Llyfr Del/Gŵr Anfoesgar

Tri Chi Bach Llyfr Del

gan Owen Morgan Edwards

Dau Ddedwydd

GWR ANFOESGAR.

YR oedd nifer o ddynion yn eistedd ar hwyrnos haf ger un o amaethdai sir Drefaldwyn. Yr oeddynt yn dadleu a oedd rhyw englyn yn iawn. Pan oeddynt ar ganol dadleu, daeth gŵr ar gefn ei Geffyl o gyfeiriad yr amaethdy. a gwaeddodd amynt,—

"Fechgyn drwg, agorwch y llidiart."

Rhedodd un ohonynt i agor iddo, ond yn lle diolch i'r bachgen am ei gymwynas, trodd ato ar ei geffyl a dywedodd yn sarrug,—

"Anrhydedd mawr i ti oedd cael agor y llidiart i mi; a gobeithio na welaf fi mo dy wyneb hyll di byth eto. Mae dy wep di gen wirioned a gwyneb y llo yma."

Yr oedd gan y cigydd lo, wedi ei brynnu yn yr amaethdy; ac yr oedd yn mynd âg ef adref ar frys i'w ladd ar gyfer priodas. Gwyneb digon hagr oedd gan y llanc, rhaid dweyd, ond yr oedd ganddo feddwl cyflym, a chalon deimladwy iawn.

"Mi ddoi di y ffordd yma eto heno," ebe ef wrth y cigydd.

"Ha ha! y gwyneb bwbach," ebe hwnnw, "wyt ti'n meddwl y medri di fy witsio i, fel y witsiodd Huw Lwyd Cynfel yr hen Edmwnd Prys?"

"Fechgyn," ebe Ifan y Gors, "chwi gewch weld y gŵr yna yn eich pasio eto, wedi newid ei dôn." Cymerodd fenthyg esgid newydd o siop crydd gerllaw. Yna rhedodd hyd lwybr y gwyddai am dano, a daeth i drofa yn y ffordd cyn i'r cigydd gyrraedd y fan honno, achos yr oedd y ffordd yn dolennu llawer. Taflodd Ifan yr esgid newydd i ganol y ffordd; ac ymguddiodd y tu ôl i'r gwrych, i weld beth ddigwyddai.

Toc cyrhaeddodd y cigydd y drofa, a gwelai'r esgid newydd ar ganol y ffordd.

"Jaist i," meddai, "dyma Iwc. Dacw esgid newydd ar lawr. Ond 'does acw ddim ond un. Piti na fuasai dwy. Wna i ddim byd ag un, waeth i mi heb ddisgyn oddiar fy ngheffyl oddiwrth y llo yma."

Felly aeth yn ei flaen. Gydag iddo fynd o'r golwg, plannodd Ifan o'r gwrych, a chododd yr esgid newydd. Yna rhedodd mor gyflym ag y gallai hyd lwybr byrr, a chyrhaeddodd drofa arall cyn i'r cigydd ddod. Taflodd yr esgid newydd i ganol y ffordd drachefn, ac ymguddiodd fel o'r blaen. Prin y cafodd ymguddio cyn i'r cigydd ddod.

Jâl," ebe hwnnw, " dacw'r esgid arall. Y ffasiwn biti na fuaswn i wedi codi'r llall! Ac y mae arna i eisio esgidiau newyddion hefyd. Mi af yn fy ôl i geisio'r llall."

Disgynnodd, rhwymodd ei geffyl wrth goeden, rhoddodd yr esgid newydd ar y ceffyl, a chychwynnodd yn ei ôl i geisio'r esgid arall, feddyliai ef. Gydag iddo fynd o'r golwg daeth Ifan o du ôl y gwrych, a chymerodd yr esgid oddiar gefn y ceffyl. Cymerodd y llo ar ei gefn hefyd, a ffwrdd âg ef yn ôl hyd y llwybr byrr. Cymerodd y llo i'r amaethdy lle prynesid ef, a phenderfynodd y ffarmwr gael rhan o'r digrifwch. Yna aeth Ifan i eistedd at y llanciau fel o'r blaen.

Cyn bo hir dyma'r cigydd ar ei geffyl heibio iddynt yn ôl, yn llawer llai ffroenuchel nag o'r blaen. Aeth i'r amaethdy, dywedodd fel y collodd y llo, ac ychwanegodd,—

"Rhaid i mi gael llo at y briodas. A oes gennych yr un llo arall fedrech werthu i mi? "

"Oes," ebe'r ffarmwr," yr un fath yn union a'r llall."

Gwerthwyd yr un llo iddo yr ail waith, ac aeth yntau tua'r llidiart fel o'r blaen. Galwodd ar y llanciau,—

"Agorwch y llidiart."

"Yr wyt ychydig yn fwy moesgar yn awr," ebe Ifan, wrth agor y llidiart iddo.

"Taw di," ebe'r cigydd, "beth wyddost ti am foesgarwch?"

"Mi ddoi di y ffordd yma eto heno," ebe Ifan.

Aeth y cigydd yn ei flaen heb ddweyd gair.

Gydag iddo fynd o'r golwg, rhedodd Ifan ar hyd y llwybr byrr o'i flaen i'r coed lle y collasai y llo. Pan ddaeth y cigydd i'r fan honno, dyma Ifan yn brefu fel llo. "Bo—o—o—o," meddai.

"Jaist i," meddai'r cigydd. "dyna fy llo i yn brefu yn y coed. Mynd yn rhydd ddaru o a dianc i'r coed. Mi dalia i o, ac felly bydd y ddau lo dalais am danynt gen i'n mynd adre."

Rhwymodd ei geffyl wrth goeden, ac aeth i'r coed i chwilio am y llo cyntaf. Gydag iddo fynd yn ddigon pell, dyma Ifan yn dod o'r gwrych, yn cymeryd y llo oddiar gefn y ceffyl, ac yn mynd âg ef i'r amaethdy'n ôl. Yna aeth i eistedd at y llanciau ereill oedd wrth y llidiart.

Ymhen hir a hwyr, wele'r cigydd yn dod yn ei ôl yr ail waith, yn fwy pendrist nag o'r blaen. Aeth i'r amaethdy, dywedodd ei hanes yn colli'r ail lo tra'r oedd yn chwilio am y cyntaf yn y coed, a phrynnodd yr un llo drachefn y drydedd waith. Yna cychwyn nodd adre trwy'r llidiart.

Os gwelwch chwi'n dda," meddai wrth y bechgyn, " agorwch y llidiart."

Aeth Ifan i agor fel y ddwy waith o'r blaen, ac ebe'r cigydd,—

"Diolch yn fawr i ti."

Wedi gweld ei fod o'r diwedd wedi dod yn wr moesgar, dywedodd Ifan yr holl hanes wrtho, talwyd pris y llo ddwywaith iddo'n ôl, a rhoddwyd cyngor iddo fod yn ddiolchgar am gymwynas, ac yn foesgar wrth ei gofyn.

"Threia i byth fod yn wr mawr eto ymysg llanciau sir Drefaldwyn," ebe'r cigydd. Yr oedd wedi cael gwers nad anghofiodd hi byth.