.

Er rhoi ei gorph i orphwys,
Ddyn hawddgar, i'r ddaear ddwys;
Cwyd ei lwch o'r llwch lle trig,
Llygradwy'n anllygredig;
Cadarn gorn neu udgorn nef
Ar ei ddeiliad ry' ddolef;
Codant pan glywant, yn glau,
A dringant o dir angau;
Ac yna bydd gogoniant,
Un argraph seraph a sant.
—Thos. Hughes, Lerpwl.




Yn Mynwent FFESTINIOG, Meirion.

Pechadur, ammur a omedd—o'i fodd
Feddwl am ei ddiwedd;
Mae naturiaeth, mewn taeredd,
Yn erfyn byw ar fin bedd.

Am ras hoff addas, mae ffydd—i'm henaid,
Mae hyn yn llawenydd;
Mae'n dda odiaeth, mae'n ddedwydd,
Mai 'Mhrynwr yn Farnwr fydd.
—Sion Lleyn.




Yn Mynwent yr EGLWYS WEN, Dinbych.

Ar Iawn ei Iesu gorphwysodd,—a'i waed
Dwyfol ef a'i golchodd;
A Duw Iago a'i dygodd
I fyd fydd byth wrth ei fodd.




Yn Mynwent yr EGLWYS WEN, Dinbych.

Ar ei daith i'r fro daethai,—yn foddus,
Gan feddwl dychwelai
Yn ol; ond byth ni wnaethai,
Yma'i clöed dan rwymau clai.

Cariadus, cu ei rodiad,―addefir,
Oedd Evan yn wastad;
Un ffyddlon, o fron ddi-frad,
Ac addas ei ymarweddiad.




Ar Fedd DAU a gladdwyd yn yr un bedd.

(Yn Mynwent Beddgelert, Arfon.)

Clyw, ddyn yma y claddwyd,—sỳn ofid,
Sion Evan o'r Berthlwyd;
O'i deulu fe'i didolwyd,
Ym mreichiau yr angau a'i rwyd.

Er rhodio mewn anrhydedd—cyson,
Ni gawsom gydorwedd;
A diangc yma'n deuwedd
O'stwr byd, is dôr y bedd.
—(D. I. 1794.)




Yn Mynwent yr EGLWYS WEN, Dinbych.

Meddyliwn, gwelwn mai gwan—yw hoedel,
Yn hedeg yn fuan;
'Does amser hyder i'n rhan,
Wrth gydradd nerth nag oedran.—(1786.)




Yn NGHYNWYD, Meirion.

Sion â'i galon wnai goledd—ŵyn Iesu
Gai'n gyson ymgeledd;
Ei dŷ hâf oedd Duw a'i hedd,
A'i fawl oedd ei orfoledd.
—Cynhafal.




Yn YSBYTTY IFAN, Sir Ddinbych.

Ivan lân, eneiniol yw—ei enw,
Hynaws Gristion gloyw;
Athraw oedd, eithr heddyw
Sy'n ei fedd, a'i wersi'n fyw.




GŴR a GWRAIG.

Gŵr a gwraig dan gareg roed—i huno,
Ar hon bydd ysgafndroed;
Ni hunodd gwraig mewn henoed,
Na phur ŵr mwy hoff erioed.
—Caledfryn.




GŴR a GWRAIG IEUANC.

Trwy gysur cyd—drigasant—hyd feroes,
Bron cydfarw gawsant;
Cydhuno'n ddigyffro gânt,
I deg fyd cydgyfodant.
—Cynddelw.




Bedd DAFYDD OWEN, (Dafydd y Gareg Wen);
a gladdwyd yn y fl. 1749, yn 29 ml. oed.)

(Yn Mynwent Ynyscynhaiarn, Eifionydd.)

Swynai'r fron, gwnai'n llon y llu,—a'i ganiad
Oedd ogoniant Cymru;
Dyma lle ca'dd ei gladdu,
Heb ail o'i fath—Tubal fu.
—Ellis Owen, Cefnymeusydd.




Yn Mynwent Llangernyw, sir Ddinbych.

Er huno am ryw enyd,—yn dawel
Yn oer dŷ y gweryd;
Rhyfedd, er ei marw hefyd,
Daw o'r bedd pan farn Duw'r byd.
—Egwestyn.




