Llyfr Del/Beth sydd ynddo?

Cwn Adwaenwn I Llyfr Del

gan Owen Morgan Edwards

Sam

chwilfrydedd


BETH SYDD YNDDO?

ROEDD Hedd bach chwilfrydig yn crwydro ryw dro
Trwy eang stafelloedd ty modryb;
Aflonydd iawn oedd, un yn chware o hyd,
A'i fysedd bach prysur, yn fywyd i gyd,
Nid oedd un prysurach o fewn yr holl fyd
Na'r Hedd bach chwilfrydig a grwydrai ryw dro
Trwy eang stafelloedd ty modryb.

'Roedd yno ystafell ymhen pella'r ty,
A llawer peth rhyfedd yn honno;
Ymysg pethau ereill 'roedd blwch wedi ei gau,
Ac wedi mynd yno, mhen munud neu ddau,
'Roedd Hedd bach yn ceisio ei agor yn glau,
Draw yn 'r ystafell ymhen pella'r ty,
A llawer peth rhyfedd yn honno.


"Mae'r blwch yn bur anodd ei agor," medd Hedd,
"Pa drysor, caf weled, sydd ynddo,—
Rhyw daffi melusaf a brofais erioed,
Neu dderyn fu'n canu ar frigau y coed,
Neu ddoli yn aur o'i phen i'w throed;
Mae'r blwch yn bur anodd ei agor," medd Hedd;
"Pa drysor, caf weled, sydd ynddo."

Prysurach, prysurach, oedd y bysedd o hyd,
Gan awydd i weld beth oedd ynddo;
O'r diwedd cawd clicied bach gudd,—
"Fy nhrafferth yn fwyniant a drydd,
O'r blwch rhyw ryfeddod a fydd,"
Ebe Hedd, a'r bysedd yn brysur o hyd,
"Yn awr mi gaf weld beth sydd ynddo."


DYCHRYN

Nodiadau

golygu