Beth sydd ynddo? Llyfr Del

gan Owen Morgan Edwards

Tyrus

SAM

MILGI oedd Sam, ci main buan, llwyd ei flew. Yr oedd yn gyfrwys ac yn garedig, a bu yn gyfaill cywir i ni am lawer blwyddyn. Ci amaethwr oedd. At hela y cedwir milgwn, ond dywedai'r amaethwr hwnnw na fyddai Sam byth yn dal na chwningen nac ysgyfarnog; ni wnai ond hannos y defaid yn unig. Rhedai oddiwrth y tŷ i fyny'r mynydd mawr oedd gyferbyn, a rhyfedd mor fuan oedd. Prin y diangai'r defaid rhagddo, gwyddent na frathai Sam hwynt. Un cyfrwys iawn oedd, a rhaid cyfaddef y lladratai ambell i dro. Cydiai mewn dysglaid o fwyd gerfydd ei hymyl, ac ai â hi ymhell i ffwrdd, i'w mwynhau mewn tawelwch. Ond ni ddeuai â'r ddysgl wag byth yn ôl. Yr oedd yn gwybod ar wyneb ei feistr beth oedd yn ei feddwl,—yswatiai y tu ôl iddo os byddai gwg ar ei wyneb, llamai mewn llawenydd o'i gwmpas os byddai'n gwenu. Yr oedd gan Sam gydwybod hefyd, a byddai golwg euog arno yng ngwydd ei feistr pan fyddai wedi bod ar ei ddrwg.

Er fod gan Sam gydwybod, prin y gellir dweyd ei fod yn gi duwiol Yr oedd amaethdy mawr yr ochr arall i'r plwy, ac yno yr oedd blaenor y seiat yn byw. Gwyddai Sam pryd y byddai'r ddyledswydd deuluaidd yn y bore, ac mor fuan ag y byddai'r teulu ar eu gliniau, byddai Sam yn y bwtri yn hel yr hufen. Gwyddai oddiwrth oslef y gweddïwr pryd yr oedd y weddi'n tynnu at y terfyn; a phan godai'r teulu oddiar eu gliniau, ni welent ond cynffon hir Sam yn diflannu trwy'r drws.

Ond er amled ei driciau, yr oedd Sam yn garedig ac yn barod i amddiffyn y gwan. Gorweddai'n gylch ar yr aelwyd, a llawer gwaith y rhoddwyd y babi i gysgu'n dawel ar ei gefn. Ni symudai Sam oddiyno tra byddai'r bychan ar ei gefn, er ei demtio âg asgwrn wrth ei fodd.

Ryw dro yr oedd y babi'n cysgu yn yr awyr agored, a Sam yn gorwedd yn dawel dan ei lwyth, gan agor ei lygaid ambell waith i edrych sut yr oedd y byd yn mynd ymlaen. Yr oedd y tad a'r fam oddicartref, a chlywyd gwaedd yn dod oddiwrth y plant ereill. Mastiff mawr oedd yno, wedi dianc o'i gartref, a darn o'i gadwen yn crogi am ei wddf. Gwyddai'r plant am dano, a diangasant am eu bywyd i'r tŷ, gan gau y rhagddor ar eu holau. Wrth edrych dros y rhagddor, gwelent y babi. Yr oeddynt wedi anghofio am dano, ac ni feiddient redeg allan i'w geisio. Yr oedd y mastiff, a'i safn fawr waedlyd, yn dod yn agosach i'r babi o hyd : ofnai'r plant weld Sam yn dianc, gan adael y babi i'r mastiff mawr. Gwelodd Sam y mastiff cyn hir, ymryddhaodd oddi tan y babi, a cherddodd i gyfarfod y gelyn, gan sefyll rhyngddo a'r plentyn bach. Bu brwydr ffyrnig rhwng y ddau gi ond cyn pen ychydig o funudau yr oedd Sam wedi cydio à'i ddannedd yn asgwrn cefn y mastiff, ac yr oedd hwnnw'n udo am ei fywyd. Synnai'r plant wrth weld y mastiff yn dianc nerth ei draed rhag un mor fain a Sam. Ryw ddydd daeth galar mawr i gartref Sam. Daeth ceidwad helwriaeth y meistr tir heibio a dywedodd fod yn rhaid ei yrru ymaith. Yr oedd y plant yn wylo wrth weld eu cyfaill dewr yn gorfod ymadael, ac ni wyddant hyd heddyw ym mha le y mae