GŴR a GWRAIG.

Gŵr enwog mewn gwir rinwedd—mawr ei werth
Yma ro'ed mewn priddfedd,
A'i briod fwyn, addfwyn wedd—
Mam garem, yma gorwedd.
—Caledfryn.




Yn Mynwent LLANGELYNIN, Meirion.

Ar ei ol pa'm yr wylwn ?—ei enw,
Wr anwyl, a barchwn;
Daw'r pryd y cyfyd, cofiwu,
I le uwch haul ei lwch hwn.
—R Ab G Ddu o Eifion




Yn Mynwent Trawsfynydd.

Gwael iawn wyf, o geilw neb—fi adref,
Ni fedraf eu hateb;
Mae du, oer, lom, daear wleb
Trawsfynydd tros fy wyneb.
—Dewi Fwnwr.




GŴR a GWRAIG.

Ddau hynaws, mewn bedd hunant—yma'n hir,
Ac mewn hedd gorphwysant;
Yn niwedd byd gwynfyd gânt,
O dud obry dadebrant.
—Cynddelw.




MAM a'i DAU BLENTYN.

Pwy a roddwyd yn y priddyn—yma,
Ai mam a'i dau blentyn?
Er huno, bob yn ronyn,
Tyr y wawr ar y tri hyn.
—Caledfryn.




BRAWD a CHWAER; yn Llangybi, Arfon.

O! frawd a chwaer, fry do'wch chwi;—wybr ddolef
Ebrwydd eilw i godi;
Llain y gaib yn Llangybi
Drwyddi oll a dreiddia hi.
—Eben Fardd.




Beddargraph MR. HYWEL RHYS, (ganddo ef ei hun.)

(Yn Mynwent y Faenor, sir Frycheiniog.)

'Nol ing a gwewyr angau,
I ddryllio fy mriddellau;
Rhwng awyr, daear, dŵ'r a thân,
Mi ymrana'n fân ronynau.




Beddargraff MR. JOHN JONES, Tanyrallt, a'i BRIOD.

O dan hon mae 'nhad yn huno,—a mam,
'Run modd yn gorphwyso;
Ac, yn fuan, tan'r un tô,
Finau geir,—'rwyf yn gwyro.
—Ioan Glan Lledr.




Ar Fedd MAM a'i MERCH.

Yma'n eu gwely mewn gwaeledd—mae'r fam
A'r ferch yn cydorwedd,
Nes delo'r awr i'r Mawredd
I alw'r byd o wely'r bedd.

Y ddwy hon a gyd-ddihunant—o'r bedd
Gyda'r byd cyfodant,
Ac i Seion union ânt
I gu ganu gogoniant.
—Bardd Horeb.




MR. JOHN HUGHES, Cefn Coch, a'i Ddau FAB.

(Yn Mynwent Llangernyw, sir Ddinbych.)

Yr addien ddeu-frawd, gorweddwch—adeg,
Gyda'ch tad gorphwyswch;
A gwylia ne' eich lle llwch,
Y tri anwyl, tra hunwch.—
—Dewi Havhesp.




Beddargraff RHIENI y Bardd.

Yma, mewn hedd, mae 'mam a 'nhad,—dau gu,
Fu'n deg iawn eu rhodiad;
Ing hiraeth bair fy nghariad
Am ro'i i fedd ddau mor fâd.
—Cynhaiarn.




Rhieni MR. JONES, gynt o'r "Bee," Abergele.

Dau oeddynt a'u nodweddiad—yn deilwng,
Yn dal yn dda'n wastad;
Eu hanrhydedd a'u rhodiad,
Uchel oedd yn mharch y wlad.
—Caledfryn.




TAD a'i BLANT.

Tad a'i blant hunant mewn hedd,—hyd foreu
Yr adferiad rhyfedd;
Yna i ddod ar newydd wedd,
Yn llon, o'u tywyll anedd.
—Cynddelw.




Yn NGHILFOWYR, Deheudir Cymru.

