Llyfr Del/Ewyllys Tad Cariadlawn
← Tafarn Y Llwynogod Croesion | Llyfr Del gan Owen Morgan Edwards |
Sefyll A Dianc → |
EWYLLYS TAD CARIADLAWN
DAN gysgod un o fynyddoedd Gilboa yr oedd teulu dedwydd. Un mab oedd yno, a llawer o gaethweision. Yr oedd y tad yn or-hoff o'i unig fab; ac yr oedd y bachgen yn deilwng o'r cariad roddai ei dad iddo, oherwydd yr oedd ei hynawsedd a'i burdeb wrth fodd pob tad yn Israel.
MYNYDDOEDD GILBOA
I orffen ei addysg anfonwyd y mab i Jerusalem. Rhoddwyd ef i ofal un o athrawon goreu y ddinas; a dyna lle yr oedd, ddydd ar ôl dydd, yn efrydu'r gyfraith yng ngolwg y deml.
Ryw ddydd ymysg y dyddiau gwelai, dros gwrr y deml, un o gaethweision ei dad yn dod o gyfeiriad mynyddoedd Gilboa. Ofnodd fod rhyw newydd drwg, a meddyliai am ei dad wrth weld y caethwas yn prysuro ato. Yr oedd y gwas fel pe'n ceisio cuddio llawenydd, ond newydd drwg iawn i'r bachgen oedd ganddo. "Clafychodd dy dad," meddai, "a bu farw."
Wylodd y bachgen yn chwerw yn ei ing. Ac yntau wedi hiraethu cymaint am fynyddoedd Gilboa, ac am weld ei hen dad!
Safai'r caethwas gerllaw nes oedd y bachgen wedi tawelu ychydig. Yna dywedodd ran arall ei gennad. "Pan welodd dy dad Angau'n dod yn gyflym ato, gwnaeth ei ewyllys. Yn ei ewyllys gadawodd bob peth i mi ar un amod. A'r amod hwnnw ydyw fy mod i adael i ti gael un peth o bethau dy dad, y peth cyntaf o'i eiddo weli wedi ei farw neu'r peth a ddewisi dy hun, yn ôl yr ewyllys. Cwyd, brysia, sych dy ddagrau. Tyrd i gymeryd dy beth, y mae arnaf eisieu meddiannu f'etifeddiaeth. Bum yn gaethwas yn ddigon hir; mi ddanghosaf i ti'n awr y medraf fod yn feistr."
Wylodd y bachgen yn fwy chwerw byth. Nid colli ei etifeddiaeth oedd yn ei boeni, ond y meddwl fod yn rhaid ei fod wedi digio ei dad, cyn y buasai'n gwneyd y fath ewyllys. Yn ei ofid a'i drallod aeth at ei athraw, gan ddweyd wrth y caethwas am aros hyd yr hwyr. Gwrandawodd yr athraw ar y bachgen yn dweyd ei hanes. Yna eisteddodd yr athraw am hir yn fud, a'r bachgen yn wylo'n chwerw.
"Ni wnest ddim i ddigio dy dad, ai do? " ebe'r rabbi toc.
"Naddo," ebe'r bachgen, "ei weld oedd hiraeth fy nghalon, ac ni chaf ei weld mwy."
"Fab cariadus, dad doeth," ebe'r rabbi, "mi welaf ystyr y cwbl yn awr. Gwelodd dy dad fod Angau'n cerdded yn gyflym i'w gyfarfod. Gwelodd nad oedd amser i anfon am danat cyn ei farw. Ni fydd fy mab yma,' meddai wrtho ei hun, 'ac fe ddifroda'r gweision ei etifeddiaeth. Rhag iddo ddod yma i edrych ar eu holau, ni ddywedant wrtho am fy marw am lawer o ddyddiau. Felly rhaid i'm henaid aros yn hir am y fendith sy'n dod o alar mab serchog am ei dad. Ond mi adawaf fy etifeddiaeth i'r caethwas buanaf sydd gennyf, ar amod fod fy mab i gael y peth wel gyntaf wedi fy marw neu'r peth ddewiso. Felly bydd y gwas yn sicr o redeg bob cam i ddweyd yr hanes wrth fy mab, a chaf finnau fendith ei alar.' Dyna fel y dywedodd dy dad wrtho ei hun."
"Ie," ebe'r mab, "gwell gennyf iddo gael bendith fy ngalar na phe cawn fy etifeddiaeth."
"Ond gwrando," ebe'r athraw. "Yr oedd dy dad yn wr doeth, nid yn unig yn dad serchog. Oni wyddost mai eiddo ei feistr yw pa beth bynnag sydd ar elw gwas, yn ôl y gyfraith? Y peth cyntaf o eiddo dy dad a welaist oedd y caethwas,—y caethwas sydd yn meddwl mai efe sydd i gael dy etifeddiaeth. Dewis y caethwas, a chei felly holl etifeddiaeth dy dad."
Gwelodd y mab ddoethineb a chariad ei dad oedd wedi ei golli. Mawr oedd syndod y gwas pan ddywedodd y bachgen ei fod yn ei ddewis ef. Ond cafodd yntau ei ryddid am redeg mor fuan o fynyddoedd Gilboa.
Llawer ystori adroddir i blant y dwyrain fel hyn, i ddangos iddynt fod eu tadau'n ddoeth ac yn hoff ohonynt. Ni waeth i blentyn beth a ddysgo, os na ddysgir ef i barchu ac i garu ei dad a'i fam. Na ddyweder gair wrth blentyn byth yn erbyn ei dad neu ei fam. I'w feddwl ef os ydyw ei galon yn ei lle, ynddynt hwy mae'r doethineb pennaf a'r cariad cryfaf.