ENOCH FRANCIS,

Gweinidog Eglwys y Bedyddwyr yn y Castell-newydd, a'i hamryw ganghenau;

A orphenodd ei yrfa, trwy lawenydd iddo ei hun,
ond tristwch i lawer, y 4ydd o Chwefror, 1740, yn 51 oed.

"Enoc a rodiodd gyda Duw." (Gen. v. 22.)

MARY, EI WRAIG,

Hefyd a hunodd y 23ain o Awst, 1739, yn 49 oed,

"Mair a ddewisodd y rhan dda, yr hon ni ddygir oddiarni." (Luc x. 42.)

A NATHANIEL, EU MAB,

A fu farw yn 1749, yn 18 oed.

"Wele Israeliad yn wir, yn yr hwn nid oes dwyll." (Ioan i. 47.)




MR. EDWARD OWEN, Saddler, Tremadog, a'i WRAIG.

Trwm fu daearu gwraig addfwyn, dirion,
Gyda'i thêg addysg, a'i doeth agweddion;
Bu er daioni mewn yspryd union,
Yn byw i'r Iesu, yn bur i'w weision;
A mawrhau ei gŵr wneir am ragorion
Ei rinwedd beunydd drwy iawn ddybenion;
Hwy gawsant gyd—fyw'n gyson,—cânt hefyd
Yma esmwythyd am oesau meithion.
—Ioan Madog.




Yn Mynwent LLANFOR, Meirion.

Melus yn mhriddellau'r dyffryn
Cwsg ei gorff, heb boen na chur;
A melusach yn mharadwys
Yw gorphwysfa'r yspryd pur;
Melus fydd i'r ddau gyfarfod,
A chyfodi'n ddedwydd draw;
Wedi huno gyda'r Iesu,
Deffro ar ei ddehau law.




Yn Mynwent LLANGERNYW, Sir Ddinbych.

Dygodd y darfodedigaeth,—i'w fedd,
John o'i foddion helaeth;
Ac er pob physigwriaeth,
Y mirain ŵr, marw wnaeth.
—R. R. Cernyw.




GŴR IEUANGC.

Yn ieuanc y llanc cu llon—a dorwyd
O dir y bywolion;
Mae chwithder, briwder i'm bron,—ei weled
Yn awr mor waeled yn nhir marwolion.
—Morgrugyn Machno.




HUW HUGHES, Cwmcoryn.

Siomiant rhoi Hugh Hughes yma !—un hwylus,
Un hael y'mhob gwasgfa;
Yn ei fedd mwy ni fuddia
Enwi'r pen doeth na'r pin da.
—Eben Fardd.




Ar Fedd GŴR IEUANC 25 oed.

O'i flodau borau bwriwyd—i oerfedd,
A'i yrfa orphenwyd;
Têg loywddyn, ai ti gladdwyd?
Ameu'r y'm ai yma'r wyd.
—R. ab G. Ddu o Eifion.




Yn Mynwent LLANYCIL, Meirion.

Rhodiais ddoe mewn anrhydedd,—heddyw
Fe'm huddwyd i'r dyfnfedd;
Ddoe yn gref, heddyw'n gorwedd,
Ddoe'n y byd, heddyw'n y bedd.




Yn Mynwent DOLGELLAU, Meirion.

Gwêl waeled, saled fy seler:—ystyr,
I ostwng dy falchder;
A chofia, ddyn iach ofer,
Nad oes i fyw ond oes fèr.




Beddargraff y CRISTION.

Cristion o galon i gyd,—dyn grasol
Dan groesau ac adfyd;
Yn y Nef Cristion hefyd;
Ac yn ei fedd gwyn ei fyd.
—Aelhaiarn Hir.




ETTO

Aeth i wlad maith oludoedd,—at Iesu
Tywysog y nefoedd,
I blethu mawl i blith miloedd,
Yn llon o'i flaen â llawen floedd.
—Ap Vychan.




ETTO.

Fry, fry, ca'dd Henry yr unrhyw—goron
Hawddgarol ddiledryw;
Iawn odiaeth goron ydyw
Coron y saint, gywrain syw.

Coron yn wobr y caru,—ië coron
Gan ei gywir Iesu,
Aeth trwy ras i deyrnasu,
Yn ngwlad lon y goron gu.




Vychan. 

Nodiadau golygu